Iselder
Ymwadiad
Gweler ein hymwadiad, sy'n berthnasol i'r holl gyfieithiadau sydd ar gael ar y wefan hon.
Gweithio mewn partneriaeth â seiciatryddion a gofalwyr
Cyflwyniad
Mae'r daflen hon ar gyfer:
- unrhyw un sy’n rhoi help ymarferol a chefnogaeth, yn ddi-dâl, i berthynas, partner neu ffrind sy'n dioddef o iselder (a elwir yn 'gofalwyr' yn y daflen hon)
- unrhyw weithiwr proffesiynol - seiciatryddion, Meddygon Teulu neu aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl sy’n ymwneud â gofalu a darparu triniaeth i’r sawl sy’n dioddef o iselder.
Mae’n edrych ar ffyrdd sy’n annog cyfathrebu cliriach a chyd-weithio gwell rhwng cleifion, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Ar gyfer y gofalwr
Iselder
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n drist a thruenus ar adegau, ond pan mae’r teimladau hyn yn parhau am fwy nag ychydig o wythnosau, a'u bod cynddrwg hyd nes eu bod yn ymyrryd â bywyd pob dydd pobl, yna, fel arfer, mae angen cymorth proffesiynol.
Newidiadau yn ymddygiad yr unigolyn
Efallai y byddwch chi, fel gofalwr, yn sylwi fod y person:
- yn anhapus y rhan fwyaf o’r amser
- wedi colli ei hunan hyder
- yn mynegi teimladau o euogrwydd, cywilydd a theimlo’n ddi-werth
- yn flin ac, efallai, yn ddig
- yn ddagreuol
- wedi colli’r awydd i fwyta, neu’n bwyta mwy na’r arfer
- wedi newid ei batrwm cwsg
- yn hynod flinedig
- yn cael trafferth canolbwyntio
- yn encilgar ac wedi colli diddordeb mewn bywyd, gan gynnwys rhyw
- yn methu gofalu dros eu hunain gystal ag arfer
- yn siarad am hunanladdiad
Gwneud diagnosis
Mae angen i'r gweithiwr proffesiynol - meddyg, nyrs neu weithiwr cymdeithasol - ddeall digwyddiadau diweddar yn ogystal â beth sydd wedi digwydd i rhywun yn y gorffennol. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid iddynt siarad â’r claf ac, yn aml, â pherthynas agos neu ffrind. Ar ôl ystyried popeth arall a all achosi’r symptomau, gan gynnwys problemau iechyd corfforol, gellir wedyn gwneud diagnosis o iselder ysgafn, cymedrol neu ddifrifol.
Triniaeth
Mae iselder yn salwch y gellir ei drin yn llwyddiannus. Weithiau, mae digwyddiadau ym mywyd rhywun yn ei achosi, neu fe all ymddangos yn sydyn heb unrhyw achos amlwg. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o iselder yn cael eu trin gan eu Meddyg Teulu. Efallai bod rhai angen help mwy arbenigol, a’u cyfeirio at seiciatrydd ac/neu at Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHT), i weld nyrs seiciatrig gymunedol (CPN), gweithiwr cymdeithasol, seicolegydd neu therapydd galwedigaethol. Dim ond 1 o bob 100 o bobl sy’n dioddef o iselder sydd angen mynd i’r ysbyty.
Mae nifer o driniaethau ar gael:
- Hunangymorth, yn cynnwys technegau ac ymarferion ymlacio
- Therapi siarad, megis cwnsela, therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) neu un o'r seicotherapi
- Meddyginiaeth megis cyffuriau gwrth-iselder
- Meddyginiaeth llysieuol, megis llysiau Ifan.
Fel gofalwr, sut allwch chi helpu'ch ffrind neu berthynas?
- Annog y person i siarad am sut y maen nhw'n teimlo.
- Ceisio bod yn wrandäwr da - hyd yn oed os ydych chi'n clywed yr un peth sawl gwaith
- Eu hatgoffa hwy bod iselder yn salwch y gellir ei drin, ac nad ydynt ar fai.
- Cysuro’r person o hyd y bydd yn gwella.
- Annog ymarfer corff rheolaidd a diet cytbwys
- Annog y person i gymryd help proffesiynol.
- Helpu’r person i beidio â mynd yn agos at alcohol.
- Cymryd o ddifrif os oes unrhyw sôn yn y sgwrs am deimlo'n anobeithiol neu am hunan-niweidio
Fel gofalwr, gallwch fod yn:
- Ddiamynedd gydag ymddygiad y person
- Poeni:
- eich bod yn colli’r person yr oeddech yn arfer ei adnabod
- am ymdopi a gofyn am help
- am y dyfodol, gan gynnwys pryderon ariannol
- am y stigma sy’n gysylltiedig â salwch meddwl
- am ddiogelwch y person a’r risg o hunanladdiad
- Blinedig ar ôl gwrando a gofalu
- Wedi’ch ynysu oddi wrth eich cysylltiadau cymdeithasol arferol
Yn aml, mae gofalu am rhywun sy’n teimlo’n isel yn anodd iawn, yn rôl sy’n peri straen ac unigrwydd, ond mae help a chefnogaeth ar gael.
Cyngor i ofalwyr
Mewn partneriaeth â’ch meddyg ac aelodau’r tîm iechyd meddwl
Mae’n bwysig bod cyfathrebu clir a rheolaidd rhwng meddyg teulu, gweithwyr proffesiynol eraill, yr unigolyn sy’n dioddef o iselder a’i ofalwr. Nid yw hyn yn ddigwydd yn awtomatig, a bydd yn cymryd amser ac ymdrech. Er enghraifft, os oes angen arnoch chi fwy o amser nag arfer i siarad am beth sy’n digwydd gyda'ch Meddyg Teulu, yna mae modd i chi ofyn am apwyntiad dwbl. Bydd hyn yn rhoi rhagor o amser i chi.
Partneriaeth/gwneud penderfyniadau
Mae gan pobl farn gwahanol ynghylch â faint y maent yn dymuno ymwneud â chymryd penderfyniadau am eu gofal a thriniaeth. Mae rhai pobl yn hapus i adael i'r meddyg wneud hyn, mae rhai pobl yn hoffi gwneud y penderfyniad dros eu hunain ac mae eraill yn ffafrio rhyw fath o gydweithio. Beth bynnag yw 'dewis penderfyniad' y claf, dylai ef/hi a'r gofalwr gymryd rhan lawn mewn unrhyw drafodaethau am driniaeth a chynlluniau gofal. Fel rhan o hyn, mae'n hanfodol eich bod chi a'ch ffrind neu berthynas yn cael yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch chi i wneud y penderfyniadau sydd angen eu gwneud.
Mae datblygu perthynas wedi’i seilio ar ymddiriedaeth â’r holl staff sy’n gofalu am y claf o fudd mawr. Mae'r staff yn cael llun eglurach am yr hyn syn digwydd - a faint o gymorth a chefnogaeth y gallwch chi gynnig. Rydych chi'n cael syniad eglurach am y dewisiadau ar gael a beth i'w ddisgwyl - a sut i gael ychydig o gefnogaeth i'chi eich hunain. Mae hyn o fudd mawr, yn enwedig wrth ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth barhaus.
Beth ddylech chi ofyn i'r meddyg? |
Allwch chi egluro beth mae'r diagnosis yn ei olygu? |
Beth fedrwn ni ei ddisgwyl yn y dyfodol agos a thros amser? |
Pa driniaethau sydd ar gael? |
Pam eich bod chi wedi dewis y driniaeth benodol hon? |
Pam mor hir fydd y feddyginiaeth yn ei chymryd i weithio? |
Am ba mor hir fydd yn rhaid i'r person gymryd y feddyginiaeth? |
Beth yw sgil effaithiau posib - a sut mor arferol (neu anaferol) ydynt? |
Fydd therapiau siarad neu CBT yn gymorth? |
Pa mor aml ddylai'r person ddod i'ch gweld chi? |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud i helpu ein hunain? |
A yw'n ddiogel i unigolyn yrrru? |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig am iselder a'r driniaeth? Os nad oes, gan bwy fyddai deunyddiau o'r fath ar gael? |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau cymundedol lleol a all helpu? |
Gyda phwy ddylwn i gysylltu am wasanaethau y tu allan i oriau? |
*Cofiwch drefnu eich apwyntiad nesaf cyn i chi adael.
Bydd ymweliad â’ch meddyg neu aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl yn rheolaidd yn sicrhau eich bod ill dau yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth orau. Dylid paratoi’n drylwyr ar gyfer yr ymweliadau hyn.
Cynllunio ar gyfer ymweliad dilynol
- Trafodwch unrhyw bryderon newydd neu newid hwyliau, meddyliau ac ymddygiad.
- Cadwch nodyn o’r newidiadau hyn fel y maen nhw'n digwydd, gan gofnodi’r dyddiadau.
- Cadwch nodyn o unrhyw ymateb i feddyginiaeth, gan gofnodi'r dyddiadau eto, os yn bosib.
- Yn union cyn eich ymweliad nesaf, edrychwch ar y nodiadau a phenderfynwch, gyda'ch ffrind neu berthynas, beth yw’r pwyntiau pwysicaf.
- Ysgrifennwch eich tri phryder mwyaf i sicrhau eich bod yn trafod y rhain, ac ewch a’r nodiadau eraill gyda chi. Gall y rhain gynnwys:
- newid mewn symptomau ac ymddygiad
- sgil effeithiau meddyginiaeth
- iechyd corfforol cyffredinol e.e. rhoi ar neu golli pwysau
- eich iechyd eich hun fel gofalwr
- unrhyw help ychwanegol sydd ei angen
- pa bryd fydd y person yn ddigon da i ddychwelyd i weithgareddau arferol, gan gynnwys gwaith a gyrru.
Yn ystod eich ymweliad:
- Os nad ydych chi na’r person yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau.
- Anogwch eich ffrind neu berthanas i ddweud wrth y gweithiwr professiynol am sut mae'n teimlo.
- Cymrwch nodiadau am beth sy’n cael ei ddweud wrthych chi. Ar y diwedd, dywedwch wrth y doctor beth yr ydych chi a’r person wedi’i ddeall er mwyn clirio unrhyw gamddealltwriaeth neu rhywbeth sydd wedi ei adael allan.
Cyfrinachedd
Mae gan bob gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ddyletswydd o gyfrinachedd. Mae hyn yn golygu, oni bai fod amgylchiadau eithriadol, ni allent rannu gwybodaeth am y claf heb ganiatâd y claf.
Mae hyn yn golygu y gall gweithwyr proffesiynol fod yn anfodlon trafod gwybodaeth o'r fath gyda gofalwr - neu hyd yn oed gwrthod i'w wneud o gwbl.
Sut bynnag, mae mwy a mwy o weithwyr proffesiynol iechyd yn cydnabod gwerth cynnwys gofalwyr ac yn annog y claf i ddeall manteision hyn. (Gweler ein taflen ‘Gofalwyr a chyfrinachedd mewn iechyd meddwl’).
Hyd yn oed os nad yw'r claf wedi rhoi ei ganiatad i rannu ei wybodaeth bersonnol, gall gweithwyr proffesiynol roi gwybodaeth cyffredinol ar gyflwr, hawliau a gwasanaethau i ofalwyr, oni bai nad yw'r wybodaeth yn torri cyfrinachedd.
Os yw’r meddyg yn anfodlon eich cynnwys chi fel gofalwr, mae nifer o bethau y medrwch eu gwneud:
- gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu amdano/i a gewch chi fynychu rhai o’r apwyntiadau gydag ef/hi, neu i ran o'r apwyntiad
- siaradwch gydag aelodau eraill o’r tîm iechyd meddwl
- cysylltwch â’r llinellau ffôn a restrir ar ddiwedd y daflen hon
- cysylltwch â gweithwyr adfocatiaeth iechyd meddwl lleol
Peidiwch ag anghofio gofalu amdanoch chi eich hun:
- Rhannwch eich pryderon gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu yr ydych yn ymddiried ynddynt - ond parchwch hawl y claf i breifatrwydd
- Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun, gofynnwch am help pan ydych chi teimlo angen ei gael.
- Rhowch amser i chi’ch hun ar gyfer gwneud gweithgareddau hamdden
- Sicrhewch eich bod yn bwyta’n dda ac yn cael digon o ymarfer
- Ewch i weld eich meddyg eich hun os yw anodd i chi gysgu, os yn bryderus neu’n teimlo’n isel
- Gofynnwch a oes gweithiwr cefnogi teuluoedd ar gael.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Yr asesiad
- Gallwch weld y claf a’r gofalwr ar wahân, yn ogystal â gyda’i gilydd.
A oes ddigon o amser i...
- Wrando, holi a gwrando
- Cael clywed hanes bywyd
- Holi am unrhyw golledion, unrhyw gamdriniaeth posib neu ddigwyddiadau trawmatig eraill
- Esbonio sut y daethoch i’r casgliad am y diagnosis
- Siarad am y prognosis byrdymor a hirdymor
- Gadael digon o amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau
Wrth reoli’r iselder, ydych chi'n...
- Trafod pob triniaeth bosibl gan gynnwys cymorth meddygol, seicolegol a hunangymorth
- Siarad am sgil effeithiau posib meddyginiaeth
- Trafod sut i fodloni anghenion gofal y claf a’r gofalwr.
- Siarad am y canlyniadau positif
- Treulio amser yn holi am iechyd y gofalwr – yn gorfforol ac yn emosiynol
Pethau i’w cofio
- Efallai bod y gofalwr eisiau seibiant
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag aelodau eraill y teulu
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol ar gael y gall y teulu gysylltu ag ef/hi ar unrhyw adeg
- Nodwch y rhif ffôn y tu allan i oriau
- Gwnewch yn siŵr fod gan y claf a’r gofalwr ddigon o wybodaeth am:
- eu gofal a’u triniaeth
- yr holl ystod o wasanaethau lleol ar gael - ymarfer, maeth neu grwpiau hunangymorth, er enghraifft
- iselder a’r driniaeth
- sefydliadau gofalwyr neu iechyd meddwl perthnaso
- Gyrrwch copïau'r llythyrau i’r claf a’r gofalwr.
Cymorth pellach
Nid yw Depression Alliance yn darparu llinell cymorth ar hyn o bryd ond gallwch ffonio am becyn gwybodaeth ar 0845 123 23 20; e-bost information@depressionalliance.org
The Princess Royal Trust for Carers
Darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr. E-bost: support@carers.org
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng y Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr. Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Jill Siddle
Mewnbwn gofalwr a defnyddiwr: Depression Alliance
Golygydd: Dr Philip Timms, Cadeirydd, Bwrdd Golygyddol Addysg Cyhoeddus i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
© Mai 2010. Dyddiad adolygu: Mai 2010