Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2022 yn llwyddiant mawr

    Cymru homepage slider
    06 June 2022

    Roeddem yn falch iawn o fod yn bartner a chefnogi URDD Gobaith Cymru, wrth iddynt gynnal eisteddfod genedlaethol yr URDD 2022.

    Mae Urdd Gobaith Cymru yn Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol gyda dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed. Ers 1922, mae'r URDD wedi darparu cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yng Nghymru i'w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau.

    Roedd arwyddocâd ychwanegol i'r eisteddfod eleni. Hwn oedd yr eisteddfod gyntaf ers y pandemig; a 2022 hefyd oedd blwyddyn y canmlwyddiant i'r URDD.

    Eleni cynhaliwyd yr eisteddfod yn Sir Ddinbych. Denodd y digwyddiad 118,000 o bobl.

    Cafodd miloedd o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru gyfle i berfformio yn un o'r tri phafiliwn. Roedd yr Urdd yn cynnig "llwyfan i bawb" am y tro cyntaf erioed, arbrawf oedd yn "llwyddiant mawr" yn ôl trefnwyr y digwyddiad.

    Roedd swyddogion yr Urdd wrth eu bodd gyda'r digwyddiad, cynhaliwyd seremonïau ar lwyfan awyr agored gyda chefndir syfrdanol bryniau Clwyd.

    Noddwyd 2 gystadleuaeth prif lwyfan gennym. Y cystadlaethau oedd y rowndiau terfynol unigol mewn categorïau ar gyfer y rhai dan 19 oed, a'r grŵp 19-25 oed.

    Mae'r dewis o gystadlaethau yn ategu ein gwaith dros y blynyddoedd diwethaf wrth ddatblygu ein rhaglen ddadl ar iechyd meddwl ledled Cymru. Roedd y cofnodion o safon anhygoel o uchel.

    Enillwyr y gwobrau a'u perfformiadau o bob categori.

     

    Dan 19 oed

    19-25 oed

     

    Mae 'Su'mae Shw'mae' yn y categori dan 19 wedi ei ysgrifennu gan Manon Steffan Ros, mae Manon yn nofelydd Cymraeg toreithiog. Mae'r darn yn manylu ar sut mae person ifanc o Gaernarfon yn ymweld â Chaerdydd ac yn penderfynu siarad llinell gyntaf pob sgwrs sydd ganddyn nhw yn yr iaith Gymraeg. Er i ddetholiad penodol allan o'r gyfrol 'stafell fy haul' gan Manon Rhys gael ei dewis ar gyfer y categori 19-25 oed.

    Hoffem longyfarch holl ymgeiswyr eleni yn ogystal ag enillwyr eleni (gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion yma), maent wedi'i gwneud yn eisteddfod lwyddiannus iawn.

    Gellir gweld perfformiadau pellach drwy sianel YouTube yr URDD.


    For further information, please contact: