Add up to five of your favourite RCPsych pages to find them whenever you need.

You currently have no favourites. Visit and add pages to access them here.

    Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc CBSeic Cymru 2025/26

    Newyddion Cymru
    29 April 2026

    Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru yn falch o gyhoeddi enillwyr Gwobr Ymchwil Iechyd Meddwl Pobl Ifanc 2025/26, sy'n dathlu ymchwil ragorol gan fyfyrwyr o bob cwr o Gymru.

    Derbyniodd cystadleuaeth eleni nifer record o fynegiadau o ddiddordeb a chyflwyniadau, gan ddangos diddordeb cryf gan bobl ifanc mewn iechyd meddwl a lles.

    Dyfarnwyd y lle cyntaf i Gwenan Dickenson (yn y llun), myfyriwr blwyddyn 12 yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, am ei phrosiect ardderchog, “Cerddoriaeth a’i heffaith ar gynhyrchiant a gallu disgyblion i ganolbwyntio” (PDF), a gynhaliwyd ac a ysgrifennwyd yn y Gymraeg.

    Dyfarnwyd yr ail safle i Isobel Fisher ac Eloise Pitkin-Thomas, y ddwy yn fyfyrwyr blwyddyn 12 yn Ysgol Stanwell, am eu hymchwil pwysig ar “Straen Chweched Dosbarth: y berthynas rhwng ffactorau mewnol a straen academaidd i fyfyrwyr chweched dosbarth” (PDF).

    Aeth y trydydd safle i Menna Hippsley-Jones, myfyriwr blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, am ei hastudiaeth ystyriol, “Ffit ond bregus – pan fydd ymarfer corff yn dechrau niweidio iechyd meddwl” (PDF).

    Cafodd y ceisiadau eu gwerthuso am eu gwreiddioldeb ac ansawdd eu cyflwyniad, gyda'r beirniaid Dr Sara Forman a Dr Sunil Syal yn canmol safon uchel y prosiectau a'r ymgysylltiad meddylgar a ddangoswyd gan bawb.

    Dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Cadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru:

    “Rydym wrth ein bodd yn dathlu cyflawniadau cyfranogwyr eleni. Mae’r nifer record o geisiadau yn adlewyrchu angerdd ac ymrwymiad pobl ifanc ledled Cymru i ddeall iechyd meddwl. Mae ansawdd y gwaith a gyflwynwyd wedi bod yn drawiadol, ac mae’r prosiectau hyn yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwrando ar leisiau ifanc a chefnogi eu diddordeb mewn ymchwil.”

    Mae'r wobr ar agor i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 10-13 ac mae'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil wrth gyfrannu at sgyrsiau ehangach am iechyd meddwl.

    Hoffai CBSeic Cymru estyn diolch diffuant i bob myfyriwr a gymerodd ran, ac i'r beirniaid am eu hamser, eu harbenigedd a'u hadborth gwerthfawr.

    Gwybodaeth bellach am y wobr:

    Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru | Gwobr Ymchwil Genedlaethol Iechyd Meddwl Pobl Ifanc

    For further information, please contact: