Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Etholiad y Senedd 2026

    Newyddion Cymru
    27 March 2025

    Gydag etholiad y Senedd ar y gorwel yn fis Mai 2026, mae’n bleser gan CBSeic Cymru lansio ei maniffesto.

    Bydd tymor nesaf y Senedd (2026-2030) yn foment hollbwysig i dirwedd iechyd meddwl Cymru, gan adeiladu ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd a diwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth.

    Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i flaenoriaethu iechyd meddwl yn glir yn eu maniffestos drwy ymrwymo i gamau gweithredu tymor byr, canolig a hir.

    Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i roi blaenoriaeth glir i iechyd meddwl yn eu maniffestos drwy ymrwymo i gymryd camau yn y tymor byr, canolig a hir.

    Rydym wedi nodi 15 o flaenoriaethau i gefnogi Llywodraeth nesaf Cymru i wneud gwelliannau realistig ac uchelgeisiol i ddarpariaeth gofal iechyd meddwl. Mae'r rhain wedi'u gwasgaru ar draws 4 maes ffocws: cleifion; gweithlu; byrddau iechyd; a digidol/ymchwil.

    Mae hyn yn cynnwys galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

    1. Ymrwymo i darged uchelgeisiol na ddylai unrhyw unigolyn orfod teithio y tu allan i Gymru i gael triniaeth iechyd meddwl arbenigol erbyn diwedd tymor nesaf y Senedd.
    2. Sefydlu ‘Cronfa Mynediad at Ofal’ interim i gefnogi cleifion a’u teuluoedd gyda chostau teithio, bwyd a llety oddi cartref sy’n gysylltiedig â thriniaeth y tu allan i’r ardal.
    3. Blaenoriaethu iechyd meddwl a lles seiciatryddion drwy wella ymwybyddiaeth o adnoddau ac ymgorffori ymyriadau, megis cymorth gan gymheiriaid ac ymarfer myfyriol, mewn hyfforddiant a chontractau.
    4. Datblygu cynllun gweithredu pwrpasol ar gyfer seiciatreg i fynd i'r afael â phrinder gweithlu, y galw cynyddol am wasanaethau, a natur newidiol y proffesiwn.
    5. Buddsoddi mewn dull cenedlaethol arloesol o ddigideiddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl, a thrwy hynny gynyddu cynhyrchiant, gwella effeithlonrwydd, a gwella profiadau cleifion a chlinigwyr.

    Byddwn yn ategu’r maniffesto â briff polisi yn yr haf, yn nodi’r cyd-destun ar gyfer pob galwad a sut y gellid eu cyflawni’n ymarferol.

    Rydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo ein maniffesto dros y misoedd nesaf.

    Fel rhan o Gynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru, rydym yn mynychu cynadleddau’r pleidiau eleni. Mae’r rhain yn cynnig cyfle unigryw i ni helpu rhanddeiliaid gwleidyddol i ddeall y gwahaniaeth cadarnhaol y gall Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud i ofal iechyd meddwl.

    Mae’r gynhadledd gyntaf eisoes wedi’i chynnal, gyda Phlaid Cymru yn ymweld â Llandudno ar 21 a 22 Mawrth. Roedd yn bleser gennym siarad ag Arweinydd y Blaid, Rhun ap Iorwerth AS, a llefarydd y Blaid ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS.

    Os hoffech chi gymryd rhan yng ngwaith ymgysylltu gwleidyddol CBSeic Cymru cyn etholiad y flwyddyn nesaf, mae croeso i chi gysylltu â’n Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Dafydd Huw.

    For further information, please contact: