Rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder

Stopping antidepressants

Below is a Welsh translation of our information resource on stopping antidepressants. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am roi'r gorau i gyffuriau gwrth-iselder.

Mae’n disgrifio:

  • pam y gallai rhywun ddewis rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder
  • sut i wneud hynny’n ddiogel
  • symptomau y gallech chi eu profi wrth roi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder
  • rhai ffyrdd o leihau neu osgoi'r symptomau hyn.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer cleifion yn adlewyrchu'n gywir argymhellion canllawiau NICE ar iselder mewn oedolion

Mae cyffuriau gwrth-iselder yn feddyginiaethau sy’n cael eu rhagnodi ar gyfer cyflyrau fel iselder, anhwylder gorbryder cyffredinol ac anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD). Gallwch ddysgu mwy am sut y maen nhw'n gweithio, pam eu bod yn cael eu rhagnodi, eu heffeithiau a'u sgil-effeithiau, a thriniaethau eraill yn ein hadnodd sy’n trafod cyffuriau gwrth-iselder.

Fel arfer mae angen cymryd cyffuriau gwrth-iselder am o leiaf 6 mis ar ôl i'ch symptomau ddiflannu. Fodd bynnag, dylai hyn gael ei adolygu yn rheolaidd gan y sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth. Efallai y bydd angen i bobl sydd â salwch meddwl difrifol neu reolaidd gymryd cyffuriau gwrth-iselder am gyfnod hirach. 

Mae yna lawer o resymau pam mae pobl yn dewis rhoi’r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder, gan gynnwys y canlynol:

  • mae eu problem iechyd meddwl wedi gwella
  • nid yw'r cyffuriau gwrth-iselder yn gweithio
  • mae'r cyffuriau gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau annymunol iddyn nhw
  • nid ydynt yn dymuno parhau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder

Os ydych chi'n cymryd cyffuriau gwrth-iselder ac yn profi unrhyw un o'r pethau hyn, siaradwch â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth. Gall eich helpu i benderfynu a yw rhoi'r gorau i gyffuriau gwrth-iselder yn addas i chi a sut i wneud hynny yn ddiogel.

Fel arfer ni ddylid rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn sydyn. Gall hyn arwain at ddatblygu symptomau diddyfnu a chynyddu'r tebygrwydd y byddwch chi’n mynd yn sâl eto. Mae symptomau diddyfnu yn wahanol i bawb. Gallant fod yn wahanol ar gyfer cyffuriau gwrth-iselder unigol (gweler Atodiad 1).

Gall y rhan fwyaf o bobl roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder yn raddol dros ychydig wythnosau neu fisoedd, trwy gymryd dosau llai ac yna rhoi'r gorau i'w cymryd yn gyfan gwbl. 'Lleihad graddol' yw'r enw am hyn. Gall hyn leihau’r risg o gael symptomau diddyfnu, neu olygu bod unrhyw symptomau y byddwch yn eu cael yn llai difrifol.

Dylai pawb leihau yn raddol y cyffuriau gwrth-iselder y maen nhw'n eu cymryd, ond dim ond ychydig o gamau lleihau sydd eu hangen ar rai pobl (pobl sydd ddim wedi bod yn eu defnyddio ers amser hir).

Os ydych chi'n rhoi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder ar ôl cyfnod byr, efallai y bydd y sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth yn argymell eich bod chi'n dilyn camau tebyg i'r rhai yn yr enghraifft isod. Yn yr achos hwn, byddech yn lleihau eich dos presennol tua 50% bob 2-4 wythnos, ac yn rhoi'r gorau i'w cymryd yn gyfan gwbl unwaith y byddech ar ddos isel.

Tapering diagram 1 in Welsh

Os ydych chi'n cael trafferth lleihau eich dos mor gyflym â hyn, ac yn cael symptomau diddyfnu pan fyddwch chi'n ceisio rhoi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder, bydd angen i chi leihau eich dos yn fwy araf. Mae'n bwysig lleihau'r dos mewn ffordd sy'n iawn i chi ac sydd ddim yn achosi problemau i chi.

Nod yr adnodd hwn yw eich helpu i osgoi cael unrhyw symptomau diddyfnu, neu gael cyn lleied â phosibl. Trafodwch hyn â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth er mwyn i chi ddod o hyd i'r ffordd orau i roi'r gorau i'w cymryd.

Mae canllawiau NICE yn awgrymu y gall symptomau diddyfnu fod yn ysgafn i rai pobl a diflannu’n gymharol gyflym, heb fod angen unrhyw help. Efallai y bydd pobl eraill yn profi symptomau mwy difrifol sy'n para llawer hirach (weithiau misoedd neu fwy na blwyddyn).

Ar hyn o bryd ni allwn ragweld pwy fydd yn cael y symptomau diddyfnu mwy difrifol.

Symptomau diddyfnu o gyffuriau gwrth-iselder

Os byddwch chi’n cael unrhyw rai o'r symptomau a restrir isod, dywedwch wrth y sawl sy’n rhagnodi eich meddyginiaeth.

Efallai y byddwch yn sylwi ar:

  • bryder sy'n mynd a dod, weithiau mewn 'tonau' dwys
  • trafferth mynd i gysgu a breuddwydion byw neu frawychus
  • hwyliau isel, methu ymddiddori mewn pethau na'u mwynhau
  • ymdeimlad o fod yn sâl yn gorfforol
  • hwyliau sy'n newid yn gyflym
  • dicter, diffyg cwsg, blinder, colli cydsymudiad a chur pen/pen tost
  • teimlad tebyg i sioc drydanol yn eich breichiau, eich coesau neu'ch pen. Weithiau caiff y gwayw hwn ei alw’n ‘zap’ a gall troi eich pen i’r ochr ei wneud yn waeth.
  • teimlad nad yw pethau’n real (‘datgysylltiad’), neu deimlad bod gennych chi ‘wlân cotwm yn eich pen’
  • trafferth canolbwyntio
  • meddyliau hunanladdol
  • cyfog
  • pendro (mae hwn yn gymedrol fel arfer, ond gall fod mor ddrwg fel na allwch chi sefyll heb gymorth)
  • ymdeimlad o aflonyddwch mewnol ac anallu i aros yn llonydd (akathisia).

Gweler Atodiad 2 am restr o symptomau eraill sydd wedi cael eu hadrodd.

Mae diffyg dealltwriaeth o hyd ynglŷn â hyn. Mae yna gysylltiad â chemegion yn yr ymennydd, a elwir yn niwrodrosglwyddyddion (fel serotonin a noradrenalin). Maent yn caniatáu i gelloedd nerfol gyfathrebu â'i gilydd trwy weithredu ar derfynau nerfau. Credir bod cyffuriau gwrth-iselder yn cynyddu lefelau'r cemegion hyn yn y gofod rhwng celloedd nerfol yn yr ymennydd, ac yn y nerfau trwy'r corff a'r perfedd i gyd. Dros amser, mae'n ymddangos bod yr ymennydd a'r corff yn addasu'n araf i'r lefelau uwch hyn.

Os bydd rhywun yn rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder yn rhy gyflym, bydd angen amser ar yr ymennydd a'r corff i ailaddasu. Mae'n ymddangos bod gostyngiad sydyn yn lefelau'r niwrodrosglwyddyddion yn achosi symptomau diddyfnu tra bod yr ymennydd yn addasu i'r newid. Dylai newidiadau mwy graddol achosi symptomau sy'n llai difrifol ac yn haws eu goddef. Neu efallai na fyddant yn digwydd o gwbl.

Dyna pam ei bod, fel arfer, yn well rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder yn araf.

Bydd rhwng traean a hanner y bobl sy'n cymryd cyffur gwrth-iselder yn profi symptomau o'r fath i ryw raddau. Hyd yma, nid ydym yn gallu rhagweld pwy fydd yn cael y symptomau hyn.

Mae'n ymddangos bod y risg yn uwch os ydych chi wedi bod yn cymryd dos uchel ers amser maith. Ond gall ddigwydd hefyd os ydych chi wedi bod yn cymryd cyffur gwrth-iselder am gyfnod byr yn unig. Gall hefyd ddibynnu ar y math o gyffur gwrth-iselder rydych chi wedi bod yn ei gymryd. Rydych chi'n fwy tebygol o brofi'r symptomau hyn (ac iddynt fod yn waeth) os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder yn sydyn neu yn lleihau'r dos yn gyflym.

Gall rhai symptomau diddyfnu deimlo fel y symptomau a gawsoch chi cyn dechrau cymryd y cyffur gwrth-iselder. Gall yr hwyliau isel a'r trafferthion cysgu deimlo fel symptomau iselder. Mae teimladau o banig yn symptom diddyfnu cyffredin a gallant hefyd ddigwydd pan fydd rhywun yn dioddef o orbryder. Yn yr achos hwn, dylech siarad â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth. Efallai y bydd angen i chi gynyddu eich dos dros dro ac yna ei leihau yn fwy graddol er mwyn leihau eich symptomau diddyfnu.

Os byddwch chi'n cael symptomau diddyfnu, mae dal yn bosibl i chi roi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrth-iselder, ond efallai y bydd angen gwneud hynny'n fwy araf. Gweler yr adran ar ‘Pryd a sut i roi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrth-iselder’.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch chi a’r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth ddweud a ydych chi’n cael symptomau diddyfnu neu a yw symptomau gorbryder neu iselder yn dychwelyd:

Pryd y bydd y symptomau’n dechrau
Mae symptomau diddyfnu fel arfer yn dechrau yn fuan ar ôl i chi leihau dos eich meddyginiaeth neu roi'r gorau i'w chymryd. Gall hyn fod yn ddiwrnod neu ddau ar gyfer rhai cyffuriau gwrth-iselder - neu hyd yn oed ar ôl colli un dos. Fel arfer mae’n cymryd ychydig ddyddiau iddyn nhw ddechrau, ac yna maen nhw'n gwaethygu.

Mae fel arfer yn cymryd mwy o amser i iselder neu orbryder ddychwelyd - wythnosau neu fisoedd fel rheol. Mae rhai cyffuriau gwrth-iselder, fel fluoxetine, yn cymryd llawer mwy o amser i adael y corff. Felly, gyda'r rhain, gall symptomau ymddangos ddyddiau neu hyd yn oed wythnosau ar ôl i chi roi'r gorau i'w cymryd neu leihau eich dos. Gall hyn ei gwneud hi'n fwy anodd dweud a yw'r symptomau yn ganlyniad i ddiddyfnu neu a yw symptomau gwreiddiol eich gorbryder neu iselder yn dychwelyd.

Mae adroddiadau bod cyffuriau gwrth-iselder eraill yn achosi symptomau diddyfnu sy'n dechrau wythnosau ar ôl rhoi'r gorau i'w cymryd. Nid yw'r rhesymau am hyn yn cael eu deall yn dda.

Y math o symptom
Nid yw rhai symptomau diddyfnu yn bethau y byddwch wedi'u profi pan oeddech chi'n dioddef o orbryder neu iselder. Er enghraifft, ‘siociau trydanol’ neu ‘zaps’ neu deimladau mwy amwys nad ydych chi wedi’u profi o’r blaen. Mae pobl yn aml yn dweud, “Dw i erioed wedi teimlo hyn o’r blaen” neu “Dydi o ddim yn teimlo fel fy iselder.”

Pa mor gyflym y maen nhw'n diflannu os byddwch chi'n ailgychwyn cymryd y cyffuriau gwrth-iselder
Mae symptomau diddyfnu fel arfer yn gwella'n gyflym (mewn dyddiau neu hyd yn oed oriau) os byddwch yn ailgychwyn cymryd eich cyffur gwrth-iselder. Mae hyn yn llawer cyflymach na’r wythnosau y bydd cyffuriau gwrth-iselder fel arfer yn eu cymryd i leddfu symptomau gorbryder neu iselder sydd wedi dychwelyd.

Gall rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder achosi symptomau diddyfnu annymunol, sy'n diflannu os byddwch chi'n dechrau ei gymryd eto.

Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod yn gaeth i'r cyffur gwrth-iselder os nad ydych chi'n gallu rhoi'r gorau i'w gymryd pan fyddwch chi'n dymuno gwneud hynny. Nid yw hyn yn union yr un fath â bod yn ‘gaeth’.

Yn gyffredinol, mae caethiwed yn golygu eich bod chi'n:

  • teimlo awydd neu ysfa i ddefnyddio sylwedd
  • colli rheolaeth dros eich defnydd o'r sylwedd
  • profi pleser, neu ‘hwyliau uchel’ pan fyddwch chi’n ei ddefnyddio

Gall caethiwed ddigwydd gyda sylweddau fel alcohol, nicotin a benzodiazepines.

Gyda chyffuriau gwrth-iselder, gall fod yn anodd rhoi'r gorau i'w cymryd, ond mae'n fwy cywir dweud mai dibyniaeth gorfforol yw hyn.

Mae’r term ‘dibyniaeth gorfforol’ yn cael ei ddrysu â chaethiwed. Mae dibyniaeth gorfforol yn golygu bod eich corff wedi addasu i bresenoldeb sylwedd neu feddyginiaeth.

Mae hyn yn achosi goddefiad ac effeithiau diddyfnu oherwydd bod y corff yn ‘colli'r’ cyffur pan fydd wedi mynd. Nid oes angen i gyffur achosi ‘hwyliau uchel’ i arwain at ddibyniaeth.

Mae pa mor hir y byddwch chi'n cymryd cyffur gwrth-iselder yn dibynnu ar pam y cafodd ei ragnodi i chi ac a ydych chi wedi gorfod ei gymryd o'r blaen. Gofynnwch i'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth pryd sydd orau i ddechrau lleihau'r dos ac yna rhoi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrth-iselder.

Efallai y bydd angen i chi gydbwyso:

  • y manteision i chi o gymryd cyffur gwrth-iselder, fel rhyddhad rhag symptomau gorbryder neu iselder

â'r:

  • problemau a all godi ar ôl ei ddefnyddio am amser hir. Gall y rhain gynnwys sgil-effeithiau eraill fel magu pwysau. Mae rhai pobl yn gweld bod eu cyffuriau gwrth-iselder yn peidio â gweithio iddyn nhw ymhen amser.

Pan fyddwch chi'n cytuno ei bod yn bryd rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder, gall y sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth eich helpu i lunio cynllun lleihau dos yn raddol. Mae pa mor araf y dylai'r cynllun hwn fod yn wahanol i bawb.

Os ydych chi wedi bod yn cymryd cyffur gwrth-iselder ers ychydig wythnosau yn unig, efallai y byddwch chi'n gallu lleihau, a rhoi'r gorau i'w gymryd, dros gyfnod o tua mis. Hyd yn oed os yw'r symptomau diddyfnu yn ysgafn, neu os nad oes unrhyw symptomau diddyfnu, mae'n well gwneud hyn dros gyfnod o ddim llai na phedair wythnos.

Os ydych chi wedi bod yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder ers misoedd neu flynyddoedd lawer, mae’n well lleihau yn fwy araf (eto, ar gyflymder sy’n gyfforddus i chi). Bydd hyn fel arfer dros gyfnod o fisoedd neu fwy. Mae hefyd yn well lleihau'r dos yn araf os ydych chi wedi cael symptomau diddyfnu yn y gorffennol. Bydd gostyngiadau yn y dos fel arfer yn mynd yn llai wrth i'r dos leihau. Mae angen i rai pobl gyrraedd dos isel iawn cyn rhoi'r gorau i gymryd y cyffur, mor isel â 2% o'r dos gwreiddiol.

Cofiwch, os byddwch chi'n cael symptomau diddyfnu nid yw hynny'n golygu na allwch chi roi'r gorau i gymryd eich cyffur gwrth-iselder. Bydd angen, fodd bynnag, i chi wneud y canlynol:

  • lleihau'r dos yn fwy araf
  • gyda gostyngiadau llai yn y dos
  • dros gyfnod hirach o amser.

Dim ond yn achlysurol, pan fydd cyffur gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau difrifol, y dylid rhoi'r gorau i'w gymryd yn sydyn, heb leihau'n raddol. Os bydd hyn yn digwydd, ewch i weld y sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth ar unwaith.

Mae cyngor cyffredinol ar sut i wneud hyn isod. Fodd bynnag, mae'n well gweithio hyn allan gyda'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth, fel y gall ragnodi'r paratoad a'r dos(au) priodol ar eich cyfer. Bydd yn gallu penderfynu ar unrhyw ofynion arbennig gyda'ch fferyllydd, fel bod y presgripsiwn wedi'i deilwra i'r hyn sydd ei angen arnoch.

Peidiwch â cheisio hepgor eich meddyginiaeth ar rai dyddiau. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd hyn yn achosi i lefel y cyffur yn eich corff amrywio ac yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o brofi symptomau diddyfnu. Mae fluoxetine yn aros yn eich corff yn hirach na chyffuriau gwrth-iselder eraill a byddai'n bosibl ei gymryd bob yn ail ddiwrnod. Dylech siarad â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth ynghylch gwneud hyn ai peidio.

Efallai y byddwch chi’n gallu, fel prawf, ddechrau lleihau eich dos rheolaidd o chwarter (25%) neu hanner (50%). Caniatewch rhwng dwy a phedair wythnos i addasu i'r dos newydd, i weld sut mae pethau'n mynd.

Os nad ydych chi'n profi unrhyw symptomau annymunol, rhowch gynnig ar ostyngiad pellach o chwarter (25%) neu hanner (50%) y dos presennol. Caniatewch rhwng 2 a 4 wythnos arall ac yna ailadroddwch yr un camau, gyda chyfnodau pellach o ostwng y dos ac aros os oes angen.

Os bydd symptomau annifyr yn datblygu pan fyddwch chi’n lleihau'r dos am y tro cyntaf, neu yn dilyn unrhyw ostyngiad pellach, rhowch y gorau i leihau'r dos. Ewch yn ôl i'r dos olaf pan oeddech chi'n teimlo'n gyfforddus ac arhoswch nes eich bod yn teimlo'n barod i roi cynnig arall arni. Gallai hyn olygu bod angen i chi leihau'r dos yn fwy graddol, gan ostwng y dos mewn camau llai fel 10% neu hyd yn oed 5%.

Os ydych chi wedi bod yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder am gyfnod hirach

Os ydych chi:

  • wedi bod yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder am fisoedd lawer neu fwy
  • eisoes wedi datblygu symptomau diddyfnu annymunol pan wnaethoch chi geisio lleihau dos neu roi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder
  • yn cymryd cyffur gwrth-iselder sydd yn peri risg uchel o achosi symptomau diddyfnu

mae'n debyg ei bod yn well defnyddio gostyngiadau mwy graddol o'r cychwyn cyntaf. Er enghraifft, un rhan o ugain (5%) neu o ddeg (10%) o'r dos gwreiddiol. Siaradwch â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth yn rheolaidd, fel y gall gadw llygad ar sut mae pethau'n mynd.

Gall cyffuriau gwrth-iselder hirweithredol, fel fluoxetine, gymryd wythnosau i adael eich corff (dim ond dyddiau y mae'r mwyafrif yn eu cymryd). Felly, gall unrhyw symptomau diddyfnu ddatblygu nifer o ddyddiau, neu hyd yn oed wythnosau, ar ôl lleihau'r dos. Mae'n well aros o leiaf bedair wythnos i weld a yw symptomau diddyfnu yn dechrau cyn gwneud y gostyngiad nesaf.

Waeth pa mor isel yw'r dos y byddwch yn ei gyrraedd, mae'n dal yn bosibl i chi brofi symptomau diddyfnu pan fyddwch chi’n rhoi'r gorau i gymryd y cyffur gwrth-iselder yn gyfan gwbl. Os bydd hyn yn digwydd efallai y bydd angen i chi ailddechrau'r feddyginiaeth ar ddos isel am gyfnod byr cyn dechrau lleihau'n raddol eto.

Os byddwch chi'n dechrau cael meddyliau neu syniadau hunanladdol wrth leihau a rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder, gallai hyn fod naill ai'n symptom diddyfnu, neu iselder yn dychwelyd. Siaradwch ar unwaith â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth. Mae'n debyg y bydd yn awgrymu eich bod chi'n mynd yn ôl i'r dos olaf pan oeddech chi'n teimlo'n iach. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gael cymorth yn brydlon os bydd angen.

Nodyn ynghylch argaeledd

Bydd sut i leihau eich dos o gyffur gwrth-iselder yn dibynnu ar ba ddosau sydd ar gael ar ffurf tabledi a hylif yn y DU. Os nad yw’r cyffur gwrth-iselder rydych chi'n ei gymryd ar gael ar ffurf hylif, efallai y bydd angen i chi newid i gyffur gwrth-iselder tebyg sydd ar gael ar ffurf hylif. Neu efallai y bydd angen i chi ddefnyddio'r opsiynau eraill a amlinellir isod. Gall y sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth neu’r fferyllydd eich cynghori ar y ffordd orau o wneud hyn.

Mae stribedi lleihau dos yn un opsiwn posibl. Rholyn neu stribed o swigod yw'r rhain, pob un yn ei dro yn cynnwys dos ychydig yn is i'w gymryd bob dydd. Nid ydynt wedi'u trwyddedu gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn y DU. Mae hyn yn golygu y gallai’r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth benderfynu defnyddio meddyginiaeth drwyddedig yn lle.

Yn ôl y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) dylai gweithwyr meddygol proffesiynol anelu at ddefnyddio meddyginiaethau trwyddedig, ond gallant ddefnyddio meddyginiaethau didrwydded os nad oes dewis trwyddedig arall.

Bydd monitro rheolaidd yn caniatáu i chi a'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth adnabod unrhyw broblemau yn brydlon, yn enwedig os bydd rhaid i chi newid i gyffur gwrth-iselder arall.

Cyn i chi ddechrau lleihau dos eich meddyginiaeth, dylech gytuno ar eich cynllun lleihau dos gyda'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth. Bydd yn gallu eich cynghori ar sut i wneud hynny'n ddiogel.

Isod mae cynlluniau enghreifftiol ar gyfer lleihau dos ar gyflymderau gwahanol. Yn eich cynllun chi, efallai na fyddwch chi eisiau dilyn pob cam neu na fydd angen ichi wneud hynny. Ond bydd rhai pobl yn gweld bod angen iddynt wneud hynny.

Dylai'r amser rhwng gostyngiadau yn y dos fod mor hir ag y mae'n ei gymryd i unrhyw symptomau diddyfnu ddiflannu neu wella.

Mae rhai pobl yn gallu rhoi'r gorau i gymryd eu cyffuriau gwrth-iselder gan ddefnyddio tabledi yn unig. Os ydych chi'n profi symptomau diddyfnu ac yn cael trafferth rhoi'r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio tabledi a hylifau gwrth-iselder er mwyn cymryd dosau llai.

Mae angen rheoli'r defnydd o hylifau gwrth-iselder yn ofalus iawn fel nad oes unrhyw gamgymeriadau gyda'r dos. Siaradwch â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth neu’r fferyllydd os ydych chi'n newid o dabledi i hylif, i wneud yn siŵr eich bod chi'n addasu'r dos yn gywir.

Cofiwch hefyd y gall yr un feddyginiaeth ar ffurf hylif fodoli mewn mwy nag un cryfder. Er enghraifft, efallai y bydd fformiwleiddiadau 5mg/5ml ac 1mg/5ml ar gael. Mae'n bwysig gwirio'r dos rydych chi'n ei gymryd yn ofalus, a pheidio â dibynnu ar faint o hylif rydych chi'n ei gymryd.

Sut mae'r ffigyrau yn yr enghreifftiau hyn yn cael eu cyfrifo?

Mae Enghraifft 1 yn defnyddio dull cyfrannol o leihau dos. Mae hyn yn golygu bod pob cam yn cael ei gyfrifo fel canran o'ch dos diweddaraf, nid eich dos gwreiddiol. Er enghraifft:

  • Os ydych chi'n cymryd 20mg o feddyginiaeth ac eisiau lleihau hyn o 25%, mae'n rhaid i chi gyfrifo 25% o 20mg, sef 5mg
  • Bydd gostyngiad o 5mg yn eich dos yn golygu y byddwch chi'n cymryd dos o 15mg
  • Petaech chi wedyn eisiau lleihau eich dos eto o 25%, byddech yn cyfrifo 25% o 15mg. Mae hyn yn 3.75mg
  • Felly, byddai gostyngiad o 3.75mg yn eich dos presennol o 15mg. Byddai hyn yn mynd â chi i lawr i 11.25mg

Bydd lleihau mewn ffordd gyfrannol yn golygu bod angen i chi wneud gostyngiadau llai a llai wrth i chi gyrraedd dosau is.

Mae Enghraifft 2 yn defnyddio dull hyperbolig o leihau dos. Mae hwn yn seiliedig ar ddealltwriaeth o sut y mae cyffuriau gwrth-iselder yn effeithio ar yr ymennydd. Mae dosau bach o gyffuriau gwrth-iselder yn cael effeithiau llawer mwy ar yr ymennydd nag y byddem yn ei ddisgwyl, felly mae angen i'r lleihau graddol fod yn fwy araf ar ddosau is.

Mae dull hyperbolig o leihau dos yn golygu gostyngiadau tebyg iawn i'r dull cyfrannol syml a eglurir uchod. Fodd bynnag, mae yna wahaniaethau. Nid yw rhai o'r dosau a awgrymir yn Enghraifft 2 yn dilyn y rheol gyfrannol yn union.

Enghraifft 1

Yn yr enghraifft hon, byddech yn lleihau eich dos presennol o tua 50% bob 2-4 wythnos.

Efallai y bydd angen i rai pobl leihau’n fwy araf eto, a gallwch weld hyn yn Enghraifft 2.

Tapering diagram 2 in Welsh

Enghraifft 2

Yn yr enghraifft hon, byddech yn lleihau eich dos o tua 10% bob 2-4 wythnos. Nid yw pob cam yn ostyngiad o 10% yn union i'r dos oherwydd bod yr enghraifft hon yn seiliedig ar y dull hyperbolig o leihau dos (gweler uchod). Efallai y bydd angen i rai pobl leihau eu dos yn fwy araf. Er enghraifft, gostyngiad o tua 5% bob 2-4 wythnos.

I gael y dosau bach isod, bydd angen i chi ddefnyddio cyfuniad o gyffuriau gwrth-iselder ar ffurf tabledi a hylif, neu ar ffurf hylif yn unig. Mae hyn oherwydd nad yw cyffuriau gwrth-iselder ar ffurf tabledi yn dod mewn dosau digon isel i fedru lleihau y dos sydd wedi'i ragnodi i chi mor araf â hyn.

Byddwn yn egluro egwyddorion sut y caiff hyn ei wneud ymhellach ymlaen yn yr adnodd hwn. Dylech siarad â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth i gael gwybod beth yw'r ffordd orau i chi gael y dos sydd ei angen i chi fedru lleihau eich dos yn ddiogel.

Tapering diagram 3 in Welsh

Gweler Atodiad 3 am y cynllun 38 cam cyflawn.

Bydd y cynllun lleihau dos yn raddol sydd orau i chi yn dibynnu ar lawer o bethau, megis:

  • y feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd
  • pa mor hir rydych chi wedi bod yn cymryd y feddyginiaeth
  • y dos rydych chi'n ei gymryd i ddechrau
  • pa mor ddifrifol yw eich symptomau diddyfnu neu pa mor ddifrifol oedden nhw yn y gorffennol.

Y peth pwysicaf yw mai dim ond mannau cychwyn yw'r cynlluniau lleihau dos hyn a dylid eu haddasu i'ch profiad chi o leihau eich dos yn raddol.

Os nad ydych chi'n cael unrhyw drafferth wrth leihau'ch dos yn raddol

Os nad ydych chi'n cael unrhyw drafferth wrth wneud gostyngiadau, yna efallai y byddwch chi'n gallu cyflymu'ch cynllun lleihau dos. Efallai y byddwch yn gallu gadael llai o amser rhwng gostyngiadau dos neu gymryd llai o gamau. Gall hyn helpu i sicrhau nad ydych chi'n cymryd eich meddyginiaeth am fwy o amser nag sydd angen.

Os ydych chi'n profi symptomau diddyfnu

Os yw'ch symptomau diddyfnu yn rhy ddifrifol, yna dylid atal neu arafu eich cynllun lleihau dos. Gallai hyn olygu:

  • gostyngiadau llai i’r dos
  • gadael mwy o amser cyn lleihau'r dos
  • y ddau gam uchod

Rydym wedi awgrymu rhai cyffuriau gwrth-iselder a ddefnyddir yn gyffredin a allai fod yn briodol ar gyfer y ddau ddull o leihau dos. Mae rhagor o enghreifftiau wedi’u cynnwys yn yr atodiadau ar ddiwedd yr adnodd hwn.

Gallai Enghraifft 1 fod yn fan cychwyn addas i bobl sy’n cymryd y cyffuriau gwrth-iselder yn y colofnau ‘risg gymedrol, isel neu isaf’ yn Atodiad 1 ar ddiwedd yr adnodd hwn.

  • Citalopram
  • Escitalopram
  • Fluvoxamine
  • Sertraline
  • Trazodone
  • Fluoxetine
  • Amitriptyline

Gallai Enghraifft 2 fod yn fan cychwyn addas i bobl sy’n cymryd y cyffuriau gwrth-iselder yn y golofn ‘risg uchaf’ yn Atodiad 1.

  • Duloxetine
  • Mirtazapine
  • Paroxetine
  • Venlafaxine

Mae hyn oherwydd po uchaf yw'r risg o brofi symptomau diddyfnu, y mwyaf araf y bydd angen i chi leihau eich dos.

Fodd bynnag, bydd yr enghraifft y byddwch yn ei dilyn yn dibynnu ar eich anghenion unigol chi. Dylech addasu eich cynllun lleihau dos wrth i chi fynd yn eich blaen, yn dibynnu ar y symptomau diddyfnu rydych chi'n eu profi, yn hytrach na dewis cynllun a glynu ato doed a ddêl.

Bydd angen i rai pobl gymryd dosau llai o'u cyffur gwrth-iselder nag sydd ar gael ar ffurf tabledi. Mae hyn er mwyn osgoi datblygu symptomau diddyfnu. I wneud hyn, efallai y byddwch chi'n gallu defnyddio hylif gwrth-iselder a'i wanhau.

Isod mae enghraifft a all eich helpu i ddeall egwyddorion gwanhau hylif gwrth-iselder i leihau dos eich meddyginiaeth. Mae’n well trafod hyn â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth neu'r fferyllydd fel eich bod yn teimlo’n hyderus i ymgymryd â phroses fel yr un isod.

Enghraifft

Yn yr enghraifft hon, rydych chi'n cymryd hylif gwrth-iselder.

Daw'r hylif â dyfais sy'n dosbarthu diferyn o hylif. Tua 0.05ml yw'r diferyn hwn ac mae'n cynnwys 2mg o'r cyffur.

Er mwyn lleihau'r dos o'r feddyginiaeth hon, mae angen i chi gymryd dos sy'n llai na 2mg, ond ni fydd y diferydd yn caniatáu ichi wneud hyn.

I fesur dosau llai, bydd angen ichi dynnu'r diferydd o'r botel a defnyddio chwistrell geg.

Efallai y bydd angen i chi hefyd wanhau'r hylif â dŵr i greu hydoddiant gwannach. Mae hyn oherwydd na all chwistrell geg fesur llai na thua 0.2ml o hydoddiant yn fanwl gywir.

Gallwch ddefnyddio chwistrellau ceg i fesur yr hylif gwrth-iselder a'r dŵr yn fanwl gywir. Mae'r chwistrellau hyn i'w cael mewn fersiynau 1ml, 5ml a 10ml.

Gallwch brynu'r chwistrellau ceg hyn o fferyllfa neu ar-lein, neu gofynnwch i'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth eu rhagnodi ichi os ydych chi'n cael eich presgripsiynau am ddim.

Cyfarwyddiadau enghreifftiol

Yn yr enghraifft hon, rydych chi'n cymryd hylif gwrth-iselder 40mg/ml. Mae hyn yn golygu bod pob 1ml o'r hylif hwn yn cynnwys 40mg o'r cyffur gwrth-iselder.

Felly, mae pob 0.5ml o'r hylif hwn yn cynnwys 20mg o'r cyffur gwrth-iselder.

Rydych chi’n anelu at gymryd dim ond 1mg o'r cyffur. I wneud hyn, mae angen:

  • Chwistrell geg 1ml
  • Cynhwysydd â chaead fydd ddim yn gollwng pan fyddwch chi'n ei ysgwyd
  • Eich hylif gwrth-iselder

Camau

  1. Mesurwch 0.5ml o'r hylif gwrth-iselder gyda chwistrell geg 1ml
  2. Rhowch hwn yn y cynhwysydd
  3. Mesurwch 9.5ml o ddŵr â'ch chwistrell geg 10ml
  4. Rhowch hwn yn y cynhwysydd gyda'r hylif gwrth-iselder
  5. Cymysgwch yn drylwyr trwy ysgwyd y cynhwysydd
  6. Bydd hyn yn rhoi 10ml o hydoddiant gwanedig, a fydd yn cynnwys 20mg o'r cyffur
  7. Defnyddiwch ddŵr i lanhau eich chwistrell geg 1ml
  8. Defnyddiwch y chwistrell lân i gymryd 0.5ml o'r hydoddiant gwanedig hwn, a fydd yn cynnwys 1mg o'r cyffur
  9. Taflwch weddill yr hydoddiant gwanedig*

Gallwch ddefnyddio'r un dull i baratoi dosau eraill. Fodd bynnag, bydd angen i chi wybod:

  • Faint o'r cyffur gwrth-iselder sydd wedi'i gynnwys yn yr hylif rydych chi'n ei ddefnyddio (mae hyn yn wahanol ar gyfer gwahanol gyffuriau gwrth-iselder)
  • Beth yw'r dos cyfatebol mewn tabled - mae'n bosibl nad yw hwn bob amser yr un peth (er enghraifft mae 8mg o citalopram ar ffurf hylif yn cyfateb i 10mg o citalopram ar ffurf tabled)

Dylai hyn ei gwneud hi'n bosibl ichi greu dosau llai o'ch cyffur gwrth-iselder, a chaniatáu ichi ddilyn cynllun mwy araf i leihau'r dos.

Dylech wastad siarad â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth cyn dechrau cynllun lleihau dos yn raddol.

*Mae taflen y gwneuthurwr (a elwir hefyd yn ‘Grynodeb o Nodweddion Cynnyrch’) yn dweud y dylid defnyddio’r hydoddiant ‘ar unwaith’ pan gaiff ei gymysgu â dŵr. Mae hyn yn golygu felly, ar ôl cymryd eich dos o hydoddiant gwanedig, y dylech chi gael gwared ar y gweddill a pharatoi cymysgedd newydd y tro nesaf y bydd angen i chi gymryd eich meddyginiaeth. Gofynnwch i'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth am daflen y gwneuthurwr ar gyfer y feddyginiaeth rydych chi'n ei defnyddio.

Mae defnyddio cyffuriau gwrth-iselder ar ffurf hylif wedi cael ei egluro uchod. Mae yna hefyd ffyrdd eraill o baratoi dosau llai o gyffuriau gwrth-iselder.

Nod y wybodaeth hon yw helpu i roi gwybod i bobl am wahanol ddulliau o leihau dos. Ni ddylech roi cynnig ar unrhyw un o'r dulliau hyn heb siarad yn gyntaf â'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth.

Hollti tabledi

Nid yw pob tabled yn addas i gael ei thorri yn ei hanner, hyd yn oed os llinell i lawr y canol. Holwch eich fferyllydd neu'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth cyn gwneud hyn. Y ffordd hawsaf i hollti tabledi yw trwy ddefnyddio torrwr tabledi. Bydd sut i wneud hyn yn dibynnu ar siâp y dabled:

  • Fel arfer gellir torri tabledi crwn yn haneri a chwarteri, oni bai eu bod yn arbennig o fach.
  • Bydd tabledi siâp capsiwl weithiau â llinell i lawr y canol fel y gellir eu torri yn eu hanner. Gellir gwneud hyn yn fwy cywir â thorrwr tabledi.

Fel arfer mae gan dorwyr tabledi hambyrddau casglu neu ffyrdd eraill o gasglu'r darnau o dabled.

Yn dibynnu ar faint o'r dabled rydych chi’n ceisio ei gymryd, efallai y byddwch am dorri eich tabled yn haneri neu'n chwarteri. Nid yw'n bosibl torri llai na chwarter yn gywir â thorrwr tabledi.

Yn gyffredinol, er mwyn bod yn fanwl gywir dim ond yn eu hanner y dylid torri tabledi sydd ddim yn grwn. Ni ddylech geisio torri tabled o'r siâp hwn yn chwarteri, oherwydd efallai na fydd yn fanwl gywir.

Enghraifft

Mae gennych chi dabled 40mg ac rydych chi eisiau cymryd 10mg.

Gyda rhai tabledi fe allech chi wneud hyn trwy dorri'r dabled yn chwarteri, cyn belled nad yw'r dabled yn disgyn yn ddarnau wrth gael ei rhannu. I wneud hyn, byddech yn defnyddio'r torrwr tabledi i dorri'r dabled yn ei hanner. Byddech wedyn yn torri'r ddau hanner yn eu hanner eto.

Byddai pob un o'r pedwar chwarter yn cynnwys tua 10mg.

Byddech yn cymryd un o'r chwarteri hyn ar gyfer pob un o'r pedwar dos nesaf. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os na chaiff y chwarteri eu torri'n berffaith, bydd cyfanswm y dos y byddwch yn ei gymryd yn gywir.

Cyfrif neu bwyso gronynnau

Mae rhai meddyginiaethau, fel venlafaxine a duloxetine, yn dod ar ffurf capsiwlau sy'n cynnwys gronynnau bach sy'n 'rhyddhau'n araf'. Mae hyn yn golygu bod gorchudd neu blisgyn y gronynnau yn caniatáu i'r cyffur y tu mewn iddynt gael ei ryddhau i'r corff yn araf. Gofynnwch i'ch fferyllydd a yw'r brand rydych chi'n ei gymryd yn cynnwys y gronynnau hyn gan nad yw hyn yn wir am bob brand.

Yn yr achos hwn, gellir agor y capsiwlau yn ofalus, a throsglwyddo'r gronynnau i gynhwysydd. Gellir cyfrif neu bwyso'r gronynnau hyn i wneud dosau llai. Credir bod y gronynnau'n sefydlog ar ôl cael eu tynnu o'r capsiwlau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi eu cadw mewn potel aerdyn wedi’i diogelu rhag golau (ee potel ffisig lliw ambr) am ychydig ddyddiau cyn eu cymryd.

Enghraifft

Mae gennych chi gapsiwl 75mg o venlafaxine. Rydych chi'n gwagio'r gronynnau o'r capsiwl ac yn eu cyfrif.

Mae 200 o ronynnau yn y capsiwl. Mae hyn yn golygu y bydd 160 o ronynnau yn cynnwys 60mg o venlafaxine.

Cofiwch fod maint y gronynnau hyn yn amrywio rhywfaint. Felly, gall pwyso gronynnau fod yn fwy manwl gywir na'u cyfrif. Mae angen clorian arbennig ac amgylchedd heb ddrafftiau pan fyddwch chi'n pwyso ychydig bach o'r gronynnau.

Cyn llyncu'r gronynnau hyn dylech eu rhoi yn ôl mewn capsiwl. Gellir gwasgaru gronynnau venlafaxine ar lwyaid o iogwrt i'w gwneud yn haws i'w llyncu fel nad ydynt yn crafu'ch gwddf. Peidiwch â chymysgu gronynnau duloxetine â bwyd na hylif.

Toddi powdr capsiwl mewn dŵr

Mae rhai capsiwlau’n cynnwys powdr. Fel yr amlinellir gan Wasanaeth Fferylliaeth Arbenigol y GIG, gellir agor y capsiwlau hyn a thoddi'r cynnwys mewn dŵr.

Enghraifft

Mae gennych chi gapsiwl 20mg. Rydych chi eisiau cymryd 4mg o’r cyffur gwrth-iselder.

Cymysgwch y powdr yn y capsiwl â 100ml o ddŵr. Mae’r cymysgedd hwn yn cynnwys 1mg ymhob 5ml.

Defnyddiwch chwistrell i gymryd 20ml o’r gymysgedd, sy’n cynnwys 4mg.

Dylai unrhyw gymysgedd gael ei ysgwyd yn galed cyn ei gymryd i wneud yn siŵr bod y feddyginiaeth wedi'i chymysgu’n drylwyr yn yr hylif. Cofiwch gael gwared ar yr hylif sydd dros ben wedi i chi gymryd y dos sydd ei angen arnoch.

Toddi tabledi mewn dŵr

Gellir rhoi llawer o gyffuriau gwrth-iselder ar ffurf tabledi mewn dŵr, a byddant yn torri'n ddarnau ac yn cymysgu â'r dŵr. Ymfalurio yw'r enw am hyn. Yn aml, bydd hyn yn digwydd mewn ychydig funudau, ond gall gymryd ychydig yn hirach. Unwaith y bydd wedi ymfalurio, bydd angen toddi cynnwys y dabled yn yr hylif trwy gymysgu neu ysgwyd y dabled yn yr hylif.

Gellir cyflymu'r broses trwy wasgu'r dabled â chefn llwy yn gyntaf.

Enghraifft

Mae gennych chi dabled 20mg ond rydych chi eisiau cymryd 2mg.

Cymysgwch y dabled â 100ml o ddŵr. Bydd y cymysgedd hwn yn cynnwys 1mg o’r cyffur ymhob 5ml o hylif.

Gallwch wedyn ddefnyddio chwistrell i gymryd 10ml o’r cymysgedd hwn, a fydd yn rhoi 2mg o’r cyffur i chi.

Dylid ysgwyd y cymysgedd hwn yn galed cyn ei gymryd er mwyn gwneud yn siŵr fod y cyffur a'r dŵr wedi’u cymysgu'n drylwyr yn yr hylif. Cofiwch gael gwared ar yr hylif sydd dros ben wedi i chi gymryd y dos sydd ei angen arnoch.

Risg uchaf

Risg ganolig

Risg isel

Risg isaf

Desvenlafaxine Amitriptyline Dosulepin Agomelatine
Duloxetine Bupropion Mianserin  Lofepramine
Isocarboxazid Citalopram Trimipramine  
 Mirtazapine Clomipramine  Vortioxetine  
Moclobemide Desipramine   
 Paroxetine Doxepin   
 Phenelzine Escitalopram   
Tranylcypromine Fluoxetine   
Venlafaxine  Fluvoxamine   
 Imipramine   
 Milnacipran   
 Nefazadone   
 Nortriptyline   
 Reboxetine   
 Sertraline   
 Trazodone   
 Vilazodone   

Symptomau corfforol

Symptomau cwsg

Symptomau emosiynol

Cyfog Methu cysgu Gorbryder
Cur pen/pen tost Breuddwydio’n fwy aml Iselder
Pendro Breuddwydion byw Panig
Crampiau yn yr abdomen Hunllefau Aflonyddwch
Dolur rhydd   Anniddigrwydd
Blinder   Newidiadau mewn hwyliau
Symptomau tebyg i ffliw    
Teimladau tebyg i sioc drydanol (‘zaps’)  
Colli archwaeth bwyd    
Aflonyddwch gweledol (golwg
 dwbl; gorbarhad gweledol)
  
Crychguriadau'r galon    
Y galon yn colli curiadau    
Chwysu    
Pyliau o wres    
Cryndod    
Tinitws    
Ymdeimlad o aflonyddwch mewnol 
ac anallu i gadw’n llonydd (akathisia)
  

Cam

Dos (mg)

Tabledi neu hylif

1 40 Tabledi
2 35 Hanner tabledi* neu hylif
3 30 Tabledi
4 25 Hanner tabledi* neu hylif
5 22 Hylif
6 20 Tabledi
7 18 Hylif
8 16 Hylif
9 14 Hylif
10 13 Hylif
11 12 Hylif
12 11 Hylif
13 10 Hylif neu Dabled
14 9 Hylif
15 8.1 Hylif
16 7.2 Hylif
17 6.5 Hylif
18 5.9 Hylif
19 5.3 Hylif
20 4.8 Hylif
21 4.3 Hylif
22 3.9 Hylif
23 3.5 Hylif
24 3.1 Hylif
25 2.8 Hylif
26 2.5 Hylif
27 2.2 Hylif
28 1.9 Hylif
29 1.7 Hylif
30 1.4 Hylif
31 1.2 Hylif
32 1 Hylif
33 0.8 Hylif
34 0.64 Hylif
35 0.5 Hylif
36 0.3 Hylif
37 0.15 Hylif
38 0

*Nid yw pob tabled yn addas i gael ei thorri yn ei hanner. Holwch eich fferyllydd neu'r sawl sy'n rhagnodi eich meddyginiaeth cyn gwneud hyn.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awduron arbenigol:

  • Yr Athro Wendy Burn, Cyn-lywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
  • Dr Mark Abie Horowitz BA BSc MBBS MSc PhD, Cymrawd Ymchwil Clinigol (NELFT), Cymrawd Ymchwil Glinigol er Anrhydedd (UCL)
  • George Roycroft, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
  • Yr Athro David Taylor MSc PhD FFRPS FRPharmS, Athro Seicoffarmacoleg (KCL)

Rydym yn ddiolchgar i Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a’r Coleg Fferylliaeth Iechyd Meddwl am gymeradwyo’r gwaith hwn, ac i bawb a gynigiodd sylwadau ac a gefnogodd ei ddatblygiad.

This translation was produced by CLEAR Global (May 2024)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry