Alcohol, cyffuriau a
dibyniaeth
Gweithio gyda’n gilydd i wneud
gwahaniaeth go iawn
Cyflwyniad
Anelir y daflen hon at:
- gofalwyr pobl gyda phroblemau alcohol a chyffuriau
(camddefnyddio sylweddau) sy’n rhoi help a chymorth parhaus, heb
dâl, i berthynas, partner neu ffrind;
- yr arbenigwyr ar ddibyniaeth a gweithwyr proffesiynol eraill
sy’n ymwneud â gofalu a darparu triniaeth i’r sawl sy’n dioddef
gyda’r problemau hyn.
Mae’n awgrymu ffyrdd o wella cyfathrebu a
phartneriaethau unwaith y mae’r unigolyn wedi derbyn diagnosis o
gamddefnyddio sylweddau neu anhwylder dibyniaeth.
Ar gyfer y
gofalwr
Ynglŷn â
chamddefnyddio sylweddau a dibyniaeth
Mae camddefnyddio sylweddau yn peri niwed i
iechyd unigolyn. Mae dibyniaeth yn dod i'r amlwg pan fo
unigolyn yn gaeth yn gorfforol ac/neu yn seicolegol, a bydd yr
unigolyn yn dioddef symptomau diddyfnu os na fydd yn defnyddio’r
sylwedd. Cael gafael ar y sylwedd a’i ddefnyddio yw’r peth pwysicaf
yn eu bywyd. Mae pobl yn defnyddio pob math o sylweddau.
Gall y rhain fod yn rhai cyfreithlon (alcohol, tybaco a
hydoddyddion) neu anghyfreithlon (canabis, heroin a chocên).
Mae’n hawdd mynd yn gaeth i rai cyffuriau ar bresgripsiwn
(e.e. diazepam). Mae camddefnyddio sylweddau a
dibyniaeth ar sylweddau ar gynnydd yn y DU, yn arbennig ymysg pobl
ifanc.
Newidiadau yn
ymddygiad yr unigolyn
Efallai y byddwch chi, fel gofalwr, yn
sylwi:
- bod yr unigolyn yn poeni fwy am gael ei sylwedd nag am ymdrin â
phethau eraill
- bod yr unigolyn yn flin os oes rhywun yn sôn wrtho amdano'n
defnyddio sylweddau
- bod yr unigolyn yn gyfrinachgar a gochelgar
- bod yr unigolyn yn aml yn feddw, neu’n ymddangos fel petai dan
ddylanwad rhywbeth
- bod yr unigolyn yn flinedig, yn flin a ddim yn edrych mor
dda
- bod yr unigolyn yn cymryd llai o ddiddordeb mewn pethau o ddydd
i ddydd
- nad yw'n medru dweud 'na' a bod ganddo awydd cryf am y
sylwedd
- bod yr unigolyn yn defnyddio mwy a mwy o’r sylwedd i gael yr un
effaith
- bod yr unigolyn ynghlwm â throseddu
- bod yr unigolyn yn bryderus, yn isel neu’n arddangos symptomau
problemau iechyd meddwl eraill
Gwneud
diagnosis
Gwneir diagnosis trwy siarad gyda’r unigolyn
am gamddefnyddio sylweddau, edrych am arwyddion o ddiddyfnu,
archwilio’r unigolyn a gofyn iddo wneud tasgau penodol. Gall
hyn gynnwys profion troeth am gyffuriau, a chydag achosion
camddefnyddio alcohol, profion swyddogaeth iau.
Triniaethau
Mae nod y driniaeth yn amrywio o reoli
defnydd, dadwenwyno a rhoi’r gorau i yfed neu gymryd cyffuriau yn
gyfan gwbl. Mae triniaethau seicolegol yn gyffredin ar gyfer pob
math o gamddefnyddio sylweddau, a thriniaeth buprenorphine a
methadon ar gyfer dibyniaeth ar gysglynnau (cyffur). Mae
meddyginiaeth hefyd ar gael ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau ac
alcohol i helpu i atal ailddechrau camddefnyddio.
Fel gofalwr,
gallwch deimlo’n:
- rhwystredig a phoenus
- ansicr sut i helpu
- pryderus am iechyd a lles yr unigolyn
- pryderus ynghylch beth fydd yn digwydd yn y dyfodol
- blin os na fydd yr unigolyn yn derbyn eich help a’ch
cyngor
- pryderus y bydd yr heddlu’n camu i mewn
- ofnus ynghylch ymddygiad yr unigolyn
- teimlo fod yr unigolyn y tu hwnt i unrhyw help
- pryderus am yr effaith ar aelodau eraill y teulu
- pryderus am y canlyniadau ariannol.
Cyngor i
ofalwyr
Mewn partneriaeth
gyda’ch arbenigwr dibyniaeth a gweithwyr proffesiynol
eraill
Mae cyfathrebu da rhwng pawb sydd ynghlwm â
gofal yr unigolyn yn bwysig, ond mae hyn yn golygu amser ac
ymdrech. Mae’n bwysig datblygu perthynas gadarnhaol gyda
phawb sydd ynghlwm wrth helpu i reoli neu roi diwedd ar y
camddefnyddio sylweddau. Efallai y cewch eich gwahodd i fod
yn rhan o gynlluniau trin a chefnogi’r unigolyn. Mae rhai o’r
gweithwyr proffesiynol y mae’n bosib y byddwch yn dod ar eu traws
yn cynnwys:
- seiciatryddion
- meddygon teulu a meddygon arbenigol eraill
- therapyddion dibyniaeth
- cwnsleriaid
- nyrsys
- gweithwyr cyffuriau
- gweithwyr cymdeithasol
- staff o wahanol wasanaethau anstatudol.
* Cofiwch drefnu eich apwyntiad nesaf cyn i
chi adael.
Cyngor er
mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer ymweliadau dilynol
Cyn eich
ymweliad:
- Nodwch unrhyw newid mewn ymddygiad ac ymatebion i feddyginiaeth
mewn llyfr nodiadau, ynghyd ag unrhyw bryderon neu gwestiynau ers
eich ymweliad diwethaf.
- Edrychwch ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i chasglu a nodwch eich
tri phrif bryder. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cofio
siarad am y pethau sydd o bwys i chi. Gall eich pryderon gynnwys
cwestiynau am:
- newid mewn symptomau ac
ymddygiad
- sgil effeithiau
meddyginiaeth
- iechyd cyffredinol y claf
- eich iechyd eich hun
- unrhyw help ychwanegol a all fod
ei angen.
Yn ystod eich
ymweliad:
- Os nad ydych yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau. Peidiwch
â bod ofn dweud.
- Ysgrifennwch nodiadau yn ystod yr ymweliad. Edrychwch
dros eich nodiadau ar y diwedd, a dywedwch wrth y gweithiwr iechyd
proffesiynol beth yr ydych wedi’i ddeall. Mae hyn yn rhoi
cyfle iddynt gywiro unrhyw wybodaeth neu ailadrodd rhywbeth a
gollwyd.
Cyngor pellach i
ofalwyr wrth ddelio â gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol
Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fod
yn amharod i drafod diagnosis unigolyn gyda’i ofalwr gan fod
dyletswydd o gyfrinachedd rhwng y gweithiwr proffesiynol a’r claf.
Fodd bynnag, byddant fel arfer eisiau clywed yr hyn sydd
gennych i’w ddweud. Os yw’r unigolyn o dan 18, mae cydbwysedd
rhwng cyfrinachedd a’r angen i rannu gwybodaeth. (Gweler ein
taflen Gofalwyr a chyfrinachedd mewn iechyd
meddwl).
Os yw’r gweithiwr
gofal iechyd proffesiynol yn amharod i’ch cynnwys chi fel gofalwr,
mae nifer o bethau y medrwch ei wneud:
- Gofynnwch i’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdano a fedrwch chi
aros gydag o yn ystod ymweliad. Os yw’r unigolyn yn cytuno,
mae’r meddyg yn llai tebygol o wrthod.
- Siaradwch gyda gofalwyr eraill, efallai y bydd ganddynt
awgrymiadau defnyddiol
- Ceisiwch siarad gydag aelodau eraill o’r tîm sy’n ymwneud â
gofalu am yr unigolyn
- Os nad ydych yn fodlon, dilynwch drefn gwyno’r
Ymddiriedolaeth.
Peidiwch ag
anghofio gofalu amdanoch chi eich hun hefyd
- rhannwch eich problemau gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu yr
ydych yn ymddiried ynddynt
- peidiwch â chadw pethau i chi eich hun – does dim byd o’i le â
chrio’n iawn
- ceisiwch gadwch mewn cysylltiad gyda ffrindiau
- ewch i weld eich meddyg eich hun os nad ydych yn medru cysgu,
os ydych wedi blino, yn bryderus neu’n teimlo’n isel
- gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amser ar eich cyfer chi eich
hun a gwnewch ymarferion corff syml.
Ar gyfer y gweithiwr
proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gydag
unigolion gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth a’u
gofalwyr, gobeithio y bydd yr isod yn ddefnyddiol i chi fel
arweiniad i arfer da.
Pan fyddwch yn
asesu, fyddwch chi yn?
 |
ceisio gweld yr unigolyn sydd â phroblem camddefnyddio
sylweddau a’r gofalwr ar wahân, yn ogystal â gyda’i gilydd? |
 |
ystyried ymweld â’r
cartref?
|
A ydych chi’n
caniatáu digon o amser i?
Wrth reoli’r
anhwylder, ydych chi'n?
Pethau i’w
cofio
- Mae gan ofalwyr eu hanghenion eu hunain, ac efallai y byddant
angen ysbaid
- Mae’n bwysig cyfathrebu gyda phawb sy’n ymwneud â hyn
- Rhowch wybodaeth ar lafar ac yn ysgrifenedig sy’n hawdd i’w
deall
- Rhowch rifau ffôn cyswllt
- Cofiwch am faterion yn ymwneud â chaniatâd a
chyfrinachedd.
Cymorth pellach
Princess Royal Trust for
Carers
Unit 14, Bourne Court,
Southend Road, Woodford Green, Essex IG8 8HD
Tel: 0844 800 4361
Email: info@carers.org
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i
ofalwyr.
Al-Anon Family Groups UK &
Eire
61 Great Dover Street, London SE1 4YF
Confidential Helpline 020 7403 0888
Yn helpu pobl sy’n dioddef oherwydd bod rhywun
arall yn yfed.
Alcoholics Anonymous
(AA)
National Helpline: 0845 769 7555
Grwpiau hunangymorth i bobl gyda phroblemau
alcohol.
ADFAM – Families, drugs and
alcohol
Ffôn: 020 7553 7640
Narcotics Anonymous (NA)
Grwpiau hunangymorth i bobl sy’n dod dros
gaethiwed i gyffuriau.
Talk to Frank
Ffôn: 0800 77 66 00
Cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am
gyffuriau.
Get
Your Loved One Sober: Alternative
to Nagging, Pleading, and Threatening: Robert J.
Meyers, Brenda L. Wolfe – Hazelden
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn
Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng y Coleg
Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol
i Ofalwyr. Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd
dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd
meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu
partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol
fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Dr Jonathan King
Mewnbwn gofalwr a defnyddiwr: Royal College of
Psychiatrists' Addictions Faculty User and Carer Group
Golygydd: Dr Philip Timms, Cadeirydd, Bwrdd
Golygyddol Addysg Cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
ã September 2010. Dyddiad
adolygu: September 2012.
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg
© Royal College of Psychiatrists.
This leaflet may be downloaded, printed out, photocopied and
distributed free of charge as long as the Royal College of
Psychiatrists is properly credited and no profit is gained from its
use. Permission to reproduce it in any other way must be obtained
from the Head of Publications. The College
does not allow reposting of its leaflets on other sites, but
allows them to be linked to directly.
ãColeg Brenhinol y Seiciatryddion. Gellir
lawrlwytho’r daflen hon, ei hargraffu, ei llungopïo a’i dosbarthu
am ddim cyn belled â bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn derbyn
y clod priodol ac na wneir elw o’i defnydd.
For a catalogue of public education materials or copies of our
leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351 x
6259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our FAQ for advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about
the statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories
please):
Age group (please tick correct box)