Salwch Meddwl Difrifol (seicosis)
Ymwadiad
Gweler ein hymwadiad, sy'n berthnasol i'r holl gyfieithiadau sydd ar gael ar y wefan hon.
Gweithio mewn partneriaeth â seiciatryddion a gofalwyr
Cyflwyniad
Anelir y daflen hon at:
- gofalwyr pobl â salwch meddwl difrifol (seicosis) sy’n rhoi help a chymorth parhaus, heb dâl, i berthynas, partner neu ffrind;
- Seiciatryddion ac aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl sy’n ymwneud â gofalu a darparu triniaeth i’r sawl sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol.
Ceir awgrymiadau ynghylch ffyrdd o wella cyfathrebu a chyswllt sy’n caniatáu parch tuag at y naill a’r llall a phartneriaethau gwaith go iawn ddatblygu o gychwyn y diagnosis.
Ar gyfer y gofalwr
Ynglŷn â seicosis
Defnyddir y gair seicosis i ddisgrifio symptomau neu brofiadau sy’n digwydd ar yr un pryd. Bydd gan bob unigolyn wahanol symptomau, a’r nodwedd gyffredin yw nad ydynt yn profi realiti fel y rhan fwyaf o bobl.
Dim ond un ‘episod’ mae rhai pobl yn ei ddioddef, yna maent yn gwella'n gyfan gwbl; ond mae’n broses hwy i eraill. Gan fod 1 allan o bob 10 o bobl gyda seicosis yn lladd eu hunain, mae’n bwysig adnabod symptomau iselder. Mae’n bosib y bydd unigolyn sy’n dioddef seicosis yn:
- clywed, arogli, teimlo neu weld pethau nad yw eraill yn eu profi (rhith-weld);
- meddwl am bethau rhyfedd, neu gredu ynddynt, a all wneud i'r unigolyn deimlo fel petai'n cael ei reoli, ei erlid neu ei aflonyddu (rhithdybiau);
- bod yn gymysglyd neu'n methu meddwl (anhwylder meddwl);
- ymddangos yn gynhyrfus neu’n encilgar ac yn osgoi cysylltiad gyda phobl,
- ac nid ydynt yn sylweddoli fod unrhyw beth o’i le (diffyg dirnadaeth).
Newidiadau cynnar yn ymddygiad yr unigolyn
Efallai y byddwch chi, fel gofalwr, yn sylwi bod yr unigolyn yn:
- cael trafferth dirnad realiti a meddwl yn glir
- siarad gydag ef ei hun a neu'n ymddangos fel petai'n gwrando ar rywbeth arall
- cael trafferth cyfathrebu'n effeithiol
- colli diddordeb yn ei ymddangosiad personol ac mewn bywyd yn gyffredinol
- anesmwyth, yn biwis, ar bigau'r drain ac yn bryderus
- osgoi pobl eraill
- ymosodol neu’n dreisgar (yn y lleiafrif o achosion)
- teimlo mewn hwyliau da iawn (‘manig’) neu’n isel iawn, neu’n newid o un cyflwr i’r llall (iselder gorffwyll).
Gwneud diagnosis
Nid oes un prawf penodol am seicosis gan fod y symptomau’n gyffredin i nifer o anhwylderau, gan gynnwys sgitsoffrenia, iselder gorffwyll / anhwylder deubegwn ac iselder seicotig.
Gwneir diagnosis drwy siarad â’r unigolyn a pherthynas neu ffrind agos er mwyn deall hanes yr unigolyn yn ogystal â beth arall all fod yn achosi’r symptomau.
Triniaethau
Dylid cychwyn rhoi meddyginiaeth cyn gynted â phosib i helpu gyda’r symptomau mwyaf annifyr a gall hyn ei gwneud yn bosib i fathau eraill o help weithio. Mae triniaethau eraill, a ddefnyddir ar yr un pryd â chymryd meddyginiaeth, neu ar eu pen eu hunain, yn cynnwys therapïau siarad (seicotherapi) a therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Gall therapi teulu fod yn rhan bwysig o’r pecyn gofal.
Fel gofalwr, gallwch:
- deimlo’n euog
- poeni am golli’r person yr oeddech yn arfer ei adnabod
- meddwl tybed a fydd hyn yn effeithio ar unrhyw aelod arall o'r teulu
- teimlo’n flinedig oherwydd y gwaith gofalu a sicrhau bod yr unigolyn yn ddiogel
- teimlo’n ofnus ynghylch cyfaddef bod yna broblem
- poeni am y canlyniadau i’r unigolyn yn y tymor hir
- poeni am ymdopi a chael help
- poeni am gyfrifoldebau ariannol y gofalu yn y tymor hir
poeni am agweddau negyddol pobl tuag at salwch meddyliol a’r stigma sy’n gysylltiedig â hynny.
Cyngor i ofalwyr
Mewn partneriaeth gyda’ch meddyg ac aelodau’r tîm iechyd meddwl
Mae cyfathrebu da rhwng meddyg, aelodau’r tîm iechyd meddwl, unigolyn sy’n dioddef seicosis a’u gofalwr yn bwysig, ond mae hyn yn golygu amser ac ymdrech. Mae datblygu perthynas gadarnhaol, hirdymor gyda'r holl staff a meddygon sy’n gofalu am y claf yn bwysig iawn os yw’r cyflwr yn un tymor hir.
Os yw’r unigolyn yn dioddef y symptomau am y tro cyntaf, mae’n bwysig gweld y meddyg teulu cyn gynted â phosib. Bydd y meddyg teulu, neu aelod o'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT) yn asesu'r unigolyn yn gyntaf, cyn ei gyfeirio at arbenigwr. Os bydd yr unigolyn yn gwrthod gweld meddyg, dylai’r gofalwr neu unigolyn arall y gellir ymddiried ynddo geisio ei berswadio i dderbyn help proffesiynol.
Efallai na fyddai angen i’r unigolyn fynd i ysbyty, mae’n bosib i Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol asesu a darparu triniaeth yn y cartref y dyddiau hyn.
Mae rhai o’r arbenigwyr y mae’n debygol y byddwch yn dod ar eu traws yn cynnwys: seiciatryddion, seicolegwyr, cwnsleriaid, therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, nyrsys seiciatrig cymunedol a gweithwyr cefnogol.
Beth ddylech chi ei ofyn i’r meddyg
Beth mae’r diagnosis yn ei olygu? | |
Fedrwch chi esbonio hynny mewn ffordd y medraf i ei deall? | |
A oes unrhyw driniaethau ar gael? | |
Ble fedra i gael gwybodaeth am feddyginiaeth a sgil effeithiau posib? | |
Pa mor hir fydd y feddyginiaeth yn ei chymryd i weithio? | |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud i helpu ein hunain? | |
Beth fedrwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol agos a thros amser? | |
A fydd yr unigolyn yn medru parhau i weithio neu dderbyn addysg? | |
A yw’n ddiogel i’r unigolyn yrru? | |
A fydd y sawl yr wyf yn gofalu amdano yn gwella? | |
Pa mor aml ddylwn i ddod i’ch gweld chi? | |
A oes gennych chi rif ffôn y tu allan i oriau, mewn argyfwng? | |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig am yr anhwylder hwn, ac os nad oes, gan bwy mae deunyddiau o'r fath ar gael? | |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei newid gartref er mwyn gwneud pethau’n haws neu’n ddiogelach? | |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau cymunedol a all helpu? | |
Pa weithiwr gwasanaeth iechyd ddylai fod yn brif berson cyswllt er mwyn i mi gael arweiniad a chyngor? |
Cofiwch drefnu eich apwyntiad nesaf cyn i chi adael.
Bydd mynd i weld y meddyg neu aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl yn rheolaidd ac ar ôl paratoi yn dda, yn eich helpu i gael y gofal gorau ar gyfer y ddau ohonoch chi.
Cyngor er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer ymweliadau dilynol
- Nodwch unrhyw newid mewn ymddygiad ac ymatebion i feddyginiaeth mewn llyfr nodiadau, ynghyd ag unrhyw bryderon neu gwestiynau ers i chi weld y meddyg ddiwethaf.
- Edrychwch ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i chasglu ers eich ymweliad olaf a nodwch eich tri phrif bryder. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cofio siarad am y pethau sydd o bwys i chi. Gall eich pryderon gynnwys cwestiynau am:
- newid mewn symptomau ac ymddygiad
- sgil effeithiau meddyginiaeth
- iechyd cyffredinol y claf
- eich iechyd eich hun
- unrhyw help ychwanegol a all fod ei angen.
Yn ystod eich ymweliad
- Os nad ydych yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau. Peidiwch â bod ofn dweud.
- Ysgrifennwch nodiadau yn ystod yr ymweliad. Edrychwch dros eich nodiadau ar y diwedd, a dywedwch wrth eich meddyg beth yr ydych wedi’i ddeall. Mae hyn yn rhoi cyfle i’ch meddyg gywiro unrhyw wybodaeth neu ailadrodd rhywbeth a gollwyd.
Cyngor pellach i ofalwyr wrth ddelio â meddygon ac aelodau eraill o'r tîm iechyd meddwl
Gall meddygon a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd fod yn amharod i drafod diagnosis neu driniaeth unigolyn gyda’r gofalwr. Mae gwir ddyletswydd o gyfrinachedd rhwng y meddyg a’r claf. Os yw’r unigolyn yn rhy wael i ddeall beth sy’n digwydd, bydd meddygon fel arfer yn cynnwys y gofalwr yn y trafodaethau a'r penderfyniadau. (Gweler ein taflen Gofalwyr a chyfrinachedd mewn iechyd meddwl).
Os yw’r meddyg yn amharod i’ch cynnwys chi fel gofalwr, mae nifer o bethau y medrwch ei wneud:
- gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu amdano a gewch chi fynd i rai o’r apwyntiadau gydag o, neu i ran o'r apwyntiad
- siaradwch gyda gofalwyr eraill, efallai y bydd ganddynt awgrymiadau defnyddiol
- ceisiwch siarad gydag aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl
- cysylltwch â llinellau ffôn elusennau iechyd meddwl (a restrir ar ddiwedd y daflen)
Peidiwch ag anghofio gofalu amdanoch chi eich hun a sicrhau amser ar eich cyfer chi eich hun
Mae’n bwysig eich bod yn gofalu am eich anghenion eich hun, yn siarad am eich pryderon a pheidio â cheisio ymdopi ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n byw yn Lloegr, efallai bydd gennych hawl i gael asesu eich anghenion fel gofalwr. Mae’n bosib trefnu hyn trwy’r meddyg neu aelod o’r tîm iechyd meddwl. Dylent hefyd fedru eich cyfeirio chi at eich sefydliad cefnogi gofalwyr lleol.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gydag unigolion sy’n dioddef seicosis a’u gofalwyr, gobeithio y bydd yr isod yn ddefnyddiol i chi fel arweiniad i arfer da.
Pan fyddwch yn asesu, fyddwch chi yn?
Ceisio gweld y claf a’r gofalwr ar wahân, yn ogystal â gyda’i gilydd? | |
Ceisio eu gweld nhw gartref yn gyntaf? |
A ydych chi’n caniatáu digon o amser i?
Wrando, a gwrando | |
Cael clywed hanes bywyd | |
Gadael digon o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau | |
Esbonio sut y daethoch i’r casgliad am y diagnosis | |
Siarad am y prognosis |
Wrth reoli’r salwch, ydych chi'n?
Trafod triniaethau posib | |
Siarad am sgil effeithiau posib cyffuriau | |
Siarad am y pwysigrwydd i'r claf gynnal rolau cymdeithasol cadarnhaol, nodau mewn gwaith neu addysg, os yn bosib | |
Treulio amser yn holi am iechyd y gofalwr – yn gorfforol ac yn emosiynol | |
Trafod sut i fodloni anghenion gofal y claf a’r gofalwr. |
Pethau i’w cofio
- Mae pawb angen ysbaid
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag aelodau eraill y teulu
- Cyfeiriwch bawb yr ydych yn eu gweld at sefydliad gofalwyr neu iechyd meddwl perthnasol
- Dywedwch yn glir y bydd rhywun bob amser ar gael
- Nodwch y rhif ffôn y tu allan i oriau
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol a enwir y gall y teulu gysylltu ag o ar unrhyw adeg
- Pan fyddwch yn ysgrifennu llythyr i’r Meddyg Teulu, ystyriwch anfon copi at y claf a’r gofalwr
- Ceisiwch siarad â’r Meddyg Teulu ar y ffôn yn ogystal ag yn ysgrifenedig
- Gwnewch yn siŵr fod gan y claf a’r gofalwr ddigon o wybodaeth am eu gofal a’u triniaeth.
Cymorth pellach
Mindinfoline: 0845 766 0163.
Cyhoeddi dewis eang o ddeunyddiau am bob agwedd o iechyd meddwl.
Gwasanaeth Cyngor Cenedlaethol: 0845 456 0455
Sefydliad gwirfoddol sy’n helpu pobl gyda salwch meddwl difrifol, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Sefydliad cenedlaethol sy’n cael ei harwain gan ei defnyddwyr, sy’n darparu cefnogaeth a gwybodaeth.
The Princess Royal Trust for Carers
Unit 14, Bourne Court, Southend Road, Woodford Green, Essex IG8 8HD
Tel: 0844 800 4361
Email: info@carers.org
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Yr Athro Dr Mike launer and Sheena Foster.