Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Post-traumatic stress disorder (PTSD)

Below is a Welsh translation of our information resource on post-traumatic stress disorder (PTSD). You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn gyflwr iechyd meddwl sy'n gallu effeithio ar unigolion sydd wedi cael profiad o ddigwyddiad trawmatig.

Bydd llawer o bobl sy'n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn profi emosiynau, meddyliau ac atgofion negyddol. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo'n well dros amser. Pan na fydd yr ymatebion negyddol hyn yn diflannu, a phan fyddant yn ymyrryd â bywyd bob dydd, yna efallai bod yr unigolyn yn dioddef o PTSD.

Gall PTSD effeithio ar unrhyw un. Caiff ei achosi pan fydd rhywun yn profi neu dan fygythiad o brofi'r canlynol:

  • marwolaeth
  • anaf difrifol
  • trais rhywiol

Gall unigolyn ddod i gysylltiad â'r rhain mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • Yn uniongyrchol - mae wedi digwydd iddyn nhw
  • Bod yn dyst - maen nhw wedi gweld hyn yn digwydd i rywun arall
  • Dysgu - maen nhw wedi darganfod bod hyn wedi digwydd i rywun sy'n agos iawn atyn nhw
  • Cysylltiad rheolaidd - maen nhw wedi dod i gysylltiad rheolaidd â digwyddiadau trawmatig eu hunain neu â digwyddiadau trawmatig rheolaidd sy'n effeithio ar bobl eraill. Gwyddom hefyd y gall rhai pobl sy’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig drwy gyfryngau electronig, teledu, ffilmiau neu luniau yn y gwaith brofi anawsterau iechyd meddwl.

Gall enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig gynnwys:

  • bod yn dyst i farwolaeth trwy drais
  • damweiniau difrifol, e.e. damwain car
  • ymosodiad corfforol neu rywiol
  • problemau iechyd difrifol neu fod mewn gofal dwys
  • cymhlethdodau wrth roi genedigaeth
  • diagnosis o salwch sy'n bygwth bywyd
  • rhyfel a gwrthdaro
  • ymosodiadau gan derfysgwyr
  • trychinebau naturiol neu o waith dyn, e.e. tswnami neu dân

Mae'n bwysig cofio bod yna nifer fawr o ddigwyddiadau nad ydyn nhw'n cael sylw yma a allai achosi PTSD. Os nad yw eich profiad chi yn cael ei drafod yma, nid yw hynny'n golygu na ddylech geisio cymorth a chefnogaeth.

Mae digwyddiadau trawmatig yn peri sioc oherwydd nad ydyn ni'n gallu gwneud synnwyr ohonyn nhw. Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â'n syniad ni o sut le ddylai'r byd fod.

Mae'n aml yn ymddangos bod digwyddiadau trawmatig yn digwydd ‘ar hap’ neu heb unrhyw achos clir. Dydyn nhw ddim yn cyd-fynd â'n barn ni am sut y dylai'r byd fod, a gall hynny ei gwneud yn anodd inni ddeall yr ystyr y tu ôl iddyn nhw.

Mae profiadau trawmatig hefyd yn dangos i ni y gall pethau drwg ddigwydd ar unrhyw adeg i ni ac i'r bobl rydyn ni'n eu caru. Gall hyn achosi i ni deimlo'n anniogel a dan fygythiad, ac mae'n naturiol fod hynny'n frawychus. Weithiau gall digwyddiadau trawmatig wneud i ni gwestiynu pwy ydyn ni, a gall achosi gofid hefyd.

Bydd llawer o bobl yn profi digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywydau. Mae tua un o bob tri o oedolion yn Lloegr yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un digwyddiad trawmatig. Fodd bynnag, ni fydd pawb sy'n profi digwyddiad trawmatig yn datblygu PTSD.

Gall llawer o bobl brofi galar, tristwch, pryder, euogrwydd a dicter ar ôl profiad trawmatig. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod rhywun yn dioddef o PTSD. Mae pobl sy'n dioddef o PTSD yn aml yn profi llawer o'r symptomau a restrir isod. Gall y rhain ddechrau ar unwaith, neu efallai y bydd yn cymryd rhai wythnosau neu hyd yn oed fisoedd iddyn nhw ddod i’r amlwg.

Gyda PTSD, bydd y symptomau hyn yn amharu ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd a/neu'n gwneud i chi deimlo'n ofidus iawn. Os byddwch chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddwch chi'n datblygu PTSD.

Symptomau'n ailymddangos

  • Atgofion - Cael atgofion digroeso o'r digwyddiad, sy’n eich llethu ac yn peri gofid mawr. Mae'r rhain yn cael eu galw'n feddyliau ymwthiol.
  • Breuddwydion - Cael breuddwydion neu hunllefau am y digwyddiad.
  • Adweithiau neu ymatebion datgysylltiol - Teimlo neu ymddwyn fel petai'r digwyddiad trawmatig yn digwydd eto (ôl-fflachiau). Mewn sefyllfaoedd eithafol, efallai na fyddwch chi'n ymwybodol o beth sy'n digwydd o'ch cwmpas.
  • Anawsterau corfforol a seicolegol - Teimlo'n ofidus iawn ac wedi cynhyrfu (e.e. anadlu'n gyflym, pwls cyflym) pan fyddwch chi'n dod i gysylltiad â phethau sy'n eich atgoffa mewn rhyw ffordd o'r digwyddiad.

Symptomau osgoi

  • Amnesia datgysylltiol - Methu cofio rhannau o'r digwyddiad trawmatig.
  • Datgysylltiad - Teimlo ar wahân neu ddim yn agos at bobl yr oeddech chi'n agos atyn nhw o'r blaen.
  • Osgoi siarad a meddwl - Ddim eisiau siarad na meddwl am y digwyddiad(au) trawmatig.
  • Osgoi cysylltiadau - Osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad trawmatig. Gallai hyn gynnwys osgoi teledu neu gyfryngau eraill sy'n trafod y digwyddiad, yn enwedig os yw gwneud hynny yn achosi gofid i chi.

Symptomau sy'n ymwneud â hwyliau

  • Agweddau a disgwyliadau negyddol - Meddwl yn negyddol amdanoch chi'ch hun, am bobl eraill neu am y byd.
  • Beio - Beio'ch hun neu bobl eraill am y digwyddiad trawmatig sy'n digwydd neu am ei ganlyniadau.
  • Emosiynau negyddol - Profi ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd drwy'r amser.
  • Colli diddordeb mewn gweithgareddau - Peidio â chymryd rhan neu ymddiddori mewn gweithgareddau yr oeddech chi'n arfer eu mwynhau neu'n gallu eu gwneud yn rheolaidd.
  • Methu â theimlo emosiynau cadarnhaol - Methu â phrofi hapusrwydd, boddhad neu deimladau cariadus.

Effrogarwch ac adweithedd

  • Gorwyliadwriaeth - Bod yn rhy ymwybodol o beth sy'n digwydd o'ch cwmpas a methu ymlacio.
  • Dychryn yn hawdd - Gorymateb i synau neu symudiadau sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad trawmatig.
  • Anhawster canolbwyntio - Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau yr oeddech chi'n gallu canolbwyntio arnyn nhw o'r blaen.
  • Anhawster cysgu - Cael trafferth mynd i gysgu ac aros ynghwsg. Pan fyddwch chi'n mynd i gysgu efallai y byddwch chi'n cysgu'n wael ac yn cael hunllefau.
  • Anniddigrwydd - Cael pyliau o fod yn ymosodol ar lafar neu'n gorfforol tuag at bobl neu bethau. Gallai profi rhywbeth sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad trawmatig achosi'r ffrwydradau hyn.
  • Bod yn ddi-hid - Gwneud pethau peryglus neu hunanddinistriol.

Mae yna nifer o esboniadau posibl am beth sy'n achosi PTSD.

Seicolegol

Mae symptomau seicolegol PTSD yn hynod annymunol a gofidus. Fodd bynnag, gall y symptomau hyn wneud synnwyr pan fyddwn ni'n ystyried sut y gallai ein meddyliau weithio i'n hamddiffyn ar ôl digwyddiad trawmatig.

  • Cof - Ar ôl profi digwyddiad trawmatig efallai na fyddwn ni'n gallu neu'n fodlon ei gofio. Er y gall cofio beth sydd wedi digwydd beri gofid, gall gwneud hynny ein helpu i wneud synnwyr o’r digwyddiad. Gall hyn fod o gymorth i'n hiechyd meddwl.
  • Meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau - Gellir ystyried y rhain yn rhyw fath o ailchwarae'r digwyddiad. Mae’n bosibl y byddan nhw’n ein gorfodi i feddwl am beth sydd wedi digwydd er mwyn inni fod yn fwy parod petai’n digwydd eto. Fodd bynnag, mewn PTSD mae'r meddyliau hyn yn achosi i ni deimlo'n ofidus.
  • Osgoi a mygu teimladau - Mae cofio trawma yn flinedig ac yn peri gofid. Gall osgoi a mygu teimladau eich helpu i roi'r gorau i feddwl am beth ddigwyddodd. Fodd bynnag, mae hefyd yn eich rhwystro chi rhag gwneud synnwyr o'ch profiadau.
  • Gorwyliadwriaeth - Os ydyn ni ‘ar wyliadwriaeth’, efallai y byddwn yn teimlo’n barod i ymateb yn gyflym os bydd argyfwng arall yn digwydd. Gall hefyd roi’r egni i ni ar gyfer y gwaith sydd ei angen ar ôl damwain neu argyfwng. Fodd bynnag, gall hefyd fod yn flinedig a'n rhwystro rhag gwneud pethau yr oedden ni'n arfer eu mwynhau.

Corfforol

Mae rhai o'r symptomau corfforol sy'n digwydd gyda PTSD yn digwydd oherwydd bod ein cyrff yn ceisio prosesu trawma yn y ffordd anghywir.

  • Adrenalin - Mae hwn yn hormon y mae ein cyrff yn ei gynhyrchu pan fyddwn ni dan straen. Mae'n helpu i baratoi ein cyrff ar gyfer gweithgareddau sydd angen llawer o egni, er enghraifft, rhedeg neu ymladd yn erbyn rhywun. Pan fydd y straen yn diflannu, dylai lefel yr adrenalin fynd yn ôl i normal. Mewn PTSD, gall atgofion byw o'r digwyddiad dirdynnol gadw lefelau'r adrenalin yn uchel. Gall lefelau uchel o adrenalin eich rhoi chi ar bigau drain, eich gwneud chi'n biwis, a'ch rhwystro rhag ymlacio a chysgu'n dda.
  • Yr hipocampws - Mae hwn yn rhan o'r ymennydd sy'n prosesu atgofion. Gall lefelau uchel o hormonau straen, fel adrenalin, ei rwystro rhag gweithio'n iawn. Mae hyn yn golygu nad yw atgofion o'r digwyddiad trawmatig yn cael eu prosesu. Gall hyn achosi i chi gofio'r digwyddiad fel petai'r risg yn bresennol o hyd, yn hytrach na'i weld fel rhywbeth a ddigwyddodd yn y gorffennol. 

Gall unrhyw un gael PTSD os ydynt wedi profi digwyddiad trawmatig. Fodd bynnag, mae swyddi rhai pobl yn golygu eu bod yn fwy tebygol o brofi digwyddiadau trawmatig. Mae hyn yn golygu bod y risg y byddan nhw'n datblygu PTSD yn uwch nag mewn gyrfaoedd eraill. Gall y swyddi hyn gynnwys:

  • Gweithwyr gwasanaethau brys (e.e. yr heddlu, y frigâd dân neu staff ambiwlans)
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Staff gofal dwys
  • Personél milwrol a phobl eraill sy'n gweithio mewn ardaloedd o ryfel

Gall symptomau PTSD ddechrau yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, neu hyd yn oed wythnosau neu fisoedd wedyn. Fel arfer, mae'r symptomau'n dechrau o fewn 6 mis i'r digwyddiad. Weithiau bydd symptomau'n dechrau ar ôl 6 mis, er bod hyn yn llai cyffredin. Yn anffodus, ni fydd llawer o bobl yn gofyn am help pan fydd eu symptomau'n dechrau.

Ni ellir gwneud diagnosis o PTSD yn ystod y mis cyntaf ar ôl digwyddiad trawmatig. Os byddwch chi'n profi symptomau trawma ar unwaith, a bod y rhain yn ddifrifol ac yn eich rhwystro rhag gweithredu, efallai eich bod chi'n dioddef o 'anhwylder straen acíwt'.

Ar ôl profiad trawmatig, bydd llawer o bobl yn cael rhai symptomau trawma am y mis neu ddau cyntaf. Mae llawer o'r symptomau hyn yn ymatebion normal i brofi perygl gwirioneddol neu bosibl. Gellir meddwl amdanyn nhw fel ffordd eich ymennydd o'ch amddiffyn chi rhag niwed.

Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl yn prosesu beth sydd wedi digwydd ar ôl ychydig wythnosau, neu weithiau ychydig yn hirach, a bydd eu symptomau straen yn dechrau diflannu.

Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau penodol o bobl yn wynebu risg uwch o ddatblygu PTSD. Mae'r risg o ddatblygu PTSD yn lleihau os gall rhywun:

  • gael mynediad at gymorth cymdeithasol a
  • dod dros y digwyddiad trawmatig mewn ‘amgylchedd straen isel’.

Gall unrhyw ddigwyddiad trawmatig achosi PTSD, po fwyaf annifyr yw'r profiad, y mwyaf tebygol byddwch chi o ddatblygu PTSD. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n fwy tebygol o ddatblygu PTSD os yw'r digwyddiad:

  • yn sydyn ac yn annisgwyl
  • yn mynd ymlaen am amser hir
  • yn digwydd pan fyddwch chi'n gaeth ac yn methu â dianc
  • yn ganlyniad i weithred ddynol
  • yn achosi llawer o farwolaethau
  • yn achosi anffurfio corfforol
  • yn cynnwys plant.

Os byddwch chi’n parhau i ddod i gysylltiad â straen ac ansicrwydd, bydd hyn yn ei gwneud yn fwy anodd i'ch symptomau PTSD wella.

Efallai eich bod wedi dod dros ddigwyddiad trawmatig os ydych chi'n gallu:

  • meddwl am y peth heb ddioddef gormod o ofid
  • peidio â theimlo dan fygythiad drwy'r amser
  • peidio â meddwl amdano ar adegau amhriodol.

Mae yna nifer o resymau pam efallai na fydd rhywun sydd â PTSD yn cael diagnosis.

Stigma a chamddealltwriaeth

Bydd pobl sydd â PTSD yn aml yn osgoi siarad am eu teimladau fel nad oes rhaid iddyn nhw feddwl am y digwyddiad trawmatig.

Mae rhai pobl yn teimlo bod y symptomau y maen nhw'n eu profi (er enghraifft, osgoi a mygu teimladau) yn eu helpu i ymdopi, a dydyn nhw ddim yn sylweddoli mai PTSD sy'n achosi'r symptomau.

Pan fydd rhywun yn sâl iawn, gall fod yn anodd iddo gredu y bydd yn dychwelyd i sut yr oedd yn teimlo cyn y digwyddiad trawmatig. Gall hyn fod yn rhwystr rhag cael cymorth.

Mae yna, hefyd, gamddealltwriaeth cyffredin mai dim ond pobl yn y lluoedd arfog sy'n cael PTSD. Mewn gwirionedd, gall PTSD ddigwydd i unrhyw un, ac mae pob profiad o PTSD yn ddilys.

Diagnosis anghywir

Efallai y bydd rhai pobl sydd â PTSD yn cael diagnosis anghywir o gyflyrau fel gorbryder neu iselder. Bydd gan rai pobl broblemau iechyd seicolegol neu gorfforol eraill sy'n golygu na fydd eu PTSD yn cael ei sylwi.

Efallai bod ganddyn nhw hefyd ‘symptomau corfforol heb esboniad meddygol’ fel:

  • anawsterau gastroberfeddol
  • syndromau poen
  • cur pen/pent tost

Gall y symptomau hyn olygu bod eu PTSD yn cael ei gofnodi fel rhywbeth arall.

Heriau eraill

Efallai y bydd rhai pobl sydd â PTSD hefyd yn wynebu heriau eraill, megis anawsterau perthynas neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Gall y rhain gael eu hachosi gan eu PTSD, ond gallant fod yn fwy amlwg na'r PTSD ei hun.

Gall PTSD ddatblygu ar unrhyw oedran. Yn ogystal â'r symptomau PTSD a brofir mewn oedolion, gall plant hefyd brofi:

  • Breuddwydion brawychus - Mewn plant, efallai y bydd, neu na fydd, y breuddwydion hyn yn adlewyrchu'r digwyddiad trawmatig go iawn.
  • Chwarae ailadroddus - Bydd rhai plant yn actio'r digwyddiad trawmatig wrth chwarae. Er enghraifft, gallai plentyn mewn damwain ffordd ddifrifol ail-greu'r ddamwain gyda cheir tegan. 
  • Symptomau corfforol - Efallai y byddant yn cwyno am boen stumog a chur pen/pen tost.
  • Ofn y bydd eu bywyd yn dod i ben yn fuan - Efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd credu y byddant yn byw'n ddigon hir i ddod i oed.

Mae yna nifer o driniaethau gwahanol ar gyfer PTSD, gan gynnwys therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT), Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau’r Llygaid (EMDR) a meddyginiaethau.

Seicotherapi

Bydd triniaethau seicotherapi ar gyfer PTSD yn canolbwyntio ar y profiad trawmatig, yn hytrach na'ch bywyd yn y gorffennol. Byddant yn eich helpu gyda'r pethau canlynol:

  • Derbyn - Er na allwch chi newid beth sydd wedi digwydd, gallwch ddysgu derbyn ei bod yn bosibl meddwl yn wahanol am y digwyddiad, y byd a'ch bywyd.
  • Cofio'r digwyddiad - Cofio beth ddigwyddodd heb gael eich llethu gan ofn a gofid. Byddwch yn gallu meddwl am beth ddigwyddodd pan fyddwch chi'n dewis gwneud hynny, yn hytrach na thrwy feddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau.
  • Rhoi eich profiadau mewn geiriau - Siarad am beth ddigwyddodd fel y gall eich meddwl roi'r atgofion i gadw, a symud ymlaen at bethau eraill.
  • Teimlo'n fwy diogel - Eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth dros eich teimladau. Gall hyn eich helpu i deimlo'n fwy diogel, felly ni fydd angen i chi osgoi'r atgofion i'r un graddau.

Dim ond rhywun sydd wedi'i hyfforddi a'i achredu'n briodol ddylai gynnig triniaeth seicotherapi. Fel arfer, cynhelir sesiynau o leiaf unwaith yr wythnos, gyda'r un therapydd, ac maen nhw'n aml yn para am o leiaf 8-12 wythnos.

Er y bydd sesiynau fel arfer yn para tuag awr, weithiau gallant bara hyd at 90 munud.

Mae therapïau ar gyfer PTSD yn cynnwys:

Therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT)

Mae hwn yn therapi siarad a all eich helpu i newid eich ffyrdd o feddwl. Ymhen amser gall hyn eich helpu i deimlo'n well ac i ymddwyn yn wahanol. Fel arfer caiff TF-CBT ei gyflwyno mewn sesiynau un i un, er bod rhywfaint o dystiolaeth y gellir ei gyflwyno mewn grwpiau hefyd.

EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid)

Mae hon yn dechneg sy'n defnyddio symudiadau'r llygaid i helpu'r ymennydd i brosesu atgofion trawmatig.

Gofynnir i chi gofio'r digwyddiad trawmatig a sut mae'n gwneud i chi feddwl a theimlo. Tra byddwch chi'n gwneud hyn, gofynnir i chi wneud symudiadau llygaid neu byddwch yn cael rhyw fath o ‘symbyliad dwyochrog’ fel tapio dwylo. Mae ymchwil yn dangos bod hyn yn lleihau dwyster yr emosiynau sy’n gysylltiedig â’r cof trawmatig, gan helpu i ddatrys y trawma.

Dim ond ymarferydd hyfforddedig ddylai gynnig triniaeth EMDR. Fel arfer cyflwynir EMDR dros 8-12 sesiwn sy'n para rhwng 60 a 90 munud yr un.

Gall rhai mathau eraill o therapïau siarad fod yn ddefnyddiol i dargedu symptomau penodol (e.e. cwsg gwael) ar gyfer pobl sydd ddim yn ymateb yn dda i EMDR neu TF-CBT.

Meddyginiaeth

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar therapïau eraill i drin eich PTSD ac wedi canfod nad ydyn nhw'n gweithio, efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder i chi.

Mae atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs) yn gyffuriau gwrth-iselder a all helpu i leihau symptomau PTSD. Os ydych chi hefyd yn dioddef o iselder, gall cyffuriau gwrth-iselder helpu gyda hyn.

Os na fydd SSRIs yn gweithio i chi, efallai y cewch gynnig meddyginiaeth arall, ond fel arfer dylai hyn fod ar gyngor arbenigwr iechyd meddwl.

Mae tystiolaeth yn dangos mai TF-CBT ac EMDR yw'r therapïau rheng flaen gorau. Gall meddyginiaeth fod o gymorth i bobl nad ydynt eisiau therapïau siarad neu i bobl na allant gael mynediad atynt yn hawdd.

Pryd bynnag y bo modd, dylid cynnig therapïau seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT neu EMDR) cyn meddyginiaeth. Mae hyn yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Os ydych chi'n dioddef o PTSD, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i hybu eich adferiad. Bydd eich therapydd yn eich cefnogi gyda'r pethau hyn ac yn gwneud yn siŵr eich bod yn eu gwneud ar yr adeg iawn:

  • Cadw at eich trefn arferol - Os oes modd, ceisiwch gadw at, neu fynd yn ôl at, eich trefn arferol. Gall cadw eich bywyd mor normal â phosibl gynnig sylfaen i chi ar gyfer eich adferiad.
  • Siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo - Er na ddylech deimlo bod yn rhaid i chi siarad â rhywun-rhywun am beth ddigwyddodd, gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu i brosesu eich teimladau mewn man diogel. Gallai, hefyd, fod o gymorth i siarad â rhywun sydd wedi profi’r un peth â chi, neu sydd wedi profi digwyddiad tebyg o’r blaen, os nad yw gwneud hynny’n peri gormod o ofid.
  • Rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio - Rhowch gynnig ar fyfyrio hunanarweiniol ac ymarferion eraill i ymlacio. Gall ymlacio fod yn anodd os ydych chi'n dioddef o PTSD, felly siaradwch â'ch therapydd am ymarferion neu weithgareddau a allai weithio i chi.
  • Mynd yn ôl i'r gwaith neu'r ysgol - Os fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, gall mynd yn ôl i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r brifysgol fod o gymorth. Gall roi ymdeimlad o drefn neu rwtîn i chi. Fodd bynnag, dylech geisio osgoi sefyllfaoedd lle y byddwch efallai yn agored i drawma pellach neu straen dwys. Yn gyffredinol, y peth gorau yw gweithio mewn amgylchedd cefnogol, straen isel nes i chi gael triniaeth.
  • Bwyta a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd - Ceisiwch fwyta ar yr adegau arferol, hyd yn oed os nad oes awydd bwyd arnoch chi. Os fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, ceisiwch wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Gall hyn hefyd eich helpu i deimlo’n fwy blinedig pan ddaw hi’n amser cysgu.
  • Treulio amser gydag eraill - Gall treulio amser gyda'r bobl sy'n bwysig i chi eich helpu i deimlo bod cefnogaeth ar gael.
  • Disgwyl y byddwch yn gwella - Bydd canolbwyntio ar y syniad y byddwch chi’n gwella yn y pen draw yn dda i'ch adferiad. Cofiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i wella'n gyflym.
  • Mynd yn ôl i'r man lle digwyddodd y profiad trawmatig - Pan fyddwch chi'n teimlo yn barod, efallai y byddwch chi'n dymuno mynd yn ôl i'r man lle digwyddodd y profiad trawmatig. Siaradwch â'ch therapydd neu feddyg os ydych chi'n bwriadu cymryd y cam hwn, fel y gallan nhw eich cefnogi.

Tra byddwch chi'n gwella, efallai y bydd angen hefyd i chi fod yn ofalus neu'n wyliadwrus wrth wneud rhai pethau. Fodd bynnag, gall gwneud y ‘peth iawn’ fod yn heriol iawn ac ni ddylech chi deimlo’n euog os byddwch chi'n gwneud unrhyw un o’r pethau hyn:

  • Barnu eich hun - Nid yw symptomau PTSD yn arwydd o wendid. Maent yn ymateb normal i brofiadau brawychus.
  • Cadw eich teimladau i chi'ch hun - Os ydych chi'n dioddef o PTSD, peidiwch â theimlo'n euog am rannu eich meddyliau a'ch teimladau ag eraill. Gall siarad am sut rydych chi'n teimlo hybu eich adferiad.
  • Disgwyl i bethau fynd yn ôl i normal ar unwaith - Gall triniaeth ar gyfer PTSD gymryd amser. Ceisiwch beidio â rhoi pwysau ar eich hun i wneud gormod yn rhy fuan.
  • Cadw draw oddi wrth bobl eraill - Gall treulio llawer o amser ar eich pen eich hun gynyddu teimladau o unigedd a gwneud i chi deimlo'n waeth.
  • Yfed ac ysmygu - Er y gall alcohol eich helpu i ymlacio, dros amser fe allai wneud i chi deimlo'n waeth. Gall coffi a nicotin weithredu fel symbylwyr a allai wneud i chi deimlo'n waeth os ydych chi'n profi symptomau sy'n gysylltiedig â PTSD.
  • Gorflino - Gall PTSD wneud cysgu'n anodd, ond ceisiwch gymaint â phosibl i gadw at eich patrwm cysgu arferol ac osgoi aros ar eich traed yn hwyr, gan y gall hyn wneud i chi deimlo'n waeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadnodd cysgu'n dda.

Yn olaf, dylech fod yn ofalus wrth yrru ac os ydych chi'n teimlo'n anniogel i yrru dylech roi gwybod i'r DVLA. Gall pobl fod yn fwy tebygol o gael damweiniau ar ôl i rywbeth trawmatig ddigwydd.

Mae rhai pobl yn datblygu anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth). Mae hyn yn cael ei achosi gan brofi digwyddiad neu gyfres o ddigwyddiadau sy'n hynod o fygythiol neu frawychus. Gall y profiadau hyn ddigwydd i blant neu i oedolion.

Yn aml iawn bydd y digwyddiadau hyn yn rhai a oedd yn anodd neu'n amhosibl eu hosgoi neu ddianc rhagddyn nhw. Er enghraifft:

  • artaith
  • caethwasiaeth
  • ymgyrchoedd hil-laddiad
  • byw mewn ardal o ryfel
  • trais domestig dros gyfnod hir
  • cam-drin rhywiol neu gorfforol parhaus yn ystod plentyndod. 

Yn ogystal â symptomau PTSD, efallai y bydd pobl sy’n dioddef o PTSD cymhleth hefyd yn profi:

  • teimladau negyddol iawn tuag at eu hunain ac ystyried eu bod ‘yn ddiystyr, yn ddi-rym neu'n ddiwerth’
  • anhawster mawr i reoli eu hemosiynau a'u hymatebion emosiynol
  • anawsterau eithriadol i gynnal perthnasoedd a theimlo'n agos at bobl eraill

Mae diffyg ymddiriedaeth mewn pobl eraill a'r byd yn gyffredinol yn gyffredin mewn pobl sy'n dioddef o PTSD cymhleth. Mae triniaeth yn aml yn hirach er mwyn iddyn nhw fedru meithrin perthynas ddiogel gyda therapydd. Yn aml, bydd y gwaith y mae rhywun sydd â PTSD cymhleth yn ei wneud gyda therapydd yn digwydd mewn tri cham:

Sefydlogi

Yn y cam sefydlogi byddwch yn dysgu ymddiried yn eich therapydd, a deall a rheoli eich teimladau o ofid a datgysylltiad.

Fel rhan o'r broses sefydlogi, efallai y byddwch chi'n dysgu technegau 'sylfaenu'. Gall y rhain eich helpu i ganolbwyntio ar deimladau corfforol cyffredin, a'ch atgoffa eich bod yn byw yn y presennol ac nid yn y gorffennol.

Gall sefydlogi eich helpu i 'ddatgysylltu' eich teimladau o ofn a phryder oddi wrth yr atgofion a'r emosiynau sy'n eu hachosi. Gall hyn helpu i wneud yr atgofion yn llai brawychus.

Nod sefydlogi yw eich galluogi yn y pen draw i fyw eich bywyd heb bryder neu ôl-fflachiau.

Weithiau, mae'n bosibl mai sefydlogi fydd yr unig help sydd ei angen.

Therapïau sy'n canolbwyntio ar drawma

Gall therapi sy'n canolbwyntio ar drawma, gan gynnwys EMDR neu TF-CBT, eich helpu i brosesu eich profiadau trawmatig. Gall mathau eraill o seicotherapi, gan gynnwys seicotherapi seicodynamig, fod o gymorth hefyd. Mae'n rhaid bod yn ofalus mewn PTSD cymhleth oherwydd gall y triniaethau hyn waethygu'r sefyllfa os na chânt eu defnyddio'n iawn.

Ailintegreiddio neu ailgysylltu

Gall ailintegreiddio i ffordd arferol o fyw eich helpu i ddod i arfer â'r byd go iawn pan na fyddwch chi bellach yn y sefyllfa beryglus yr oeddech ynddi o'r blaen. Gall eich helpu i ddechrau gweld eich hun fel person sydd â hawliau a dewisiadau.

Bydd ailintegreiddio yn eich helpu i:

  • uniaethu'n dosturiol â chi'ch hun ac â phobl eraill
  • ailsefydlu ymddiriedaeth ynoch chi'ch hun ac eraill
  • ailgydio mewn cyfeillgarwch, perthnasoedd agos a gweithgareddau sy'n hybu eich iechyd a'ch lles

Meddyginiaeth

Fel yn achos PTSD, gellir defnyddio cyffuriau gwrth-iselder neu feddyginiaeth arall yn ogystal â seicotherapi. Gellir defnyddio meddyginiaeth hefyd os nad yw seicotherapi yn gweithio neu os nad yw'n bosibl i chi. Efallai y byddai cael arbenigwr iechyd meddwl i adolygu eich meddyginiaeth o gymorth hefyd.

Hunangymorth

Os ydych chi'n dioddef o PTSD cymhleth, gall fod yn ddefnyddiol ceisio gwneud pethau normal sydd heb unrhyw gysylltiad â'ch profiadau blaenorol o drawma. Gallai hyn gynnwys:

  • gwneud ffrindiau
  • dod o hyd i swydd
  • gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • dysgu technegau ymlacio
  • ymgymryd â hobi
  • cael anifeiliaid anwes.

Gall y pethau hyn eich helpu i ddod i ymddiried yn raddol yn y byd o'ch cwmpas. Fodd bynnag, gall hyn gymryd amser ac nid oes unrhyw gywilydd os byddwch chi’n cael y pethau hyn yn anodd neu'n methu â'u gwneud ar unwaith.

Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd newydd brofi digwyddiad trawmatig, mae rhai pethau y gallech chi gadw llygad amdanyn nhw. Gallai’r pethau hyn fod yn arwyddion eu bod yn cael trafferth ymdopi:

  • Newidiadau mewn ymddygiad - Perfformiad gwael yn y gwaith, bod yn hwyr, cymryd absenoldeb salwch, mân ddamweiniau
  • Newidiadau emosiynol - Dicter, anniddigrwydd, iselder, diffyg diddordeb a diffyg canolbwyntio
  • Newidiadau yn y ffordd o feddwl - Pendroni dros fygythiadau neu ofnau, safbwyntiau negyddol am y dyfodol
  • Symptomau corfforol annisgwyl - fel bod yn fyr o wynt, bod ar bigau drain neu ddioddef o boenau yn y stumog

Os ydych chi’n meddwl y gallai rhywun fod yn dangos arwyddion o PTSD, efallai y gallech eu hannog i siarad â'u meddyg teulu. Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon agos atyn nhw i wneud hynny, gallech siarad â rhywun sy'n agos at yr unigolyn ac a fyddai'n gallu cael sgwrs ag ef neu hi.

Gall edrych ar wybodaeth am PTSD , fel yr adnodd hwn, fod o gymorth a'u helpu i adnabod yr anawsterau y maen nhw’n eu profi.

Gall y pethau canlynol helpu i gefnogi rhywun sydd wedi bod drwy ddigwyddiad trawmatig:

  • Siarad - Cymerwch amser er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw siarad â chi am eu profiadau.
  • Gwrando - Gadewch iddyn nhw siarad, a cheisiwch beidio â thorri ar draws y llif na rhannu eich profiadau eich hun.
  • Gofyn cwestiynau cyffredinol - Os byddwch chi'n gofyn cwestiynau, ceisiwch sicrhau eu bod yn gyffredinol ac yn anfeirniadol. Er enghraifft, efallai y gallech chi ofyn ‘wyt ti wedi siarad â rhywun arall am hyn?’ neu ‘ alla i dy helpu di i chwilio am gymorth ychwanegol?’

Dylech geisio osgoi:

  • Dweud wrthyn nhw eich bod chi'n gwybod sut maen nhw'n teimlo - Hyd yn oed os ydych chi wedi profi rhywbeth tebyg, mae pobl yn profi sefyllfaoedd yn wahanol iawn. Gall cymharu profiadau fod yn annefnyddiol.
  • Dweud wrthyn nhw eu bod yn lwcus i fod yn fyw - Yn aml ni fydd pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn teimlo'n lwcus. Yn aml, gallant deimlo'n euog am fod yn fyw os yw eraill wedi marw.
  • Gwneud yn fach o’u profiad - Ceisiwch osgoi awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio gwneud iddyn nhw deimlo'n well. Gall hyn wneud i bobl deimlo nad yw'n bosibl cyfiawnhau eu teimladau.
  • Gwneud awgrymiadau di-fudd - Ceisiwch osgoi gwneud awgrymiadau, hyd yn oed os yw'r pethau hynny wedi gweithio i chi yn y gorffennol. Mae pobl yn wahanol iawn, ac mae'n bosibl eu bod eisoes wedi rhoi cynnig ar beth rydych chi'n ei awgrymu.

Gwybodaeth am PTSD

Elusennau sy'n cefnogi pobl sydd â PTSD

Mae'r elusennau canlynol yn cynnig cymorth i bobl sydd â PTSD neu sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig:

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon. 

Diolch yn arbennig i PTSD UK, a fu mor garedig â chynnig eu hadborth ar yr adnodd hwn.

Golygydd arbenigol: Yr Athro Neil Greenberg 

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

Cyhoeddwyd: Tachwedd 2021

Adolygiad i ddod: Tachwedd 2024

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

This translation was produced by CLEAR Global (Mar 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry