Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Cenedlaethol
Mae Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn fenter gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru i hyrwyddo ymchwil, arloesi, ac ymwybyddiaeth o broblemau Iechyd Meddwl ledled Cymru.Cynlluniwyd y rhaglen genedlaethol i annog pobl ifanc i wneud a chyflwyno ymchwil sy'n canolbwyntio ar faterion Iechyd Meddwl cyfredol. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar sail gwreiddioldeb eu hymchwil ac ansawdd cyflwyniad eu prosiect.
Bydd mynegiadau o ddiddordeb ar gyfer 2026/27 yn agor yn yr Hydref/Gaeaf.
Llinell amser
- Cyhoeddir y llinell amser ar gyfer gwobr 2026/27 maes o law.
Cwestiynau Cyffredin
Dyma ychydig o fanylion am y wobr, tra bydd gwybodaeth bellach a ffurflenni yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol unwaith y bydd datganiadau o ddiddordeb wedi’u cofrestru trwy lenwi’r blwch glas golau ar ochr dde’r sgrin. Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at Caroline Walters.
Mae'r gwobrau yn agored i unrhyw fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10 i 13.
Nid oes cyfyngiad ar faint o waith myfyrwyr y gellir ei gyflwyno o un ysgol.
Er mai Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru yw'r corff proffesiynol sy'n cynrychioli meddygon yn bennaf, rydym yn awyddus i'r wobr hon fod ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl. Gallai'r ymgeiswyr gynnwys y rhai sydd yn awyddus i ddilyn gyrfa mewn proffesiwn gofal iechyd, sydd â diddordeb mewn dadansoddi gwyddonol neu sydd â chysylltiad mwy personol â materion iechyd meddwl.
Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno crynodeb o’u hymchwil ynghyd â methodoleg ysgrifenedig a chanlyniadau.
Gellir cyflwyno adran drafodaeth yr ymchwil mewn unrhyw fformat a ddewisir gan y myfyriwr. Er enghraifft, gallai hwn fod yn adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad PowerPoint, poster, fideo, podlediad, neu gyfuniad.
Croesawir cyflwyniadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae yna nifer o opsiynau gwahanol, ac mae llawer yn dibynnu ar y pwnc ymchwil sy'n cael ei ystyried.
Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau, cyfweliadau neu adroddiadau.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar sail gwreiddioldeb eu hymchwil ac ansawdd cyflwyniad eu prosiect. Bydd y meini prawf beirniadu yn cael ei rannu gydag ymgeiswyr.
Bydd gwaith yr enillydd yn cael ei arddangos yng Nghynhadledd Academaidd Coleg Brenhinol Seiciatryddion Cymru, Cymdeithas Seiciatrig Cymru, a'r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol.
Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn cerdyn rhodd gwerth £100.
Bydd y ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu harddangos ar wefan y Coleg.
Gallwch gyflywno ymchwil fel unigolyn neu fel grŵp (uchafswm o bump o bobl).
Gofynnwn i chi gofrestru diddordeb trwy lenwi'r ffurflen ddigidol yn y blwch glas golau, a byddwn yn danfon gwybodaeth bellach maes o law.
Enillwyr 2025/26
Dyfarnwyd y lle cyntaf i Gwenan Dickenson (yn y llun), myfyriwr blwyddyn 12 yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, am ei phrosiect ardderchog, “Cerddoriaeth a’i heffaith ar gynhyrchiant a gallu disgyblion i ganolbwyntio” (PDF), a gynhaliwyd ac a ysgrifennwyd yn y Gymraeg.
Dyfarnwyd yr ail safle i Isobel Fisher ac Eloise Pitkin-Thomas, y ddwy yn fyfyrwyr blwyddyn 12 yn Ysgol Stanwell, am eu hymchwil pwysig ar “Straen Chweched Dosbarth: y berthynas rhwng ffactorau mewnol a straen academaidd i fyfyrwyr chweched dosbarth” (PDF).
Aeth y trydydd safle i Menna Hippsley-Jones, myfyriwr blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, am ei hastudiaeth ystyriol, “Ffit ond bregus – pan fydd ymarfer corff yn dechrau niweidio iechyd meddwl” (PDF).
Mae datganiad i'r wasg atodol ar gael yma: Cyhoeddi Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2025/26 Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2025/26
Enillydd 2024/25
Dyma ymchwil fuddugol 2024/25. Mae'r datganiad i'r wasg cysylltiedig yn cynnwys yr astudiaeth a gynhaliwyd gan Jess.
Cyfryngau Cymdeithasol a'n Hiechyd Meddwl: Persbectif Myfyriwr
Jess Groves, disgybl blwyddyn 10 o Ysgol Santes Ffraid, Sir Ddinbych, yw enillydd ein Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar gyfer 2024/25.
Canolbwyntiodd ymchwil Jess ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc, a sut mae wedi'i gynllunio i fod yn gaethiwus.
Mae ei hastudiaeth ar gael trwy'r datganiad i'r wasg cysylltiedig: Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2024/25