Mae CBSeic Cymru yn falch o gefnogi ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg sy’n digwydd rhwng 24 Tachwedd a 5 Rhagfyr 2025.
Dyma ymgyrch flynyddol sy'n rhoi cyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Y mae hefyd hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Pan fydd pobl yn profi afiechyd, mae’n hanfodol eu bod yn gallu cael mynediad at ofal a chymorth yn yr iaith sy’n diwallu eu hanghenion orau. Mae hyn yn cynnwys mynediad i wasanaethau iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gan alluogi criw o seiciatryddion i ymgymryd â chyrsiau blasu am ddim wedi’i theilwra ar gyfer meddygon. Rydym yn ddiolchgar i’r tîm yn Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin am eu cefnogaeth ac am ysbrydoli ein haelodau i barhau ar eu taith iaith.
Dywedodd Is-gadeirydd CBSeic Cymru, Dr Izabella Jurewicz:
“Ymunais â’r cwrs blasu heb fod yn hollol siŵr beth i’w ddisgwyl. Ar ôl byw yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, roeddwn i’n awyddus i ddysgu rhywbeth am yr iaith. Pan awgrymodd fy nhiwtor Cymraeg i mi ddarllen yr holl arwyddion Cymraeg yn yr ysbyty, agorodd hyn fy llygaid i fyd gwahanol. Mae cymaint o Gymraeg allan yna, nid yw'n anodd ymgyfarwyddo â hi.
“Roedd cyflymder y cwrs yn dda iawn ac roedd digon o ailadrodd i adeiladu fy sgiliau. Roedd y tiwtoriaid llawn hwyl ac yn galonogol iawn. Roedd y cwrs yn ymdrin ag ymadroddion cyffredin y byddai eu hangen ar seiciatrydd i dawelu meddwl siaradwr Cymraeg ac roedd y cynnwys wedi’i deilwra i’n hanghenion ni. Diolch am gynnig y cyfle hwn!”
Law yn llaw â hyn, fe lansiwyd y Cwrs Croeso gan Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan yn gynharach eleni. Dyma gwrs sydd wedi’i thargedu yn benodol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu, ac rydym yn falch o’i hyrwyddo.
Rydym hefyd yn falch o rannu manylion am fenter gyffrous newydd gan Brifysgol Abertawe i gefnogi Meddygon sy'n dysgu Cymraeg. Bydd y cynllun yn lansio ym mis Ionawr 2026 ac, yn seiliedig ar gynlluniau tebyg, rydym yn disgwyl na fydd angen mwy nag awr y mis. Os ydych chi'n siaradwr rhugl ac yn dymuno cefnogi'ch cydweithwyr, neu yn dysgu Cymraeg ar lefel Sylfaen neu uwch, cofrestrwch eich diddordeb yma. Mae fideo hyrwyddo byr ar gael hefyd.
Nid oes cyfle gwell wedi bod i ddechrau dysgu a defnyddio eich Cymraeg!
Dros y flwyddyn nesaf, edrychwn ymlaen at weithio i ehangu'r gwasanaethau Cymraeg rydym eisoes yn cynnig i’n haelodau, gan fawr obeithio dderbyn cymeradwyaeth Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd.
Mae ystod eang o adnoddau gwybodaeth iechyd meddwl bellach ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys adnoddau ar:
- Awtistiaeth ac iechyd meddwl
- Anhwylder gamblo
- Cysgu’n dda
- Iselder
- Hunan-niweidio
- Seicosis
- Sgitsoffrenia
- Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
Cysylltwch am ragor o wybodaeth.
For further information, please contact:
- Email: dafydd.huw@rcpsych.ac.uk
- Web: https://www.rcpsych.ac.uk/wales
- Contact Name: Dafydd Huw
- Twitter: @RCPsychWales
- Out-of-hours contact number: 02922 33 1080