Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Strategaeth Ddrafft Dementia Cymru 2026-2036

    Newyddion Cymru
    17 December 2025

    Mae CBSeic Cymru wedi croesawu lansiad ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ei Strategaeth Ddrafft ar gyfer Dementia 2026–2036, gan ei ddisgrifio fel cyfle pwysig i lunio dyfodol gwasanaethau a chymorth dementia ein cenedl.

    Diben y ddogfen ddrafft yw darparu ymgysylltiad cynnar ar gynnwys y Strategaeth Dementia terfynol, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026. Mae CBSeic Cymru yn annog ei aelodau a randdeiliaid eraill i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfrannu eu barn.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi saith maes blaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt ar gyfer y strategaeth nesaf, gan gydnabod pwysigrwydd dull system gyfan:

    1. Lleihau risg ac atal dementia
    2. Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddementia
    3. Gwella diagnosis, triniaeth, gofal a chymorth dementia
    4. Cefnogi gofalwyr di-dâl pobl sy’n byw gyda dementia
    5. Cefnogi’r gweithlu
    6. Cefnogi ymchwil ac arloesi ym maes dementia
    7. Trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd addas er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei chyflawni

    Mae CBSeic Cymru yn croesawu’n arbennig ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyd-gynhyrchu’r Strategaeth Dementia newydd ac i ganiatáu digon o amser ar gyfer ymgysylltu’n ystyrlon â phartneriaid a phobl sydd â phrofiad byw drwyddo draw.

    Dywedodd yr Athro Sharmi Bhattacharyya, Cadeirydd Cyfadran Seiciatreg yr Henoed CBSeic Cymru:

    “Rydym yn croesawu’r ymgynghoriad hwn yn fawr a’r ymrwymiad clir i gyd-gynhyrchu sy’n sail iddo. Mae dementia yn effeithio ar unigolion, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau ledled Cymru, ac mae’n hanfodol bod lleisiau pobl sydd â phrofiad byw, ochr yn ochr â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol, yn ganolog i lunio’r strategaeth derfynol. Mae hwn yn gyfle hollbwysig i osod cyfeiriad uchelgeisiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer gofal a chymorth dementia dros y degawd nesaf.”

    Mae CBSeic Cymru yn parhau i chwarae rôl weithredol yn y gwaith o wella gofal a pholisi dementia yng Nghymru, gan gynnwys gwaith sydd wedi llywio'r strategaeth ddrafft a fydd yn llunio’r fersiwn terfynol.

    Mae hyn yn cynnwys datblygu Llwybr Gofal a Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Dementia i wella diagnosis cynnar, mynediad at driniaeth a chysondeb gofal ledled Cymru. Cefnogir y gwaith hwn gan y Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCCMH), Cymdeithas Alzheimer Cymru a grŵp cyfeirio arbenigol amlddisgyblaethol. Rydym hefyd yn falch o fod yn aelod o Grŵp Gofal Dementia a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru.

    Daw'r ymgynghoriad i ben ar 3 Ebrill 2026. Edrychwn ymlaen at ymateb maes o law a pharhau i gydweithio â'n haelodau, Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru.

    For further information, please contact: