Aelodau'r Senedd yn cymeradwyo'r Bil Iechyd Meddwl

Newyddion Cymru
17 October 2025

Ar ddydd Mawrth 7 Hydref, pleidleisiodd Aelodau’r Senedd (ASau) yn unfrydol i roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Iechyd Meddwl Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Mae'r Bil yn cynnig cyfle hir-ddisgwyliedig i foderneiddio Deddf Iechyd Meddwl 1983 a gwella profiadau pobl sy'n byw gyda salwch meddwl yng Nghymru a Lloegr. Cyn y ddadl, rhannodd CBSeic Cymru brîff gydag ASau yn argymell eu bod yn cymeradwyo’r Bil.

Er bod y Coleg wedi codi pryderon penodol ynghylch agweddau ar y Bil, mae'n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y diwygiadau hyn yn cael eu gweithredu.

Yn ystod y ddadl, rhoddwyd pwyslais sylweddol ar sicrhau bod gweithrediad y Bil wedi'i deilwra i dirwedd bolisi a deddfwriaethol unigryw Cymru, gan gynnwys ei ryngweithiad â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy AS, y byddai Llywodraeth Cymru yn cael ei harwain gan brofiad byw a mewnbwn rhanddeiliaid drwy gydol y broses hon.

Mae CBSeic Cymru eisoes yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i ymgysylltu mewn perthynas â gweithredu'r Bil, gan gynnwys datblygu Cod Ymarfer diwygiedig i Gymru a mesurau i sicrhau gweithlu cynaliadwy a gwydn.

Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Cadeirydd CBSeic Cymru:

“Mae penderfyniad Aelodau'r Senedd i roi cydsyniad deddfwriaethol yn nodi cam allweddol tuag at gryfhau cyfraith iechyd meddwl a chefnogi'r ddarpariaeth o ofal perthynol. Bydd gwrando ar leisiau a phrofiad clinigol yn hanfodol i sicrhau bod gweithrediad y Bil yn effeithiol, yn ddiogel, ac wedi'i seilio ar ymarfer proffesiynol yn y byd go iawn. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i lywio hyn ar y cyd ac mewn modd adeiladol.”

Tynnodd ASau sylw hefyd at feysydd allweddol i'w gwella ymhellach. Nododd y Gweinidog Cysgodol, James Evans AS, nad yw'r Bil yn mynd yn ddigon pell i ymgorffori hawliau plant a galwodd am bwyslais cryfach ar ganiatáu i blant ofyn am ailasesiadau o'u hiechyd meddwl. Gweithiodd CBSeic Cymru yn agos gydag ef ar y mater hwn trwy ei Fil Safonau Gofal Iechyd Meddwl (Cymru), a dynnwyd yn ôl yn dilyn cyflwyno'r Bil Iechyd Meddwl yn San Steffan y llynedd.

Ychwanegodd yr Athro Ahuja:

“Rhaid i leisiau plant a phobl ifanc fod yn ganolog i gam nesaf diwygio iechyd meddwl yng Nghymru. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i barhau i bwyso am ddarpariaeth gryfach ar eu cyfer a byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i sicrhau cydraddoldeb a thegwch i bawb.”

Mae'r Bil bellach yn ei gamau olaf yn Senedd y DG, gyda gwelliannau a wnaed gan y Pwyllgor Bil Cyhoeddus yn Nhŷ'r Cyffredin yn cael eu hystyried gan Dŷ'r Arglwyddi yn fuan.

For further information, please contact: