Asesiadau o'r effaith ar iechyd meddwl a lles

Gweithredai Gweinidogion yng Nghymru dan arweiniad Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, sy’n mynnu eu bod yn ystyried cyfraniad y polisi tuag at amcanion lles wrth wneud penderfyniadau polisi.

Mae’r Ddeddf wedi newid sut mae corfforaethau cyhoeddus yn ystyried eu penderfyniadau ac yn gwerthfawrogi prosiectau sy’n hyrwyddo buddion iechyd, amgylcheddol a chymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar elw yn unig. Mae hyn yn newid positif ac rydym yn falch fod Cymru ar flaen y gad yn fyd-eang yn y maes hwn.

Hoffem

  • Fod pob polisi a ddatblygir gan lywodraeth Cymru ac ar lefel awdurdod lleol, fel rhan o’i gyflwyno a’i ddatblygu, yn cyfeirio at yr ystyriaeth a roir i’r goblygiadau positif a negyddol ar iechyd meddwl.

Cyfleoedd pellach

 

Yn ogystal, mae’r Coleg wedi adnabod nifer o brosiectau hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yng nghyd-destun iechyd meddwl, yn ogystal â chynnwys rhai argymhellion ar sut gall Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry