Cefnogi recriwtio yng Nghymru

Yma fe welwch wybodaeth i helpu i recriwtio Seiciatryddion yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys templedi a dogfennau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chymeradwyo swyddi, yn ogystal â'r broses ar gyfer cynnal paneli penodi.

Y broses gymeradwyo a'r templed disgrifiadau swydd

Dyletswyddau statudol safonau'r Gymraeg

Mae gan sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus ddyletswydd i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae adran 26 o'r Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod safonau ymddygiad sy'n ymwneud â'r Gymraeg.

Mae'r safonau hyn wedi'u pennu mewn rheoliadau – mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn gymwys i Fyrddau Iechyd GIG Cymru ac mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 yn gymwys i awdurdodau lleol (ac felly i adrannau gwasanaethau cymdeithasol).

AACs ac Aseswyr Colegau

Cymorth drwy COVID-19

Er gwaethaf y sefyllfa bresennol, gall y Coleg eich helpu o hyd i ddod o hyd i Aseswyr Coleg ar gyfer paneli cyfweld ac adolygu disgrifiadau swydd.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry