Rhestr wirio gofalwyr pobl gyda phroblemau iechyd meddwl
Ymwadiad
Gweler ein hymwadiad, sy'n berthnasol i'r holl gyfieithiadau sydd ar gael ar y wefan hon.
Gweithio mewn partneriaeth gyda seiciatryddion a gofalwyr
Beth ddylech chi ofyn i’r seiciatrydd
Mae gofalwyr angen gwybodaeth ac mae seiciatryddion yn brysur. Efallai nad yw gofalwyr pob tro’n llwyddo i ddod o hyd i’r hyn y maent angen ei wybod am y person sydd yn eu gofal. Dyluniwyd y rhestr wirio hon i’ch helpu i gael yr wybodaeth yr ydych ei hangen am ddiagnosis a thriniaeth y person yr ydych yn gofalu amdano.
Efallai y byddwch yn cael rhywfaint o’r wybodaeth hon gan aelodau eraill y tîm clinigol perthnasol, neu o wybodaeth ysgrifenedig sydd yn eu meddiant.
Os yw’r person yn rhoi caniatâd i chi, bydd y seiciatrydd yn medru rhoi’r wybodaeth am eu cyflwr a’u gofal i chi.
Er nad ydych efallai eisiau gofyn pob cwestiwn sydd yn y rhestr, efallai y bydd y cwestiynau yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfod y seiciatrydd a’r tîm iechyd meddwl. Ni fydd pawb angen yr holl atebion i’r cwestiynau hyn ar yr un pryd. Efallai bod gennych gwestiynau sydd ddim wedi’u cynnwys yn y daflen hon.Er hynny, dylai roi fframwaith defnyddiol i chi benderfynu pa wybodaeth yr ydych ei hangen.
Y salwch | |
Beth yw’r diagnosis neu’r broblem? | |
Os nad yw’r diagnosis wedi’i wneud eto, beth yw’r posibiliadau? | |
Pam fod hyn wedi digwydd i’r claf? | |
A fydd y claf yn gwella? |
Os oes diagnosis | |
Pa symptomau sy’n awgrymu mai dyma’r diagnosis/salwch? | |
Pa wybodaeth sydd yna am beth sy’n peri’r cyflwr/salwch? | |
Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol? Fydd pethau’n gwaethygu neu’n gwella? | |
Ymhle y caf fwy o wybodaeth am y cyflwr hwn?? |
Yr asesiad | |
Pa asesiadau sydd wedi’u cyflawni’n barod? | |
A oes angen unrhyw asesiadau eraill? | |
A oes unrhyw broblemau corfforol wedi’u darganfod? Os felly, beth sydd angen ei neud? | |
A oes ystyriaeth wedi’i rhoi i ddiwylliant a chefndir? |
Dull Rhaglen Ofal (CPA) | |
Beth yw CPA? | |
Beth mae’r CPA yn ei olygu? | |
Ydi’r person ar y CPA? Os nad ydyw, pam? | |
Fyddai’n cael fy nghynnwys yn y CPA? |
Y gofal a’r driniaeth | |
Beth yw amcanion y gofal a’r driniaeth? | |
Beth yw cydlynydd gofal? | |
Pa ran fydd gan y cydlynydd gofal yng ngofal y person? | |
Pwy arall fydd yn rhan o’r driniaeth? | |
Beth yw eich cynllun ar gyfer y driniaeth? | |
Am ba mor hir fydd y claf angen triniaeth? | |
Fydd therapïau siarad (e.e. Therapi Ymddygiad Gwybyddol, therapi teuluol) yn gymorth? Os felly, ydyn nhw ar gael yn lleol? | |
Beth sy’n digwydd os ydynt yn gwrthod triniaeth? |
Rhannu Gwybodaeth | |
A ydych chi wedi gofyn faint o wybodaeth maen nhw’n barod i’w rhannu â mi? | |
Fyddai’n cael gwybod am gyfarfodydd pwysig am eu gofal a’u triniaeth? | |
Fyddai modd i mi ddod i’ch gweld chi ar fy mhen fy hun? | |
Fyddech chi’n hoffi gofyn i mi am unrhyw wybodaeth arall am y claf neu’r teulu? | |
A gaf i ddweud pethau wrthych chi fydd ddim yn cael eu rhannu gyda’r person na gydag aelodau staff eraill? | |
Ydi barn y claf ar gyfrinachedd yn cael ei farcio’n glir yn ei nodiadau? |
Y gofal a’r driniaeth | |
Beth allai wneud i helpu? | |
A oes yna unrhyw grwpiau hunangymorth neu grwpiau gofalwyr lleol all fy helpu i ddeall y salwch? | |
Sut alla’i gael cyngor a hyfforddiant wrth reoli’r salwch yn ddyddiol? | |
A oes unrhyw grwpiau lleol all roi cymorth? |
Cael help | |
Sut alla’i gysylltu â chi? | |
Sut alla’i drefnu i’ch gweld chi? | |
Pwy fedrai gysylltu â hwy os ydw i’n poeni am ei ymddygiad? | |
Be ddylwn ei wneud os ydw i’n poeni ei fod yn gwaelu eto? | |
Pwy ddylwn i gysylltu â hwy mewn argyfwng? Pa help sydd ar gael? | |
Sut alla’i gael barn arbenigol arall? |
Gofalwyr | |
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gofalwr, y perthynas agosaf a pherson a enwebir? | |
Deallaf, fel gofalwr, fod gen i hawl i gael asesiad a fy nghynllun gofal fy hun. Gyda phwy ddylwn i siarad? | |
Os oes gennyf fy anghenion penodol, wrth bwy ddylwn i ofyn? | |
Os oes angen help arnaf, at bwy ddylwn i droi? |
Meddyginiaeth | |
Pa feddyginiaeth sydd i’w defnyddio, a sut? | |
Ydach chi’n rhagnodi’r dos â lleiaf o effaith? | |
Oes modd cymryd dos bychan gyntaf, a’i gynyddu pe bai angen? | |
Pa mor aml mae’r feddyginiaeth yn cael ei hadolygu? | |
Fyddai’n cael fy nghynnwys mewn penderfyniadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â’r dos neu’r math o feddyginiaeth? |
Beth ddylai budd y feddyginiaeth hon fod? | |
Yn y byrdymor | |
Yn yr hirdymor |
Beth yw sgil effeithiau posib y feddyginiaeth hon? | |
Yn y byrdymor | |
Yn yr hirdymor |
Rheoli’r Feddyginiaeth | |
Pam eich bod chi wedi dewis y feddyginiaeth benodol hon? | |
Am ba mor hir fydd yn rhaid i’r person gymryd y feddyginiaeth? | |
A oes angen unrhyw feddyginiaethau eraill y gellid eu defnyddio pe bai’r un yma’n methu? | |
Pa symptomau fyddai’n golygu fod angen newid y dos? | |
Beth ddylwn i wneud os yw’n dioddef o sgil effeithiau annifyr? | |
Beth sy’n digwydd os yw’n peidio â chymryd y feddyginiaeth? | |
A oes gennych chi unrhyw wybodaeth ysgrifenedig am y feddyginiaeth? |
Triniaeth yn yr ysbyty | |
A oes angen iddo fynd i mewn i’r ysbyty? Os felly, am ba hyd? | |
Os oes angen iddo fynd i’r ysbyty, pa ysbyty fydd hwn? | |
A fydd ar ward dan glo? | |
Os ydyw’n yn cael gadael yr ysbyty am gyfnod byr, sut fyddai’n cael gwybod, a pha bryd? | |
Pa mor aml fyddai’n medru mynd i’w weld ef? |
Gadael yr ysbyty | |
Pa drefniadau fydd yna ar gyfer ei ofal a’i fonitro ar ôl gadael yr ysbyty? | |
Os nad oes modd i mi edrych ar ôl y person pan mae’n gadael yr ysbyty, beth fydd yn digwydd? | |
Oes disgwyl i mi helpu gyda rhywbeth, yn enwedig meddyginiaeth? | |
Ydych chi’n ymwybodol o unrhyw dechnegau hunangymorth fyddai’n helpu’r gwellhad? |
Os nad yn mynd i mewn i’r ysbyty | |
A oes angen iddo fynd i mewn i’r ysbyty? | |
A oes unrhyw opsiynau eraill i’w hystyried? |
Unrhyw Gwestiynau Eraill
..............................................................................................................
..............................................................................................................
..............................................................................................................
..............................................................................................................
Further help
Princess Royal Trust for Carers Unit 14, Bourne Court, Southend Road, Woodford Green, Essex IG8 8HD Tel: 0844 800 4361 Email: info@carers.org
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr.
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng y Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr. Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol fydd o fudd i bawb.
Mewnbwn gofalwr a defnyddiwr: Royal College of Psychiatrists' Addictions Faculty User and Carer Group
Golygydd: Dr Philip Timms, Cadeirydd, Bwrdd Golygyddol Addysg Cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
With grateful thanks to Gwynedd Council for the translation of these leaflets in Welsh.
Gyda diolch mawr i Gyngor Gwynedd am gyfieithu’r taflenni hyn i Gymraeg