Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Gweithredu yn Erbyn Hiliaeth

    Rydym wedi lansio canllaw ac adnoddau newydd i helpu cyflogwyr iechyd meddwl i fynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle.

    Gweithredu yn Erbyn Hiliaeth yw ein hymgyrch i gael sefydliadau i fabwysiadu’r canllaw, a chymryd camau hanfodol tuag at fynd i’r afael â’r broblem enfawr hon.

    Datblygwyd y canllaw gyda Chyfarwyddwyr Meddygol, Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG, ac arbenigedd gweithgor.

    Rydym yn galw ar sefydliadau i gofrestru i fabwysiadu'r 15 cam gweithredu yn y canllaw a bod yn rhan o rwydwaith cefnogol.

    Os ydych chi wedi profi hiliaeth yn y gweithle iechyd meddwl, neu’n gynghreiriad, mae’r canllaw’n cynnwys gwybodaeth bwysig i chi.

    Mynd i'r afael â hiliaeth yn y gweithle

    Defnyddiwch ein canllaw, astudiaethau achos a Matrics Aeddfedrwydd i fesur cynnydd yn eich sefydliad.

    Pam mae'r arweiniad yn bwysig: Sgwrs rhwng llywyddion

    Gwyliwch ein Llywyddion o 2020-23 a 2023 i 2026 yn trafod pam mae’r ymgyrch yn bwysig a chynlluniau ar gyfer gwreiddio Gweithredu yn Erbyn Hiliaeth yn y gweithle ar ôl ei lansio.

    Read more to receive further information regarding a career in psychiatry