Ysgol Haf CBSeic Cymru
Mae Ysgol Haf CBSeic Cymru yn ddigwyddiad deuddydd blynyddol i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa feddygol i ddysgu mwy am y maes.Yn ystod y ddau ddiwrnod hyn, bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar amrywiaeth o broffesiynau gofal iechyd, yn ogystal â'r broses o lunio polisïau sy'n gysylltiedig â nhw.
Mae'r ysgol haf yn gyfle gwych i fyfyrwyr archwilio ehangder gyrfaoedd gofal iechyd a chael mwy o fewnwelediad i'r hyn y gallent ddymuno ei astudio yn y dyfodol.
Cynhelir yr ysgol haf nesaf ar 8-9 Gorffennaf 2025.
Rhaglen
Er bod y rhaglen yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn, mae’n dilyn y fformat a ganlyn:
Ar y diwrnod cyntaf bydd myfyrwyr yn cael taith o amgylch Canolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) a chlywed sgyrsiau gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys seiciatryddion, llawfeddygon, ymchwilwyr, a myfyrwyr meddygol, gan roi cipolwg iddynt ar yr amrywiaeth o broffesiynau gofal iechyd.
Lleolir yr ail ddiwrnod yn y Senedd lle bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i fynd ar daith o amgylch yr adeilad, yn ogystal â chwrdd ag Aelodau’r Senedd a dysgu sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lunio polisi’r llywodraeth.
Cwestiynau Cyffredin
Dyma ragor o fanylion am yr ysgol haf.
Bydd rhagor o wybodaeth a ffurflenni yn cael eu dosbarthu’n uniongyrchol unwaith y bydd datganiadau o ddiddordeb wedi’u cofrestru drwy lenwi’r blwch glas golau ar ochr dde’r sgrin.
Gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau pellach at Annie Fabian.
Mae’r ysgol haf yn agored i fyfyrwyr blwyddyn 11 o bob rhan o Gymru sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn maes gofal iechyd. Gallai hyn amrywio o feddygaeth i bolisi gofal iechyd.
Darperir bwyd a diod i fyfyrwyr.
Ni all CBSeic Cymru helpu gyda chludiant a llety, felly mater i'r myfyrwyr yw trefnu hyn drostynt eu hunain.
Blog mynychwr
I gael persbectif myfyriwr ar yr Ysgol Haf, mae un o’n mynychwyr blaenorol wedi ysgrifennu blog byr.