Dioddefodd gweithwyr gofal iechyd rheng flaen anawsterau iechyd meddwl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig

Cymru
29 July 2022

Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod gweithwyr gofal iechyd rheng flaen wedi dioddef anawsterau iechyd meddwl yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.

Gofynnwyd i fwy na 600 o weithwyr gofal iechyd, gan gynnwys meddygon a nyrsys o bob rhan o'r DU, am eu profiadau wrth i argyfwng Covid-19 gydio.

Dangosodd y canlyniadau fod 95% wedi dioddef rhywfaint o anawsterau iechyd meddwl gyda phryder ar frig y rhestr yn 68%.

Dilynwyd hyn gan flinder (57%), insomnia (55%), teimladau iselder/hwyliau isel (44%) ac unigrwydd (33%) ymhlith symptomau eraill.

Pan ofynnwyd beth oedd wedi cyfrannu at yr anawsterau hyn, dywedodd 64% ei fod yn pryderu am heintio ffrindiau neu deulu tra bod gan 46% bryderon am gael eu heintio.

Dywedodd mwy na 42% fod camgyfathrebu gan y llywodraeth wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl.

Lluniwyd yr astudiaeth gan Julia Bugelli myfyriwr blwyddyn 12 o Ysgol Uwchradd Glan Clwyd fel rhan o'i hastudiaethau blwyddyn olaf ac fe'i cefnogwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru.

Mae Julia bellach yn gobeithio symud ymlaen gyda gyrfa mewn meddygaeth wrth iddi ddechrau ar ei hastudiaethau yn Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd:

"Roedd yr astudiaeth yn ddiddorol iawn i mi, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gwblhau'r arolwg yn ystod cyfnod mor brysur.

"Hoffwn ddiolch hefyd i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion am eu hanogaeth a gobeithio y bydd canlyniad yr arolwg hwn yn arwain at gefnogaeth iechyd meddwl pellach i weithwyr gofal iechyd."

Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, seiciatrydd plant a phobl ifanc ymgynghorol o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru:

"Mae'r astudiaeth hon yn datgelu'r anawsterau a wynebir gan ein gweithlu rheng flaen ac yn dangos y pwysau yr oeddent yn gweithio oddi tano wrth i argyfwng Covid-19 gydio.
"Wrth i ni ailadeiladu'n araf, rydym yn gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn cael eu hystyried ar gyfer cynllunio'r gweithlu o amgylch pandemigau yn y dyfodol.
"Yn y cyfamser, hoffwn longyfarch Julia am astudiaeth ymchwil ddefnyddiol sydd wedi'i hystyried yn ofalus. Mae ganddi ddyfodol disglair o'i blaen."

For further information, please contact: