Ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig

Coping after a traumatic event

Below is a Welsh translation of our information resource on coping after a traumatic event. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Bydd llawer o bobl yn profi digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywydau. Mae tua un o bob tri o oedolion yn Lloegr yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un digwyddiad trawmatig.

Gall digwyddiadau trawmatig gynnwys:

  • Gweld rhywun yn marw neu feddwl eich bod chi'n mynd i farw'ch hun
  • cael eich anafu'n ddifrifol neu
  • profi trais rhywiol.

Gall pobl ddod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig mewn un o'r ffyrdd canlynol:

  • Yn uniongyrchol - mae wedi digwydd iddyn nhw
  • Bod yn dyst - maen nhw wedi gweld hyn yn digwydd i rywun arall
  • Dysgu - maen nhw wedi darganfod bod hyn wedi digwydd i rywun sy'n agos iawn atyn nhw
  • Cysylltiad rheolaidd - maen nhw wedi dod i gysylltiad rheolaidd â digwyddiadau trawmatig eu hunain neu â digwyddiadau trawmatig rheolaidd sy'n effeithio ar bobl eraill. Gwyddom hefyd y gall rhai pobl sy’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig drwy gyfryngau electronig, teledu, ffilmiau neu luniau yn y gwaith brofi anawsterau iechyd meddwl.

Gall enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig gynnwys:

  • Bod yn dyst i farwolaeth trwy drais
  • Damweiniau difrifol, e.e. damwain car
  • Ymosodiad corfforol neu rywiol
  • Problemau iechyd difrifol neu fod mewn gofal dwys
  • Cymhlethdodau wrth roi genedigaeth
  • Diagnosis o salwch sy'n bygwth bywyd
  • Rhyfel a gwrthdaro
  • Ymosodiadau gan derfysgwyr
  • Trychinebau naturiol neu o waith dyn, e.e. tswnami neu dân

Mae'n bwysig cofio bod yna nifer fawr o ddigwyddiadau sydd heb eu cynnwys yma ond sy’n gallu bod yn brofiadau trawmatig. Os nad yw eich profiad chi'n cael sylw yma, nid yw hynny'n golygu na ddylech geisio cymorth a chefnogaeth.

Mae gan rai pobl swyddi sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o brofi digwyddiadau trawmatig yn y gwaith. Gall y swyddi hyn gynnwys:

  • Gweithwyr gwasanaethau brys (e.e. swyddogion heddlu, diffoddwyr tân neu barafeddygon)
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Staff gofal dwys
  • Personél milwrol a phobl eraill sy'n gweithio mewn ardaloedd o ryfel

Ar ôl digwyddiad trawmatig, mae'n gyffredin i bobl brofi rhai o'r pethau canlynol:

  • Atgofion, breuddwydion ac ôl-fflachiau - efallai y byddwch chi'n cael atgofion gofidus, breuddwydion neu hunllefau am y digwyddiad. Efallai y byddwch chi hefyd yn profi'r digwyddiad fel petai'n digwydd eto (gelwir hyn yn ôl-fflach).
  • Teimlo'n ofidus pan fyddwch chi’n cael eich atgoffa o'r digwyddiad - efallai y byddwch chi'n teimlo'n arbennig o ofidus pan fyddwch chi'n agos i'r man lle y digwyddodd y digwyddiad neu mewn amgylchedd sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad.
  • Osgoi teimladau a sefyllfaoedd - efallai y byddwch chi'n osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
  • Anghofio - efallai na fyddwch chi'n gallu cofio rhannau o'r digwyddiad.
  • Teimladau anodd - gall y rhain gynnwys:
    • teimlo'n negyddol amdanoch chi'ch hun, am bobl eraill neu am y byd
    • beio'ch hun neu eraill am beth ddigwyddodd
    • emosiynau negyddol fel ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd
    • methu â theimlo hapusrwydd, boddhad na chariad tuag at eraill
  • Newidiadau yn y ffordd rydych chi'n ymddwyn - Gall y rhain gynnwys:
    • peidio â gwneud neu ymddiddori mewn gweithgareddau yr oeddech chi'n arfer eu mwynhau
    • teimlo ar wahân i bobl eraill
    • ymddwyn mewn ffyrdd sy'n ddi-hid neu'n hunanddinistriol
    • bod yn ddig ac yn ymosodol tuag at bobl neu bethau
    • bod yn orwyliadwrus, neu ‘ar wyliadwriaeth’

Dyma'r un symptomau ag y gallai rhywun sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) eu datblygu. Fodd bynnag, ni fydd pawb sy'n profi digwyddiad trawmatig yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi digwyddiad trawmatig yn canfod bod yr effeithiau negyddol yn diflannu dros amser.

Gall gymryd ychydig ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd i wella ar ôl digwyddiad trawmatig.

Os bydd rhywun yn dal i deimlo’n ofidus ar ôl mis, ond bod y teimladau hyn yn pylu’n araf, mae'n debyg y byddan nhw'n gwella ac na fydd angen triniaeth arnyn nhw.

Fodd bynnag, os ydyn nhw'n profi gofid sylweddol sydd ddim yn gwella o gwbl ar ôl mis, neu sy'n dal i fod yn bresennol ar ôl mwy na thri mis, gallai hyn fod yn arwydd eu bod wedi datblygu PTSD

Dyma rai pethau y dylech chi geisio eu gwneud ar ôl profi digwyddiad trawmatig:

Rhoi amser i chi'ch hun

Gall gymryd amser i wella ar ôl digwyddiad trawmatig. Efallai y bydd yn cymryd amser i chi dderbyn beth sydd wedi digwydd neu ddysgu byw gyda'r profiad. Os yw rhywun wedi marw neu os ydych chi wedi colli rhywbeth arwyddocaol i chi, efallai y bydd angen i chi alaru hefyd. Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i deimlo'n well ar unwaith.

Siarad am y digwyddiad

Ar ôl digwyddiad trawmatig efallai y byddai'n well gennych chi osgoi pethau sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad, ac osgoi siarad am beth ddigwyddodd. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos y gall siarad am y digwyddiad a'ch teimladau eich helpu i fod yn fwy gwydn. Mae ymchwil wedi dangos bod osgoi atgofion a theimladau yn gwneud i bobl deimlo'n waeth.

Siarad â phobl eraill sydd wedi profi'r un peth â chi

Efallai y bydd siarad â phobl eraill sydd wedi profi'r un digwyddiad trawmatig â chi, neu sydd wedi cael profiadau tebyg, yn eich helpu. Fodd bynnag, mae pobl yn gwella ac yn ymateb i'r un digwyddiadau mewn gwahanol ffyrdd. Ceisiwch beidio â chymharu eich adferiad chi ag adferiad rhywun arall. Os ydych chi'n teimlo eich bod yn gallu cefnogi pobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, yna gall hynny fod o gymorth hefyd.

Gofyn am gefnogaeth

Gall gofyn am gefnogaeth gan ffrindiau, teulu neu bobl eraill yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw eich helpu i ymdopi'n well ar ôl digwyddiad trawmatig. Yn ogystal â chynnig cefnogaeth emosiynol, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu gyda thasgau ymarferol, neu dreulio amser gyda chi yn gwneud pethau ‘normal’.

Osgoi treulio llawer o amser ar eich pen eich hun

Mae ymchwil wedi dangos bod cael pobl eraill o'ch cwmpas yn ei gwneud hi'n llai tebygol y byddwch chi'n profi iechyd meddwl gwael ar ôl digwyddiad trawmatig. Er efallai na fydd hyn yn bosibl, os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun efallai yr hoffech chi weld a yw'n bosibl i chi symud i mewn gyda theulu neu ffrind agos ar ôl digwyddiad trawmatig. Os nad yw hyn yn bosibl, ceisiwch dreulio mwy o amser gyda phobl sy'n agos atoch chi, neu aros mewn cysylltiad â nhw dros y ffôn neu drwy alwadau fideo.

Cadw at eich trefn neu rwtîn arferol

Ceisiwch gadw at y drefn yr oeddech chi'n ei dilyn cyn y digwyddiad trawmatig gymaint ag y gallwch, hyd yn oed os yw hynny'n teimlo'n anodd. Ar ôl y digwyddiad efallai y byddwch yn gweld bod eich arferion bwyta ac ymarfer corff yn newid, a'ch bod yn cael trafferth cysgu. Ceisiwch fwyta a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a chael digon o gwsg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadnodd sy’n trafod cysgu'n dda.

Ystyried ceisio cymorth proffesiynol

I rai pobl mae siarad â'u meddyg teulu yn gallu bod yn ddefnyddiol os ydyn nhw'n cael trafferthion. Yn gyffredinol, nid yw ceisio cefnogaeth iechyd meddwl broffesiynol yn ystod y mis cyntaf ar ôl digwyddiad trawmatig yn ddefnyddiol, oni bai bod eich meddyg teulu yn argymell hyn oherwydd bod eich symptomau mor ddifrifol.

Sylwi ar sut rydych chi'n teimlo

Am yr ychydig fisoedd cyntaf yn dilyn digwyddiad trawmatig, ystyriwch dalu sylw i sut rydych chi'n teimlo dros amser. Os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwella, neu os byddwch chi'n dechrau teimlo'n waeth, dylech siarad â'ch meddyg teulu.

Gofyn am gefnogaeth gan eich cyflogwr

Os mai fel rhan o’ch swydd y gwnaethoch chi brofi'r digwyddiad trawmatig, efallai y bydd gan eich gweithle systemau cymorth i'ch helpu chi. Os mai y tu allan i'r gwaith y gwnaethoch chi brofi'r digwyddiad trawmatig, efallai y byddwch chi'n dymuno rhoi gwybod i'ch cyflogwr fel y gall eich cefnogi. Gallai hyn fod mor syml â dweud wrthyn nhw beth sydd wedi digwydd fel eu bod yn ymwybodol o sut rydych chi'n teimlo. Gallech ofyn iddyn nhw addasu sut rydych chi'n gweithio, er enghraifft sicrhau nad ydych chi'n dod i gysylltiad â thrawma pellach neu straen dwys, neu addasu'ch oriau gwaith. Gweler yr adran ar gyfer cyflogwyr yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.

Cymryd gofal

Ar ôl digwyddiad trawmatig, mae pobl yn fwy tebygol o gael damweiniau. Byddwch yn ofalus o amgylch y cartref a phan fyddwch chi'n gyrru. Ceisiwch beidio â defnyddio alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon fel ffordd o ymdopi. Er eu bod yn gallu gwneud ichi deimlo'n well yn y tymor byr, fyddan nhw ddim yn helpu eich adferiad yn y tymor hir.

Osgoi gormod o adroddiadau yn y cyfryngau am y digwyddiad.

Ar ôl profi digwyddiad trawmatig, gall fod yn demtasiwn gwylio neu ddarllen llawer o bethau amdano ar gyfryngau cymdeithasol neu yn y newyddion. Mae hyn yn arbennig o wir am ddigwyddiadau proffil uwch fel ymosodiadau gan derfysgwyr neu drychinebau naturiol. Fodd bynnag, mae'n well osgoi gwylio, gwrando neu ddarllen llawer o gyfryngau sy'n trafod y digwyddiad, yn enwedig os yw gwneud hynny yn achosi gofid i chi. 

Mae pawb yn delio yn wahanol â phrofiadau trawmatig. Bydd llawer o bobl yn gallu gwella ar ôl digwyddiad trawmatig gyda chefnogaeth gan deulu, ffrindiau a'u gweithle.

Hyd yn oed pan fyddwch chi wedi gwella ar ôl digwyddiad trawmatig, mae'n debyg na fyddwch chi wedi anghofio amdano. Efallai y byddwch chi'n dal i deimlo emosiynau negyddol yn ei gylch neu'n profi gofid wrth feddwl amdano o dro i dro. Fodd bynnag, ni ddylai'r teimladau hyn fod yn llethol na'ch rhwystro chi rhag mwynhau bywyd.

Dylech ofyn i'ch meddyg teulu am help:

  • os bydd eich symptomau yn ddrwg iawn ac
  • os bydd yn ymddangos nad yw eich symptomau'n gwella

Os yw'ch symptomau'n ddrwg iawn ac yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd ar ôl un mis, dylech siarad â'ch meddyg teulu.

Os yw'ch symptomau yn llai difrifol ond wedi para am fwy na thri mis, dylech siarad â'ch meddyg teulu.

Bydd lleiafrif sylweddol o bobl sy'n profi digwyddiad trawmatig yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD. Mae hwn yn gyflwr iechyd meddwl difrifol.

Efallai y bydd pobl sydd â PTSD yn cael anawsterau mwy difrifol ar y cychwyn ac ni fydd eu meddyliau a'u teimladau gofidus yn diflannu ar eu pennau eu hunain. Gallant ei gwneud hi'n anodd i'r person fyw ei fywyd fel yr oedd yn arfer gwneud.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau, achosion a thriniaethau ar gyfer PTSD yn ein hadnodd PTSD.

Os ydych chi wedi profi digwyddiad trawmatig, ac yn cael anawsterau parhaus, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at weithiwr proffesiynol sy'n arbenigo mewn helpu pobl i ymdopi â thrawma.

Mae nifer o wahanol driniaethau ar gael i helpu i drin PTSD. Mae'r rhain yn cynnwys seicotherapi, therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT) a Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid (EMDR). Efallai y byddwch hefyd yn cael cynnig cyffuriau gwrth-iselder os ydych chi wedi gweld nad yw triniaethau eraill yn gweithio.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl driniaethau hyn yn ein hadnodd PTSD.

Weithiau gall meddyginiaeth fod o gymorth yn dilyn trawma, ond mae'n dal yn bwysig gweld eich meddyg yn rheolaidd i asesu sut mae pethau'n mynd.

Cyffuriau cysgu

Os ydych chi'n cael trafferth cysgu yn dilyn digwyddiad trawmatig, efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi tabledi cysgu i chi. Dim ond am gyfnod byr y byddwch chi'n cael cynnig y rhain, ac nid ydyn nhw'n ateb parhaol.

Os ydych chi'n datblygu PTSD neu gyflwr arall fel iselder ar ôl digwyddiad trawmatig, efallai y byddwch chi'n cael cynnig meddyginiaethau eraill fel cyffuriau gwrth-iselder. Mae rhagor o wybodaeth am feddyginiaethau a thriniaethau a ddefnyddir i drin PTSD yn ein hadnodd PTSD.

Gall y pethau canlynol helpu i gefnogi rhywun sydd wedi bod drwy brofiad trawmatig:

  • Bod ar gael - Cynigiwch dreulio amser gyda nhw. Os nad ydyn nhw eisiau eich gweld chi, efallai y bydd gadael iddyn nhw wybod y byddwch chi'n dal yno os ydyn nhw'n newid eu meddwl yn help. Er y dylech chi osgoi eu plagio, gall eu hannog i dderbyn eich cefnogaeth fod yn ddefnyddiol.
  • Gwrando - Ceisiwch beidio â phwyso arnyn nhw i rannu os nad ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Os ydyn nhw eisiau siarad, ceisiwch wrando heb dorri ar draws neu rannu eich profiadau eich hun.
  • Gofyn cwestiynau cyffredinol - Os byddwch chi'n gofyn cwestiynau, ceisiwch sicrhau eu bod yn gyffredinol ac yn anfeirniadol. Er enghraifft, efallai y gallech chi ofyn ‘wyt ti wedi siarad â rhywun arall am hyn?’ neu ‘alla i dy helpu di i chwilio am gymorth ychwanegol?’
  • Cynnig help ymarferol - Efallai y bydd hi'n fwy anodd iddyn nhw edrych ar ôl eu hunain a chadw at drefn ddyddiol. Cynigiwch ychydig o help, fel glanhau neu baratoi pryd o fwyd.

Dylech geisio osgoi:

  • Dweud wrthyn nhw eich bod chi'n gwybod sut maen nhw'n teimlo - Hyd yn oed os ydych chi wedi profi rhywbeth tebyg, mae pobl yn profi sefyllfaoedd yn wahanol iawn. Gall cymharu profiadau fod yn annefnyddiol.
  • Dweud wrthyn nhw eu bod yn lwcus i fod yn fyw - Yn aml ni fydd pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn teimlo'n lwcus. Yn aml, gallant deimlo'n euog am fod yn fyw os yw pobl eraill wedi marw.
  • Gwneud yn fach o’u profiad - Ceisiwch osgoi awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio gwneud iddyn nhw deimlo'n well. Gall hyn wneud i bobl deimlo nad yw'n bosibl cyfiawnhau eu teimladau.
  • Gwneud awgrymiadau di-fudd - Ceisiwch osgoi gwneud awgrymiadau, hyd yn oed os ydych chi wedi darganfod bod y pethau hynny wedi gweithio i chi yn y gorffennol. Mae pobl yn wahanol iawn, ac mae'n bosibl eu bod eisoes wedi rhoi cynnig ar beth rydych chi'n ei awgrymu.

Weithiau mae pobl yn profi digwyddiadau trawmatig tra maen nhw yn y gwaith. Fel y soniwyd eisoes, mae swyddi rhai pobl yn golygu eu bod yn fwy tebygol o brofi digwyddiad trawmatig. Bydd rhai pobl yn profi digwyddiadau trawmatig y tu allan i'r gwaith, ond yn elwa o fod mewn amgylchedd gwaith cefnogol wrth iddynt wella.

Os yw person neu nifer o bobl sy'n gweithio i chi wedi profi digwyddiad trawmatig mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i'w cefnogi:

  • Siarad am beth ddigwyddodd - Os mai yn y gwaith y digwyddodd y digwyddiad trawmatig, gall siarad yn agored am y digwyddiad fod yn ddefnyddiol. Mae'n ddefnyddiol hefyd dweud wrth y bobl sy'n gweithio i chi lle gallant geisio cefnogaeth os ydyn nhw'n cael trafferthion.
  • Cadw llygad ar bethau - Siaradwch â'r person neu'r bobl rydych chi'n eu cyflogi am sut maen nhw'n teimlo. Gall hyn eich helpu i ddarganfod a ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen, a sylwi ar unrhyw newidiadau ynddyn nhw. Oedwch cyn derbyn 'dw i'n iawn' fel ymateb os ydych chi'n amau bod rhywun yn cael trafferthion.
  • Creu awyrgylch cefnogol - Mae annog perthnasoedd cadarnhaol mewn timau yn gallu hybu awyrgylch cadarnhaol yn y gweithle. Gallwch hefyd annog staff i fynd i unrhyw weithdai neu ddefnyddio unrhyw systemau cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
  • Gwneud addasiadau rhesymol - Siaradwch â'ch gweithiwr neu weithwyr i gael gwybod pa addasiadau rhesymol yn y gwaith fyddai efallai yn eu gwneud yn fwy cyfforddus. Gallai hyn gynnwys pethau fel oriau hyblyg neu newidiadau bach i'r amgylchedd gwaith. Cofiwch ofyn bob tro beth sydd ei angen ar rywun yn hytrach na chymryd eich bod chi'n gwybod beth fydd o gymorth.

Gall yr holl gamau gweithredu hyn gael effaith gadarnhaol ar les gweithwyr.

Dolenni defnyddiol

Elusennau sy’n cefnogi pobl sydd wedi bod drwy ddigwyddiad trawmatig

Rape Crisis (Argyfwng Trais Rhywiol) - mae tair elusen argyfwng trais rhywiol yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU:

Victim Support (Cymorth i Ddioddefwyr) - mae tair elusen yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU sydd wedi dioddef troseddau a digwyddiadau trawmatig:

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Diolch yn arbennig i PTSD UK, a fu mor garedig â chynnig eu hadborth ar yr adnodd hwn.

Golygydd arbenigol: Yr Athro Neil Greenberg

Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.

Cyhoeddwyd: Tachwedd 2021

Adolygiad i ddod: Tachwedd 2024

© Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

This translation was produced by CLEAR Global (Mar 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry