Holwch yr ymgeiswyr

Ydych chi am weld sut fyddai ein hymgeiswyr yn ymwneud â materion sy’n bwysig i chi?

Wrth holi ac ateb ar-lein gall aelodau, a gofalwyr sydd yn rhan o weithgareddau’r Coleg, holi’r darpar Lywyddion am eu gweledigaeth dros y Coleg.

Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru drwy gydol mis Tachwedd gydag atebion newydd gan ein hymgeiswyr. Bydd ymgeiswyr yn ateb tua 15 cwestiwn yn ystod y cyfnod hwn, ond efallai ni fydd modd ateb bob cwestiwn os oes nifer fawr ohonynt.

Eich cwestiynau wedi’u hateb

Fel Llywydd sut fyddech chi’n sicrhau fod ein Coleg yn gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd/Llywodraeth o’r ffactorau cymdeithasol sy’n cynyddu’r baich o broblemau iechyd meddwl (gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb a gwahaniaethu) a’r angen i fynd i’r afael â rhain? - Dr Margaret Murphy

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae fy ngwaith clinigol, ymchwil ac addysgu (30+ blynedd) wedi’u seilio ar fynd i’r afael â’r rhesymau diwylliannol dros salwch meddwl ac anghydraddoldebau. Rwy’n gweld llyfr Richard Williams Social Scaffolding a gwaith Marmot fel maniffesto ar gyfer y Coleg a’r Llywydd nesaf wrth arwain ar y gweithredu â phartneriaid.

Mae cyni, diwygiadau lles, tai gwael, tlodi, stigma, gwahaniaethu, erledigaeth a thrais yn ffactorau pwysig sy’n creu salwch meddwl. Fel Arweinydd Iechyd y Cyhoedd (2010-2015), sefydlais gynghreiriau er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, marwolaeth gynnar, a gwneud mwy o waith atal.

Byddaf yn parhau i wneud hyn gydag Adrannau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd, gan bwyso am fwy o adnoddau er mwyn osgoi marwolaethau cynnar (arweinir hyn bellach gan Peter Byrne)

Byddaf yn gwneud seiciatreg ataliol yn faes creiddiol gan y Coleg gyda gwell cwricwla a chysylltiadau â’r Ymddiriedolaethau GIG, asiantaethau Iechyd y Cyhoedd a Chyfadran Iechyd y Cyhoedd y DU.

Yn barod rwyf yn gosod ymyraethau systemau iechyd lleoliad-benodol lleol ar waith er mwyn lleihau’r cyfuniad o anfantais, amddifadedd, a salwch meddwl, ac er mwyn helpu gwellhad o fewn 4 dinas. Mae gan ardaloedd mwy tlawd lai o adnoddau ac mae angen diogelu eu gwasanaeth a safon.

Ymgyrchaf er mwyn:

  • Gwella llythrennedd iechyd gwneuthurwyr polisi, comisiynwyr a’r cyhoedd, yn enwedig wrth ymwneud â rôl gymhleth seiciatryddion.
  • Sicrhau asesiadau effaith iechyd meddwl ar gyfer holl bolisïau a gweithrediadau'r llywodraeth (gweler Sefydliad Iechyd ar faniffestos y llywodraeth) er mwyn osgoi effeithiau dinistriol ar wasanaethau a chleifion (e.e. yn ymwneud â lles; lles seiciatryddion).
  • Dilyn polisi gwell ar wasanaethau cysylltiedig, hyfforddiant y gweithlu a chadw staff.
  • Darparu adnoddau a chymorth ar gyfer aelodau er mwyn bod yn gytûn yn ein hymdrechion er mwys lles y claf a lles aelodau.

Dr Adrian James

Mae amddifadedd cymdeithasol, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb ymhlith prif resymau dros salwch meddwl. Rwyf wedi tynnu sylw at y rhain dro ar ôl tro gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi ac mae’r Coleg wedi pwyso ers talwm fod polisi ac arfer iechyd meddwl yn cynnwys holl adrannau’r Llywodraeth. Mae maniffesto etholiad y Coleg yn galw am bwyllgor traws-lywodraethol i ystyried effeithiau bob polisi ar iechyd meddwl pobl. Hefyd, fel ymgynghorydd yn yr arolwg diweddar o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, tynnais sylw at faterion yn ymwneud â gwahaniaethu yng nghyd-destun mynediad at wasanaethau. Mynd i’r afael â materion yn ymwneud â gwahaniaethu yw un o fy nhair blaenoriaeth.

Byddaf yn:

  1. Parhau i dynnu sylw at effeithiau cymdeithasol ar iechyd meddwl mewn cyfarfodydd gyda gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi.
  2. Pwyso am ddull traws-lywodraethol ar gyfer atal salwch meddwl.
  3. Sicrhau fod gwasanaethau iechyd meddwl ar gael yn gyfartal i bawb yn enwedig y rhai o gymunedau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ble mae angen mwy o ddulliau sydd wedi’u haddasu o ran diwylliant.
  4. Hyrwyddo’r angen am ddulliau gofal sy’n ystyried trawma.
  5. Pwyso am fynediad cyfartal a thegwch yn nhermau addysg, lles a chyflogaeth.

Dadlau fod mynd i’r afael â thlodi a chyfle cyfartal yn allweddol er mwyn osgoi salwch meddwl.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Rhaid i ni fod yn ofalus nad ydym euog o wahaniaethu wrth ystyried tlodi neu anghydraddoldeb fel ffactorau sydd o reidrwydd yn niweidio pobl. Serch hynny, rhaid deall y peryglon, adnabod maint yr ymdrech sydd ei angen er mwyn llwyddo o’r fath drallodion a hyrwyddo ymwybyddiaeth ohonynt yn gyson.

Buaswn yn annog pob un i ddarllen The Truly Disadvantaged gan William Julius Wilson, All God’s Children gan Fox Butterfield, ac ymuno â seiciatreg fforensig. Llyfrau Americanaidd ydynt o’r 1990au, y cyntaf yn ddull epidemiolegol o edrych ar dlodi trefol, yr ail yn hanes camdriniaeth hiliol ar draws cenedlaethau o fewn un teulu, ymchwil trylwyr yn y ddau. Nid oes amheuaeth am faint y niwed posibl gall ddeillio o’r fath broblemau.

Yn ôl Wilson mae’n glir nad oes datrysiadau syml. Gall wariant ar brosiectau arbennig yma ac acw arbed bywydau, ond yn yr hir dymor efallai fod effeithiau negyddol iddynt hefyd. Mae angen asesu haelioni canfyddedig hyd yn oed! Mae e hefyd yn argymell newid sylfaenol mewn strwythur cymdeithasol er mwyn creu datrysiadau parhaol.

Pam fy mod yn ychwanegu seiciatreg fforensig? Caiff nifer o’r bobl â’r niwed mwyaf eu tynnu mewn i’r system cyfiawnder troseddol. O fewn carchardai Prydeinig mae oedran corff henoed i’w weld erbyn 50 oed; cysylltir polisïau cyni diweddar â’r cyfraddau marwolaeth uchaf yn deillio o anhwylderau corff a meddwl am 50 blynedd.

Mae perygl fod tlodi a gwahaniaethu yn niweidio gymaint o agweddau ar iechyd, a thra gall a dylai seiciatreg arwain wrth hyrwyddo mynediad mwy cyfartal at adnoddau a chyfleoedd, ni ddylem byth ei wneud ar ben ein hunain. Y dasg yw uno meddygaeth wrth bwyso am welliannau, a chynnwys ein cydweithwyr cynghreiriol clinigol a chymdeithasol hefyd.

Gan ddechrau gydag Adroddiad Griffith yn 1983, mae clinigwyr wedi colli pŵer. Dibrisiwyd eu proffesiynoldeb gan athroniaeth fasnachol ac ymyriad rheolaethol. Beth fyddwch yn ei wneud er mwyn adfer proffesiynoldeb go iawn? A fyddwch yn gallu pwyso er mwyn cael gwared â’r farchnad o fewn seiciatreg? - Dr Morris Bernadt

Dr Adrian James

Mae proffesiynoldeb yn sail i bopeth a wnawn a rhaid ei amddiffyn. Dylid cefnogi seiciatryddion er mwyn ymgymryd â rolau arweinyddiaeth allweddol. Rwyf wastad wedi hyrwyddo hyn. Arweiniwyd fy ngwasanaeth fy hunan gan seiciatrydd ac fe’i comisiynwyd gan seiciatrydd yn unol â’r dull modelau gofal newydd. Rwyf yn gyn-gyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG a chyn-gyfarwyddwr clinigol iechyd meddwl, dementia a niwroleg yn y De Orllewin. Gweledigaeth wreiddiol Griffith oedd y byddai rolau arweinyddiaeth uwch yn cael eu gwneud gan feddygon. Ceir tystiolaeth o’r UDA fod perfformiad yr ysbytai caiff eu harwain gan feddygon yn uwch.

Felly, dylem:

  1. Barhau i osod proffesiynoldeb yn sail i bopeth a wnawn a gosod fframwaith o’i amgylch, fel y gwnawn ac arfer dda o fewn seiciatreg.
  2. Gweithio gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) er mwyn sicrhau na erydir ein proffesiynoldeb (rwy’n aelod o’r bwrdd ymgynghorol meddygol ar gyfer y GMC)
  3. Cefnogi ac annog seiciatryddion i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth fel bo gennym rwydwaith o unigolion gall ddylanwadu ar y system o’r tu mewn
  4. Adeiladu perthnasau â’r darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl, fel drwy ein cyfarfod blynyddol newydd ag arweinwyr ymddiriedolaethau, a chynhaliwyd am y tro cyntaf eleni.
  5. Ers amser maith mae’r Coleg wedi lleisio gwrthwynebiad i’r cylch comisiynu gwastraffus, sydd heb unrhyw sail dystiolaethol sy’n cefnogi gwelliannau yn dilyn hollti’r prynwr a’r darparwr. Yn ffodus, bydd y cynllun hir dymor a datblygiad y systemau gofal integredig yn lleihau eu gweithgareddau yn sylweddol.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Er protestiadau, yn anaml bydd llywodraethau yn gweithredu ar sail tystiolaeth. Serch hynny, rhaid i ni gasglu data ar yr athroniaeth fasnachol, fel y’i gelwir, o fewn gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, a’r cyfraddau uchel o niwed personol, ac yna ychwanegu ymgyrch dwyn perswâd. Rhaid i’r cyhoedd ddeall cystal â ni, a mynnu bod newid.

Daw costau uchel o:

  • gost y broses gynigion
  • tueddiad i ddyfarnu’r cytundeb i’r cynigydd rhataf yn hytrach na’r un sydd orau i’r pwrpas
  • niwed wedi’i greu gan fethiannau pryd nad yw gwasanaethau rhad yn ffit i bwrpas

Rhaid i bob un ohonom sicrhau bod gwir gostau cynigion am gytundebau newydd yn cael eu dogfennu a thynnu sylw atynt.

Efallai'r enghraifft fwyaf trawiadol o fethiant y model “rhataf dros y ffit orau” oedd mewn gwasanaeth cyhoeddus cysylltiedig. Yng Ngorffennaf 2018 buddsoddodd y llywodraeth bron i hanner biliwn o bunnoedd mewn adfer gwasanaethau prawf preifat cyn terfynu cytundebau dwy flynedd yn gynnar ag wyth cwmni adsefydlu cymunedol preifat. Llai amlwg yw’r cyfraddau marwolaeth, niwed ac afiachedd ymhlith defnyddwyr gwasanaeth yn ystod hyn i gyd. Buaswn yn sicrhau fod y Coleg yn arwain ar gadw’r math hwn o fethiant yng ngolwg y cyhoedd yn barhaol.

Mae bwlch o fewn arweinyddiaeth wrth hyrwyddo’r ddealltwriaeth o weithiwr meddygol, un gall y Coleg ei llenwi. Mae meddygon cartref yn cael eu beirniadu ar hyn o bryd am awgrymu ni ddylai ymweliadau cartref fod yn rhan o’u cytundebau. Y mater gwirioneddol yw na ddylai unrhyw gytundeb gwasanaeth fod mor fanwl. Mae hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus yn golygu mai meddygon sydd orau er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â manylion triniaeth.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Pwrpas cyflwyno’r athroniaeth fasnachol oedd er mwyn lleihau costau a chynyddu safonau, ond mae wedi arwain at lefelau staffio a gwasanaeth na ellid eu cyfiawnhau. Mae angen model newydd, a byddaf yn ymgyrchu a gweithio gyda phob plaid, dysgu gan wledydd datganoledig ac esiamplau rhyngwladol.

Mae fy maniffesto yn barod yn edrych at adfer hyder a dylanwad seiciatryddion fel arweinwyr yn y sector, wrth sicrhau fod y Coleg yn unedig, cynhwysol a dylanwadol. Er mwyn gwneud hyn, byddaf yn cyflwyno adnoddau er mwyn datblygu arweinyddiaeth aelodau, dylanwadu, a phŵer rheolaethol o fewn systemau iechyd lleol.

