Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Dweud eich dweud ar waith cartref – dyweder seiciatryddion

    Newyddion Cymru
    06 April 2021

    Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn annog ymchwil i effeithiau gweithio gartref ar les pobl – flwyddyn yn ddiweddarach ers dechrau'r pandemig.

    Cododd cyfran y gweithwyr a nododd eu bod yn gweithio gartref yn unig yn y DU o 5.7% yn union cyn cyfyngiadau symud y gwanwyn i 43.1% ym mis Ebrill 2020.

    Yng Nghymru cynyddodd bron i ddeg gwaith, gan neidio o 3.8% i 36.8%.

    Nawr, mae'r Coleg yn cefnogi gwaith ymchwil gan Technology Enabled Care (TEC) Cymru, a gyflwynodd y Gwasanaeth Ymgynghori Fideo Cenedlaethol mewn ymateb i argyfwng Covid-19.

    Mae ymchwilwyr yn awyddus i gael gwybod am effeithiau gweithio gartref er mwyn sicrhau bod pobl yn cynnal cydbwysedd bywyd gwaith iach, ar ôl pandemig.

    Mae hyn yn dilyn uchelgais datganedig Llywodraeth Cymru i 30% o'r gweithlu weithio o bell yn rheolaidd.

    Mae unigolion a busnesau yn cael eu hannog i feddwl am sut maen nhw eisiau sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith iach drwy gwblhau'r arolwg ar-lein o'r enw Gweithio o Bell, Manteision, Anfanteision a Model Delfrydol, sydd ar agor ar-lein nawr.

    Dywedodd yr Athro Alka S Ahuja MBE, RCPsych Cymru:

    "Rydym yn annog cynifer o bobl a chymaint o sefydliadau i gwblhau'r arolwg cychwynnol, ac i hyrwyddo lle bynnag y bo modd. 

    "Rydym yn gwybod am yr effeithiau y mae trefniadau gweithio gwahanol wedi'u cael ar unigolion drwy gydol y pandemig, mae pobl a sefydliadau wedi gorfod addasu'n gyflym i amgylchiadau nas rhagwelwyd. Mae hyn yn ymwneud â deall a llywio penderfyniadau unwaith y bydd y pandemig wedi mynd heibio."

    Dywedodd yr ymchwilydd arweiniol ar y prosiect, Gemma Johns o TEC Cymru:

    "Mae'r achosion o Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni'n gweithio ac o'r cyfyngiadau symud cyntaf, mae'r gwaith cartref wedi cynyddu'n ddramatig.

    Rydyn ni'n awyddus i wybod sut mae hyn wedi effeithio ar bobl. Efallai y byddai rhai wedi'i fwynhau ac yn teimlo llai o straen tra bod eraill efallai wedi teimlo eu bod wedi'u torri i ffwrdd oddi wrth gydweithwyr.

    Mae'n bwysig ein bod yn cael darlun cywir i lywio sut rydym yn llunio ein bywydau gwaith yn y dyfodol."

    Er mwyn cynorthwyo unigolion sy'n gweithio gartref ar hyn o bryd mae TEC Cymru wedi datblygu canllawiau ar gyfer gweithio gartref. Mae hyn yn annog gweithwyr i: 

    • Cynnal trefn dda.
    • Gwnewch restr o bethau i'w gwneud bob dydd.
    • Cael ymarfer corff da – ewch allan am dro.
    • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu.
    • Cymerwch seibiant o'r cyfryngau cymdeithasol.
    • Dilynwch ddeiet iach a chytbwys ac osgoi alcohol.

    Nodiadau i olygyddion

    Linc i'r arolwg: Gweithio o bell: manteision, anfanteision ac arolwg model delfrydol

    Rhagor o wybodaeth am sut i gynnal cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

      For further information, please contact: