Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    CBSeic Cymru i noddi Nant Caredig am y drydedd flwyddyn yn olynol

    Newyddion Cymru
    22 May 2025

    Eisteddfod Dur a Môr, Parc Margram a'r Fro 2025Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid deithiol fwyaf Ewrop. Mae’n ddathliad o’r iaith Gymraeg, diwylliant a'r cyfoeth o dalent ifanc yng Nghymru.

    Eleni, mae’r Eisteddfod yn ymweld â Pharc Margam, Castell-nedd Port Talbot, o ddydd Llun 26 tan ddydd Sadwrn 31 Mai. Thema’r ŵyl yw Dur a Môr, sy’n adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Port Talbot a’r cyffiniau.

    Mae’n bleser gan CBSeic Cymru gyhoeddi ei gefnogaeth eto eleni i ardal les Nant Caredig yr Eisteddfod, gan adeiladu ar ein partneriaeth hirdymor gyda’r Urdd.

    Bellach yn ei thrydedd flwyddyn, mae Nant Caredig yn cynnig ardal ddiogel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen llecyn tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb y Maes.

    Bydd Yurt Nant Caredig hefyd yn cynnal ystod amrywiol o weithgareddau lles trwy gydol yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys sesiynau therapi celf, jamborïau Makaton, gweithdai Triban i deuluoedd, a gweithgareddau Paid â Bod Ofn gyda’r grŵp pop Eden.

    Mae’r rhaglen lawn ar gael ar Ap yr Eisteddfod.

    Dywedodd Anwen Pari Owen, Swyddog Nawdd a Phartneriaethau’r Urdd: 

    "Rydym yn hynod ddiolchgar i CBSeic Cymru am noddi Nant Caredig am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae'r gefnogaeth hon wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan ein helpu i ddarparu ardal hygyrch a diogel lle gall pobl ifanc dyfu, cysylltu, a ffynnu. Mae ein partneriaeth gyda’r Coleg wedi ein helpu i barhau â’n cenhadaeth o feithrin lles a photensial pob person ifanc yng Nghymru. Diolch o galon am fod yn rhan o’r daith hon gyda ni." 

    Byddwn yn rhannu diweddariadau ar gyfryngau cymdeithasol, ac yn annog pob aelod o’r Coleg i ddysgu mwy am waith yr Urdd a mwynhau dathliadau eleni.

    Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan y digwyddiad.

    For further information, please contact: