Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Croesawu cynrychiolwyr newydd Rhwydwaith Meddygon SAS

    Newyddion Cymru
    20 August 2025

    Mae CBSeic Cymru yn falch o gyhoeddi bod cynrychiolwyr Rhwydwaith Meddygon Arbenigol ac Arbenigwyr Cyswllt (SAS) wedi'u penodi i Fyrddau Iechyd Lleol, gyda chynrychiolaeth ychwanegol ar gyfer darparwyr preifat.

    Y cynrychiolwyr yw:

    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – Dr Nino Curatola
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Dr Neha Garg
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro – Dr Anjana Reddy
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – Dr Hemma Sungum
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Dr Madappa Viswanath
    • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Dr Gathoni Kamau
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Dr Arif Naseema
    • Darparwyr Preifat – Dr Amake Udo


    Mae’r Rhwydwaith SAS wedi'i sefydlu i gryfhau cysylltiadau rhwng seiciatryddion SAS ledled Cymru, gan gynnig llwyfan ar gyfer cydweithio, cefnogaeth gan gymheiriaid, a dysgu ar y cyd.

    Lansiwyd y Rhwydwaith yn ffurfiol ddydd Gwener 9 Mai yng nghynhadledd gyntaf Rhwydwaith SAS CBSeic Cymru. Roedd y digwyddiad hwn yn garreg filltir bwysig wrth gydnabod a chefnogi'r cyfraniad gwerthfawr y mae seiciatryddion SAS yn ei wneud i wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

    Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Cadeirydd CBSeic Cymru:
    “Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein cynrychiolwyr newydd, a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod lleisiau seiciatryddion SAS yn cael eu clywed a’u cefnogi ledled Cymru. Bydd eu harweinyddiaeth yn helpu i feithrin cydweithio a datblygiad proffesiynol o fewn yr arbenigedd.
    “Mae sefydlu’r Rhwydwaith hwn, a phenodi cynrychiolwyr ymroddedig, yn adlewyrchu ein hymrwymiad i werthfawrogi, cydnabod a chefnogi seiciatryddion SAS yn eu gyrfaoedd. Edrychwn ymlaen at gydweithio i gryfhau eu cyfraniad a gwella gofal cleifion.”

    Os hoffech chi gymryd rhan yng ngweithgareddau SAS yn y coleg, cysylltwch â Dr Alison Shaw neu Dr Jacqueline Palmer drwy e-bost.

    For further information, please contact: