Gweithredu ar hiliaeth yn y gweithle: camau gweithredu

Bydd y 15 cam gweithredu a grynhoir isod yn helpu sefydliadau cyflogwyr ledled y DU i fynd i'r afael â hiliaeth ar lefel strategol a systemig.

Maent yn ymdrin â meysydd y mae arbenigwyr wedi nodi eu bod yn hanfodol i sefydlu gweithleoedd tecach, gan gynnwys gwella atebolrwydd a hyrwyddo prosesau recriwtio diduedd.

Mae'r camau gweithredu yn cefnogi sefydliadau i ddangos eu bod yn darparu gofal o ansawdd da.

Mae’r camau gweithredu yn cyfateb i Safonau Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru, ac addewid Dim Hiliaeth Cymru a oruchwylir gan Gyngor Hil Cymru y mae nifer o fyrddau iechyd wedi’i lofnodi.

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau am flaenoriaethu camau gweithredu sy’n ymwneud â meysydd penodol y maent eisoes yn gwybod bod angen mynd i’r afael â nhw’n lleol.

Camau gweithredu a argymhellir

Mae’r 15 cam gweithredu wedi’u rhannu’n chwe thema:

  • Arweinyddiaeth a strategaeth
  • Atebolrwydd
  • Mynd i'r afael â phryderon
  • Cyfle cyfartal
  • Diwylliant sefydliadol
  • Adrannau penodol o'r gweithlu meddygol

Arweinyddiaeth a strategaeth

1. Gwneud ymrwymiad sefydliadol clir i fynd i'r afael â phob math o wahaniaethu - gan gynnwys gwahaniaethu ar y cyd - yn erbyn staff lleiafrifoedd ethnig.

2. Sicrhau bod gan bob arweinydd wybodaeth a dealltwriaeth fanwl am hiliaeth, gwahaniaethu croestoriadol a’i effaith ar staff ethnig lleiafrifol, a bod ganddynt y sgiliau, y profiad a’r uniondeb i roi mesurau lliniaru ar waith.

Atebolrwydd

3. Penodi uwch gynrychiolydd bwrdd ac aelod o’r tîm arwain i fod â chyfrifoldeb uwch swyddog am gyflawni’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ynghylch gweithredu yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu croestoriadol a’i effaith ar staff ethnig lleiafrifol.

4. Dylai’r rhai y rhoddir cyfrifoldeb uwch swyddogion iddynt am gyflawni’r camau y cytunwyd arnynt ynghylch gweithredu yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ar y cyd a’i effaith ar staff rthnig lleiafrifol (cam gweithredu 3) fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros gasglu data, dadansoddi ac adrodd blynyddol haenog i olrhain cynnydd

5. Dylai’r rhai y rhoddir cyfrifoldeb uwch swyddogion iddynt am gyflawni’r camau y cytunwyd arnynt ynghylch gweithredu yn erbyn hiliaeth, gwahaniaethu ar y cyd a’i effaith ar staff ethnig lleiafrifol (cam gweithredu 3) fod â chyfrifoldeb cyffredinol am Gynllun Strategol a gynhyrchir ar y cyd.

Mynd i’r afael â phryderon

6. Sicrhau bod eich gwasanaeth cefnogi staff yn cynnig pwyntiau cyswllt effeithiol, cyfrinachol ac annibynnol i gefnogi staff ethnig lleiafrifol.

7. Meddu ar bolisïau a gweithdrefnau clir i staff adrodd am unrhyw achosion o fwlio, aflonyddu neu bryderon ynghylch gwahaniaethu ynghylch dilyniant gyrfa, cyrhaeddiad gwahaniaethol a chamau disgyblu

8. Pwysleisio a dilyn drwodd ar ddull dim goddefgarwch tuag at ymddygiad hiliol gan gleifion a’u gofalwyr tuag at yr holl staff gofal iechyd.

Cyfle cyfartal

9. Cymryd ymagwedd wrthrychol sy’n seiliedig ar dystiolaeth tuag at weithgareddau recriwtio a dyrchafu, gan gynnwys dadragfarnu’r broses recriwtio a dyrchafu, yn hytrach na dibynnu ar hyfforddiant i gael gwared ar ragfarn mewn paneli.

10. Darparu mentora (gan gynnwys mentora o chwith), hyfforddiant a nawdd i’r holl staff, gan gynnwys o leiaf nifer cymesur o staff ethnig lleiafrifol.

Diwylliant sefydliadol

11. Creu diwylliant sy’n teimlo’n ddiogel i’r holl staff yn gyntaf ac sy’n annog didwylledd a gonestrwydd ar bob lefel o fewn y sefydliad ynghylch hiliaeth, gwahaniaethu croestoriadol a’i effaith, ac yn ail, amgylchedd gweithle croesawgar a chynhwysol i staff ethnig lleiafrifol, fel eu bod yn teimlo yn cael eu cefnogi, eu parchu a’u gwerthfawrogi fel eu cyfoedion nad ydynt yn cael eu lleiafrifoli

12. Hwyluso datblygiad, twf a chynaliadwyedd parhaus rhwydwaith staff effeithiol ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion, barn a phryderon staff ethnig lleiafrifol.

Adrannau penodol o’r gweithlu meddygol

13. Cynyddu ymwybyddiaeth sefydliadol bod Graddedigion Meddygol Rhyngwladol (IMGs) a meddygon Arbenigedd ac Arbenigol (SAS) yn fwy tebygol o brofi hiliaeth a graddiaeth yn y gweithle.

14. Ar gyfer Graddedigion Meddygol Rhyngwladol (IMGs), darparu cyfnod sefydlu a chymorth bugeiliol cynnar, ymarferol a phroffesiynol priodol ac ymdrin ag atgyfeiriadau anghymesur ar gyfer camau disgyblu gan ddefnyddio mesurau lleol priodol.

15. Ar gyfer meddygon Arbenigedd ac Arbenigol (SAS), sy’n fwy tebygol o fod yn staff ethnig lleiafrifol, gweithredu Siarter SAS Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn llawn.

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry