
Partneriaid mewn Gofal
Gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth go
iawn
Rhestr wirio gofalwyr pobl gyda
phroblemau iechyd meddwl
Gweithio mewn partneriaeth gyda
seiciatryddion a gofalwyr
Beth ddylech
chi ofyn i’r seiciatrydd
Mae gofalwyr angen gwybodaeth
ac mae seiciatryddion yn brysur. Efallai nad yw gofalwyr pob tro’n
llwyddo i ddod o hyd i’r hyn y maent angen ei wybod am y person
sydd yn eu gofal. Dyluniwyd y rhestr wirio hon i’ch helpu i gael yr
wybodaeth yr ydych ei hangen am ddiagnosis a thriniaeth y person yr
ydych yn gofalu amdano.
Efallai y byddwch yn cael rhywfaint o’r
wybodaeth hon gan aelodau eraill y tîm clinigol perthnasol, neu o
wybodaeth ysgrifenedig sydd yn eu meddiant.
Os yw’r person yn rhoi caniatâd i chi, bydd y
seiciatrydd yn medru rhoi’r wybodaeth am eu cyflwr a’u gofal i
chi.
Er nad ydych efallai eisiau gofyn pob cwestiwn
sydd yn y rhestr, efallai y bydd y cwestiynau yn eich helpu i
baratoi ar gyfer cyfarfod y seiciatrydd a’r tîm iechyd meddwl.
Ni fydd pawb angen yr holl atebion i’r cwestiynau hyn ar yr
un pryd. Efallai bod gennych gwestiynau sydd ddim wedi’u
cynnwys yn y daflen hon.Er hynny, dylai roi fframwaith defnyddiol i
chi benderfynu pa wybodaeth yr ydych ei hangen.
|
|
Y
salwch |
 |
Beth yw’r diagnosis neu’r broblem?
|
 |
Os nad yw’r diagnosis wedi’i wneud eto, beth yw’r
posibiliadau? |
 |
Pam fod hyn wedi digwydd i’r claf? |
 |
A fydd y claf yn
gwella?
|
|
|
Os oes diagnosis |
 |
Pa symptomau sy’n awgrymu mai
dyma’r diagnosis/salwch?
|
 |
Pa wybodaeth sydd yna am beth sy’n peri’r
cyflwr/salwch? |
 |
Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol? Fydd pethau’n
gwaethygu neu’n gwella? |
 |
Ymhle y caf fwy o wybodaeth am
y cyflwr hwn??
|
|
|
Yr asesiad |
 |
Pa asesiadau sydd wedi’u
cyflawni’n barod?
|
 |
A oes angen unrhyw asesiadau eraill? |
 |
A oes unrhyw broblemau corfforol wedi’u darganfod?
Os felly, beth sydd angen ei neud? |
 |
A oes ystyriaeth wedi’i rhoi i
ddiwylliant a chefndir?
|
|
|
Dull Rhaglen Ofal (CPA) |
 |
Beth yw CPA?
|
 |
Beth mae’r CPA yn ei olygu? |
 |
Ydi’r person ar y CPA? Os nad ydyw, pam? |
 |
Fyddai’n cael fy nghynnwys yn y
CPA?
|
|
|
Y
gofal a’r driniaeth |
 |
Beth allai wneud i helpu?
|
 |
A oes yna unrhyw grwpiau hunangymorth neu grwpiau
gofalwyr lleol all fy helpu i ddeall y salwch? |
 |
Sut alla’i gael cyngor a hyfforddiant wrth reoli’r
salwch yn ddyddiol? |
 |
A oes unrhyw grwpiau lleol all
roi cymorth?
|
| |
Beth ddylai budd y feddyginiaeth hon
fod?
|
 |
Yn y byrdymor |
 |
Yn yr hirdymor |
| |
Beth yw sgil effeithiau posib y
feddyginiaeth hon?
|
 |
Yn y byrdymor |
 |
Yn yr hirdymor |
| |
Os nad yn mynd i mewn i’r ysbyty |
 |
A oes angen iddo fynd i mewn i’r ysbyty? |
 |
A oes unrhyw opsiynau eraill i’w hystyried? |
Unrhyw Gwestiynau Eraill
..............................................................................................................
..............................................................................................................
..............................................................................................................
..............................................................................................................
Further help
Princess Royal Trust for
Carers
Unit 14, Bourne Court, Southend Road, Woodford Green, Essex IG8
8HD
Tel: 0844 800 4361
Email: info@carers.org
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr.
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch
Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd
rhwng y Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y
Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr. Un o nodau ymgyrch
Partneriad mewn Gofal oedd dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal
pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio,
gellid datblygu partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a
gweithwyr proffesiynol fydd o fudd i bawb.
Mewnbwn gofalwr a defnyddiwr: Royal College of
Psychiatrists' Addictions Faculty User and Carer Group
Golygydd: Dr Philip Timms, Cadeirydd, Bwrdd
Golygyddol Addysg Cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg
June 2010. Review date: June 2012.
© Royal College of Psychiatrists. This leaflet may be
downloaded, printed out, photocopied and distributed free of charge
as long as the Royal College of Psychiatrists is properly credited
and no profit is gained from its use. Permission to reproduce it in
any other way must be obtained from the
Head of
Publications. The College does not allow reposting of
its leaflets on other sites, but allows them to be linked to
directly.
For a catalogue of public education materials or copies of our
leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351
x259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)