Trawsnewidiadau

'Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru am weld gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol yn derbyn sylw cyfartal'

Hoffem:

  • cytuno ar gyfres o ddatganiadau safonol ar y cyd rhwng CAMHS ac AMHS a sicrhau’r gweithrediad ohonynt
  • cytuno ar gyfres o ddatganiadau safonol ar y cyd rhwng AMHS a Gwasanaethau Seiciatreg yr Henoed a sicrhau’r gweithrediad ohonynt
  • bod Llywodraeth Cymru yn craffu ar drosglwyddiadau awtomatig o bobl ifanc ag anabledd deallusol, gan gynnwys y rhai â chyflyrau cydafiachedd megis Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, wrth eu symud i golegau preswyl arbenigol
  • gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn deall natur y trefniadau trosglwyddo rhwng sefydliadau troseddwyr ifanc a charchardai
  • hyrwyddo mynediad at Leoli a Chefnogi Unigolion (Individual Placement and Support), gan hwyluso’r trosglwyddiad i fyd gwaith ar gyfer pobl â salwch meddwl dwys.

Cyfleoedd pellach

 

Yn ogystal, mae’r Coleg wedi adnabod nifer o brosiectau hoffem weld Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yng nghyd-destun iechyd meddwl, yn ogystal â chynnwys rhai argymhellion ar sut gall Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry