Anableddau dysgu ac iechyd meddwl
Gweithio mewn partneriaeth gyda seiciatryddion a gofalwyr
Cyflwyniad
Anelir y daflen hon at:
- gofalwyr pobl ag anabledd dysgu, sy’n rhoi help a chymorth parhaus, heb dâl, i berthynas, partner neu ffrind;
- y meddygon ac aelodau eraill o’r tîm sy’n ymwneud â gofal iechyd a thriniaeth y sawl sydd ag anabledd dysgu;
- gweithwyr gofal cyflogedig sy'n cynnig cefnogaeth uniongyrchol i unigolion sy'n byw ar eu pen eu hunain neu mewn gofal preswyl.
Mae’n awgrymu ffyrdd o wella cyfathrebu a phartneriaethau rhwng gofalwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd a phobl ag anabledd dysgu a phroblemau iechyd meddwl.
Ar gyfer y gofalwr
Pan fo gan unigolyn ag anabledd dysgu broblemau iechyd meddwl, gall ei ofalwr sylwi ar newidiadau yn ei iechyd a’i les cyffredinol, yn ogystal â newidiadau yn ei ymddygiad.
Fel gofalwr, gallwch sylwi ar:
- newid mewn archwaeth neu gwsg
- colli sgiliau
- newid mewn ymddygiad neu hwyliau
- colli diddordeb mewn gweithgareddau dydd i ddydd.
Darganfod beth sydd o’i le
Bydd llawer yn dibynnu ar faint mae’r unigolyn yn medru cyfathrebu ynghylch sut y mae’n teimlo neu am unrhyw boen sydd ganddo. Fel arfer, mae angen i ofalwr sy’n adnabod yr unigolyn yn dda gadw llygaid gofalus arno hefyd. Felly, bydd angen i’r meddyg siarad gyda pherthynas agos, neu weithiwr cefnogol rheolaidd yn ogystal â’r unigolyn ei hun. Weithiau, mae’n anodd gwybod a yw’r symptomau o ganlyniad i broblem iechyd meddwl hanes diweddar yr unigolyn, neu gorfforol. Bydd y gweithiwr proffesiynol yn ceisio deall unrhyw newid yn ei amgylchiadau. Bydd yn ystyried pob achos posib o’u symptomau.
Fel gofalwr, bydd angen i chi helpu'r gweithiwr iechyd proffesiynol wahaniaethu rhwng ymddygiad sy’n rhan o’r anabledd dysgu, ac unrhyw newidiadau sy'n gwneud i chi feddwl fod rhywbeth arall o’i le.
- Rhestrwch y pethau yr ydych yn poeni amdanynt, neu unrhyw beth sydd wedi newid, dim ots pa mor fychan ydynt.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r dyddiad a’r amser. Mae dyddiadur yn creu darlun yn sydyn iawn o sut mae unigolyn yn newid.
Gall eich helpu chi i benderfynu beth i’w ddweud wrth y meddyg. Hefyd, gall eich helpu chi i ganfod ei adwaith i gyffuriau neu driniaethau eraill na fuasech chi’n sylwi arnynt fel arall. Gall fod yn gofnod o’r salwch, a gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn petai’r unigolyn yn mynd yn sâl eto.
Cyngor i ofalwyr
Mewn partneriaeth gyda’ch meddyg a’r tîm gofal iechyd
Mae cyfathrebu da rhwng meddyg, aelodau’r tîm gofal iechyd, yr unigolyn ag anabledd dysgu a’i ofalwyr rheolaidd yn bwysig, ond mae hyn yn golygu amser ac ymdrech. Yn Lloegr, anogir pawb sydd ag anabledd dysgu i gael Cynllun Gweithredu Iechyd. Gall yr unigolyn ofyn am help i benderfynu beth i’w nodi yn ei Gynllun Gweithredu Iechyd ei hun. Efallai y bydd angen hwylusydd iechyd i weithio gydag o a'i ofalwyr a/neu ei weithiwr cefnogol cyflogedig ar beth sydd ei angen i'w gadw'n iach.
Weithiau, gofalwr sy’n aelod o'r teulu neu weithiwr cefnogol fydd yr hwylusydd iechyd. Dro arall, bydd yn aelod o’r tîm cymunedol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, neu weithiwr iechyd proffesiynol sy’n gweithio ym meddygfa’r meddyg teulu. Gall Cynllun Gweithredu Iechyd ymwneud â’r gefnogaeth y mae unigolyn penodol ei hangen i gadw’n iach, neu gellir ei baratoi i gefnogi cael ei dderbyn i’r ysbyty.
Beth ddylech chi ofyn i'r meddyg | |
Beth mae'r diagnosis ei olygu? | |
Fedrwch chi esbonio hynny mewn ffordd y medrwn ni ei ddeall? | |
A oes unrhyw driniaethau ar gael? | |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei wneud ein hunain? | |
A yw'n bosib cynnwys yr anghenion iechyd hyn mewn Cynllun Gweithredu Iechyd? | |
Beth fedrwn ni ddisgwyl yn y dyfodol agos a thros amser? | |
Pa mor aml ddylem ni ddod i'ch gweld chi? | |
A oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig sy'n hawdd i'w darllen neu ddeunyddiau darluniadol/awdio/fideo ynghlych y salwch hwn? Os nad oes, gan bwy fyddai deunyddiau o'r fath ar gael? | |
A oes unrhyw beth y medrwn ni ei newid gartref er mwyn gwneud pethau'n haws neu'n ddiogelach? | |
A oes unrhyw sefydliadau neu wasanaethau cymunedol a all helpu? | |
Pa weithiwr gwasanaeth iechyd ddylai fod yn brif berson cyswllt er mwyn i ni gael arweiniad a chyngor? |
Cofiwch drefnu eich apwyntiad nesaf cyn i chi adael.
Gall y cyngor hwn eich helpu i baratoi ar gyfer ymweliadau dilynol gyda’r meddyg.
Cyn eich ymweliad:
- Nodwch unrhyw newid mewn ymddygiad yr unigolyn ac ymatebion i feddyginiaeth mewn llyfr nodiadau, ynghyd ag unrhyw bryderon neu gwestiynau ers i chi weld y meddyg ddiwethaf.
- Edrychwch ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i chasglu ers eich ymweliad diwethaf. Gofynnwch i’r sawl yr ydych yn gofalu amdano beth yr hoffai ei ddweud wrth y meddyg, neu a oes ganddo unrhyw beth yr hoffai ei drafod Nodwch eich prif
bryderon yn y dyddiadur, gan nodi’r dyddiad. Wrth ysgrifennu’r wybodaeth hon, nid oes rhaid i chi boeni am gofio popeth, a gallwch siarad am y pethau sydd bwysicaf yn ystod eich ymweliad. Er enghraifft, gall hyn gynnwys
cwestiynau am:
- newid mewn symptomau
- sgil effeithiau meddyginiaethau
- iechyd cyffredinol
- iechyd meddyliol ac emosiynol
- iechyd y gofalwr
- unrhyw help sydd ei angen.
Yn ystod eich ymweliad:
- Os nad ydych yn deall rhywbeth, yna holwch gwestiynau nes byddwch yn deall. Peidiwch â bod ofn dweud. Anogwch y meddyg i esbonio pethau i’r claf yn uniongyrchol, mewn iaith y bydd yn ei deall.
- Ysgrifennwch nodiadau yn ystod yr ymweliad. Edrychwch dros eich nodiadau ar y diwedd, a dywedwch wrth eich meddyg beth yr ydych wedi’i ddeall. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r meddyg gywiro unrhyw wybodaeth neu ailadrodd rhywbeth a gollwyd.
Cyngor i ofalwyr – delio â meddygon
Gall meddyg fod yn amharod i drafod diagnosis unigolyn gyda’i ofalwr gan fod dyletswydd o gyfrinachedd rhwng y meddyg a’r claf. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn sy’n wael yn medru deall beth sy’n digwydd, bydd meddygon fel arfer yn cydnabod yr angen i gynnwys y gofalwr yn y trafodaethau a'r penderfyniadau.
Os yw’r meddyg yn parhau i fod yn amharod i’ch cynnwys chi fel gofalwr, mae nifer o bethau y medrwch ei wneud:
- Gofynnwch i’r sawl yr ydych chi’n gofalu amdano a fedrwch chi aros gydag o pan fydd yn gweld y meddyg. Os yw’r unigolyn yn cytuno, yna bydd y meddyg yn debyg o gytuno.
- Siaradwch gyda gofalwyr eraill, efallai y bydd ganddynt awgrymiadau defnyddiol.
- Ceisiwch siarad gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, megis nyrsys.
Ar gyfer y gweithiwr proffesiynol
Fel gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr, gobeithio y bydd yr isod yn ddefnyddiol i chi fel arweiniad i arfer da.
Oherwydd natur eu gwaith, mae’n bosib y bydd gofalwyr teuluol yn hynod flinedig. Os ydynt wedi gorfod aros am amser maith cyn cael apwyntiad, wrth iddynt ofalu am yr unigolyn, efallai y byddant yn flinedig yn emosiynol hefyd.
- Cofiwch y bydd y gofalwr teuluol yn gwybod mwy am y claf pan fo’n iach nag unrhyw un arall.
- Bydd y claf yn ei chael yn anodd esbonio sut y mae’n teimlo, nid yn unig am nad oes ganddo’r lleferydd, yr iaith na’r ddealltwriaeth i wneud hynny, ond oherwydd ei fod wedi bod ag anabledd erioed. Nid yw’n gwybod sut mae’n teimlo i beidio â chael hynny!
- Gall fod yn anodd i chi ddeall beth sy’n arferol iddo, a sut mae ei salwch yn gwneud iddo deimlo neu ymddwyn yn wahanol. Mae’n rhy hawdd cysylltu popeth gyda’i anabledd dysgu.
Pan fyddwch yn asesu, fyddwch chi yn?
ceisio gweld y sawl sydd ag anabledd dysgu a'r gofalwr ar wahân yn ogystal â gyda'i gilydd? | |
ceisio eu gweld nhw gartref yn gyntaf? |
A ydych chi’n caniatáu digon o amser i?
wrando, holi a gwrando? | |
cael clywed hanes bywyd a hanes teulu? | |
cofio holi am unrhyw golledion, unrhyw gamdriniaeth posib neu ddigywddiad trawmatig eraill? | |
gadael amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau? | |
esbonio sut y daethoch i'r casgliad am y diagnosis? | |
siarad am y prognosis? |
Wrth reoli’r salwch, ydych chi'n?
trafod triniaethau posib? | |
siarad am sgil effeithiau posib cyffuriau? | |
treulio amser yn holi am iechyd y gofalwr - yn gorfforrol ac yn emosiynol? | |
trafod sut i ateb anghenion iechyd y sawl sydd ag anabledd dysgu a'r gofalwr? |
Pethau i’w cofio
- Mae pawb angen ysbaid.
- Dywedwch yn glir y byddwch yn fodlon siarad gydag unrhyw aelodau eraill y teulu.
- Dywedwch wrth bawb y byddwch yn eu gweld am sefydliadau elusennol a all gynnig gwybodaeth a rhoi pobl mewn cysylltiad â’i gilydd.
- Dywedwch yn glir y byddwch bob amser ar gael.
- Nodwch rif ffôn lle mae’n bosib cysylltu â chi i holi mwy o gwestiynau.
- Gwnewch yn siŵr fod gweithiwr proffesiynol a enwir y gall y teulu gysylltu ag o ar unrhyw adeg.
- Pan fyddwch yn ysgrifennu llythyr i’r Meddyg Teulu neu arbenigwr, anfonwch gopïau at y gofalwr a llythyr hawdd ei ddeall at y claf.
- Ceisiwch siarad â gweithwyr proffesiynol eraill ar y ffôn yn ogystal ag yn ysgrifenedig.
Cymorth pellach
123 Golden Lane, London EC1Y ORT
Ffôn: 020 7454 0454
Typetalk: 18001 808 1111
E-bost: help@mencap.org.uk
Dyma elusen anableddau dysgu arweiniol y DU sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr
The Princess Royal Trust for Carers
Unit 14, Bourne Court, Southend Road, Woodford Green, Essex IG8 8HD
Ffôn: 0844 800 4361;
E-bost: info@carers.org.uk
Yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor i ofalwyr.
5/6 Brook Office Park, Folly Brook Road, Emersons Green, Bristol BS16 7FL
Ffôn: 0117 906 1700;
E-bost: info@hft.org.uk
Elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu a’u gofalwyr, ac sy’n cynnal y Rhwydwaith Gofalwyr Teuluol Cenedlaethol, sy’n ceisio dod â sefydliadau sy’n cefnogi gofalwyr teuluol oedolion ag anableddau dysgu ynghyd.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddon wedi cyhoeddi cyfres o lyfrau darluniadol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae’r llyfrau hyn, a elwir Books Beyond Words yn cael eu cynhyrchu i hwyluso cyfathrebu a chaniatáu medru trafod pynciau anodd.
Ffôn: 020 7235 2351 est. 6146;
Adnoddau Iechyd ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu
Cynhyrchwyd y daflen hon fel rhan o ymgyrch Partneriad mewn Gofal (Partners in Care) ar y cyd rhwng Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Un o nodau ymgyrch Partneriad mewn Gofal oedd dangos os yw pawb sy’n ymwneud â gofal pobl â phroblemau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yn cydweithio, gellid datblygu partneriaeth driw rhwng gofalwyr, cleifion a gweithwyr proffesiynol fydd o fudd i bawb.
Awdur gwreiddiol: Yr Athro Sheila Hollins