Barn Griffith oedd y dylai clinigwyr fod ynghlwm â phenderfyniadau ynglŷn â blaenoriaethau ac adnoddau. Rydym yn arweinwyr cydweithrediadol, ond rydym wedi bod yn rhy dawedog ynglŷn ag arwain diwygiadau.

Nid yw meddygon yn teimlo eu bod wedi eu grymuso oherwydd nad ydynt bellach yn arwain darpariaeth gwasanaeth na thrawsnewidiadau heblaw eu bônt mewn swyddi rheoli. Eto, rydym oll yn arweinwyr, ac ni ddylid gwahanu rolau rheolaethol a meddygol. Os oes canfyddiad fod rheolwyr yn ymyrryd, rhaid i ni dynnu sylw at unrhyw ddiystyriaeth o dystiolaeth, datblygu dealltwriaeth a chyfathrebu adeiladol er mwyn i arweinwyr weithredu’n gytûn er budd y claf.

Mae gan y proffesiwn arbenigedd hanfodol, ac mae yn amddiffyn y claf ac ansawdd. Rwy’n amddiffyn hawl clinigwyr i fynegi’r ffyrdd positif o wella gwasanaethau mewn argyfwng. Mae hyn yn gofyn am ddewrder a phwyll wrth ymdrin â materion er lles cymdeithas.

Rhaid i’r Coleg ddatgelu’r gwir am effeithiau dinistriol polisïau ac arferion niweidiol, a mynnu ar y dystiolaeth, adnoddau a gwerthoedd ar gyfer y gofal iechyd orau. Fel arall rydym oll yn dioddef anaf moesol sy’n arwain at orweithio, salwch a gwasanaethau gwaeth.

Datblygir rolau newydd yn y system gofal iechyd a chymdeithasol gyfan er mwyn mynd i’r afael â phrinderau gweithlu a chefnogi datblygiadau o fewn gofal integredig. Beth ddylai’r Coleg wneud ynglŷn â hyn ac ydych chi’n ei weld yn gyfle neu’n fygythiad i ein proffesiwn a’r claf? – Dr Helen Crimlisk

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Does dim gwadu’r ffaith fod prinder yn y gweithlu seiciatryddol, felly, fel gweithwyr proffesiynol mae cyfrifoldeb arnom i gynllunio dulliau amgen o weithio, yn cynnwys ailfeddwl pwy all wneud beth o fewn fframwaith y tîm clinigol.

Rydym yn gwybod gellir gwella triniaethau cleifion wrth weithio’n effeithiol ochr yn ochr â chlinigwyr eraill, ond mae’n synhwyrol i bryderu ynglŷn â sut bydd categorïau newydd o weithwyr, megis cymdeithion meddygol, yn ffitio yn ein fframwaith proffesiynol. Y disgwyl yw y byddent yn llenwi rolau mwy cyffredinol yn hytrach na rhai arbenigol, ond mae iechyd meddwl yn faes penodedig allweddol.

Gall y fath ddatblygiadau fod yn gyfle gwych i ni ffocysu mwy ar ein medrau arbenigol ac arwain, os cânt eu cyflwyno’n iawn. Heb werthusiad o safon ymchwiliol ac adolygiad wedi’i seilio ar ddata, gallent fygwth ein proffesiwn a’r claf a, gyda phob ewyllys da, gallent ddinistrio hyfforddiant yr ymarferwyr newydd i gefnogi gwasanaethau.

Fel ag unrhyw arloesedd, yr hyn ddylai ddigwydd yw nodi’r disgwyliadau yn glir, lansio rhaglenni peilot er mwyn hysbysu hap-dreialon rheoledig a dal yn ôl ar weithrediad llawn hyd nes ceir canlyniadau’r treialon. Mae hyn yn annhebygol, ond ni ddylai hyn rwystro’r Coleg rhag darbwyllo adrannau iechyd y llywodraeth ynglŷn â phwysigrwydd hyn.

Yn llesol neu beidio, mae’r rolau hyn yn codi’r fath faterion ar gyfer diogelwch y claf ac ein dyfodol proffesiynol fel bo raid i ni wella ymatebolrwydd cyfadrannol/rhanbarthol y Coleg, gan ddarparu arweiniad ar gyfer aelodau’r Coleg er mwyn iddynt gofnodi effaith y rolau hyn a gweithio gyda’r Coleg i wneud y gorau o ddatblygiadau ble bynnag mae hynny’n bosibl a dileu agweddau sydd ddim yn gweithio.

Serch hynny, ni ddylai hyn dynnu ein sylw diflino oddi wrth sicrhau mwy o adnoddau ar gyfer mwy o seiciatryddion.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae tîm amlddisgyblaethol yn angenrheidiol ar gyfer cwrdd ag anghenion amrywiol cleifion, ac mae modd i rai swyddi gael eu cyflawni gan eraill yn hytrach na meddygon. Bydd gan feddygon fwy o amser i’w dreulio ar ofal arbenigol medrus. Mae rolau newydd yn gyfle i foderneiddio ac integreiddio gofal iechyd, a gweithredu technolegau newydd.

Serch hynny, ni ddylem ddioddef safonau gofal is. Ceir methiannau system: cynlluniau byr dymor, cynllunio gweithlu, strwythurau hyfforddiant cymhleth sy’n tarfu ar ofal y claf, yr argyfwng pensiynau, colli cymorth lles, a chynildeb.

Yn ogystal, mae gwasanaethau sydd heb adnoddau digonol neu sy’n newid yn gyflym, yn effeithio’n negyddol ar iechyd meddygon, eu lles, a’u cyfraniadau effeithlon a phositif. Yn eironig, collwyd nifer o rolau cynorthwyol (megis gweinyddiaeth, teipio, cysylltiadau claf, gwaith cymdeithasol) gan wneud meddygon yn llai effeithlon a lleihau eu hargaeledd ar gyfer eu cleifion.

Rhaid i’r Coleg osod safonau newydd yn ymwneud â llif a baich gwaith er mwyn darparu gofal sydd â golwg at y dyfodol sydd yn effeithlon, integredig a blaengar. Rhaid i ni esblygu ein rolau yn gyfesur ag e-iechyd a chyfleoedd digidol.

Nid yw nifer o arweinwyr, rheolwyr a chrewyr polisi yn deall yr hyn mae seiciatryddion yn ei wneud, na’r effaith annisgwyliedig o’u gweithrediadau heb ein mewnbwn. Hefyd, ceir cydymgais disgyblaethol di-fudd, anwybodaeth, stigma, a diffyg dealltwriaeth o ein gwir gyfraniadau. Rhaid i ni reoli’r materion hyn yn broffesiynol.

Rhaid i ni arwain diwygiadau ac egluro gwir rôl y seiciatrydd ar ofal effeithlon ac effeithiol o fewn y llu o rolau cyd-ddibynnol. Rhaid i ni hyrwyddo’r elfennau cymhleth gwybyddol, affeithiol, emosiynol, a chyfrannol o weithio’n gyflym â thosturi wrth ofalu am bobl sy’n wynebu pryder eithafol. Yn ogystal, bydd hyn yn cynorthwyo recriwtio, a llywio hyfforddiant y dyfodol.

Dr Adrian James

Mae gofal safon uchel, amserol a hygyrch yn greiddiol i bopeth rydym yn ei wneud. Yn anffodus, oherwydd diffyg cyllid a blaenoriaeth, ynghyd â chynllunio gwael o’r gweithlu, nid oes modd i’r system bresennol ddarparu hyn i’r fath raddau ag y dymunem ni nac ein cleifion.

Rhaid i ni:

  1. Bwyso am fwy o adnoddau a blaenoriaeth uwch ar gyfer iechyd meddwl.
  2. Pwyso am gynllunio hirdymor, yn enwedig o’r gweithlu, fel nag ydym yn wynebu dyfodol â mwy o adnoddau cyllidol ond heb y gallu i roi’r newid ar waith. Mae hyn yn cyd-fynd ag un o fy nhair blaenoriaeth am lwybr cyflawn at gydraddoldeb.
  3. Mynnu mwy o seiciatryddion. Mae’r Coleg wedi dadlau dros ddyblu niferoedd yr ysgol feddygol er mwyn dyblu’r nifer o seiciatryddion. Dechreuad yn unig yw hyn. Mae’n hanfodol mai hyfforddedigion yw ein blaenoriaeth.
  4. Hyrwyddo ein rôl unigryw o fynd y tu hwnt i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, a rheoli cymhlethdod, risg, moesoldeb a fframweithiau cyfreithiol.
  5. Croesawu nifer cyfyngedig o rolau newydd dan ein harweiniad a goruchwyliaeth. Mae hyn o fudd i gleifion os ydynt yn derbyn yr hyfforddiant cywir, wedi’u rheoleiddio a’u goruchwylio, ac yn gweithio o fewn eu gallu. Rhaid i ni ddylanwadu ar eu hyfforddiant a bod yn rhan ohono. Rhaid gwarchod y cyllid ar gyfer y rolau hyn o fewn y gyllideb feddygol.

Yn fy marn i mae’r rolau hyn yn angenrheidiol neu bydd arian yn cael ei golli o’r system a ni fydd cleifion yn derbyn y driniaeth buasent wedi elwa ohoni.  Mae cydweithwyr sydd â phrofiad o weithio â chymdeithion meddygol yn bositif yn eu datganiadau am eu cyfraniad at ofal y claf.

Sut fydd y Coleg yn integreiddio seiciatryddion â gofal meddygol o fewn ysbytai a gofal sylfaenol, a symud y tu hwnt i ganolbwyntio yn gyfan gwbl ar ymddiriedolaethau iechyd meddwl? – Yr Athro Michael Sharpe

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae rhaniad artiffisial rhwng anhwylderau meddwl a chorfforol. Ceir y canlyniadau gorau o fewn gofal integredig.

Disgyblaeth feddygol yw seiciatreg. Rhaid i ni gydweithio ag arbenigeddau meddygol a gwrthdroi rhaniadau diwerth.

Nid yw hyn yn hawdd: rhaid moderneiddio hyfforddiant/ achrediad/ datblygiad proffesiynol parhaus seiciatryddion (dylanwadu ar arweinwyr y GMC, Colegau Brenhinol, GIG a’r Ymddiriedolaethau). Nid yw’r strwythur swyddi/ adnoddau a phrosesau hyfforddiant presennol yn ateb y gofynion fydd ar seiciatryddion y dyfodol.

Mae’r man cychwyn yn un da gan fod llawer o’r hyfforddiant a gofal ar y cyd wedi’i leoli yn barod o fewn gwasanaethau cyswllt, dwys, arbenigol a gofal sylfaenol. Gweithiais o fewn seiciatreg gofal sylfaenol dros 20 mlynedd yn ôl. Nid yw'r rhain yn newydd, ond mae angen fframweithiau a safonau effeithiol ar y cyd ar gyfer comisiynu, ansawdd gofal, hyfforddiant, ymyraethau, cofrestrau gofal, yn ogystal â mesuriadau perfformiad lleol ystyrlon sydd wedi’u cysylltu ar draws systemau.

Dylai seiciatryddion arwain os yw’r diwygiadau am fod o fudd i bobl â salwch meddwl ac nid bod yn anfantais iddynt.

Yn fy natganiadau yn y llwyfan etholiad a’r fideo byw, dadleuais ddylai coleg unedig gefnogi hyfforddiant seiciatryddion yn well yn eu hardaloedd, mewn partneriaeth â CEOs, MDs, a chomisiynwyr lleol drwy gyfadrannau a gwledydd datganoledig.

Rhaid i ni ddod yn gyfathrebwyr medrus ac arweinwyr systemau cryf ein cymhelliant, dileu negyddiaeth a chanfyddiadau negyddol o seiciatreg gan gymunedau, arbenigeddau a disgyblaethau eraill. Rhaid ymgymryd â’r her: gweler y blog gennyf ‘the Secret Art of Psychiatry’.

Buaswn yn datblygu argymhellion cenedlaethol y Coleg dros arweinyddiaeth cydweithrediadol a chlinigol a hyfforddiant cydsyniol o fewn gofal y cyhoedd, gofal integredig, gofal sylfaenol, ac iechyd y boblogaeth, i’w haddasu yn lleol a’u rhoi ar waith.

Dr Adrian James

Edrychaf ar y mater hwn drwy lygaid claf â gofynion sydd yn aml yn ymestyn ar draws y ffiniau rhwng iechyd meddwl a chorfforol, gofal sylfaenol ac eilaidd, ac iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn y claf mae’n bwysig ein bod yn gweithredu yn y modd hwn.

Yn ddiweddar, bues yn gadeirydd grŵp cyfeiriol arbenigol ar integreiddio a modelau gofal newydd yn y Coleg, a chyhoeddir y canlyniadau cyn bo hir.

Y prif bwyntiau i mi yw:

  1. Mae cleifion yn disgwyl ac angen i ni weithio ar draws ffiniau a darparu gofal a thriniaeth yn lleol yn hytrach na disgwyl iddynt ddod atom ni.
  2. Nid oes un ffordd gytûn o wneud hyn. Mae gwahanol fodelau a graddau gwahanol o integreiddio ym mhedair gwlad y DU. Gall cyd-leoli timoedd helpu ynghyd â dulliau gweithredu cytûn â’r anghenraid eu bod yn gweithio ble mae angen y gofal.
  3. Ni fydd unrhyw system newydd yn cuddio’r tanwariant ofnadwy sydd angen sylw.
  4. Dylid croesawu’r symudiad tuag at systemau gofal integredig ond nid wyf yn siŵr os yw parch cydradd wedi ei ymwreiddio’n ddigonol er mwyn galluogi integreiddio sefydliadol cyflawn ac felly teimlaf ein bod angen sefydliadau ar wahân â ffocws clir ar salwch meddwl.
  5. Mae angen i ni bwyso am amcanion allweddol iechyd meddwl fel prif flaenoriaethau unrhyw fframwaith gofal integredig (cydraddoldeb o fewn mynediad at ofal a chanlyniadau, lles y gweithlu a chadw staff)

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Ni ddylem erioed fod wedi bod mewn ymddiriedolaethau iechyd meddwl ar wahân. Mae seiciatreg yn rhan annatod o feddygaeth a’r unig ffordd gall unigolion sydd angen y gofal iechyd orau ffynnu yw os mae’r holl arbenigeddau meddygol yn cydweithio gyda’i gilydd ac yn agos at ei gilydd.

Prin yw’r cyflyrau difrifol, oherwydd afiechyd neu drawma, sy’n gorfforol yn unig a heb ryw gymhlethdodau seicolegol gall rwystro gwellhad yn llwyr heb gyngor seiciatryddol.

Mae nifer o’r bobl sydd angen triniaeth seiciatryddol sylfaenol hefyd ag anhwylderau iechyd corfforol; mae cyfradd marwolaeth uwch na’r disgwyl ymhlith ein cleifion, a byddai modd mynd i’r afael â lleihau hyn wrth weithio’n agosach at feddygon, llawfeddygon, meddygon cartref ac eraill.

Dim ond profiadau positif sydd gen i o weithio o fewn ymddiriedolaethau/ byrddau iechyd integredig yn y gorffennol, a gweledigaeth gadarn o wneud i hynny weithio eto.

Beth sydd angen i ni ei wneud? Rhaid sicrhau dosbarthiad teg o adnoddau. Rhaid cael partneriaeth a deialog llawn ag ein cydweithwyr o fewn arbenigeddau meddygol eraill er mwyn sicrhau gwireddu’r weledigaeth o fanteision a pharch i bawb.

Bydd yn fwy pwysig nag erioed fod y Coleg yn cyfranogi at yr Academi Colegau Brenhinol Meddygol. Mae adolygiad o’r holl gwricwla meddygol yn gyfle pwysig i sicrhau cydweithrediad digonol ar agweddau allweddol o hyfforddiant. Ar un adeg cefais y gwaith o adfer uned dialysis arennol oedd â chyfraddau cynyddol o afiachedd a marwolaeth ymhlith y cleifion a chyfradd newid staff oedd yn anghydnaws â safon uchel o ofal iechyd. Gyda’n gilydd cafwyd llwyddiant.

Pa strategaeth fyddai’r ymgeiswyr yn ei roi ar waith er mwyn gwella cynhwysiant bob aelod wrth ystyried fod rhai aelodau, yn enwedig aelodau cyswllt, sydd â chyfraddau uchel o aelodau sydd yn raddedigion meddygol rhyngwladol (IMG) a rhai sydd yn bobl dduon, Asiaidd neu o leiafrif ethnig (BAME), heb lais gan nad oes hawliau pleidleisio ganddynt, gan gynnwys yr anallu i ethol eu cynrychiolwyr eu hunain o fewn y Coleg? – Dr Monique Schelhase

Dr Adrian James

Mae amrywiaeth a sicrhau cydraddoldeb yn un o fy nhair blaenoriaeth os caf fy ethol yn Llywydd. Yn fy ngwaith fel Cofrestrydd rwyf wedi gweithio ar hyn yn barod. Sylwais nad oedd cadeirydd yr SAS yn cael mynychu’r Cyngor a phwysais yn llwyddiannus er mwyn newid hyn. Felly, mae cynrychiolaeth gan y rhan helaethaf o aelodau cyswllt yng nghraidd y Coleg. Mae ymgysylltiad ag aelodau yn hanfodol i’r coleg felly sefydlais swydd newydd ac apwyntiwyd Dr Santosh Mudholkar yn Gofrestrydd Cyswllt Dros Ymgysylltu Aelodau i’r rôl. Roeddwn ynghlwm â datblygu gwerthoedd y coleg sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cynhwysiant ac amrywiaeth. Yn ogystal, rwyf wedi tynnu sylw at yr amryw ddulliau o ymgysylltu â’r Coleg sydd gan seiciatryddion ag aelodaeth wahanol, gan gynnwys pleidleisio, a bellach mae yna broses er mwyn adolygu ein his-ddeddfau ynglŷn â hyn ac yn y pen draw caiff hyn ei benderfynu gan y Cyngor.

Un mater sydd angen sylw yn bendant yw’r cyflawniad gwahaniaethol yn ein harholiad. Rhaid sicrhau fod cefnogaeth ar gyfer bob un sy’n ymgeisio er mwyn sicrhau cyfle cyfartal, yn enwedig meddygon IMG a BAME.

Mae’n fraint i ni fod cyfran mor uchel o seiciatryddion IMG a BAME ym mhob categori aelodaeth o fewn y Coleg. Mae ein hamrywiaeth yn gryfder.

Mae’n hanfodol fod llais a chyfle i leisio barn gan bob un sydd ynghlwm â’r Coleg, a’u bod yn derbyn triniaeth deg â chyfle cyfartal i gyfrannu. Buaswn yn cwrdd yn rheolaidd ag aelodau cyswllt er mwyn sicrhau hyn.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Yn gyntaf, hoffwn longyfarch aelodau, swyddogion a staff y Coleg ar ennill gwobr Elusen y Flwyddyn yng Ngwobrau Amrywiaeth Ewropeaidd 2019. Wrth gwrs, rhaid cydnabod fod gwaith i’w wneud bob amser, ond o leiaf mae ysbryd cynhwysiant yn y Coleg.

Mae’n amlwg fod yr un sy’n gofyn y cwestiwn yn teimlo fod mwy i’w wneud. Bydd fy nrws ar agor bob amser ar gyfer unrhyw un sydd ag argymhellion ar wella cynhwysiant yn y Coleg.

Mae’r awgrym ddylai aelodau cyswllt ethol eu cynrychiolwyr eu hunain yn bwysig. Rwy’n cyfaddef ei fod yn syndod i mi. Yn y Gyfadran Seiciatreg Fforensig rydym wedi hen arfer â chynrychiolaeth gref a defnyddiol gan ein haelodau cyswllt, felly buaswn yn bendant am weld hynny’n digwydd ledled y Coleg ble nad yw’n digwydd ar hyn o bryd.

Mae’n well gan rai aelodau cyswllt ddilyn llwybr gyrfa wahanol; dylem wneud popeth y gallem i gefnogi hynny. Aelod cyswllt yw’r hyn mae nifer eisiau bod. Heb amheuaeth, o leiaf yn fy maes presennol, gwerthfawrogir aelodau cyswllt, felly am foment rwyf am ymddwyn fel seiciatrydd! – gwerthfawrogwch eich hunain hefyd!

Mae’r cwestiwn hefyd yn cyfeirio at aelodau IMG a BAME. Os oes nifer anghymesur ohonynt yn dewis aelodaeth gyswllt dros aelodaeth lawn, yna rhaid i ni edrych ar y rhesymau dros hynny a cheisio datrysiadau.

Yn olaf, rwyf hefyd yn ymgyrchu ar lythrenwau. Dim ond rhai cyffredin mae’r holwr wedi eu dewis. Serch hynny, tybed os yw pobl wir yn hoffi cael eu galw’n ‘BAME’? Mae yna o leiaf 32 ystyr i ‘IMG’. Mae llythrenwau eraill yn gofyn i chi fod yn berson dethol i’w deall, sy’n bell o fod yn gynhwysol!

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae hwn yn gwestiwn pwysig iawn er mwyn dangos sut bydd y coleg yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Rwyf eisoes wedi ymgyrchu (trydar a’i godi â swyddogion) er mwyn newid arferion annheg yr ydym wedi cyflyru iddynt (gweler fy natganiadau a’r llwyfan etholiad byw).

Hoffwn weld dadansoddiad o’r rhai sydd heb hawliau pleidleisio. Ar hyn o bryd dim ond y rhai sydd â MRCPsych sy’n gymwys i wneud. Rhaid newid hyn oherwydd:

  • Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau aelodaeth yn rhoi’r hawl i bleidleisio os ydynt yn codi ffi.
  • Mae hawliau pleidleisio yn adlewyrchu cynhwysiant, dylanwad, a statws nid safonau. Rhaid parchu statws a chyfraniadau sylweddol meddygon SAS ac IMG, sydd heb bleidlais, mewn strwythur sydd yn fwy gwastad. Maent wedi cwyno ond heb eu clywed.
  • Rhaid gweithredu yn unol â gwerthoedd y coleg a gwerthfawrogi bob aelod.
  • Rhaid bod yn ddigon dewr i ddileu arferion sy’n gwahaniaethu, a dangos sut i weithredu ar faterion tebyg.
  • Mae angen coleg unedig er mwyn sicrhau ein bod yn gweithredu ag awdurdod a dylanwad ble mae ei angen, nid ar raniadau mewnol.
  • Oes gwrthwynebiad gan y rhai sydd â MRCPsych a hawl pleidleisio? Rwy’n deall bod hynny’n wir. Anfonwch e-bost ataf os oes dadl am beidio caniatáu hawliau pleidleisio i bob aelod sy’n talu aelodaeth (sydd heb MRCPsych): k.s.bhui@qmul.ac.uk.
  • Buaswn yn dadlau dros drafodaeth gynnar gan y pwyllgor yn gyntaf, ond os nad yw hynny’n bosibl, yna trafodaeth agored, cynnig, a phleidlais gan y cyngor, ac os nad oedd cytundeb, yna’r cyfarfod blynyddol.
  • Rydym newydd ennill gwobr am amrywiaeth. Mae hyn yn nodedig, ond yn gam gwag os nad ydym yn gweithredu ar y mater hwn ac eraill tebyg.

Nid yw’n anghyffredin gweld adwaith negyddol grymus i ddatganiadau cyfryngau cymdeithasol y Coleg a Swyddogion y Coleg pan maent yn ceisio cyfathrebu ein neges. Sut byddwch yn ymateb i’r bobl sydd yn ddrwgdybus o’r proffesiwn a’r triniaethau yr argymhellwn? – Dr Daniel Wilkes

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Mae hwn yn gwestiwn i bawb – nid yn unig staff a swyddogion y Coleg sydd weithiau yn wynebu’r fath ‘negyddoldeb grymus’.

Mae ein Coleg yn darparu fframwaith, er nad yw ymateb fel arfer yn fater syml. Mae angen Dewrder, sef y rhinwedd sydd ar flaen rhestr gwerthoedd y Coleg. Mae’n beth amhleserus ac weithiau yn frawychus pan mae eraill yn ymosod, yn enwedig efallai os ydym yn ceisio helpu.

Gwerth arall gan y Coleg yw Cydweithrediad. Mae’n bwysig peidio wynebu’r fath negyddoldeb ar ben eich hunan.

Yn ddibynnol ar lefel y negyddoldeb, efallai bydd yn bwysig gwneud asesiad bygythiad gwybodus. Yw’r seiciatrydd, neu aelod arall o staff, mewn perygl corfforol neu o golli enw da? Gall weithrediadau penodol leihau’r risg?

Sut mae’r un sy’n derbyn y negyddoldeb yn teimlo? Bydd cydweithwyr clinigol yn dueddol o gefnogi a helpu i benderfynu os oes angen ymateb neu sut i ymateb, ond mae’r Coleg yn gefn i’r aelodau hefyd.

Mae yna ddewrder ymhlith y rhai sy’n ymateb yn negyddol hefyd gan eu bod yn datgelu eu hunain a’u manylion cyswllt. Rhaid felly ystyried dau o werthoedd eraill y Coleg - Parch a Dysgu. Mae negyddoldeb yn adlewyrchu ein pryderon ac ofnau. Rhaid deall y rheini. Weithiau mae’n ddigonol eu cydnabod. Weithiau bydd angen gwneud mwy er mwyn datrys yr argyfwng a pheidio colli golwg o’r neges.

Mae’r Coleg yn ffodus bod ganddi dîm cyfathrebu cadarn sydd wedi arfer ymwneud â’r cyfryngau. Mae’r Gyfadran Seiciatreg y Plentyn a’r Glasoed wedi arwain ar gyngor i blant er mwyn eu helpu i oroesi cyfryngau cymdeithasol. Hoffwn arwain ar ddarparu cyngor gwybodus ar gyfer aelodau’r Coleg.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Yng nghanol yr holl wybodaeth anghywir a stigma bydd rhaid meithrin ymddiriedaeth. Rhaid cyfathrebu â’r cyhoedd er mwyn rhannu tystiolaeth a pholisi sy’n arwain arfer dda ac arfer ddiogel.

Rwyf am glywed pryderon y cyhoedd, cleifion a chydweithwyr (ac aelodau) sy’n herio safiad y Coleg. Weithiau mae’r pryderon yn ymwneud â methiant go iawn gallwn oll ddysgu ohono. Weithiau maent yn anghyfiawn, yn honni arferion erchyll a chamdriniaeth, neu’n mynnu arfer sy’n herio’r dystiolaeth, neu hyd yn oed yn honni fod y dystiolaeth yn dwyllodrus. Ni ddylid derbyn aflonyddwch na chamdriniaeth.

  • Yn y fath achosion byddaf yn cefnogi’r aelod, argymell pellter synhwyrol, cytuno dulliau gweithredu gan y coleg ar ymateb ac amddiffyn, ac ystyried ymateb heddlu neu gyfreithiol.
  • Rhaid i mi/ni arddangos y safonau uchaf o drafodaeth barchus. Mae gen i brofiad o weithio â’r cyfryngau ac o drafodaethau cyhoeddus ar faterion dadleuol megis anghydraddoldebau iechyd, blinder cronig, iechyd meddwl y cyhoedd, materion diwylliannol, hiliaeth, gwahaniaethu, gorgrefyddoldeb, ac eithafiaeth.
  • Yn fy rôl fel Prif Olygydd, rwy’n derbyn ymosodiadau rheolaidd ar wyddoniaeth. Rwyf wedi sefydlu pwyllgor ar gywirdeb ymchwil. Gall hwn fod yn adnodd i'r coleg cyfan.
  • Byddaf yn darparu cyfathrebiadau/ datganiadau safiad wedi’u selio ar dystiolaeth o gyfadrannau perthnasol y coleg ac arbenigwyr (mae llawer gennym).
  • Byddaf yn amddiffyn cyfathrebu creadigol fel rhan o ein rôl addysgol a dylanwadu (perthnasol i’r trydydd cwestiwn hefyd).
  • Byddaf yn sefydlu/adolygu codau ymddygiad a hyfforddiant er mwyn gwella sgiliau ar gyfer cyfathrebu â’r cyhoedd (e.e. datgeliadau personol, enwi’r trydydd person, defnydd gofalus o hiwmor, ac ymateb i fygythiadau).

Dr Adrian James

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd gwych er mwyn cyfathrebu am salwch meddwl. Mae’n ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa eang ac yn rhoi llais i’r unigolion fyddai efallai yn cael anhawster wrth fynegi eu barn. Dylem annog trafodaethau sy’n ymwneud â holl faterion salwch meddwl a derbyn heriau yn erbyn ein safbwyntiau. Yn bersonol, rwyf wedi cael profiad o adweithiau negyddol iawn ac ymateb gelyniaethus at negeseuon roeddwn yn credu oedd yn rhai positif iawn.

Dylem weithredu fel y ganlyn:

  1. Dylem dynnu sylw at bopeth da ynglŷn â seiciatreg a phwysleisio’r sail dystiolaethol dros yr hyn a wnawn.
  2. Dylem fod yn sicr o ein gwerthoedd a bod yn ddewr ond yn ogystal bod yn ystyriol o eraill. Dylem ddisgwyl hyn gan eraill a’u darbwyllo o hynny.
  3. Dylem groesawu unrhyw her a thrafodaeth, a dangos ein bod bob amser yn fodlon ystyried safbwyntiau eraill.
  4. Rhaid bod yn barod i adolygu’r dystiolaeth ynglŷn â thriniaethau a gwasanaethau. Rydym wedi bod yn anghywir yn y gorffennol a bydd hynny’n wir eto, a ni ddylem fod yn amddiffynnol wrth weithredu.
  5. O fy mhrofiad, gan amlaf, sail unrhyw her elyniaethus a drwgdybiaeth yw gwir boen a ni ddylem ei anwybyddu. Yn bersonol nid wyf wedi tawelu neu rwystro unrhyw un ar gyfryngau cymdeithasol sydd wedi bod yn ymosodol tuag ataf yno. Nid wyf yn teimlo ei fod yn adeiladol parhau â thrafodaethau hir a chas drwy gyfryngau cymdeithasol, ac yn bersonol mae’n well gennyf gwrdd â phobl.

Gyda’r newidiadau digidol yn y byd gwaith o fewn y GIG, a ddylai hyfforddiant gweithwyr iau a chynlluniau gwaith ymgynghorwyr gynnwys gwell profiadau ym meysydd deallusrwydd artiffisial, apiau symudol, technoleg gynorthwyol, ayyb.? Sut gall y Coleg gefnogi hyn? - Dr Tasir Kazmi

Yr Athro Kam Bhui CBE

Dylent!

Cynigiai technoleg nifer o gyfleoedd i feddygon a’r cyhoedd; hyblygrwydd gofal; gofal cynaliadwy, cost-effeithlon a gwyrdd; ymyraethau digidol, cyfathrebu chwim, cofnodion o ganlyniadau ar y pryd a phrofiadau cleifion ar gyfer archwiliad, gwelliannau ansawdd, ymchwil ac addysgu. Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig dulliau newydd o wella diagnosisau, targedu ymyraethau atal, a meddygaeth fanwl haenedig. Bydd cyfeiriad meddygaeth y dyfodol yn fwy digidol.

Rhaid i’r uchelgais hon gael ei chefnogi gan fuddsoddiad ac amser digonol er mwyn datblygu sgiliau.

Gall y coleg:

  • Codi blaenoriaeth y fath ddysgu o fewn Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CPD), hyfforddiant gorfodol, a chynlluniau amser-yn-y-gwaith (e.e. mewn sesiynau SPA).
  • Gweithio gyda CEOs ac MDs er mwyn ei wneud yn arferiad rheolaidd bod clinigwyr yn derbyn data perfformiad ar y gwasanaeth digidol. Gallwn fonitro hyn yn erbyn safonau ansawdd, a darparu hyfforddiant er mwyn gwella sgiliau, ansawdd cofnodi a gwasanaethau. Bydd hyn yn beth da i’r claf, y meddyg a’r GIG.
  • Cynnwys mwy o CPD yn ddigidol. Mae’r coleg yn darparu rhai adnoddau gwych ar gyfer clinigwyr yn barod (Gwelliannau mewn Triniaeth Seiciatrig, CPD ar-lein, cyfarfodydd CALC rhyngwladol, rhanbarthol a chyfadran, a chyfarfodydd SIG)
  • Creu SIG digidol neu adran rithwir yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r coleg?
  • Profi fod y fath systemau yn addas i’r pwrpas, oherwydd gallent effeithio ar effeithlonrwydd ein gwaith, a’r tasgau clinigol creadigol (emosiynol, perthnasol a gwybyddol, gweinyddol). Rwy’n ymwybodol fod profion NHSX ar y gweill a bod y coleg wedi’i ymroi ond mae angen i ni oll wneud mwy.
  • Cydnabod pwysigrwydd a goblygiadau gofal digidol gydol gyrfaoedd, o fyfyrwyr meddygol, hyd at arbenigwyr a dysgu gydol oes.

Dr Adrian James

Bydd technoleg ddigidol, genomeg a deallusrwydd artiffisial yn gweddnewid seiciatreg ac felly mae’n hanfodol ein bod yn paratoi seiciatryddion ar gyfer defnyddio’r manteision posibl er mwyn gwella canlyniadau i’r claf.

Mae iechyd meddwl wedi bod ar flaen y gad mewn nifer o ddatblygiadau digidol, er enghraifft cofnodion digidol cleifion, triniaethau cyfrifiadurol ac apiau sydd wedi ennill sawl gwobr.

Mae arbenigwyr o fri gan y Coleg yn y maes hwn, wedi’u harwain gan ein Pwyllgor Gwybodeg a’r cadeirydd Dr Hashim Reza. Cyfranasom at yr adolygiad Topol a gyhoeddwyd eleni, ble’r edrychwyd ar baratoi’r gweithlu gofal iechyd er mwyn cyflwyno’r dyfodol digidol. Yn ogystal, rydym yn gweithio ar safonau cofnodion electronig gyda’r Bwrdd Safonau Cofnodion Proffesiynol.

Byddai’n rhwydd gwneud datblygiadau technolegol am ddim rheswm gwell na’i fod yn bosibl, felly rhaid seilio ein gweithredu ar dystiolaeth.

Byddaf yn sicrhau:

  1. Mai sail bob datblygiad digidol yw gwella canlyniadau ar gyfer claf a rhyddhau amser seiciatryddion er mwyn iddynt ddefnyddio’u sgiliau, yn hytrach na bod yn fwrn ychwanegol.
  2. Bod ein cwricwlwm seiciatreg yn llwyr briodoli pwysigrwydd y maes hwn.
  3. Bod gwaith y Pwyllgor Gwybodeg yn cael ei hyrwyddo a sicrhau ein bod yn rhan o bob corff cenedlaethol sy’n llywio datblygiadau digidol. Mae hyn yn cynnwys darparu addysg ar gyfer ein haelodau... a defnyddio dulliau digidol i wneud hynny.
  4. Archwilio i ddatblygu grŵp arbenigol ym maes technoleg.
  5. Parhau ein datblygiad o lyfrynnau gwybodaeth blaengar yn ddigidol.
  6. Bod y Coleg yn manteisio ar dechnoleg ddigidol yn yr holl waith a wneir gan gynnwys y modd o gyfathrebu gydag ein haelodau a threfnu ein cyfarfodydd.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Cwestiwn da iawn, ond mae cymaint o agweddau gwahanol ohono i’w hystyried.

Dylai’r newidiadau digidol ym myd gwaith y GIG ganiatáu i ni rannu data mewn cymaint o ffyrdd gwahanol â’r potensial o wella ein gwaith. Serch hynny, ni fydd hyn o unrhyw fudd os nad yw’r GIG yn buddsoddi mewn caledwedd cyfrifiadurol lleol a meddalwedd sydd ill dau yn gyfoes. Ni all systemau canolog soffistigedig o gysylltu data claf, a systemau dienw i wella tracio canlyniadau, weithio heb fynediad addas. Mae’n rhaid i’r Coleg dynnu sylw at hyn yn gyson.

Wrth i argaeledd y systemau hyn gynyddu, rhaid i’r Coleg sicrhau’r manteision a lleihau’r risg - awgrymaf wneud hyn drwy’r ganolfan ar gyfer Gwella Ansawdd (CCQI). Golygai hyn ddulliau newydd o weithio a sgiliau arbenigol, ond mae’n debygol y bydd y rhain yn sail i’r rhan fwyaf o waith arall y Ganolfan.

Bydd deallusrwydd artiffisial, apiau symudol a thechnoleg gynorthwyol yn debygol o ddarparu cymorth amhrisiadwy wrth asesu a monitro cynnydd a thriniaeth. Enghraifft addawol o hyn yw’r gwaith diddorol a wneir yng nghyd-destun rheoli symptomau drwy bio-adborth. Yn bendant, mae’n rhaid i’r Coleg helpu i godi ymwybyddiaeth a lefel sgiliau drwy raglenni CPD, a darparu cyflwynwyr arbenigol mewn cynadleddau. Serch hynny, mae’n rhaid i’r Coleg fod yn sicr yn y ddwy ffordd ganlynol. Yn gyntaf, mae hon yn faes sy’n datblygu a bydd angen treialon ar raddfa eang, er mwyn ategu’r gwaith ar raddfa lai neu’r ymchwil ddisgrifiadol, fel y gallent fod yn hyderus o’r manteision a’r effeithiau digroeso. Yn ail, ni ddylai technoleg byth ddisodli’r sgiliau rhyngbersonol safon uwch o fewn seiciatreg. Y dyfodol tebygol ar gyfer seiciatryddion yw defnyddio’r dystiolaeth ar gyfer arwain y gwaith o ddod â thechnoleg a sgiliau seico-therapiwtig ynghyd.

Mae statws MHO, neu gildwrn aur fel y gelwir, wedi arwain at rwymedigaethau treth anffafriol. Sut fyddech chi’n cefnogi seiciatryddion MHO a’r diwygiadau pensiynau? – Dr Anders Skarsten

Dr Adrian James

Mae’r trefniadau treth bresennol, yng nghyd-destun pensiynau meddygon, yn achosi gofid mawr i nifer, yn cael effaith ar eu lles ac yn anghymell seiciatryddion i roi o’u gorau.

Mae hyn yn effeithio holl seiciatryddion ond â sialensiau penodol i’r rhai sydd â statws swyddog iechyd meddwl (MHO). Bues yn Leeds yr wythnos hon a chefais glywed fy hunan yr effeithiau ar unigolion a gwasanaethau.

Mae’r trefniadau treth yn effeithio gofal claf yn uniongyrchol. Mae seiciatryddion yn lleihau eu horiau ac yn osgoi derbyn gwaith ychwanegol. Ni all hyn fod yn iawn ac mae’r newidiadau a argymhellwyd yn annigonol ac nid ydynt yn ymateb i’r materion uniongyrchol.

Rwyf wedi codi’r mater gyda gwleidyddion ac arweinwyr o fewn y GIG. Bydd yna argyfwng os na chaiff unrhyw beth ei wneud.

Fel Llywydd buaswn yn parhau i godi sylw at y mater ar y lefel uchaf oherwydd os nad oes newid bydd cleifion yn dioddef a bydd effaith ar les seiciatryddion.

Mae gen i ddau bwynt pwyllo. Mae angen i ni godi’r mater mewn modd sensitif fel nad ydym yn cael ein gweld o fod tu hwnt i’r realiti sy’n wynebu ein cleifion, sydd efallai yn gweld pensiwn fel posibiliad pell yn unig. Mae’n rhaid i ni barhau i gefnogi ein cleifion er mwyn iddynt gael bob cyfle i elwa o fanteision cyflogaeth.

Yn ogystal, rydym yn elusen ac nid undeb llafur, ac mae hyn yn rhoi statws breintiedig i ni. Felly, ni ddylem fynd tu hwnt i ein gorchwyl gan fuasai hyn â goblygiadau hirdymor ar ein gallu i eirioli ar faterion ehangach.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Mae’r mater hon wedi gweld pwysau enfawr o sawl cornel. Dywedodd y prif weinidog ymadawol y byddai’n mynd i’r afael â phensiynau GIG fel mater o bwys, ynghyd â Brexit. Yn dilyn yr etholiad cyffredinol pwy a ŵyr? Yn bendant bydd gwaith i’w wneud.

O fewn y proffesiwn meddygol mae statws MHO yn effeithio mewn ffordd unigryw ar seiciatryddion, er ar niferoedd sy’n lleihau gan fod yr opsiwn hwn wedi’i diddymu oni bai y cofrestrwyd amdani cyn Mawrth 1995. Mae’n fwrn ychwanegol yn y sefyllfa ofnadwy a grëwyd yn fwy cyffredinol â phensiynau meddygol.

Rhaid i’r Coleg fod yn ofalus wrth helpu adfer yr argyfwng hwn - ac nid yw ei alw’n argyfwng yn gor-ddweud. Y Coleg yw’r corff proffesiynol ac addysgol ar gyfer seiciatryddion yn y DU. Yn elusen gofrestredig, mae’n gweithio er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion â salwch meddwl, anabledd deallusol neu anhwylderau datblygiadol. Llais seiciatreg ydyw, nid undeb llafur; fe’i goruchwylir gan y Comisiwn Elusennau. Serch hynny, rhaid i’r Coleg fod yn weithredol o blaid pawb sy’n gweithio at bensiwn - yn ogystal â’r rhai sydd heb statws MHO. Mae’r argyfwng pensiwn yn dechrau cael effaith negyddol ar wasanaethau yn ogystal ag ar feddygon - ac felly ar gleifion. Nid argyfwng i ni yn unig yw hon - mae’n fater i bob meddyg. Felly, mae’n rhaid i ni gydweithio’n glos â Cholegau Brenhinol eraill, drwy Academi'r Colegau Brenhinol, a gyda’r BMA. Mae statws MHO yn fanylyn pwysig o fewn y datrysiad ehangach.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae’r rheoliadau pensiwn presennol yn annheg, diffygiol, cymhleth, ac yn anodd ei deall hyd yn oed gan gyfrifwyr. Mae datganiadau a phrosesau pensiwn y GIG yn annigonol ac yn ei gwneud yn anodd blaengynllunio. Gallwn oll gynnig caredigrwydd a chefnogi ein gilydd gan fod yr effeithiau i rai wedi bod yn drychinebus.

Mae’r rheoliadau yn effeithio’n negyddol ar waith meddygon, llesiant, iechyd a lles; ac mae hyn yn effeithio’n wael ofnadwy ar ofal claf, gweithredu diwygiadau’r dyfodol, addysgu a hyfforddi meddygon y dyfodol, darpariaeth gwasanaeth ac ymchwil. Rhaid i ein hymgyrchoedd fod er budd y system ehangach, ac mae hynny’n wir o’r mater hon. Buaswn yn ymgyrchu er mwyn:

  • Dileu’r lwfans blynyddol, a’r rheoliadau lleihad rhyfedd. Mae’r rheoliadau yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ac yn gorfodi nifer i weithio’n rhan-amser a derbyn newidiadau cytundeb anffafriol.
  • Gweithredu gyda’r BMA, colegau brenhinol eraill, AMRoCs, a’r GIG, a rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r effaith ar wasanaethau a meddygon.
  • Cydweithio â galwedigaethau cyhoeddus eraill, a chymell adolygiad barnwrol os nad oes datrysiad.
  • Caglu ynghyd gwybodaeth ynglŷn â thriniaeth pobl gan gyflogwyr (GIG, Prifysgolion, darparwyr elusennol), gwneud arolwg o iechyd a lles y gweithlu ac ymchwilio i’r hyn a wneir er mwyn dal gafael ar feddygon, ac argymell dulliau gweithredu er mwyn helpu.
  • Rhannu’r effeithiau: colli degawdau o brofiad sy’n dirywio’r GIG a’r economi. Mae’n beth ofnadwy ar gyfer gofal claf, ac yn niweidio recriwtio, gan fod meddygon y dyfodol yn barod yn gadael y DU.
  • Gofalu ar gyfer y rhai nad ydynt â’r statws MHO ac sydd ar gyfnodau eraill o’u bywyd, a dylanwadu’n fwy eang ar adolygiadau cytundebol a phensiwn drwy’r BMA, undebau gwasanaeth cyhoeddus, a phwyso ar bleidiau gwleidyddol.

Claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth? – Dr Helen Whitworth

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Neu’r ddau? Neu rywbeth arall? Awgrymai TS Elliott bod hyd yn oed cathod â thri enw. Yn gyffredinol rwyf o blaid ymateb i ofynion eraill o’r hyn hoffent gael eu galw, ond mae’n bwysig fod pawb yn sicr o’r ystyr wrth ddefnyddio’r fath dermau.

Ystyr defnyddiwr yw un sy’n cymryd - neu brynu - yr hyn mae ef neu hi ei angen o’r hyn sydd ar gael. Nid oes perthynas yma; mae fel gweithred fasnachol. Yn aml, ceir ystyr negyddol iddo - megis defnyddiwr cyffuriau.

Mae bod yn glaf yn golygu cymryd rôl arwyddocaol ac ystyrlon mewn perthynas bwysig - yn draddodiadol y berthynas â meddyg, ond yn fwy cyffredin bellach â chlinigwyr eraill. Mae yna ddisgwyliad o fanteision arwyddocaol, a rhai cyfrifoldebau yn ogystal. Yn fwy na dim, mae yna sicrwydd tra eich bod yn glaf, nad ydych ar ben eich hunan wrth chwilio am ddatrysiad i broblem iechyd, ond yn hytrach mewn partneriaeth â pherson neu bobl sydd ag arbenigedd wrth ymdrin â’r broblem. Mae’n berthynas â ffiniau pendant, ac felly sicrwydd rhag cael eich ecsbloetio, ac yn berthynas fydd yn esblygu wrth i bethau newid er mwyn sicrhau gwelliant a datrys unrhyw broblemau newydd. Mae’n fwy pwysig os yw salwch, niwed neu anhwylderau yn rhai hirdymor.

Felly, fy marn ddiamwys bersonol, pryd mae angen gofal iechyd arnaf, yw mai claf ydwyf, ac felly argymhellwn hyn i eraill.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Claf yw term swyddogol y Coleg, sy’n adlewyrchu fod seiciatreg yn faes meddygol. Nid oes cwestiynau tebyg ym meysydd meddygol eraill, pryd hysbysir pobl o’u cyflyrau, trafodir opsiynau, a dewisir gofal ar sail tystiolaeth.

Felly, pam cwestiynu hyn ym maes seiciatreg? Credaf mai pwrpas termau newydd megis defnyddiwr gwasanaeth oedd er mwyn dangos perthynas mwy hafal, a mynd i’r afael â stigma, perthynas ble mae grym sylfaenol, a lleihau gofal gorfodol neu niweidiol. Buasai’n well gennyf fynd i’r afael â stigma a grym a safonau gofal yn hytrach na bathu termau newydd.

Petaem yn stopio defnyddio termau megis salwch a chlaf, rydym mewn perygl o wadu a stigmateiddio’r natur gymhleth o anhwylderau meddwl-corff ble mae pobl yn chwilio am ofal tosturiol neu’n seiliedig ar dystiolaeth, wedi’i ddarparu gan ymarferwyr sydd wedi’u hyfforddi at lefel uchel, sy’n foesegol ac sy’n grymuso’r claf.

Nid yw defnyddiwr gwasanaeth yn boblogaidd chwaith, gan fod iddo ystyrion negyddol. Mae rhai pobl yn gwella ac yn stopio defnyddio gwasanaethau; mae’n well gan eraill y termau byw â diagnosis neu arbenigwr o brofiad. Ni fydd rhai yn dod dan sylw gwasanaethau nac yn derbyn diagnosis, nac yn dweud eu bod yn arbenigwyr. Mae pobl am fyw bywydau gwell heb labeli, am ddarganfod atebion ar gyfer sialensiau lluosog cymdeithasol, llesol a rhyngbersonol: tlodi, trawma, trychineb, trais, addysg a chyfleodd cyflogaeth, alcohol a defnydd sylweddau. Maent yn chwilio am gyfeillgarwch, a gallu ymddiried mewn sefydliadau, teimlo’n ddiogel, cael cartref, teimlo’n iach, a chael dewisiadau.

Dylai pobl gael dewis sut maent am i eraill gyfeirio atynt.

Fy nherm dewisol yw person neu bobl. Rwy’n cytuno â therm dewisol y Coleg sef claf.

Dr Adrian James

Claf.

Claf yw person sy’n derbyn neu wedi cofrestru i dderbyn triniaeth feddygol. Mae seiciatryddion yn darparu triniaeth ar gyfer salwch meddwl, anhwylder personoliaeth ac anhwylderau datblygiad. Mae ein rôl fel ymarferwyr meddygol cyflawn yn rhan greiddiol o’n hunaniaeth. Mae’n bwysig iawn ein bod yn glir ynglŷn â therminoleg. Nid ydym yn trin problemau neu faterion iechyd meddwl, rydym yn trin salwch meddwl.

Mae’r cymhlethdod termau wedi codi oherwydd stigma ond nid ydym yn datrys stigma drwy newid termau.

Serch hynny, rwy’n llwyr barchu bod hawl gan unigolion o dan ein gofal i ddewis uniaethu ym mha bynnag ffordd yr hoffent. Felly, os yw unigolyn sy’n derbyn gofal eisiau dewis uniaethu fel defnyddiwr gofal rwy’n hollol hapus iddynt wneud hynny a byddaf yn parchu eu dewis.

O brofiad, mae sawl barn wahanol gan gleifion ynglŷn â thermau.

Mae salwch meddwl yn salwch go iawn.

Mae seiciatryddion yn feddygon go iawn.

Cleifion yw pobl dan ofal seiciatryddion.

Mae Seiciatryddion yn wynebu heriau cynyddol i ymwneud ag ystod o weithgareddau, o therapïau seicolegol at rolau arweinydd. Beth sy’n unigryw amdanynt a beth yw eu dyfodol yng ngwasanaethau iechyd meddwl? - Enw

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae seiciatryddion yn plethu rolau lluosog gan gynnwys arsyllu i fywydau pobl sy’n debycach i sgil artist, yn ogystal â bod yn glinigydd-wyddonydd sy’n creu tystiolaeth a’i roi ar waith. Mae seiciatryddion yn eiriolwyr sy’n hawlio tegwch a chyfiawnder cymdeithasol ym myd gofal, ac felly’n diwygio polisïau yn lleol ac yn fyd-eang; ac rydym yn arweinwyr systemau sy’n ymdrin ag ansicrwydd y GIG a systemau cymdeithasol. Rhaid i ni wynebu’r heriau hyn â hyder, dewrder ac ymroddiad dros y canlyniad cywir ar gyfer y bobl sy’n bwysig, cleifion a’r cyhoedd.

Gweithredwn ar draws ffiniau systemau er mwyn sicrhau’r gofal orau, ac rydym yn unigryw wrth ddod â safbwynt cyfannol ac integredig ar ofal iechyd, o enynnau/moleciwlau/bioleg, drwy safbwyntiau seicolegol a ffyrdd o fyw, ac yn ogystal â chynnwys rôl amgylcheddol a dylanwadau cymdeithasol ar iechyd a salwch. Wrth gwrs, rydym oll yn feddygon, sydd wedi ein hyfforddi mewn bioleg a ffarmacoleg yn wahanol i bawb arall yn y sector iechyd meddwl.

Rydym yn dueddol o guddio ein gwybodaeth a sgiliau, a rhain i ni wneud yn well wrth rannu'r rhain gyda’r cyhoedd ehangach ac arbenigwyr eraill; byddwn angen egluro’r rôl gymhleth sydd gan arbenigeddau ym myd gofal iechyd.

Mae trawsnewid cyflym ar y gweill yn nyfodol gwasanaethau iechyd meddwl. Rhaid i ni arwain diwygiadau ac esblygu’r rôl o seiciatrydd ymgynghorol, hyfforddedigion, a llwybrau gyrfa eraill. Mae seiciatryddion yn ganolog i lwyddiant gwasanaethau iechyd ac mae’n ofynnol eu bod wrth wraidd meddygaeth a chymdeithas er mwyn gwella iechyd meddwl cleifion, gofalwyr, teuluoedd, y gweithlu a chymdeithas.

Dr Adrian James

Bydd seiciatryddion yn parhau i arwain ym myd iechyd meddwl. Mae’r cyhoedd, y cyfryngau, gwleidyddion a chrewyr polisi yn parchu ein barn. Mae hyn yn cyd-fynd ag arbenigeddau meddygol eraill. Dangosai arolygon barn bod pobl am weld buddsoddiad uwch o lawer ym myd iechyd meddwl ac mai seiciatryddion yw’r rhai i arwain y newid hwn.

Mae seiciatryddion yn gweld cleifion fel pobl gyflawn â hanes bywyd sy’n golygu bod angen cysylltiad cadarn gyda phobl sydd yn anhwylus a bregus.

Rydym yn arbenigwyr wrth ymdrin â chymhlethdodau a chyd-drefnu sgiliau tîm drwy ddefnyddio amryw o ddulliau. Mae ein hyfforddiant meddygol cynhwysfawr yn ein galluogi i reoli’r rhinweddau corfforol hanfodol o salwch meddwl. Mae ein haddysg a phrofiad yn ein galluogi i droedio llwybr gofalus rhwng hawliau dynol, moeseg a’r gyfraith. Rydym yn arbenigwyr wrth ganfod, sef cam cyntaf cynllun triniaeth. O’r diwrnod cyntaf dysgwn y sgiliau i fod yn arweinwyr a chyplysu hynny â chyfoeth gweithio’n amlddisgyblaethol.

Mae gan seiciatryddion lawer i’w gynnig i gleifion a’r system. Ar y llaw arall, mae angen mwy ohonom, gyda gwell cymorth a’r cyfleoedd i greu gwir newid. Mae hyn yn cynnwys ymchwil, ymwneud â gwella ansawdd, a chyrraedd y swyddi uchaf o fewn arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd. Bydd gwelliannau ym myd niwrowyddoniaeth a geneteg yn arwain at driniaethau na ellir eu rhagweld. Bydd seiciatryddion yng nghanol y datblygiadau hyn.

Mae dyfodol disglair gan y proffesiwn seiciatryddol. Mae pobl ein hangen.

Yr Athro Pamela Taylor CBE

Hyfforddir seiciatryddion yn gyfannol. Hyfforddwn ym meysydd meddygaeth, llawdriniaeth, obstetreg, iechyd plant... Mae’r rhestr yn un hir. Dysgwn am gymhlethdodau’r corff dynol, iechyd ac afiechyd. Datblygwn rywfaint o ddealltwriaeth o effaith cyflwr meddwl a’r cyd-destun iechyd cymdeithasol a chyhoeddus arno. Yna, arbenigwn mewn gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â’r ymennydd a’r meddwl. Nid oes y fath ystod o fewn unrhyw arbenigedd meddygol neu faes proffesiynol ehangach arall. Felly, rydym yn hanfodol ar gyfer dyfodol gwasanaethau iechyd yn gyffredinol - nid gwasanaethau iechyd meddwl yn unig.

Wedi dweud hynny, cydnabyddwn fod seicotherapi a phresgripsiynu, a rheoli gwahanol grwpiau o anhwylderau iechyd yn gofyn am sgiliau arbenigol uwch - felly mae yna hyfforddiant arbenigol ychwanegol o fewn seiciatreg, gyda sail dystiolaeth gynyddol dros yr hyn a wnawn. Hefyd, hyfforddwn a dilynwn brentisiaethau arweinyddiaeth - rhaid ennill sgiliau arweinyddiaeth fel unrhyw sgil arall, ac ni ddylid eu cymryd yn ganiataol.

Ceir heriau amrywiol i ein rolau. Rhaid ymwneud â phob un ac urddas a chadernid. Gall unigolion heb y fath hyfforddiant eang gyfrannu mewn ffyrdd gwerthfawr, ond ni ddylid disgwyl iddynt fabwysiadu rolau arweinyddiaeth seiciatryddol effeithiol. Mae cyflogi seiciatryddion yn gostus - gall fod yn fwy costus peidio! Rhoir rhy ychydig o arian at ein gwasanaethau - gall hynny arwain at golli unigolion sy’n gorfod darparu arbenigedd proffesiynol dan y fath amgylchiadau. Un agwedd ar ein harweinyddiaeth yw cadw tystiolaeth gyfoes ac eglur o’r anghenion ar ein gwasanaeth, ac yna cyflwyno’r cyfrifoldeb ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y man cywir - sef gyda’r llywodraeth.

Sut gall y Llywydd weithio er mwyn cynyddu medrusrwydd mewn meysydd arbenigol - megis anhwylderau bwyta - a pharhau i helpu pawb i gadw mewn cysylltiad ac yn dra hyddysg ac â’r gallu i addysgu ein gilydd yn gyfadrannol o’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl? - Dr Agnes Ayton

Dr Adrian James

Mae anhwylderau bwyta yn salwch meddwl o blith y rhai mwyaf difrifol, gyda chyfraddau marwolaethau ac afiachedd uchel. Nid oes digon o arbenigwyr yn y maes ac yn arolwg mwyaf diweddar y Coleg o’r gweithlu, dyma ble roedd y nifer fwyaf o swyddi heb eu llenwi. Ym mis Hydref 2019 tynnwyd sylw at hyn gennym mewn nifer o hanesion gan y wasg.

Yn gyntaf, rydym angen mwy o seiciatryddion. Gofynnwyd gan y Coleg am ddwywaith y nifer o lefydd mewn ysgolion meddygol er mwyn dyblu’r niferoedd sy’n dewis gyrfa mewn seiciatreg.

Yn ail, rhaid i ni sicrhau bod gan seiciatryddion yr amser, arian a’r gefnogaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Rwy’n ymwybodol bod nifer o seiciatryddion yn poeni bod yr amser ar ei gyfer yn cael ei leihau wrth i wasanaethau cael eu gorymestyn.  Mae’n gam gwag i leihau cyfleoedd addysg a hyfforddiant, ac mae hyn yn hanfodol ar gyfer lles y gweithlu.

Yn drydydd, dylem ddatblygu’r hyfforddiant ardderchog a ddarperir eisoes gan seiciatryddion sy’n arbenigo ym maes anhwylderau bwyta. Byddaf yn mynychu Cynhadledd Cyfadran Anhwylder Bwyta yn Llundain ar 4 Rhagfyr.

Yn bedwaredd, dylem ehangu mynediad i’r hyfforddiant a’r cynadleddau anhwylder bwyta (ac arbenigeddau eraill) i holl seiciatryddion gan ddefnyddio tîm y Ganolfan Golegol ar gyfer Dysgu Pellach a Chynadledda, ac yn enwedig drwy’r Gyngres Ryngwladol, sy’n mynd o nerth i nerth.

Yn bumed, mae’r Coleg yn meddu ar adnoddau dysgu ar-lein rhagorol, gan gynnwys podlediadau. Gydag amser ac arian yn brin mae angen gwell mynediad arnom at e-ddysgu. Mae’r Coleg yn edrych i gynnig mwy o areithiau a darlithoedd yn fyw ar-lein. Cefnogwn wneud hyn ar sail pragmatiaeth, economi, cyfleustra a chynaliadwyedd.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Mae tystiolaeth ddyddiol bod angen am fedrusrwydd mewn meysydd arbenigol - poblogaeth sy’n heneiddio, cynnydd yn y niferoedd sy’n marw a hunan niweidio yn y carchar, galw gormodol ymysg pobl ifanc, bygythiadau newydd opiadau dan bresgripsiwn, penderfyniadau i’w cymryd, neu beidio, am gyfreithloni canabis, lleihau yfed niweidiol. Rôl bwysig y Llywydd yw codi ymwybyddiaeth am yr hyn gellir ei wneud gyda’r adnoddau cywir - gydag asiantaethau’r llywodraeth a gyda’r cyhoedd.

Mae toreth o arbenigedd yn y Cyfadrannau, a gall y Llywydd ei ddefnyddio yn fwy na’r presennol. Mae angen Adnoddau ar rai, fel y gyfadran ddibyniaeth, er mwyn eu hadfywio. Y gyfadran fach anhwylderau bwyta hefyd – mae’n ateb nid yn unig yr heriau o anhwylderau anorecsia ond cyfraddau cynyddol o ordewdra ac anhwylder metabolig, sydd yn bosibl eu hystyried yn anhwylderau bwyta mewn rhai achosion.

Yn ogystal, buaswn yn edrych i ddefnyddio mwy ar y cryfderau yn y Cynghorau datganoledig. Mae cynghorau’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn gwneud gwaith gwych yn eu gwledydd, ond gyda’u rôl ganolog i’w weld wedi’i gyfyngu at adrodd iddynt. Gall y Llywydd hwyluso cynllunio arloesol wrth gynyddu deialog.

Mae’r adnewyddu a’r datblygiad o gwricwla’r meysydd arbenigol yn creu cyfleoedd nid yn unig ar gyfer gwella hyfforddiant yn y meysydd arbenigol ond ar gyfer ehangu cysylltiadau. Dylai bob maes arbenigol ddiffinio pa rai o’i sgiliau sy’n hanfodol i bawb a helpu i’w datblygu ar draws y cwricwla. Mae angen mwy o hyfforddiant deuol - datblygu dulliau creadigol gall gynnwys meysydd arbenigol o du hwnt i seiciatreg. Rhaid i bob maes arbenigol gefnogi a chyfrannu at hyfforddiant cyffredinol seiciatreg oedolion. Heb gryfder yma, byddai bron popeth arall yn methu.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Yn fy natganiad, nodais fod rhaid i ni uno ar draws meysydd arbenigol, adrannau, cyfadrannau, gwaith clinigol ac academig. Mae hyn yn hanfodol er mwyn dylanwadu ac er mwyn rhyddhau talentau bob aelod. Mae’n amlwg bod meysydd arbenigol yn hanfodol ar gyfer gwella safonau ac arfer ymhlith rheini sy’n wynebu cyfuniadau cymhleth o salwch, wedi’u hesgeuluso yn aml, ac yn annealledig - y salwch ar adegau penodol o fywyd, neu ar draws ffiniau disgyblaethau, neu ble mae tystiolaeth annigonol o’r hyn sy’n gweithio. Serch hynny, rhaid i ni fod yn arweinwyr cydweithredol a gweithio mewn partneriaeth ar draws rhaniadau posibl, a rhannu talentau a’r wybodaeth (o fewn y coleg a thu hwnt) er mwyn dylanwadu ar bolisi ac arfer drwy’r GIG, a systemau iechyd byd -eang.

Rwyf am weld adnoddau yn cael eu symud o’r canol at gyfadrannau, adrannau, ardaloedd a meysydd arbenigol er mwyn cydweithio yn fwy effeithiol ac effeithio ar y systemau iechyd lleol ble y gweithiwn. Rydym angen cysylltiadau blaengar a rhannu amcanion a gweithrediadau: er enghraifft mae’r fenter 0-25, a’r dilyniant mewn gofal rhwng gwasanaethau’r oedolyn a gwasanaethau’r henoed, angen y fath gysylltiadau. Anhwylderau bwyta, anawsterau dysgu, plant a glasoed, cyswllt, amenedigol, gofal ddibyniaeth – maent oll yn gritigol yng ngofal yr oedolyn a’r henoed.

Byddaf yn dadleu dros gwricwlwm mwy integredig ar gyfer myfyrwyr meddygol, meddygon a seiciatryddion, a Datblygiad Proffesiynol Parhaus cyfatebol. Byddaf yn gofyn am fwy o hyfforddiant ym maes maeth, a’r rhyngwyneb meddwl-corff, a sut mae anhwylderau bwyta, er enghraifft, angen ei hyrwyddo o safbwynt yr ymchwil arbenigol a thystiolaeth arferiad. Nid yw’r hollt rhwng yr academig a’r clinigol wedi bod o fantais i gleifion; rhaid i ni weithredu yn gytûn.

Beth ydych chi’n feddwl yw’r goblygiadau ar gyfer salwch meddwl o’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, a beth ydych chi’n feddwl yw rôl seiciatryddion wrth ymateb i hyn? – Dr Catriona Mellor

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Bydd ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth yn gofyn am gadernid academaidd er mwyn cynnal ymchwil o safon sy’n ein galluogi i lwyr ddeall yr hyn sy’n sail i ymatebion negyddol ac yn sail i gydnerthedd, creu datrysiadau i’r cyntaf a meithrin yr ail.

Yn y cyfamser, rhaid defnyddio’r wybodaeth am brofiadau perthnasol. Yn y tymor byr, rydym yn debygol o ddioddef mwy o drychinebau naturiol neu ddigwyddiadau eithriadol. Mae’r gwaethaf hyd yma wedi digwydd dramor. Mae dyletswydd arnom i gydweithio â chydweithwyr dramor i’w helpu ac i ddysgu. Serch hynny, yn y DU rydym wedi dioddef llifogydd yn amlach, ac mae tanau mynydd yn edrych fel petaent yn fwy eang ac allan o reolaeth nac yn y gorffennol. Mae marwolaethau, colli cartref a cholli hoff feddiannau yn ddigwyddiadau sydd yn creu risg ymhlith rhai o anhwylderau straen wedi trawma ac, yn eu tro, afiechydon eraill difrifol – corfforol a seiciatrig. Mae peth wybodaeth gennym o’r hyn sy’n gweithio i leihau symptomau – a beth gall niweidio – a pheth wybodaeth o gynllunio ar gyfer ymateb i argyfwng, ond mae angen mwy.

Os ni ellir arafu’r newid - neu’n rhy araf, petai hynny’n bosibl - gall pobl ddioddef anobaith, nid yn unig ag effaith trychinebus personol ond hefyd o weld y posibilrwydd yn lleihau bod modd gwneud newidiadau effeithiol. Bydd goroesi'r un mor ddibynnol ar iechyd meddwl a chydnerthedd nag ar adnoddau naturiol.

Fel seiciatryddion rydym hefyd yn ddinasyddion. Rhaid i ni ddeall cymaint â phosib y camau sydd angen eu cymryd er mwyn lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd, ac annog ein cyd-ddinasyddion i wneud hynny hefyd er mwyn sicrhau bod y Coleg ei hunan yn dangos y ffordd.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Mae hyn yn bwysig iawn. Mae newid hinsawdd a chynhesu byd-eang yn real, ac yn arwain at drychinebau naturiol, llifogydd, llygredd ac eithafoedd hinsawdd. Mae'r rhain oll yn lleihau iechyd meddwl drwy ofid, digwyddiadau bywyd trawmatig a thlodi. Mae'r rhain yn sefyllfaoedd sydd hefyd yn herio strwythurau gofal iechyd confensiynol ac arferion sefydliadol. Rhaid hefyd ystyried maeth, a ffynonellau sy’n iachus a chynaliadwy.

Felly, rwyf am fynd i’r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth fel gweithred ataliol hir dymor, fel gwerth colegol ac arfer safonol. Rhaid i ni weithredu’n wahanol, manteisio ar dechnoleg, adnabod ffyrdd gwahanol o weithio a sut rydym yn cwblhau ein tasgau; ond rhaid cael technoleg berthnasol a systemau sy’n gydsyniol. Byddaf yn cefnogi'r rhain a cheisio technolegau gwell a dibynadwy yn ein gweithleoedd, yn y DU ac yn fyd-eang gan ein bod yn gydgysylltiol. Fel coleg, a gweithlu, rhaid i ni ddadansoddi gwaith ymgynghorydd a gweld sut gellir ei wella a manteisio ar systemau mwy gwyrdd. Rwyf wedi clywed hanesion ofnadwy gan nifer ohonoch am systemau electronig sy’n rhaid ymddiried ynddynt yn methu, systemau TG nad ydynt yn integredig na’n sythweledol nac yn addas i’r pwrpas, cofnodion papur a thaflenni a chylchgronau diangen.

Rhaid i ni ystyried ein defnydd o bapur, plastigion a deunyddiau pydradwy. Awgrymais hyn, er enghraifft, fel cadeirydd y Bwrdd Rheoli Cyhoeddiadau, sydd yn archwilio costau opsiynau ar gyfer cylchgronau, danfoniadau a phrint, neu’n electronig. Rwy’n cynnal adolygiad mwy manwl o hyn ac yn gobeithio awgrymu model ar gyfer y coleg.

Dr Adrian James

Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd dynol ryw: yn feddyliol ac yn gorfforol.

Dyma’r rheswm pam y datblygais am y tro cyntaf y swydd o Gofrestrydd Cyswllt dros Gynaliadwyedd. Apwyntiwyd Daniel Maughan, sydd wedi gweithio’n ddiwyd i hysbysu a chreu newid. Mae’r Coleg yn gweithio gyda chyrff iechyd eraill drwy ein haelodaeth o Gynghrair Iechyd y DU ar Newid Hinsawdd. Yn ddiweddar pwysleisiom y galw dwys i ymdrin â newid hinsawdd mewn ymateb i’r protestiadau ym mis Medi 2019.

Mae effeithiau newid hinsawdd yn creu dinistr (e.e. trychinebau naturiol, llifogydd, sychderau ayyb.) i’r rhai sy’n dioddef ac mae yna gyswllt clir â chynnydd mewn salwch meddwl a hunanladdiad. Mae’r effaith ar ei waethaf ymysg y tlotaf. Gwnaed cysylltiad yn ddiweddar rhwng llygredd aer â chynnydd yn y risg o ddementia.

Ein hymateb?

Yn gyntaf, rhaid i ni barhau i fynnu gweithrediad ar newid hinsawdd.

Yn ail, mynnu bod mwy o ymchwil ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd meddwl.

Yn drydydd, gweithredu yn ein sefydliadau ein hunain i leihau ein hôl troed carbon. Mae cyfraniad enfawr gan y GIG at newid hinsawdd. Mae angen polisïau arnom sy’n hyrwyddo dulliau ecogyfeillgar o presgripsiynu a thrafnidiaeth.

Yn bedwerydd, dadlau am ragor o adnoddau er mwyn trin effeithiau newid hinsawdd ar iechyd meddwl.

Yn bumed, fel gweithwyr iechyd proffesiynol mae angen i ni leihau ein hôl troed carbon unigol. Rwyf wedi seiclo i’r gwaith ers sawl mlynedd. Rwy’n ei argymell ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol da.

Yn chweched, rhaid i ni hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ble mae’r dystiolaeth yn cefnogi hynny,

Beth yw eich barn am yr effaith fydd diffyg seiciatryddion arbenigol ym maes ddibyniaethau yn ei gael ar ddarpariaeth gofal i gleifion yn y gwasanaethau iechyd meddwl, yn ogystal ag ansawdd yr hyfforddiant fydd ar gael i seiciatryddion yn gyffredinol, a beth fyddech yn ei wneud i wella’r sefyllfa? – Yr Athro Julia Sinclair, ar ran y Gyfadran Ddibyniaethau.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Gall lleoli gwasanaethau dibyniaethau o fewn adrannau iechyd y cyhoedd edrych fel syniad da, ond aneffeithiol os yw’r asiantaethau yn trin dibyniaethau fel anhwylderau nad ydynt yn gymhleth a meddwl nad oes angen ymyrraeth arbenigol ac arbenigwyr, neu’n lleihau lefelau’r ymyrraeth fyddai’n arwain at farwolaethau cynnar neu gellir eu hatal (gweler erthyglau golygyddol diweddar yn BJPsych). Rydym hefyd yn ymwybodol bod afiachusrwydd lluosog yn arwain at iechyd meddwl gwael gofal argyfwng costus. Mae diffyg gweithredu rhyfeddol gan asiantaethau iechyd i gydnabod bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i newidiadau mewn polisïau a chomisiynu.

Mae angen mynd i’r afael â stigma, ac atgoffa pawb o’r angen am wasanaethau dileu dibyniaethau, gyda’r niferoedd addas o seiciatryddion ac arbenigeddau amlddisgyblaethol yn cydweithio’n agos ag eraill yn y sector iechyd meddwl a gofal cymdeithasol. Bydd angen i ni gryfhau’r cwricwla hyfforddiant ar gyfer seiciatryddion i gyd, meddygon cartref a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill. Mae Julia Sinclair, Peter Byrne, Owen Bowden-Jones, ac eraill wedi ymgyrchu’n hir ar y materion hyn. Y methiant sylfaenol yw diffyg ymwybyddiaeth o’r dystiolaeth gan y byd iechyd ehangach. Mae hon yn rôl bwysig i’r coleg, cyflwyno’r dystiolaeth i’r cyhoedd, comisiynwyr, gwleidyddion ac ysgrifenwyr polisi, a chreu datrysiadau deniadol sy’n arbed bywydau a lleihau’r gost o ofal argyfwng. Byddaf yn argymell hyn oll, a buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau, beth bynnag eu lleoliad. Byddaf yn ceisio gwell cysondeb rhwng iechyd y cyhoedd/ataliad ac ymyraethau dwys arbenigol, sydd yn effeithiol ond wedi eu hesgeuluso.

Dr Adrian James

Torrwyd y gwasanaeth ddibyniaethau yn sylweddol yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gyda’r nifer o Ymgynghorwyr a hyfforddedigion wedi’u haneru. Yn bersonol rwyf wedi cwrdd ag ein harbenigwyr dibyniaethau gwych, gwleidyddion, comisiynwyr ac ysgrifenwyr polisi, ac yn rheolaidd rwyf wedi tynnu sylw at y sefyllfa ofnadwy hon, ac mae’r coleg wedi gwneud hyn yn ogystal. Mae nifer y gwelyau wedi lleihau’n sylweddol, a rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau wedi ehangu neu nid oes gwasanaeth ar gael o gwbl. Mae’r rheswm dros hyn yn Lloegr yn ymwneud â newid i’r drefn gomisiynu gydag awdurdodau lleol â’r cyfrifoldeb drosto, ond mewn gwirionedd nid oes cyllid na chefnogaeth ddigonol i’r gwasanaethau hyn ar hyd a lled y DU.

Mae goblygiadau hyn yn ddifrifol. Mae’r cyfraddau marwolaeth wedi cynyddu. Nid yw anhwylderau triniadwy yn cael eu trin. Mae’r unigolion â’r anghenion mwyaf dwys wedi cael anhawster difrifol i dderbyn y driniaeth sydd wedi cael effaith negyddol iawn ar weddill seiciatreg. Rydym yn y sefyllfa ble mae perygl colli’r arbenigedd yn gyfan gwbl. Ni all hyn ddigwydd. Bues i gwrdd â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ym mis Hydref 2019 er mwyn trafod yr anhawster sydd ganddynt wrth ddarganfod digon o arbenigwyr dibyniaeth er mwyn goruchwylio meddygon ag anhwylderau defnydd sylweddau.

Buaswn yn:

Pwyso ar y GIG i gomisiynu’r holl wasanaethau a sicrhau eu bod wedi’u hintegreiddio o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl ehangach.

Trefnu ymgyrch godi ymwybyddiaeth o’r mater a’i effeithiau andwyol.

Pwyso am ddwywaith gymaint o swyddi hyfforddi ar ddibyniaeth. Bydd hyn yn golygu llawer iawn o gynllunio ac mae angen gweithlu penodol.

Gofyn am gynnydd sylweddol yn y gwariant ar gyfer y maes ddibyniaeth.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Yn ffodus nid oes ar hyn o bryd ddiffyg o seiciatryddion sy’n arbenigo ym maes ddibyniaeth. Byr debyg bod cnewyllyn digonol o arbenigedd er mwyn ailadeiladu, ond rhaid gweithredu’n gyflym. Mewn arbenigedd ble mae niferoedd llai, rydym mewn perygl o gyrraedd y man di-droi’n-ôl.

Mae goblygiadau enfawr i leihau arbenigedd seiciatreg ym maes dibyniaeth. Mae unigolion ag anhwylderau cynradd camddefnyddio sylweddau yn ei chael yn anodd cael triniaeth. Mae anhwylderau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau gan eraill, er enghraifft tua 40% gyda sgitsoffrenia. Mae trais yn fwy tebygol ymhlith y rhai sydd â salwch ac anhwylderau camddefnyddio sylweddau. Yn yr Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Lofruddiaethau mwyaf diweddar, roedd cyd-destun camddefnyddio sylweddau i bron bob llofruddiaeth gan unigolion â seicosis. Faint ohonoch, gyda llaw, oedd yn ymwybodol nad yw’r ymchwiliad hwn bellach yn cael ei gyllido? - ased cenedlaethol enfawr arall sydd angen ei adfer! Mae dadansoddiad o’r ymholiadau unigol yn dilyn llofruddiaethau yn dangos ni chyfeiriwyd cleifion oedd yn oedolion at arbenigwr camddefnydd sylweddau, ond yn aml cawsant eu gollwng gan wasanaethau cyffredinol wrth iddynt ddod yn fwy afreolus wrth ddefnyddio.

Yr unig gyflyrau sydd wedi eu heithrio o’r ddeddfwriaeth iechyd meddwl yw anhwylderau camddefnyddio sylweddau – pam? Dylai’r Llywydd weithio gydag arbenigwyr ym maes dibyniaeth, yn gyntaf, er mwyn addysgu eraill am ddibyniaeth fel cyflyrau bio-seicogymdeithasol gyda llwybrau genynnol a niwrolegol a allai fod mor ddealladwy ag afiechydon mwy arferol. Byddai’r Academi Gwyddorau Meddygol yn bartner da wrth wneud hyn. Yna, dylai’r Llywydd ac arbenigwyr ym maes dibyniaeth gydweithio i ail-gyflwyno gwaith yn ymwneud â dibyniaeth yn ôl ym mhrif ffrwd y GIG. Mae Adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Llywodraeth yn amserol.

Petaech yn cael eich ethol yn Llywydd, sut fyddech chi’n gweithio mewn ffordd gynhwysol â’r Mudiadau ar Wasgar amrywiol? - Dr Santosh Mudholkar

Dr Adrian James

Yn fy rôl fel Cofrestrydd rwyf wedi gweithio’n agos â Mudiadau ar Wasgar, gan fynychu’r Pwyllgor Grwpiau Ar Wasgar eleni, y Pwyllgor Ymgynghorol Rhyngwladol, cyfarfod blynyddol Cymdeithas Seiciatrig Indiaidd Prydeinig yn y Coleg eleni (am y trydydd tro; mae’n fraint fy mod wedi cael fy nerbyn fel Cyfaill y BIPA) a hefyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Seiciatrig Indiaidd yn Lucknow eleni. Edrychaf ymlaen at fynychu cyfarfod Cymdeithas Seiciatrig Pacistanaidd Prydeinig eleni ym mis Tachwedd. Yn bennaf, rwyf wedi gwrando ar farn, pryderon a heriau’r aelodau unigol. Mae’r seiciatryddion o’r grwpiau ar Wasgar  wedi chwarae rôl enfawr wrth arwain a datblygu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a hebddynt buasai gwasanaethau seiciatrig y DU heb oroesi.

Petawn yn cael fy ethol buaswn yn:

Cysylltu â’r holl grwpiau er mwyn gweld sut y buasent am i mi ymwneud â hwy.

Gwrando ar bryderon a heriau, a chyd-benderfynu'r ffordd ymlaen.

Un o fy nhair blaenoriaeth allweddol yw gwerthfawrogi a hyrwyddo amrywiaeth o fewn y Coleg a buaswn yn cyflwyno rhaglen er mwyn sicrhau hyn, a bod cefnogaeth gan yr holl aelodau i’w galluogi i roi o’u gorau.

Mae angen i’r Llywydd fod yn bresennol mewn cyfarfodydd ar hyd a lled y DU ac fel sefydliad rhyngwladol buaswn yn parhau i ymweld â seiciatryddion a sefydliadau seiciatrig ledled y byd.

Ar gael i bob aelod yn bersonol a thrwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol.

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Petawn yn cael fy ethol yn Llywydd rwy’n rhagweld bydd rhai agweddau o weithio gyda Mudiadau ar Wasgar yn ddigon syml ac eraill ble bydd angen dipyn o help arnaf. Byddai’r syml yn unrhyw waith sydd yn gydfuddiannol. Er mwyn sicrhau nad oes gwallau wrth wneud diagnosis o anhwylder rhaid deall y cyd-destun diwylliannol cymaint â phosibl, ac mae hyn hefyd yn hanfodol er mwyn gwneud y mwyaf o’r driniaeth ble mae’n addas. Rwyf wedi dysgu cymaint o du hwnt i fy mhrif grŵp diwylliannol sydd wedi gwella fy ngallu i weithredu. Gall strategaethau triniaeth sydd wedi eu datblygu gan grwpiau lleiafrifol yn y diwylliant pennaf, hefyd fod o fudd i’r mwyafrif - a gall hynny ond gwella ein parch at ein gilydd.

Mae tystiolaeth bod rhai grwpiau lleiafrifol yn y DU yn cael gwasanaeth is ar hyn o bryd a'i bod yn fwy tebygol o lawer i gael mynediad gorfodol fel claf ysbyty mewn argyfwng. Petasem yn gallu gwneud gwasanaethau llai cyfyng yn fwy deniadol iddynt gellir datrys y broblem hon. Serch hynny, mae hefyd i’w weld bod rhai yn fwy annhebygol o fod angen mynediad at driniaeth yn y ffordd hon - ydynt yn fwy llwyddiannus na’r gweddill ohonom wrth reoli problemau rheoli iechyd meddwl? Beth allem ddysgu ganddynt?

Efallai fy mod angen mwy o gymorth gyda’r maes hwn nac oeddwn yn sylweddoli, ond rwyf yn sicr yn ymwybodol fod yna rai grwpiau nad oes gennyf lawer o wybodaeth amdanynt. Mae gen i’r diddordeb ac rwyf wastad yn barod i ddysgu!

Yr Athro Kam Bhui CBE

Wel, rwyf yn ymfudwr, yn aelod o grŵp ar wasgar penodol, yn enedigol o Kenya, ac o dreftadaeth Sikh Pwnjabaidd. Rwyf wedi gweithio gyda Mudiadau ar Wasgar o fewn a thu allan i’r coleg ers degawdau. Mae Mudiadau ar Wasgar yn cyfrannu cymaint i’r coleg, i gleifion, i’r GIG, ac i gymdeithas. Rhaid i ni gydnabod hyn yn well.

Byddaf yn sicrhau bod croeso ar gyfer ymfudwyr newydd, traddodiadau diwylliannol a phobl ar wasgar, a bod ein coleg yn un cynhwysol. Golygai hyn adnabod ac ymateb i rwystrau strwythurol, ac rwyf wedi amlinellu'r rhain yn y llwyfan etholiad (fideo ar-lein) ac yn fy maniffesto. Cefnogwn ein HOLL aelodau drwy sefydliadau tebyg, a helpwn fynd i’r afael â phrosesau a pholisïau annheg o fewn y coleg a chymdeithas; er enghraifft, sylwi ac ymateb i ganlyniadau anhafal arholiadau, cefnogi pawb wrth fwynhau ein cymdeithas a choleg amlddiwylliannol, a bod yn rhydd i fwynhau eu traddodiadau ac arferion diwylliannol a chrefyddol unigryw a chyfoethog. Mae hyn yn creu coleg blaengar ac anhygoel. Ond mae llawer eto i’w wneud.

Rwyf wastad wedi cefnogi ymarferion a pholisïau gwrth-hiliol a chydraddoldeb. Rhaid bod yn ddewr, a byddaf  yn parhau i wneud hynny. Wrth ymwneud â’r materion hyn, roeddwn yn gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig Traws-ddiwylliannol Coleg Brenhinol y Seiciatryddion,  yn Llywydd Cymdeithas Fyd-eang Seiciatreg Ddiwylliannol, a gweithiais ar Bwyllgor Gwaith Adran Traws-ddiwylliannol y WPA, a heddiw mae fy rhaglenni ymchwil yn ymchwilio i ymarferion a pholisïau cydraddoldeb. Rwy’n parhau i wrthsefyll rhethreg eithafol ac mae rôl gan y coleg yn cefnogi'r holl aelodau yn lleol a ledled y byd.

Beth yw rôl seiciatreg nawr gan nad yw dysfforia rhywedd bellach yn cael ei ystyried yn salwch meddwl (yn ôl ICD-11) ond yn anhwylder corfforol? – Dr Lucy Griffin a Dr Katie Clyde

Yr Athro Pamela Jane Taylor CBE

Mae’n ddyddiau cynnar wrth i ni ailfeddwl cyfraniad seiciatreg gyda phobl â dysfforia rhywedd. Yn y gorffennol, nid yw hanes seiciatreg yn un eithriadol o bositif yn nhermau’r hyn a elwir yn ‘anhwylderau rhywedd’. Yn fwy na dim, mae’n bwysig bellach ein bod yn gwrando.

Mae rôl gan seicoleg mewn atal anhwylder yn ogystal â’i asesu a’r driniaeth ohono. Mae digwyddiadau mawr mewn bywyd a newidiadau yn creu pwysau o bob math. A dweud y lleiaf, mae’r gred bod y corff a’r hunaniaeth yn wahanol, neu sylweddoli yn ddiamod bod hynny’n wir, yn debygol o greu poen meddwl. Efallai byddai hynny hyd yn oed yn fwy wrth wneud newidiadau bywyd sylweddol. Mae gan seicolegwyr y sgiliau perthnasol i gynorthwyo. Gall nifer ohonom, ac yn wir mae nifer ohonom yn barod yn cynnig rhywfaint o help i unigolion sy’n ei chael yn anodd ymdopi â’r fath sefyllfa, er mai nifer fechan ohonom sydd â mwy na phrofiad achlysurol.

Er mwyn ein cynorthwyo i gynnig yr help mwyaf addas byddai’n fuddiol petasem yn gallu gweithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi profi llwyddiant wrth ddelio â’r materion hyn. Buaswn yn argymell bod y Coleg yn cychwyn grŵp cydweithredol cenedlaethol er mwyn hyrwyddo hyn a chynnig cyngor addas, efallai drwy un neu ddau ganolfan Cenedlaethol.

Yr Athro Kam Bhui CBE

Cwestiwn pwysig iawn. DSM5 sy’n defnyddio’r term dysfforia rhywedd yn hytrach nag anhwylder hunaniaeth rhywedd. Mae ICD-11, yn yr adran ar iechyd rhywiol, yn defnyddio’r term anghydweddiad rhywedd, sy’n cyfeirio at yr anghydweddiad rhwng y rhywedd a brofwyd a’r rhyw sydd wedi ei bennu. Mae’r termau hyn yn eang ac yn debygol o gynnwys nifer o brofiadau nid oes modd eu categoreiddio. Yn aml geir casgliadau ymhlyg sy’n fawr o help ac sy’n dweud mwy am bobl a chymdeithas na’r unigolion sydd yn gofyn am ofal. O ganlyniad, mae nifer (gan fy nghynnwys i) yn naturiol yn teimlo’n anniddig bod y fath faterion i’w gweld mewn cyfeirlyfrau diagnostig, er ei fod hefyd yn arwain tuag at dderbyn gofal. Gweithiais am ddegawd a mwy mewn clinigau iechyd rhywiol a rhywedd gan weld llawer iawn o ofid oherwydd rhagfarn, ynghyd â cheisiadau am gymorth. Gwaetha’r modd nid yw’r fath wasanaethau mor gyffredin ag yr oeddent yn arfer bod.

Y rhesymeg ar gyfer y newidiadau yw osgoi stigma. Buaswn yn dadlau dros yr angen am well gofal ar sail iechyd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, a gwasanaethau iechyd meddwl i bawb sy’n gofyn am help. Gall seiciatryddion fod yn gefn i bobl sy’n dioddef gofid neu salwch seiciatrig, ac i’r clinigwyr sy’n gofalu amdanynt. Salwch seiciatrig neu’r angen am seicotherapi ddylai benderfynu os ddylai seiciatryddion fod yn rhan o’r gofal, fel sydd yn wir gydag unrhyw anhwylder yn y rhyngwyneb meddwl a chorff. Mae gwneud asesiadau sydd wedi’u selio ar hanesion personol, sensitif yn sgil craidd gennym. Ein rôl hefyd yw addysgu a hysbysu clinigwyr o’r dystiolaeth gywir a darparu gwell tystiolaeth, herio stigma, a sicrhau bod gofal personol, teg a chefnogol ar gael ble bynnag y gelwir amdano.

Dr Adrian James

Yn ystod y ddeufis diwethaf rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â chydweithwyr o’r Alban ac o’r Ymddiriedolaeth Tavistock & Portman sy’n gweithio gyda phobl trawsryweddol er mwyn cael clywed am eu gwaith, yr heriau maent hwythau, a phobl â phrofiad bywyd o’r heriau, yn eu hwynebu ac er mwyn trafod ffyrdd datblygu priodol yn y maes tra newidiol hwn.

Mae cyfraddau salwch meddwl llawer uwch gan bobl trawsryweddol oherwydd materion megis stigma a’r amrywiaeth o heriau sydd i’w hwynebu.

Mae rôl hanfodol gan wasanaethau seiciatrig wrth gefnogi pobl trawsryweddol a sicrhau eu bod yn derbyn triniaeth arbenigol ac amserol ar gyfer eu hanhwylderau meddwl cydamserol.

Croesawir hyn gan y bobl trawsryweddol rwyf wedi’u cwrdd. Maent yn gofyn am ofal seiciatrig o safon gan unigolion sy’n deall eu sefyllfa. Gallaf weld seiciatryddion yn y maes yn darparu gwasanaeth cyswllt arbenigol. Mae angen llawer iawn mwy o ymchwil yn enwedig gan fod y niferoedd hyd yn hyn wedi bod yn fach ... ond maent ar dwf. Rydym angen cefnogi cydweithwyr yn y meysydd hynod arbenigol hyn. Maent yn aml yn derbyn beirniadaeth ac mae llawer o’r ohebiaeth yn y maes wedi bod yn wallus.

Dylai seiciatryddion fod yn agos at wasanaethau trawsryweddol ond ni ddylent eu cynnal. Dylem hefyd ddarparu hyfforddiant yn y maes ar gyfer holl seiciatryddion. Roeddwn yn ddigon ffodus eleni i fynychu sesiwn hynod addysgiadol yn y cyfarfod i ddathlu 25 mlynedd y Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn Yr Alban, a gynhaliwyd yn Dunblane. Argymhellwn hwn i bob seiciatrydd. Mae angen i ni oll fod yn fwy hyddysg yn y mater.