Mental health information in Welsh

Gwybodaeth iechyd meddwl yn Gymraeg

On this page you will find translations of our mental health information resources in Welsh. 

Please carefully read the disclaimer that accompanies each translation. It explains that the College cannot guarantee the quality of the translations, nor that the information is necessarily the most up to date.

Ar y dudalen hon fe welwch gyfieithiadau o'n hadnoddau gwybodaeth iechyd meddwl yn Gymraeg. 

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Translations in Welsh

Who are we?

The Royal College of Psychiatrists is the main professional body for psychiatrists in the UK. We have a world-wide membership.

We work to secure the best outcomes for people with mental illness, learning disabilities and developmental disorders by:

  • promoting excellent mental health services
  • training outstanding psychiatrists
  • promoting quality and research
  • setting standards
  • being the voice of psychiatry.

Pwy ydyn ni?

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yw'r prif gorff proffesiynol ar gyfer seiciatryddion yn y DU. Mae gennym aelodau ledled y byd.

Rydym yn gweithio i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl â salwch meddwl, anableddau dysgu ac anhwylderau datblygiad drwy:

  • hyrwyddo gwasanaethau iechyd meddwl rhagorol
  • hyfforddi seiciatryddion rhagorol
  • hyrwyddo ansawdd ac ymchwil
  • gosod safonau
  • bod yn llais i seiciatreg.

Why do we produce mental health information?

We believe that high-quality information can help people to make informed decisions about their health and care. We aim to produce information which is:

  • evidence-based
  • accessible
  • up to date.

Pam ydyn ni'n cynhyrchu gwybodaeth iechyd meddwl?

Rydyn ni'n credu y gall gwybodaeth o ansawdd uchel helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u gofal. Ein nod yw cynhyrchu gwybodaeth sydd:

  • yn seiliedig ar dystiolaeth
  • yn hygyrch
  • yn gyfredol.

How is our information written?

Our information is written by psychiatrists and other healthcare professionals. Our information is also developed with the support of patients and carers. This helps to ensure our information is representative of the lived experiences of people with mental illness.

We are grateful to the psychiatrists, healthcare professionals, College members, staff and experts who have helped to produce and review our information.

Sut mae ein gwybodaeth yn cael ei hysgrifennu?

Seiciatryddion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill sydd yn ysgrifennu ein gwybodaeth. Mae ein gwybodaeth hefyd yn cael ei datblygu gyda chefnogaeth cleifion a gofalwyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod ein gwybodaeth yn cynrychioli profiadau bywyd pobl â salwch meddwl.

Rydym yn ddiolchgar i'r seiciatryddion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, aelodau'r Coleg, staff ac arbenigwyr sydd wedi helpu i gynhyrchu ac adolygu ein gwybodaeth.

About our translations

In 2022, we began collaborating with a non-profit, CLEAR Global, and their community of more than 100,000 language volunteers, Translators without Borders. We are working with them to update the translations of our latest information resources in the most in-demand languages. You can see who delivered our translations at the bottom of each translated page.

Our translations are based on our mental health information resources in English. These resources reflect the best evidence available at the time of writing, and we aim to review our resources every three years. However, this is not always possible, and we have dated our resources to show when they were last reviewed.

Whenever we update our English resources, we will aim to update our translations. However, this will not always be possible.

If you have feedback on our translations you would like to share with us, you can contact leaflets@rcpsych.ac.uk 

Ein cyfieithiadau

Yn 2022, dechreuon ni gydweithio â chwmni di-elw, CLEAR Global, a’u cymuned o fwy na 100,000 o wirfoddolwyr iaith, Translators without Borders (Cyfieithwyr heb Ffiniau). Rydym yn gweithio gyda nhw i ddiweddaru’r cyfieithiadau o’n hadnoddau gwybodaeth diweddaraf yn yr ieithoedd y mae’r galw mwyaf amdanynt. Gallwch weld ar waelod pob tudalen a gyfieithwyd pwy ddarparodd ein cyfieithiadau.

Mae ein cyfieithiadau yn seiliedig ar ein hadnoddau gwybodaeth iechyd meddwl yn Saesneg. Mae'r adnoddau hyn yn adlewyrchu'r dystiolaeth orau oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r adroddiad hwn, a'n nod yw adolygu ein hadnoddau bob tair blynedd. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn bosibl, ac rydym wedi dyddio ein hadnoddau i ddangos pryd y cawsant eu hadolygu ddiwethaf.

Pryd bynnag y byddwn yn diweddaru ein hadnoddau Saesneg, byddwn yn anelu at ddiweddaru ein cyfieithiadau. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn bosibl bob tro.

Os hoffech chi rannu â ni unrhyw adborth am y cyfieithiadau, e-bostiwch leaflets@rcpsych.ac.uk