Gweithlu

'Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru am weld gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol yn derbyn sylw cyfartal'

Hoffem

  • bod Llywodraeth Cymru yn ymddiried i greu mwy o swyddi seiciatryddion o fewn GIG Cymru, yn enwedig o fewn meysydd henoed, dibyniaeth ac anhwylderau bwyta, fel bo GIG Cymru yn cyd-fynd â’r norm rhyngwladol
  • bod HEIW yn datblygu llwybr gyrfa deniadol ar gyfer Cydymaith Meddygol yng Nghymru o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn y ddeddfwriaeth bresennol ‘Deddf Staffio Nyrsio (Cymru) 2016’ ar gyfer unedau iechyd meddwl dwys a chleifion preswyl
  • bod Llywodraeth Cymru a HEIW yn gweithredu egwyddorion iechyd gofal gochelgar ac ar sail gwerthoedd i’r gwaith a wneir gan seiciatryddion er mwyn deall pa mor aml maent yn gallu gweithredu at safon uchaf eu trwydded
  • bod HEIW i sefydlu rhaglen hyfforddiant uwch ar gyfer seicotherapi meddygol yng Nghymru
  • ehangu’r medrau diwylliannol yng ngweithlu’r GIG yng Nghymru wrth roi cefnogaeth i Fframwaith Medrusrwydd Diwylliannol Cymru Amrywiaethol.

Cyfleoedd pellach

 

Yn ogystal, mae’r Coleg wedi adnabod nifer o brosiectau hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yng nghyd-destun iechyd meddwl, yn ogystal â chynnwys rhai argymhellion ar sut gall Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry