Partneriaid mewn Gofal
Gweithio gyda’n gilydd i wneud
gwahaniaeth go iawn
Iselder
Gweithio mewn
partneriaeth â seiciatryddion a gofalwyr
Cyflwyniad
Mae'r daflen hon ar gyfer:
- unrhyw un sy’n rhoi help ymarferol a chefnogaeth, yn ddi-dâl, i
berthynas, partner neu ffrind sy'n dioddef o iselder (a elwir yn
'gofalwyr' yn y daflen hon)
- unrhyw weithiwr proffesiynol - seiciatryddion, Meddygon Teulu
neu aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl sy’n ymwneud â gofalu a
darparu triniaeth i’r sawl sy’n dioddef o iselder.
Mae’n edrych ar ffyrdd sy’n annog
cyfathrebu cliriach a chyd-weithio gwell rhwng cleifion, gofalwyr a
gweithwyr proffesiynol.
Ar gyfer y gofalwr
Iselder
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n drist a
thruenus ar adegau, ond pan mae’r teimladau hyn yn parhau am fwy
nag ychydig o wythnosau, a'u bod cynddrwg hyd nes eu bod yn ymyrryd
â bywyd pob dydd pobl, yna, fel arfer, mae angen cymorth
proffesiynol.
Newidiadau yn ymddygiad yr unigolyn
Efallai y byddwch chi, fel gofalwr, yn sylwi
fod y person:
- yn anhapus y rhan fwyaf o’r amser
- wedi colli ei hunan hyder
- yn mynegi teimladau o euogrwydd, cywilydd a theimlo’n
ddi-werth
- yn flin ac, efallai, yn ddig
- yn ddagreuol
- wedi colli’r awydd i fwyta, neu’n bwyta mwy na’r arfer
- wedi newid ei batrwm cwsg
- yn hynod flinedig
- yn cael trafferth canolbwyntio
- yn encilgar ac wedi colli diddordeb mewn bywyd, gan gynnwys
rhyw
- yn methu gofalu dros eu hunain gystal ag arfer
- yn siarad am hunanladdiad
Gwneud diagnosis
Mae angen i'r gweithiwr proffesiynol -
meddyg, nyrs neu weithiwr cymdeithasol - ddeall digwyddiadau
diweddar yn ogystal â beth sydd wedi digwydd i rhywun yn y
gorffennol. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt
siarad â’r claf ac, yn aml, â pherthynas agos neu ffrind. Ar
ôl ystyried popeth arall a all achosi’r symptomau, gan gynnwys
problemau iechyd corfforol, gellir wedyn gwneud diagnosis o iselder
ysgafn, cymedrol neu ddifrifol.
Triniaeth
Mae iselder yn salwch y gellir ei drin yn
llwyddiannus. Weithiau, mae digwyddiadau ym mywyd rhywun yn ei
achosi, neu fe all ymddangos yn sydyn heb unrhyw achos amlwg. Mae’r
rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o iselder yn cael eu trin gan eu
Meddyg Teulu. Efallai bod rhai angen help mwy arbenigol, a’u
cyfeirio at seiciatrydd ac/neu at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol
(CMHT), i weld nyrs seiciatrig gymunedol (CPN), gweithiwr
cymdeithasol, seicolegydd neu therapydd galwedigaethol. Dim ond 1 o
bob 100 o bobl sy’n dioddef o iselder sydd angen mynd i’r
ysbyty.
Mae nifer o driniaethau ar gael:
- Hunangymorth, yn cynnwys technegau ac ymarferion ymlacio
- Therapi siarad, megis cwnsela, therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) neu
un o'r seicotherapi
- Meddyginiaeth megis cyffuriau gwrth-iselder
- Meddyginiaeth llysieuol, megis llysiau Ifan.
Fel gofalwr, sut allwch chi helpu'ch ffrind neu
berthynas?
- Annog y person i siarad am sut y maen nhw'n teimlo.
- Ceisio bod yn wrandäwr da - hyd yn oed os ydych chi'n clywed yr
un peth sawl gwaith
- Eu hatgoffa hwy bod iselder yn salwch y gellir ei drin, ac nad
ydynt ar fai.
- Cysuro’r person o hyd y bydd yn gwella.
- Annog ymarfer corff rheolaidd a diet cytbwys
- Annog y person i gymryd help proffesiynol.
- Helpu’r person i beidio â mynd yn agos at alcohol.
- Cymryd o ddifrif os oes unrhyw sôn yn y sgwrs am deimlo'n
anobeithiol neu am hunan-niweidio
Fel gofalwr, gallwch fod yn:
- Ddiamynedd gydag ymddygiad y person
- Poeni:
- eich bod yn colli’r person yr oeddech yn
arfer ei adnabod
- am ymdopi a gofyn am help
- am y dyfodol, gan gynnwys pryderon
ariannol
- am y stigma sy’n gysylltiedig â salwch
meddwl
- am ddiogelwch y person a’r risg o
hunanladdiad
- Blinedig ar ôl gwrando a gofalu
- Wedi’ch ynysu oddi wrth eich cysylltiadau cymdeithasol
arferol
Yn aml, mae gofalu am rhywun sy’n teimlo’n
isel yn anodd iawn, yn rôl sy’n peri straen ac unigrwydd, ond mae
help a chefnogaeth ar gael.
Cyngor i ofalwyr
Mewn partneriaeth â’ch meddyg ac aelodau’r tîm iechyd
meddwl
Mae’n bwysig bod cyfathrebu clir a rheolaidd
rhwng meddyg teulu, gweithwyr proffesiynol eraill, yr unigolyn sy’n
dioddef o iselder a’i ofalwr. Nid yw hyn yn ddigwydd yn
awtomatig, a bydd yn cymryd amser ac ymdrech. Er enghraifft, os oes
angen arnoch chi fwy o amser nag arfer i siarad am beth sy’n
digwydd gyda'ch Meddyg Teulu, yna mae modd i chi ofyn am apwyntiad
dwbl. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i chi.
Partneriaeth/gwneud penderfyniadau
Mae gan pobl farn gwahanol ynghylch â faint y
maent yn dymuno ymwneud â chymryd penderfyniadau am eu gofal a
thriniaeth. Mae rhai pobl yn hapus i adael i'r meddyg wneud
hyn, mae rhai pobl yn hoffi gwneud y penderfyniad dros eu hunain ac
mae eraill yn ffafrio rhyw fath o gydweithio. Beth bynnag yw
'dewis penderfyniad' y claf, dylai ef/hi a'r gofalwr gymryd rhan
lawn mewn unrhyw drafodaethau am driniaeth a chynlluniau
gofal. Fel rhan o hyn, mae'n hanfodol eich bod chi a'ch
ffrind neu berthynas yn cael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch
chi i wneud y penderfyniadau sydd angen eu gwneud.
Mae datblygu perthynas wedi’i seilio ar
ymddiriedaeth â’r holl staff sy’n gofalu am y claf o fudd
mawr. Mae'r staff yn cael llun eglurach am yr hyn syn digwydd
- a faint o gymorth a chefnogaeth y gallwch chi gynnig. Rydych
chi'n cael syniad eglurach am y dewisiadau ar gael a beth i'w
ddisgwyl - a sut i gael ychydig o gefnogaeth i'chi eich hunain. Mae
hyn o fudd mawr, yn enwedig wrth ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth
barhaus.
|
|
Beth ddylech
chi ofyn i'r meddyg?
|
 |
Allwch chi egluro beth mae'r diagnosis
yn ei olygu?
|
 |
Beth fedrwn ni ei ddisgwyl yn y
dyfodol agos a thros amser?
|
 |
Pa driniaethau sydd ar gael?
|
 |
Pam eich bod chi wedi dewis y driniaeth
benodol hon?
|
 |
Pam mor hir fydd y feddyginiaeth yn ei
chymryd i weithio?
|
 |
Am ba mor hir fydd yn rhaid i'r person
gymryd y feddyginiaeth?
|
 |
Beth yw sgil effaithiau posib - a sut
mor arferol (neu anaferol) ydynt?
|
 |
Fydd therapiau siarad neu CBT yn
gymorth?
|
 |
Pa mor aml ddylai'r person ddod i'ch
gweld chi?
|
 |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud i
helpu ein hunain?
|
 |
A yw'n ddiogel i unigolyn yrrru?
|
 |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau
ysgrifenedig am iselder a'r driniaeth? Os nad oes, gan bwy fyddai
deunyddiau o'r fath ar gael?
|
 |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau
cymundedol lleol a all helpu?
|
 |
Gyda phwy ddylwn i gysylltu am wasanaethau y
tu allan i oriau?
|
*Cofiwch drefnu
eich apwyntiad nesaf cyn i chi adael.
Bydd ymweliad â’ch meddyg neu aelodau eraill
o’r tîm iechyd meddwl yn rheolaidd yn sicrhau eich bod ill
dau yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth orau. Dylid paratoi’n drylwyr
ar gyfer yr ymweliadau
hyn.
Cynllunio ar
gyfer ymweliad dilynol
- Trafodwch unrhyw bryderon newydd neu newid hwyliau, meddyliau
ac ymddygiad.
- Cadwch nodyn o’r newidiadau hyn fel y maen nhw'n digwydd,
gan gofnodi’r dyddiadau.
- Cadwch nodyn o unrhyw ymateb i feddyginiaeth, gan gofnodi'r
dyddiadau eto, os yn bosib.
- Yn union cyn eich ymweliad nesaf, edrychwch ar y nodiadau a
phenderfynwch, gyda'ch ffrind neu berthynas, beth yw’r pwyntiau
pwysicaf.
- Ysgrifennwch eich tri phryder mwyaf i sicrhau eich bod yn
trafod y rhain, ac ewch a’r nodiadau eraill gyda chi. Gall y rhain
gynnwys:
- newid mewn symptomau ac ymddygiad
- sgil effeithiau
meddyginiaeth
- iechyd corfforol cyffredinol e.e.
rhoi ar neu golli pwysau
- eich iechyd eich hun fel
gofalwr
- unrhyw help ychwanegol sydd ei
angen
- pa bryd fydd y person yn ddigon
da i ddychwelyd i weithgareddau arferol, gan gynnwys gwaith a
gyrru.
Yn ystod eich ymweliad:
- Os nad ydych chi na’r person yn deall rhywbeth, yna holwch
gwestiynau.
- Anogwch eich ffrind neu berthanas i ddweud wrth y gweithiwr
professiynol am sut mae'n teimlo.
- Cymrwch nodiadau am beth sy’n cael ei ddweud wrthych chi. Ar y
diwedd, dywedwch wrth y doctor beth yr ydych chi a’r person wedi’i
ddeall er mwyn clirio unrhyw gamddealltwriaeth neu rhywbeth sydd
wedi ei adael allan.
Cyfrinachedd
Mae gan bob gweithiwr iechyd meddwl
proffesiynol ddyletswydd o gyfrinachedd. Mae hyn yn golygu,
oni bai fod amgylchiadau eithriadol, ni allent rannu gwybodaeth am
y claf heb ganiatâd y claf.
Mae hyn yn golygu y gall gweithwyr
proffesiynol fod yn anfodlon trafod gwybodaeth o'r fath gyda
gofalwr - neu hyd yn oed gwrthod i'w wneud o gwbl.
Sut bynnag, mae mwy a mwy o weithwyr
proffesiynol iechyd yn cydnabod gwerth cynnwys gofalwyr ac yn annog
y claf i ddeall manteision hyn. (Gweler ein taflen ‘Gofalwyr a
chyfrinachedd mewn iechyd meddwl’).
Hyd yn oed os nad yw'r claf wedi rhoi ei
ganiatad i rannu ei wybodaeth bersonnol, gall gweithwyr
proffesiynol roi gwybodaeth cyffredinol ar gyflwr, hawliau a
gwasanaethau i ofalwyr, oni bai nad yw'r wybodaeth yn torri
cyfrinachedd.
Os yw’r meddyg
yn anfodlon eich cynnwys chi fel gofalwr, mae nifer o bethau y
medrwch eu gwneud:
- gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu amdano/i a gewch chi
fynychu rhai o’r apwyntiadau gydag ef/hi, neu i ran o'r
apwyntiad
- siaradwch gydag aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl
- cysylltwch â’r llinellau ffôn a restrir ar ddiwedd y daflen
hon
- cysylltwch â gweithwyr adfocatiaeth iechyd meddwl lleol
Peidiwch ag
anghofio gofalu amdanoch chi eich hun:
- Rhannwch eich pryderon gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu yr
ydych yn ymddiried ynddynt - ond parchwch hawl y claf i
breifatrwydd
- Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun, gofynnwch am help pan
ydych chi teimlo angen ei gael.
- Rhowch amser i chi’ch hun ar gyfer gwneud gweithgareddau
hamdden
- Sicrhewch eich bod yn bwyta’n dda ac yn cael digon o
ymarfer
- Ewch i weld eich meddyg eich hun os yw anodd i chi gysgu, os yn
bryderus neu’n teimlo’n isel
- Gofynnwch a oes gweithiwr cefnogi teuluoedd
ar gael.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Yr asesiad
- Gallwch weld y claf a’r gofalwr ar wahân, yn ogystal â gyda’i
gilydd.
A oes ddigon o
amser i...
- Wrando, holi a gwrando
- Cael clywed hanes bywyd
- Holi am unrhyw golledion, unrhyw gamdriniaeth posib neu
ddigwyddiadau trawmatig eraill
- Esbonio sut y daethoch i’r casgliad am y diagnosis
- Siarad am y prognosis byrdymor a hirdymor
- Gadael digon o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau
Wrth reoli’r
iselder, ydych chi'n...
- Trafod pob triniaeth bosibl gan gynnwys cymorth meddygol,
seicolegol a hunangymorth
- Siarad am sgil effeithiau posib meddyginiaeth
- Trafod sut i fodloni anghenion gofal y claf a’r gofalwr.
- Siarad am y canlyniadau positif
- Treulio amser yn holi am iechyd y gofalwr – yn gorfforol ac yn
emosiynol
Pethau i’w
cofio
- Efallai bod y gofalwr eisiau seibiant
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag aelodau
eraill y teulu
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol ar gael y gall y
teulu gysylltu ag ef/hi ar unrhyw adeg
- Nodwch y rhif ffôn y tu allan i oriau
- Gwnewch yn siŵr fod gan y claf a’r gofalwr ddigon o wybodaeth
am:
- eu gofal a’u triniaeth
- yr holl ystod o wasanaethau lleol
ar gael - ymarfer, maeth neu grwpiau hunangymorth, er
enghraifft
- iselder a’r driniaeth
- sefydliadau gofalwyr neu iechyd
meddwl perthnasol
- Gyrrwch copïau'r llythyrau i’r claf a’r
gofalwr.
Cymorth pellach
Depression
Alliance
Nid yw Depression Alliance
yn darparu llinell cymorth ar hyn o bryd ond gallwch ffonio
am becyn gwybodaeth ar 0845 123 23 20; e-bost information@depressionalliance.org
The Princess Royal Trust for
Carers
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i
ofalwyr. E-bost: support@carers.org
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn
Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng y Coleg
Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol
i Ofalwyr. Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd
dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd
meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu
partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol
fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Jill Siddle
Mewnbwn gofalwr a defnyddiwr: Depression
Alliance
Golygydd: Dr Philip Timms, Cadeirydd, Bwrdd
Golygyddol Addysg Cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
© Mai 2010. Dyddiad adolygu: Mai
2010
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg
© Royal College of Psychiatrists.
This leaflet may be downloaded, printed out, photocopied and
distributed free of charge as long as the Royal College of
Psychiatrists is properly credited and no profit is gained from its
use. Permission to reproduce it in any other way must be obtained
from the Head of Publications. The College
does not allow reposting of its leaflets on other sites, but
allows them to be linked to directly.
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Gellir lawrlwytho’r daflen hon,
ei hargraffu, ei llungopïo a’i dosbarthu am ddim cyn belled â bod
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn derbyn y clod priodol ac na
wneir elw o’i defnydd.
For a catalogue of public education materials
or copies of our leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351 x
6259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)