
Partneriaid mewn Gofal
Gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn
Anableddau dysgu ac iechyd
meddwl
Gweithio mewn partneriaeth gyda seiciatryddion a
gofalwyr
Cyflwyniad
Anelir y daflen hon at:
- gofalwyr pobl ag anabledd dysgu, sy’n rhoi help a chymorth
parhaus, heb dâl, i berthynas, partner neu ffrind;
- y meddygon ac aelodau eraill o’r tîm sy’n ymwneud â gofal
iechyd a thriniaeth y sawl sydd ag anabledd dysgu;
- gweithwyr gofal cyflogedig sy'n cynnig cefnogaeth uniongyrchol
i unigolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn gofal
preswyl.
Mae’n awgrymu ffyrdd o wella cyfathrebu a phartneriaethau rhwng
gofalwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a phobl ag anabledd dysgu a
phroblemau iechyd meddwl.
Ar
gyfer y gofalwr
Pan fo gan unigolyn ag anabledd dysgu
broblemau iechyd meddwl, gall ei ofalwr sylwi ar newidiadau yn ei
iechyd a’i les cyffredinol, yn ogystal â newidiadau yn ei
ymddygiad.
Fel gofalwr, gallwch sylwi ar:
- newid mewn archwaeth neu gwsg
- colli sgiliau
- newid mewn ymddygiad neu hwyliau
- colli diddordeb mewn gweithgareddau dydd i ddydd.
Darganfod beth sydd o’i le
Bydd llawer yn dibynnu ar faint mae’r unigolyn
yn medru cyfathrebu ynghylch sut y mae’n teimlo neu am unrhyw boen
sydd ganddo. Fel arfer, mae angen i ofalwr sy’n adnabod yr unigolyn
yn dda gadw llygaid gofalus arno hefyd. Felly, bydd angen i’r
meddyg siarad gyda pherthynas agos, neu weithiwr cefnogol rheolaidd
yn ogystal â’r unigolyn ei hun. Weithiau, mae’n anodd gwybod
a yw’r symptomau o ganlyniad i broblem iechyd meddwl hanes diweddar
yr unigolyn, neu gorfforol. Bydd y gweithiwr proffesiynol yn
ceisio deall unrhyw newid yn ei amgylchiadau. Bydd yn
ystyried pob achos posib o’u symptomau.
Fel gofalwr, bydd angen i chi helpu'r
gweithiwr iechyd proffesiynol wahaniaethu rhwng ymddygiad sy’n rhan
o’r anabledd dysgu, ac unrhyw newidiadau sy'n gwneud i chi feddwl
fod rhywbeth arall o’i le.
- Rhestrwch y pethau yr ydych yn poeni amdanynt, neu unrhyw beth
sydd wedi newid, dim ots pa mor fychan ydynt.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r dyddiad a’r amser. Mae
dyddiadur yn creu darlun yn sydyn iawn o sut mae unigolyn yn
newid.
Gall eich helpu chi i benderfynu beth i’w ddweud wrth y meddyg.
Hefyd, gall eich helpu chi i ganfod ei adwaith i gyffuriau
neu driniaethau eraill na fuasech chi’n sylwi arnynt fel arall.
Gall fod yn gofnod o’r salwch, a gall hyn fod yn ddefnyddiol
iawn petai’r unigolyn yn mynd yn sâl eto.
Cyngor i ofalwyr
Mewn
partneriaeth gyda’ch meddyg a’r tîm gofal iechyd
Mae cyfathrebu da rhwng meddyg, aelodau’r tîm
gofal iechyd, yr unigolyn ag anabledd dysgu a’i ofalwyr rheolaidd
yn bwysig, ond mae hyn yn golygu amser ac ymdrech. Yn Lloegr,
anogir pawb sydd ag anabledd dysgu i gael Cynllun Gweithredu
Iechyd. Gall yr unigolyn ofyn am help i benderfynu beth i’w
nodi yn ei Gynllun Gweithredu Iechyd ei hun. Efallai y bydd
angen hwylusydd iechyd i weithio gydag o a'i ofalwyr a/neu ei
weithiwr cefnogol cyflogedig ar beth sydd ei angen i'w gadw'n iach.
Weithiau, gofalwr sy’n aelod o'r teulu neu
weithiwr cefnogol fydd yr hwylusydd iechyd. Dro arall, bydd
yn aelod o’r tîm cymunedol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, neu
weithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio ym meddygfa’r meddyg
teulu. Gall Cynllun Gweithredu Iechyd ymwneud â’r gefnogaeth
y mae unigolyn penodol ei hangen i gadw’n iach, neu gellir ei
baratoi i gefnogi cael ei dderbyn i’r ysbyty.
|
|
Beth ddylech
chi ofyn i'r meddyg
|
 |
Beth mae'r diagnosis ei olygu?
|
 |
Fedrwch chi esbonio hynny mewn ffordd y
medrwn ni ei ddeall?
|
 |
A oes unrhyw driniaethau ar gael?
|
 |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud
ein hunain?
|
 |
A yw'n bosib cynnwys yr anghenion iechyd
hyn mewn Cynllun Gweithredu Iechyd?
|
 |
Beth fedrwn ni ddisgwyl yn y dyfodol
agos a thros amser?
|
 |
Pa mor aml ddylem ni ddod i'ch gweld
chi?
|
 |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau
ysgrifenedig sy'n hawdd i'w darllen neu ddeunyddiau
darluniadol/awdio/fideo ynghlych y salwch hwn? Os nad oes, gan bwy
fyddai deunyddiau o'r fath ar gael?
|
 |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei newid
gartref er mwyn gwneud pethau'n haws neu'n ddiogelach?
|
 |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau
cymunedol a all helpu?
|
 |
Pa weithiwr gwasanaeth iechyd ddylai fod
yn brif berson cyswllt er mwyn i ni gael arweiniad a chyngor?
|
Cofiwch drefnu
eich apwyntiad nesaf cyn i chi adael.
Gall y cyngor
hwn eich helpu i baratoi ar gyfer ymweliadau dilynol gyda’r
meddyg.
Cyn eich
ymweliad:
- Nodwch unrhyw newid mewn ymddygiad yr unigolyn ac ymatebion i
feddyginiaeth mewn llyfr nodiadau, ynghyd ag unrhyw bryderon neu
gwestiynau ers i chi weld y meddyg ddiwethaf.
- Edrychwch ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i chasglu ers eich
ymweliad diwethaf. Gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu
amdano beth yr hoffai ei ddweud wrth y meddyg, neu a oes ganddo
unrhyw beth yr hoffai ei drafod Nodwch eich prif bryderon yn y
dyddiadur, gan nodi’r dyddiad. Wrth ysgrifennu’r wybodaeth
hon, nid oes rhaid i chi boeni am gofio popeth, a gallwch siarad am
y pethau sydd bwysicaf yn ystod eich ymweliad. Er enghraifft,
gall hyn gynnwys cwestiynau am:
- newid mewn symptomau
- sgil effeithiau meddyginiaethau
- iechyd cyffredinol
- iechyd meddyliol ac emosiynol
- iechyd y gofalwr
- unrhyw help sydd ei angen.
Yn ystod eich
ymweliad:
- Os nad ydych yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau nes
byddwch yn deall. Peidiwch â bod ofn dweud. Anogwch y meddyg i
esbonio pethau i’r claf yn uniongyrchol, mewn iaith y bydd yn ei
deall.
- Ysgrifennwch nodiadau yn ystod yr ymweliad. Edrychwch
dros eich nodiadau ar y diwedd, a dywedwch wrth eich meddyg beth yr
ydych wedi’i ddeall. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r meddyg gywiro
unrhyw wybodaeth neu ailadrodd rhywbeth a gollwyd.
Cyngor i
ofalwyr – delio â meddygon
Gall meddyg fod yn amharod i drafod diagnosis
unigolyn gyda’i ofalwr gan fod dyletswydd o gyfrinachedd rhwng y
meddyg a’r claf. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn sy’n wael
yn medru deall beth sy’n digwydd, bydd meddygon fel arfer yn
cydnabod yr angen i gynnwys y gofalwr yn y trafodaethau a'r
penderfyniadau.
Os yw’r meddyg
yn parhau i fod yn amharod i’ch cynnwys chi fel gofalwr, mae nifer
o bethau y medrwch ei wneud:
- Gofynnwch i’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdano a fedrwch chi
aros gydag o pan fydd yn gweld y meddyg. Os yw’r unigolyn yn
cytuno, yna bydd y meddyg yn debyg o gytuno.
- Siaradwch gyda gofalwyr eraill, efallai y bydd ganddynt
awgrymiadau defnyddiol.
- Ceisiwch siarad gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, megis
nyrsys.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda
phobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr, gobeithio y bydd yr isod yn
ddefnyddiol i chi fel arweiniad i arfer da.
Oherwydd natur eu gwaith, mae’n bosib y bydd
gofalwyr teuluol yn hynod flinedig. Os ydynt wedi gorfod aros
am amser maith cyn cael apwyntiad, wrth iddynt ofalu am yr
unigolyn, efallai y byddant yn flinedig yn emosiynol hefyd.
- Cofiwch y bydd y gofalwr teuluol yn gwybod mwy am y claf pan
fo’n iach nag unrhyw un arall.
- Bydd y claf yn ei chael yn anodd esbonio sut y mae’n teimlo,
nid yn unig am nad oes ganddo’r lleferydd, yr iaith na’r
ddealltwriaeth i wneud hynny, ond oherwydd ei fod wedi bod ag
anabledd erioed. Nid yw’n gwybod sut mae’n teimlo i beidio â
chael hynny!
- Gall fod yn anodd i chi ddeall beth sy’n arferol iddo, a sut
mae ei salwch yn gwneud iddo deimlo neu ymddwyn yn wahanol.
Mae’n rhy hawdd cysylltu popeth gyda’i anabledd dysgu.
Pan fyddwch yn
asesu, fyddwch chi yn?
 |
ceisio gweld y sawl sydd ag anabledd dysgu a'r
gofalwr ar wahân yn ogystal â gyda'i gilydd?
|
 |
ceisio eu gweld nhw gartref yn gyntaf?
|
A ydych chi’n
caniatáu digon o amser i?
 |
wrando, holi a gwrando?
|
 |
cael clywed hanes bywyd a hanes teulu?
|
 |
cofio holi am unrhyw golledion, unrhyw
gamdriniaeth posib neu ddigywddiad trawmatig eraill?
|
 |
gadael amser ar gyfer cwestiynau a
thrafodaethau?
|
 |
esbonio sut y daethoch i'r casgliad am y
diagnosis?
|
 |
siarad am y prognosis?
|
Wrth reoli’r
salwch, ydych chi'n?
 |
trafod triniaethau posib?
|
 |
siarad am sgil effeithiau posib cyffuriau?
|
 |
treulio amser yn holi am iechyd y gofalwr - yn
gorfforrol ac yn emosiynol?
|
 |
trafod sut i ateb anghenion iechyd y sawl sydd
ag anabledd dysgu a'r gofalwr?
|
Pethau i’w cofio
- Mae pawb angen ysbaid.
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag unrhyw
aelodau eraill y teulu.
- Dywedwch wrth bawb y byddwch yn eu gweld am sefydliadau
elusennol a all gynnig gwybodaeth a rhoi pobl mewn cysylltiad â’i
gilydd.
- Dywedwch yn glir y byddwch bob amser ar gael.
- Nodwch rif ffôn lle mae’n bosib cysylltu â chi i holi mwy o
gwestiynau.
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol a enwir y gall y
teulu gysylltu ag o ar unrhyw adeg.
- Pan fyddwch yn ysgrifennu llythyr i’r Meddyg Teulu neu
arbenigwr, anfonwch gopïau at y gofalwr a llythyr hawdd ei ddeall
at y claf.
- Ceisiwch siarad â gweithwyr proffesiynol eraill ar y ffôn yn
ogystal ag yn ysgrifenedig.
Cymorth pellach
Mencap
123 Golden Lane, London EC1Y ORT
Ffôn: 020 7454 0454
Typetalk: 18001 808 1111
E-bost: help@mencap.org.uk
Dyma elusen anableddau dysgu arweiniol y DU
sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u
gofalwyr.
Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i
Ofalwyr
The Princess Royal Trust for Carers
Unit 14, Bourne Court, Southend Road, Woodford
Green, Essex IG8 8HD
Ffôn: 0844 800 4361;
E-bost: info@carers.org.uk
Yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i
ofalwyr.
Home Farm Trust
5/6 Brook Office Park, Folly Brook Road,
Emersons Green, Bristol BS16 7FL
Ffôn: 0117 906 1700;
E-bost: info@hft.org.uk
Elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl ag
anableddau dysgu a’u gofalwyr, ac sy’n cynnal y Rhwydwaith Gofalwyr
Teuluol Cenedlaethol, sy’n ceisio dod â sefydliadau sy’n cefnogi
gofalwyr teuluol oedolion ag anableddau dysgu ynghyd.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddon wedi
cyhoeddi cyfres o lyfrau darluniadol ar gyfer pobl ag anableddau
dysgu. Mae’r llyfrau hyn, a elwir
Books Beyond Words yn cael eu cynhyrchu i
hwyluso cyfathrebu a chaniatáu medru trafod pynciau anodd.
Ffôn: 020 7235 2351 est. 6146;
Adnoddau Iechyd
ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch
Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd
rhwng Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y
Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd
dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd
meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu
partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol
fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Yr Athro Sheila Hollins
© Mehefin 2010. Dyddiad
adolygu: Mehefin 2012.
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg.
© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Gellir lawrlwytho’r daflen hon, ei hargraffu, ei llungopïo a’i
dosbarthu am ddim cyn belled â bod y Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yn derbyn y clod priodol ac na wneir elw o’i
defnydd.
© Royal College of Psychiatrists.
This leaflet may be downloaded, printed out, photocopied and
distributed free of charge as long as the Royal College of
Psychiatrists is properly credited and no profit is gained from its
use. Permission to reproduce it in any other way must be obtained
from the Head of Publications. The College
does not allow reposting of its leaflets on other sites, but
allows them to be linked to directly.
For a catalogue of public
education materials or copies of our leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351 x
6259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)