Partneriaid mewn Gofal
Gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn
Salwch Meddwl Difrifol (seicosis)
Gweithio mewn partneriaeth â
seiciatryddion a gofalwyr
Cyflwyniad
Anelir y daflen hon
at:
- gofalwyr pobl â salwch meddwl difrifol (seicosis) sy’n rhoi
help a chymorth parhaus, heb dâl, i berthynas, partner neu
ffrind;
- Seiciatryddion ac aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl sy’n
ymwneud â gofalu a darparu triniaeth i’r sawl sy’n dioddef o salwch
meddwl difrifol.
Ceir awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella
cyfathrebu a chyswllt sy’n caniatáu parch tuag at y naill a’r llall
a phartneriaethau gwaith go iawn ddatblygu o gychwyn y
diagnosis.
Ar gyfer y gofalwr
Ynglŷn â seicosis
Defnyddir y gair seicosis i ddisgrifio
symptomau neu brofiadau sy’n digwydd ar yr un pryd. Bydd gan bob
unigolyn wahanol symptomau, a’r nodwedd gyffredin yw nad ydynt yn
profi realiti fel y rhan fwyaf o bobl.
Dim ond un ‘episod’ mae rhai pobl yn ei
ddioddef, yna maent yn gwella'n gyfan gwbl; ond mae’n broses hwy i
eraill. Gan fod 1 allan o bob 10 o bobl gyda seicosis yn lladd eu
hunain, mae’n bwysig adnabod symptomau iselder. Mae’n bosib y
bydd unigolyn sy’n dioddef seicosis yn:
- clywed, arogli, teimlo neu weld pethau nad yw eraill yn eu
profi (rhith-weld);
- meddwl am bethau rhyfedd, neu gredu ynddynt, a all wneud i'r
unigolyn deimlo fel petai'n cael ei reoli, ei erlid neu ei
aflonyddu (rhithdybiau);
- bod yn gymysglyd neu'n methu meddwl (anhwylder meddwl);
- ymddangos yn gynhyrfus neu’n encilgar ac yn osgoi cysylltiad
gyda phobl,
- ac nid ydynt yn sylweddoli fod unrhyw beth o’i le (diffyg
dirnadaeth).
Newidiadau cynnar yn ymddygiad yr
unigolyn
Efallai y byddwch chi, fel gofalwr, yn sylwi
bod yr unigolyn yn:
- cael trafferth dirnad realiti a meddwl yn glir
- siarad gydag ef ei hun a neu'n ymddangos fel petai'n gwrando ar
rywbeth arall
- cael trafferth cyfathrebu'n effeithiol
- colli diddordeb yn ei ymddangosiad personol ac mewn bywyd yn
gyffredinol
- anesmwyth, yn biwis, ar bigau'r drain ac yn bryderus
- osgoi pobl eraill
- ymosodol neu’n dreisgar (yn y lleiafrif o achosion)
- teimlo mewn hwyliau da iawn (‘manig’) neu’n isel iawn, neu’n
newid o un cyflwr i’r llall (iselder gorffwyll).
Gwneud
diagnosis
Nid oes un prawf penodol am seicosis gan fod y
symptomau’n gyffredin i nifer o anhwylderau, gan gynnwys
sgitsoffrenia, iselder gorffwyll / anhwylder deubegwn ac iselder
seicotig.
Gwneir diagnosis drwy siarad â’r unigolyn a
pherthynas neu ffrind agos er mwyn deall hanes yr unigolyn yn
ogystal â beth arall all fod yn achosi’r symptomau.
Triniaethau
Dylid cychwyn rhoi meddyginiaeth cyn gynted â
phosib i helpu gyda’r symptomau mwyaf annifyr a gall hyn ei gwneud
yn bosib i fathau eraill o help weithio. Mae triniaethau
eraill, a ddefnyddir ar yr un pryd â chymryd meddyginiaeth, neu ar
eu pen eu hunain, yn cynnwys therapïau siarad (seicotherapi) a
therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Gall therapi teulu fod yn
rhan bwysig o’r pecyn gofal.
Fel gofalwr,
gallwch:
- deimlo’n euog
- poeni am golli’r person yr oeddech yn arfer ei adnabod
- meddwl tybed a fydd hyn yn effeithio ar unrhyw aelod arall o'r
teulu
- teimlo’n flinedig oherwydd y gwaith gofalu a sicrhau bod yr
unigolyn yn ddiogel
- teimlo’n ofnus ynghylch cyfaddef bod yna broblem
- poeni am y canlyniadau i’r unigolyn yn y tymor hir
- poeni am ymdopi a chael help
- poeni am gyfrifoldebau ariannol y gofalu yn y tymor hir
- poeni am agweddau negyddol pobl tuag at salwch meddyliol a’r
stigma sy’n gysylltiedig â hynny.
Cyngor i ofalwyr
Mewn partneriaeth gyda’ch meddyg
ac aelodau’r tîm iechyd meddwl
Mae cyfathrebu da rhwng meddyg, aelodau’r tîm
iechyd meddwl, unigolyn sy’n dioddef seicosis a’u gofalwr yn
bwysig, ond mae hyn yn golygu amser ac ymdrech. Mae datblygu
perthynas gadarnhaol, hirdymor gyda'r holl staff a meddygon sy’n
gofalu am y claf yn bwysig iawn os yw’r cyflwr yn un tymor hir.
Os yw’r unigolyn yn dioddef y symptomau am y
tro cyntaf, mae’n bwysig gweld y meddyg teulu cyn gynted â phosib.
Bydd y meddyg teulu, neu aelod o'r Tîm Iechyd Meddwl
Cymunedol (CMHT) yn asesu'r unigolyn yn gyntaf, cyn ei gyfeirio at
arbenigwr. Os bydd yr unigolyn yn gwrthod gweld meddyg,
dylai’r gofalwr neu unigolyn arall y gellir ymddiried ynddo geisio
ei berswadio i dderbyn help proffesiynol.
Efallai na fyddai angen i’r unigolyn fynd i
ysbyty, mae’n bosib i Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol asesu a darparu
triniaeth yn y cartref y dyddiau hyn.
Mae rhai o’r arbenigwyr y mae’n debygol y
byddwch yn dod ar eu traws yn cynnwys: seiciatryddion,
seicolegwyr, cwnsleriaid, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr
cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol a gweithwyr cefnogol.
Beth ddylech chi ei ofyn i’r meddyg
 |
Beth mae’r diagnosis yn ei olygu?
|
 |
Fedrwch chi esbonio hynny mewn ffordd y
medraf i ei deall?
|
 |
A oes unrhyw driniaethau ar gael?
|
 |
Ble fedra i gael gwybodaeth am
feddyginiaeth a sgil effeithiau posib?
|
 |
Pa mor hir fydd y feddyginiaeth yn ei
chymryd i weithio?
|
 |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud i
helpu ein hunain?
|
 |
Beth fedrwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol
agos a thros amser?
|
 |
A fydd yr unigolyn yn medru parhau i
weithio neu dderbyn addysg?
|
 |
A yw’n ddiogel i’r unigolyn yrru?
|
 |
A fydd y sawl yr wyf yn gofalu amdano yn
gwella?
|
 |
Pa mor aml ddylwn i ddod i’ch gweld
chi?
|
 |
A oes gennych chi rif ffôn y tu allan i
oriau, mewn argyfwng?
|
 |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau
ysgrifenedig am yr anhwylder hwn, ac os nad oes, gan bwy mae
deunyddiau o'r fath ar gael?
|
 |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei newid
gartref er mwyn gwneud pethau’n haws neu’n ddiogelach?
|
 |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau cymunedol a all
helpu? |
 |
Pa weithiwr gwasanaeth iechyd ddylai fod yn brif berson
cyswllt er mwyn i mi gael arweiniad a chyngor? |
Cofiwch drefnu eich apwyntiad nesaf cyn i chi
adael.
Bydd mynd i weld y meddyg neu aelodau eraill
o’r tîm iechyd meddwl yn rheolaidd ac ar ôl paratoi yn dda, yn eich
helpu i gael y gofal gorau ar gyfer y ddau ohonoch chi.
Cyngor er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer
ymweliadau dilynol
- Nodwch unrhyw newid mewn ymddygiad ac ymatebion i feddyginiaeth
mewn llyfr nodiadau, ynghyd ag unrhyw bryderon neu gwestiynau ers i
chi weld y meddyg ddiwethaf.
- Edrychwch ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i chasglu ers eich
ymweliad olaf a nodwch eich tri phrif bryder. Bydd hyn yn
sicrhau eich bod yn cofio siarad am y pethau sydd o bwys i chi.
Gall eich pryderon gynnwys cwestiynau am:
- newid mewn symptomau ac ymddygiad
- sgil effeithiau meddyginiaeth
- iechyd cyffredinol y claf
- eich iechyd eich hun
- unrhyw help ychwanegol a all fod ei
angen.
Yn ystod eich ymweliad
- Os nad ydych yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau.
Peidiwch â bod ofn dweud.
- Ysgrifennwch nodiadau yn ystod yr ymweliad. Edrychwch
dros eich nodiadau ar y diwedd, a dywedwch wrth eich meddyg beth yr
ydych wedi’i ddeall. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch meddyg gywiro
unrhyw wybodaeth neu ailadrodd rhywbeth a gollwyd.
Cyngor pellach i ofalwyr wrth ddelio â meddygon ac
aelodau eraill o'r tîm iechyd meddwl
Gall meddygon a gweithwyr proffesiynol yn y
maes iechyd fod yn amharod i drafod diagnosis neu driniaeth
unigolyn gyda’r gofalwr. Mae gwir ddyletswydd o gyfrinachedd
rhwng y meddyg a’r claf. Os yw’r unigolyn yn rhy wael i
ddeall beth sy’n digwydd, bydd meddygon fel arfer yn cynnwys y
gofalwr yn y trafodaethau a'r penderfyniadau. (Gweler ein taflen
Gofalwyr a chyfrinachedd mewn iechyd meddwl).
Os yw’r meddyg yn amharod i’ch cynnwys chi fel
gofalwr, mae nifer o bethau y medrwch ei wneud:
- gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu amdano a gewch chi fynd i
rai o’r apwyntiadau gydag o, neu i ran o'r apwyntiad
- siaradwch gyda gofalwyr eraill, efallai y bydd ganddynt
awgrymiadau defnyddiol
- ceisiwch siarad gydag aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl
- cysylltwch â llinellau ffôn elusennau iechyd meddwl (a restrir
ar ddiwedd y daflen)
Peidiwch ag anghofio gofalu amdanoch chi eich hun
a sicrhau amser ar eich cyfer chi eich hun
Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich
anghenion eich hun, yn siarad am eich pryderon a pheidio â cheisio
ymdopi ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n byw yn Lloegr, efallai
bydd gennych hawl i gael asesu eich anghenion fel gofalwr. Mae’n
bosib trefnu hyn trwy’r meddyg neu aelod o’r tîm iechyd meddwl.
Dylent hefyd fedru eich cyfeirio chi at eich sefydliad cefnogi
gofalwyr lleol.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gydag
unigolion sy’n dioddef seicosis a’u gofalwyr, gobeithio y bydd yr
isod yn ddefnyddiol i chi fel arweiniad i arfer da.
Pan fyddwch yn asesu, fyddwch chi yn?
 |
Ceisio gweld y claf a’r gofalwr ar wahân, yn ogystal â
gyda’i gilydd? |
 |
Ceisio eu gweld nhw gartref yn
gyntaf?
|
A ydych chi’n caniatáu digon o amser i?
Wrth reoli’r salwch, ydych chi'n?
Pethau i’w cofio
- Mae pawb angen ysbaid
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag aelodau
eraill y teulu
- Cyfeiriwch bawb yr ydych yn eu gweld at sefydliad gofalwyr neu
iechyd meddwl perthnasol
- Dywedwch yn glir y bydd rhywun bob amser ar gael
- Nodwch y rhif ffôn y tu allan i oriau
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol a enwir y gall y
teulu gysylltu ag o ar unrhyw adeg
- Pan fyddwch yn ysgrifennu llythyr i’r Meddyg Teulu, ystyriwch
anfon copi at y claf a’r gofalwr
- Ceisiwch siarad â’r Meddyg Teulu ar y ffôn yn ogystal ag yn
ysgrifenedig
- Gwnewch yn siŵr fod gan y claf a’r gofalwr ddigon o wybodaeth
am eu gofal a’u triniaeth.
Cymorth pellach
MIND
Mindinfoline: 0845 766 0163.
Cyhoeddi dewis eang o ddeunyddiau am bob
agwedd o iechyd meddwl.
Rethink
Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol: 0845 456
0455
Sefydliad gwirfoddol sy’n helpu pobl gyda
salwch meddwl difrifol, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Manic Depression
Fellowship
Sefydliad cenedlaethol sy’n cael ei harwain
gan ei defnyddwyr, sy’n darparu cefnogaeth a gwybodaeth.
The Princess Royal Trust for
Carers
Unit 14, Bourne Court,
Southend Road, Woodford Green, Essex IG8 8HD
Tel: 0844 800 4361
Email: info@carers.org
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i
ofalwyr
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch
Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd
rhwng Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y
Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd
dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd
meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu
partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol
fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Yr Athro Dr Mike launer and
Sheena Foster.
© September 2010. Dyddiad
adolygu: September 2012.
With grateful thanks to Gwynedd Council for
the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am
gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg.
© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Gellir lawrlwytho’r daflen hon, ei hargraffu, ei llungopïo a’i
dosbarthu am ddim cyn belled â bod y Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yn derbyn y clod priodol ac na wneir elw o’i
defnydd.
© Royal College of Psychiatrists.
This leaflet may be downloaded, printed out, photocopied and
distributed free of charge as long as the Royal College of
Psychiatrists is properly credited and no profit is gained from its
use. Permission to reproduce it in any other way must be obtained
from the Head of Publications. The College
does not allow reposting of its leaflets on other sites, but
allows them to be linked to directly.
For a catalogue of public
education materials or copies of our leaflets contact:

Leaflets Department
The Royal College of Psychiatrists
17 Belgrave Square, London SW1X 8PG. Tel: 020 7235 2351 x
6259
Charity registration number (England and Wales) 228636 and in
Scotland SC038369.
Please note that we are unable to offer advice on individual cases. Please see our
FAQ for
advice on getting help.
Please answer the following questions and press 'submit' to send your answers OR
E-mail your responses to dhart@rcpsych.ac.uk
On each line, click on the mark which most closely reflects how you feel about the
statement in the left hand column.
Your answers will help us to make this leaflet more useful - please try to rate
every item.
Did you look at this leaflet because you are a (maximum of 2 categories please):
Age group (please tick correct box)