Gweithredu yn erbyn hiliaeth

Newyddion Cymru
09 October 2023

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (y Coleg) yn cydnabod hiliaeth fel rhywbeth treiddiol, sy’n amlygu ei hun mewn sawl ffurf sy’n gorgyffwrdd, o bersonol a diwylliannol i strwythurol a sefydliadol. Fel mathau eraill o wahaniaethu, gall arwain at deimladau dwys o boen, niwed, cywilydd ac anobaith ymhlith aelodau'r grŵp targed, gan arwain yn aml at waharddiad.

Rhaid deall hiliaeth yn erbyn staff gofal iechyd hefyd yng nghyd-destun argyfwng gweithlu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mynd i’r afael â hiliaeth yn erbyn staff wedi’i nodi’n ddiweddar fel mater cadw a recriwtio y mae’n rhaid ei gymryd o ddifrif.

Yn 2020 canfu’r Coleg fod bron i chwech o bob deg seiciatrydd o gefndir ethnig lleiafrifol wedi profi hiliaeth yn y gweithle, gan effeithio arnynt eu hunain, eu cydweithwyr, neu gleifion. Ni adroddwyd am lawer o achosion, a phan adroddwyd arnynt, ni chymerwyd camau yn y mwyafrif o achosion.

Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddodd y Coleg Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb, gan ymgymryd ag ystod o raglenni, gyda phwyslais ar weithredu newid a ch efnogi unigolion a sefydliadau i gyflawni c anlyniadau teg i staff, cleifion a gofalwyr mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Fel rhan o gyflawni’r cynllun hwn, a thrwy wrando ar brofiadau ein haelodau, mae’r Coleg wedi datblygu’r deunydd sy’n dilyn. Trwy nodi camau gweithredu, canllawiau ac adnoddau a argymhellir, mae'n rhoi cyfeiriad i sefydliadau cyflogwyr iechyd meddwl ac i'w cyflogeion ar sut i ymateb i broblem eang ei chwmpas.

Gweithredu yn erbyn hiliaeth