Partneriaid mewn Gofal
Gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth go
iawn
Gofalwyr a chyfrinachedd mewn
iechyd meddwl
Materion sy’n ymwneud â rhannu
gwybodaeth.
”Mae’n rhaid i mi gael gwybod beth
yr ydych chi’n ceisio’i gyflawni ar gyfer fy mab, a sut yr ydych yn
bwriadu gwneud hynny.
Mae’n rhaid i mi ddeall
y driniaeth y mae’n ei dderbyn er mwyn i mi gael bod yn rhan o’i
raglen gwella. Be’ dw i ddim eisiau ei
wybod yw manylion personol o ran be sy’n digwydd rhyngddo ef a’r
gweithiwr proffesiynol dan sylw.”(dyfyniad gan aelod
o Rethink, ble’r oedd y mab yn dioddef o afiechyd iechyd meddwl
difrifol)
Cyflwyniad
Mae’r daflen hon yn ymwneud â materion
cyfrinachedd sy’n codi rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl a
gofalwyr oedolion â phroblemau iechyd meddwl, yn arbennig y rhai
hynny sy’n darparu help a chymorth parhaus, heb dâl, i berthynas,
partner neu ffrind.
Mae'r materion cyfrinachedd a rhannu
gwybodaeth a geir rhwng gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl a
gofalwyr yn gymhleth ac yn anodd eu datrys. Disgrifir rhai o’r
problemau hyn, ynghyd ag enghreifftiau o arfer dda all fod yn
gymorth wrth ymdrin â hwy, a gobeithio arwain at ganlyniadau mwy
cadarnhaol ar gyfer pawb dan sylw.
Pam ei bod hi’n
bwysig rhannu gwybodaeth briodol gyda gofalwyr?
Gall rhannu gwybodaeth fod yn anodd, ond mae’n
aml yn hanfodol i sicrhau lles parhaus y cleifion a’r gofalwyr fel
ei gilydd. Os yw gofalwyr yn cael eu heithrio o drafodaethau a
phenderfyniadau pwysig ynghylch y claf, gall hyn gael effaith
ymarferol, ariannol a phersonol difrifol ar y gofalwr a’r claf. Mae
peidio â bod yn rhan o bethau’n cynyddu teimladau o unigedd, galar
a cholled sy’n gyffredin ymysg nifer o ofalwyr.
”Mae ei
Meddyg Teulu yn gwrthod trafod ei chyflwr gyda mi ac rwyf yn teimlo
fy mod ar wahân i’r sefyllfa, er mai fi yw ei gofalwr llawn
amser.”
- Yn aml, y gofalwr yw’r un sy’n adnabod y claf
orau. Gall fod mewn cyswllt rheolaidd, os nad dyddiol, gydag ef
dros nifer o flynyddoedd, yn aml yn gyfrifol yn barhaus am bob
agwedd o les y claf.
- Yn aml, y gofalwr yw’r unig gefnogaeth gyson
ym mywyd y claf, wrth i ffrindiau golli cysylltiad, a gweithwyr
proffesiynol symud o’r ardal. Mae nifer o gleifion yn profi
newidiadau cyson a sydyn yn y tîm proffesiynol sy’n gofalu
amdanynt. Gall hyn wneud adeiladu perthnasau triw yn anodd ac mae
peryg methu gwybodaeth am y claf os nad yw’r gofalwr yn cael ei
gynnwys mewn trafodaethau rheolaidd.
- Gall natur gyfnewidiol salwch meddwl achosi
argyfyngau’n sydyn, yn aml y tu allan i oriau arferol, ac mae’n
rhaid i’r gofalwr ymateb iddynt. Gall hyn fod yn anodd iawn gan nad
yw cefnogaeth broffesiynol addas ar gael pob amser ar frys. Fodd
bynnag, os yw’r gofalwr yn gwybod ac yn deall y cynllun argyfwng,
gall yn aml berswadio’r claf i’w ddilyn, er enghraifft wrth gytuno
i gysylltu gyda’i weithiwr allweddol neu wrth gymryd y
feddyginiaeth a argymhellir.
- Mae modd gwella llawer ar les y gofalwr os
yw’n cael ei annog i deimlo’n rhan o dîm cefnogol, gyda’r wybodaeth
ddiweddaraf ar gael. Heb hyn, gall y gofalwr deimlo nad yw’n medru
parhau i roi’r cymorth ymarferol ac emosiynol sydd mor bwysig i’r
claf.
”Beth yw
problemau penodol rhannu gwybodaeth mewn iechyd
meddwl?
Yng ngofal hirdymor unrhyw glaf, gall ystod
eang o bobl fod yn cymryd rhan ac fel arfer mae gwybodaeth yn cael
ei chyfnewid yn rhydd rhwng gweithwyr proffesiynol.
Mae gofal iechyd yn gyffredinol yn cael ei
ystyried yn gynyddol fel partneriaeth rhwng darparwyr, cleifion a’u
teuluoedd. Fodd bynnag, mewn iechyd meddwl, mae yna wahaniaeth barn
ynghylch pa wybodaeth sy’n cael ei rhannu â’r gofalwyr. Golyga
natur sensitif problemau iechyd meddwl fod yna anawsterau penodol
mewn perthynas i gyfrinachedd a rhannu gwybodaeth. Mae’r hyn a
ganlyn yn enghreifftiau o’r anawsterau y mae gweithwyr proffesiynol
yn eu hwynebu:
- rhwymedigaethau moesegol a
chyfreithiol: mae’r gyfraith a chodau ymddygiad
proffesiynol yn ymrwymo pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio
mewn gwasanaethau iechyd meddwl i ddyletswydd o gyfrinachedd i’w
cleifion. Wrth dorri cyfrinachedd, gall gweithiwr proffesiynol
wynebu mesurau disgyblaeth ac achos llys, gan gynnwys ei siwio neu
ddiswyddo. Mae ganddynt hefyd ddyletswydd o gyfrinachedd i
ofalwyr.
”Deallaf os
wyf yn euog o dorri cod ymddygiad ar gyfrinachedd, y gellid
ystyried hyn i fod yn gamymddygiad proffesiynol difrifol a gall
arwain at weithredu disgyblaeth ddifrifol, a all arwain at
ddiswyddiad yn y pendraw.”
- caniatâd: I’r gweithiwr
proffesiynol, y mater pwysicaf yw bod y claf yn cytuno i’r
wybodaeth gael ei datgelu i’r gofalwr. Mae yna nifer o gleifion a
gofalwyr nad ydynt yn ymwybodol o hyn ac nad ydynt yn sylweddoli
fod yn rhaid i’r claf roi ei ganiatâd cyn rhannu unrhyw
wybodaeth. Gall materion cymhleth godi pan nad yw’r
claf yn medru rhoi ‘caniatâd gwybodus’, er enghraifft ar adegau
penodol yn ystod ‘episod’ difrifol neu pan fo’r claf yn dioddef o
ddementia.
Gall gofalwyr hefyd wynebu problemau o ran
rhannu gwybodaeth, er enghraifft efallai mai nhw yw’r cyntaf i
sylwi ar y newidiadau gofidus yn ymddygiad y claf neu yn ei
batrymau cwsg. Efallai nad yw’r claf yn ymwybodol ei fod yn sâl, ac
efallai nad yw eisiau cysylltu â gweithwyr proffesiynol. Gall hyn
achosi problemau difrifol i’r gofalwr oherwydd y gall y claf
ddehongli hyn fel gweithred o dorri ymddiriedaeth a
chyfrinachedd.
Rhwystrau rhag
rhannu gwybodaeth
Er bod yna symudiad tuag at gynnwys gofalwyr
fel ‘partneriaid mewn gofal’, mae yna amryw o resymau o hyd am pam
nad ydynt yn derbyn yr wybodaeth sydd ei hangen. Er
enghraifft:
- Nid yw’r claf yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu gyda’r
gofalwr.
- Mae’n ddyletswydd ar weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal
cleifion ddilyn codau ymddygiad proffesiynol, cyfraith a statud
wladol o ran cyfrinachedd.
- Prydera rhai gweithwyr proffesiynol drwy gynnwys mwy ar y
gofalwyr na fydd ganddynt ddigon o amser i’w cleifion.
- Mewn argyfwng, gall perthmasau fod o dan bwysau a gall y teulu
fod yn lluddedig a thaen straen. Gall y gweithwyr proffesiynol gael
darlun ffug o beth yw'r gwir sefyllfa yn y hir dymor.
”Mae Mary
yn byw’n hapus gyda’i chwaer Carol.Yn ystod y bythefnos ddiwethaf,
mae Mary wedi bod yn ymddwyn yn fwyfwy manig gyda llawer o
weithgaredd a sgyrsiau cynhyrfus yn hwyr yn y nos. O’r
diwedd, mae Carol yn llwyddo i berswadio Mary ei bod hi angen help
proffesiynol. Erbyn nawr, mae’r ddwy dan straen, yn lluddedig ac yn
ddig. Dywed Mary wrth y meddyg nad ydi hi eisiau bod mewn cyswllt
â’i chwaer mwyach nac yn rhan o unrhyw drafodaethau am ei gofal. Yn
ffodus, roedd nodyn yng nghofnodion Mary’n nodi, pan roedd yn iach,
ei bod hi wedi rhoi caniatâd i rannu gwybodaeth a phenderfyniadau
â’i chwaer pe bai’n gwaelu eto.
-
- Efallai nad yw aelodau o’r
tîm iechyd meddwl wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ymdrin â
materion cymhleth, megis cyfrinachedd, a sut i ymdrin â gwahanol
anghenion y claf a’r gofalwr. Oherwydd hyn, nid oes ganddynt hyder
ac felly maent yn osgoi rhoi unrhyw wybodaeth, gan ddefnyddio
cyfrinachedd fel rheswm.
Enghreifftiau o arfer dda sy’n goresgyn y
rhwystrau hyn
”Ni ddylid
defnyddio materion cyfrinachedd fel rheswm i beidio â gwrando ar
ofalwyr, dim i beidio â thrafod yn iawn yr angen i ofalwyr
dderbyn gwybodaeth gyda defnyddwyr gwasanaeth er mwyn iddynt fedru
parhau i’w cefnogi. Dylai gofalwyr dderbyn digon o wybodaeth, mewn
ffordd y gallent ei deall yn iawn, i’w cynorthwyo i ddarparu gofal
yn effeithiol.”
(Yr Adran Iechyd: Datblygu gwasanaethau i
ofalwyr a theuluoedd pobl gyda salwch meddwl Tachwedd 2002).
Ers nifer o flynyddoedd, mae nifer fawr o
dimoedd iechyd meddwl llwyddiannus drwy’r wlad wedi cynnwys
gofalwyr mewn partneriaethau go iawn wrth rannu gwybodaeth. Mae
llawer o enghreifftiau o arfer dda yn hanu o’u
llwyddiant:
- Trafodir y mater o gyfrinachedd gyda’r claf yn gynnar yn y
broses pan nad ydynt mewn gwirionedd yn wael iawn.
- Cofnodir materion sy’n ymwneud â chyfrinachedd yn nodiadau’r
claf fel eu bod yn amlwg er mwyn galluogi parhad y gofal.
A yw’r claf
wedi gofyn am unrhyw gyfyngiadau ar gyfrinachedd?
- Mae’r cwestiwn hwn yn rhan o ddogfennaeth cynllun gofal
Ymddiriedolaeth GIG sy’n cael ei lofnodi gan y claf.
- Anogir defnyddio blaengyfarwyddebau. Mae’r rhain yn galluogi
cleifion i gynllunio, pan maent yn teimlo’n iach, beth yr hoffant
ddigwydd pe baent yn gwaelu.
- Mae gweithwyr proffesiynol yn annog cleifion i ddeall budd
rhannu gwybodaeth addas gyda’u gofalwyr.
”Pan godwyd
y mater o gyfarfod rhieni Tim, dywedodd nad oedd eisiau eu cynnwys
hwy. Treuliodd ei nyrs allweddol ar y ward amser gydag o i drafod
ei bryderon. Daeth i’r amlwg mai prif bryder Tim oedd y byddai’n
rhaid iddo ddatgelu’r ffaith ei fod wedi cymryd cyffuriau yn y
gorffennol. Roedd yn hapus i wybodaeth arall gael ei rhannu, mewn
gwirionedd, roedd yn falch bod rhywun eisiau rhoi cefnogaeth i’w
rieni, gan ei fod yn gwybod eu bod yn cael trafferth i ddeall be
oedd yn digwydd.”
- Mae gweithwyr proffesiynol yn cynnwys y gofalwr mewn cynlluniau
triniaeth ac mewn penderfyniadau mawr ynghylch y claf. Ystyrir
gofalwyr i fod yn ased, nid yn fyrdwn.
- Ar ôl trafodaethau mae timau iechyd meddwl yn cytuno ar bolisi
cyfrinachedd sy’n gymorth i weithwyr proffesiynol, o bob
disgyblaeth, ddeall y gwahanol bryderon ynghylch rhannu gwybodaeth.
Fel hyn, maent yn llunio polisi sy’n cynnwys egwyddorion y cytunwyd
arnynt ar gyfer ymarfer dyddiol.
”Oherwydd
bod gan y tîm bryderon am faterion yn ymwneud â chyfrinachedd,
trefnodd yr arweinydd tîm gyfres o weithdai hyfforddiant wedi’u
hwyluso ar y cyd gan weithiwr proffesiynol, gofalwr a chlaf.
Lluniwyd nifer o senarios yn tynnu sylw at feysydd cyffredin oedd
yn peri pryder ynghylch cyfrinachedd; e.e. mab sydd ddim eisiau
rhannu gwybodaeth gyda’i rieni; gwraig briod yn cysylltu â
gweithiwr allweddol, ond ddim eisiau i’r claf, ei gwr, wybod ei bod
wedi gwneud hynny; tad eisiau trafod ei feddyliau am hunan-ladd
mewn cyfarfod teulu gyda’i ddau blentyn ifanc; mam ddim yn gwybod a
ddylai rannu gwybodaeth am hanes ei mab anabl yn cael ei gam-drin
yn blentyn ai peidio. Roedd y senarios yn cynorthwyo aelodau tîm i
adlewyrchu ar y materion cyfreithiol a moesegol perthnasol a’u
trafod. Yna cafwyd cyfle drwy chwarae rhan, i drio gwahanol ffyrdd
o reoli’r sefyllfa a phrofi canlyniadau gwahanol ddulliau. Ar
ddiwedd y sesiynau hyfforddi, lluniwyd set o ganllawiau i sicrhau
arfer dda mewn perthynas i ymdrin â rhannu
gwybodaeth.”
- Mae gweithwyr proffesiynol yn ymwybodol o’r newidiadau posib
mewn amgylchiadau personol, yn enwedig o ran perthnasau hirdymor
rhwng y gofalwr a’r claf, sy’n gallu dylanwadu ar yr agwedd tuag at
gyfrinachedd.
”Cafodd
Stephen ei ‘episod’ seicotig cyntaf pan oedd yn fyfyriwr ac yn byw
oddi cartref ac fe fynnodd nad oedd eisiau i’w deulu ddod i wybod
am hyn. Ar ôl mwy o episodau, fe sylwodd yn raddol fod arno angen
help a chymorth trwy’r amser ac fe aeth i fyw gyda’i dad. Gyda’i
gilydd, roeddent yn medru darganfod gwahanol driniaethau a chael
seicotherapi.”
- Pe bai’r claf yn gwrthod rhoi caniatâd i’r gofalwr dderbyn
gwybodaeth, diweddarir y cofnod hwn yn y nodiadau meddygol i
staff fod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau yn agwedd y claf tuag at
gyfrinachedd.
- Rhoddir hyder i’r gofalwyr ofyn y cwestiynau iawn ar yr amser
iawn ac fe’u cynorthwyir i sylweddoli fod rhannu gwybodaeth yn
broses raddol a pharhaus. Mae’r ymgyrch Partneriaid mewn Gofal wedi
cynhyrchu rhestr o gwestiynau am broblemau gofalwyr sydd wedi’i
dylunio i helpu gofalwyr gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen am y
diagnosis a thriniaeth y person y maent yn eu gofalu amdanynt.
”Roeddwn
mor wael a chynhyrfus na fedrwn amgyffred yr hyn oedd y seiciatrydd
yn ei ddweud wrthyf. Roeddwn i angen cwmni fy mhartner er mwyn iddi
hi fedru nodi’r holl wybodaeth oedd yn newydd ac yn peri
ofn.”
- Detholir aelod o’r tîm gofal i fod yn berson addas i ymdrin â
materion penodol e.e. efallai bod gan gydlynydd gofal fwy o
amser i egluro cynllun argyfwng i ofalwr o gymharu â’r
seiciatrydd.
- Mae’r claf a’r gofalwr yn cael help i wahaniaethu rhwng
materion sensitif a phersonol (er enghraifft, am eu
rhywioldeb) sydd i aros yn gyfrinachol, a gellid rhannu gwybodaeth
fwy cyffredinol am y salwch a sut i’w reoli.
Mae
canfyddiad pobl o beth sy’n sensitif a beth sy’n gyfrinachol yn
amrywio. Mae seiciatrydd â 30 mlynedd o brofiad yn disgrifio
sut y bydd hi pob amser yn gweld y claf ar ei ben ei hun, yna’r
gofalwr ar ei ben ei hun (gyda chaniatâd y claf) ac yn olaf y ddau
gyda’i gilydd. Fel hyn, mae hi’n cael cymaint â phosib o wybodaeth
gan y claf a’r gofalwr, yn dysgu pa feysydd sy’n sensitif ac yn
gyfrinachol i’r ddau ohonynt yn ogystal â beth y maent
yn fodlon rannu.
- Hyd yn oed pan fo’r claf yn parhau i wrthod caniatâd, rhoddir
digon o wybodaeth i ofalwyr er mwyn iddynt allu gofalu’n
effeithiol. Rhoddir hefyd y cyfle iddynt drafod unrhyw
anawsterau y maent yn eu profi yn eu rôl fel gofalwr a helpu i
geisio eu datrys. Nid yw darparu gwybodaeth gyffredinol am salwch
meddwl, cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i ofalwyr yn torri
cyfrinachedd.
Rhestr
wirio arfer dda
Rhoddir gwybodaeth ar lafar ac yn
ysgrifenedig i ofalwyr am:
 |
Y diagnosis iechyd meddwl
|
 |
Yr ymddygiad tebygol a sut i'w
reoli
|
 |
Meddyginiaeth - mateision a sgil
effeithiau posib
|
 |
Gwasanaethau cleifion mewnol a
chymunedol lleol
|
 |
Dull Rhaglen Ofal (CPA)
|
 |
Grwpiau cefnogi lleol a
chenedlaethol
|
Mae gofalwyr yn cael help i
ddeall:
 |
Y sefyllfa bresennol
|
 |
Unrhyw gyfyngiadau cyfrinachedd y mae'r
claf wedi gofyn amdanynt
|
 |
Cynllun triniaeth y claf a'i
amcanion
|
 |
Unrhyw gynllun gofal, cynllun argyfwng
neu raglen gwella ysgrifenedig
|
 |
Rôl pob gweithiwr proffesiynol sy'n
ymwneud â gofal y claf
|
 |
Sut mae cael help, gan gynnwys
gwasanaethau y tu allan i oriau
|
Mae gofalwyr yn cael:
 |
Y cyfle i weld gweithiwr
proffesiynol ar eu ben eu hunain
|
 |
Y hawl i'w cyfrinachedd eu hunain wrth
siarad gyda gweithiwr proffesiynol
|
 |
Anogaeth i deimlo aelod gwerthfawr o’r
tîm gofal
|
 |
Hyder i roi eu barn eu hunain a sôn
am unrhyw bryderon sydd ganddynt
|
 |
Cefnogaeth emosiynol ac ymarferol
|
 |
Asesiad o'u hangenion eu hunain gyda'u
cynllun gofal ysgrifenedig eu hunain (h.y. pe bai gan y claf salwch
meddyliol dyfrifol neu anabledd dysgu)
|
Mae ymddiriedaeth yn hanfodol mewn gofal
da. Mae angen gwyntyllu a thrafod materion cyfrinachedd rhwng
cleifion a gweithwyr proffesiynol, gofalwyr a chleifion a gofalwyr
a gweithwyr proffesiynol.
Bydd gofalwyr yn amrywio o ran faint o
wybodaeth sydd ei hangen, pa bryd mae ei hangen a chan ba aelod o’r
tîm iechyd meddwl y maent yn ei derbyn. Bydd nifer yn derbyn
gwybodaeth yn uniongyrchol gan y claf, y rhan fwyaf yn ei derbyn yn
raddol a bydd gan rhai fynediad at wybodaeth gyffredinol y tu allan
i’r tîm gofal lleol.
Gall fod canlyniadau difrifol, yn ogystal â
rhwystredigaeth a dig am beidio cael eu cynnwys, os nad yw
gwybodaeth yn cael ei rhannu:
”Pan roedd
fy merch yn cael gadael yr ysbyty, ni dderbyniais unrhyw wybodaeth
na chyngor am sut i’w helpu gyda’i phroblemau parhaus gydag
anorecsia. Roeddwn yn gweld ei bod hi’n mynd yn beryglus o denau,
ond nid oeddwn wedi derbyn unrhyw wybodaeth am ei chynllun bwyta na
beth i’w wneud os oedd hi’n dweud wrtha’i nad oedd rhaid iddi fwyta
rhai bwydydd. Roeddwn yn teimlo ei bod hi’n manteisio ar hyn ond
doedd gynna’i neb i ofyn am gymorth nac arweiniad ac roeddwn yn
teimlo nad oedd ganddi ddyfodol.”
-
Ymgyrch Partneriaid mewn
Gofal
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch
Partneriad mewn Gofal (Partners in
Care) ar y cyd rhwng y Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i
Ofalwyr.
Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd
dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd
meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu
partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol
fydd o fudd i bawb.
"Good
practice is built on partnerships – not only between doctor and
patient, but between patient and carer and between carer and
doctor”
Dr Mike Shooter, Llywydd
Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion
Gyda diolch i Sue Allison, Dr Gráinne Fadden,
Deborah Hart, Dr Mike Launer a Jill Siddle am
gynhyrchu’r daflen hon.
Adolgywyd Mai 2010 gan Dr Gráinne Fadden ã
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gellir
lawrlwytho’r daflen hon, ei hargraffu, ei llungopïo a’i dosbarthu
am ddim cyn belled â bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn derbyn
y clod priodol ac na wneir elw o’i defnydd.
© Diwygiwyd Mai 2010. Dyddiad adolygu: Mai
2012.
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg
© Royal College of Psychiatrists.
This leaflet may be downloaded, printed out, photocopied and
distributed free of charge as long as the Royal College of
Psychiatrists is properly credited and no profit is gained from its
use. Permission to reproduce it in any other way must be obtained
from the Head of Publications. The College
does not allow reposting of its leaflets on other sites, but
allows them to be linked to directly.
For a catalogue of public education materials or copies of our
leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351
x259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)