Cefnogi rhywun sydd mewn gofid neu’n profi meddyliau hunanladdol
Supporting someone in distress or with suicidal thoughts
Below is a Welsh translation of our information resource on supporting someone in distress or with suicidal thoughts. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi'n poeni am rywun ac yn meddwl efallai eu bod yn profi meddyliau neu deimladau hunanladdol. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i bobl sy'n adnabod rhywun sydd wedi ceisio hunanladdiad. Efallai eich bod chi’n ofalwr di-dâl, yn aelod o'r teulu, yn ffrind agos, neu'n pryderu am rywun rydych chi'n ei adnabod.
Os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi niweidio ei hun neu os ydych chi'n meddwl ei fod ar fin niweidio ei hun, ffoniwch 999 neu ewch ag ef neu hi i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar unwaith os yw hynny'n bosibl. Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch chi, ffoniwch 111 neu defnyddiwch GIG 111 ar-lein.
Os ydych chi'n chwilio am gymorth i rywun rydych chi'n ei adnabod, rydyn ni eisiau cydnabod y cryfder y mae hyn yn ei gymryd. Efallai y byddwch chi'n profi gofid a straen pan fydd rhywun sy'n annwyl ichi yn profi meddyliau hunanladdol. Fodd bynnag, nid yw hunanladdiad yn ganlyniad anochel, ac mae'n bwysig gwybod bod y mwyafrif helaeth o bobl yn gallu dod o hyd i ffordd drwy'r sefyllfa gyda chefnogaeth amserol a chywir.
Ysgrifennwyd yr wybodaeth hon gan bobl sydd wedi profi meddyliau hunanladdol, a phobl sydd wedi cefnogi eraill.
Rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl sy'n darllen yr wybodaeth hon efallai’n adnabod rhywun sydd wedi marw trwy hunanladdiad. Os felly, rydyn ni'n eich annog chi i gymryd gofal wrth ddarllen yr adnodd hwn, ac i geisio cymorth os oes angen.
Nid yw bob amser yn bosibl gwybod bod rhywun yn profi meddyliau hunanladdol. Dydy rhai pobl:
- ddim yn dweud wrth eraill eu bod nhw'n profi anawsterau neu feddyliau hunanladdol
- ddim yn dangos unrhyw arwyddion allanol eu bod nhw’n profi meddyliau hunanladdol
- ddim hyd yn oed yn ymddangos yn drist neu’n ofidus.
Mae yna lawer o resymau gwahanol pam nad yw pobl yn agored am eu meddyliau hunanladdol, gan gynnwys:
- stigma
- embaras
- ofn
- cywilydd
- peidio â bod eisiau bod yn faich ar eraill
- dymuno datrys y sefyllfa eu hunain.
Yn hytrach na dibynnu ar adnabod arwyddion meddyliau hunanladdol, y peth mwyaf diogel y gallwch chi ei wneud yw ymateb gyda thosturi a chefnogaeth pryd bynnag y bydd rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael amser anodd. Ceisiwch wneud hyn pa un ai eich bod chi'n meddwl eu bod nhw'n profi meddyliau hunanladdol ar hyn o bryd ai peidio.
Mae hefyd yn ddefnyddiol gwybod beth yw rhai o'r arwyddion hyn rhag ofn eu bod i'w gweld yn yr unigolyn rydych chi'n ei adnabod.
Dweud neu wneud pethau sy'n peri pryder ichi
Efallai y byddan nhw'n:
- siarad am hunanladdiad, marwolaeth neu farw
- dweud bod dim 'ffordd allan' neu ddim atebion i'w sefyllfa
- dweud nad ydyn nhw 'ddim eisiau bod o gwmpas dim mwy’, ‘ddim yn gallu gwneud hyn dim mwy’ neu ‘ddim yn gallu dal i fynd llawer hirach’
- dweud nad oes gobaith ar gyfer y dyfodol
- dweud eu bod yn teimlo'n ddiymadferth, yn ddiobaith, neu’n gaeth
- dweud na fydd pethau byth yn gwella nac yn newid
- dweud eu bod yn teimlo'n ddiwerth, yn euog neu'n llawn cywilydd
- dweud eu bod yn teimlo eu bod yn faich neu’n profi hunan-gasineb
- chwilio am wybodaeth am hunanladdiad ar-lein
- gwneud ewyllys, neu ddweud wrth bobl eraill am eu dymuniadau ar gyfer beth sydd i ddigwydd ar ôl iddyn nhw farw
- trefnu i rywun arall ofalu am aelodau o'r teulu neu anifeiliaid anwes.
Newidiadau mewn hwyliau
Efallai y byddwch chi’n sylwi eu bod yn:
- 'is' neu'n fwy isel eu hysbryd na'r arfer
- ymddangos yn aflonydd, yn bryderus neu'n cael trafferth canolbwyntio
- ymddangos yn anarferol o ddig, rhwystredig neu biwis
- ymbellhau oddi wrth bobl eraill.
Gwelliant sydyn mewn hwyliau heb eglurhad
Weithiau pan fydd rhywun yn hunanladdol neu wedi gwneud cynllun i roi diwedd ar ei fywyd, gall ymddangos bod ei hwyliau'n gwella'n sydyn heb unrhyw reswm amlwg.
Efallai y byddwch chi'n sylwi ei fod yn ymddangos yn hapusach neu'n dawelach nag ers amser maith. Efallai y bydd hefyd yn rhoi'r gorau i siarad am bethau negyddol i argyhoeddi eraill ei fod yn iawn.
Newidiadau mewn ymddygiad neu wneud pethau sydd allan o gymeriad
- ffarwelio â phobl fel pe na fydd yn eu gweld nhw eto
- ymweld neu gysylltu â theulu neu ffrindiau yn annisgwyl neu ar adegau anarferol
- yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau yn amlach na'r arfer.
Dod yn ynysig neu ddatgysylltu oddi wrth fywyd
- cysylltu â ffrindiau a theulu yn llai na’r arfer
- syrthio ar ei hôl hi yn y gwaith neu gyda hobïau
- peidio â gofalu am ei hun neu ei gartref
- ffonio’r gwaith yn amlach i ddweud ei fod yn sâl.
Ymddwyn yn fwy byrbwyll neu afreolaidd na'r arfer
- rhoi eiddo i ffwrdd neu wario llawer o arian
- dangos prin unrhyw bryder am y dyfodol
- cymryd rhan mewn gweithgareddau peryglus, gamblo anarferol neu drais.
Nid yw'r rhain yn arwyddion bod rhywun yn bendant yn hunanladdol. Fodd bynnag, mae’n debyg eu bod yn arwyddion bod rhywun yn profi trafferthion ac angen cefnogaeth, a dylid eu cymryd o ddifrif.
Os yw rhywun rydych chi'n ei adnabod yn mynd trwy gyfnod anodd, neu os ydych chi'n poeni eu bod efallai'n profi meddyliau hunanladdol, y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud yw trafod hynny â nhw. Gall cymorth tosturiol gan rywun sy'n hidio wneud gwahaniaeth gwirioneddol i rywun sydd mewn gofid.
Mae dweud wrth rywun eich bod wedi sylwi ar newid ynddyn nhw, neu eich bod chi'n gwybod eu bod nhw'n mynd trwy gyfnod anodd, yn gam cyntaf pwysig. Gallai hefyd ei gwneud hi'n haws iddyn nhw ymddiried ynoch chi yn y dyfodol os byddan nhw’n dechrau profi meddyliau hunanladdol.
Beth os yw siarad yn gwneud pethau'n waeth?
Mae'n fyth cyffredin bod siarad am hunanladdiad yn gallu gwneud rhywun yn fwy tebygol o weithredu ar ei deimladau. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dangos nad yw hyn yn wir. Mae'r gallu i fod yn agored ac yn onest am feddyliau hunanladdol, siarad amdanyn nhw, a chael ei annog i geisio cefnogaeth yn gallu helpu rhywun i gadw'n ddiogel.
Mae meddyliau hunanladdol yn llawer mwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli, ond mae siarad amdanyn nhw yn gallu bod yn anodd. Mae'n normal teimlo bod sgyrsiau am hunanladdiad yn anodd, neu deimlo'n ansicr ynghylch sut i'w dechrau, yn enwedig os dydych chi ddim wedi gwneud hynny o'r blaen.
Mae’r adran nesaf yn cynnwys rhai awgrymiadau ar sut i ddechrau sgwrs am feddyliau hunanladdol.
Gall fod yn anodd siarad am hunanladdiad, ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i wneud hyn yn haws i chi ac i'r person rydych chi'n poeni amdano.
Cyn y sgwrs
Nid yw bob amser yn bosibl cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y sgyrsiau hyn, ond os gallwch chi, dyma rai pethau i'w hystyried.
Creu gofod cefnogol
- Rhowch y gorau i beth bynnag rydych chi'n ei wneud, a gwnewch amser ar gyfer y sgwrs fel y gall ddigwydd heb i neb deimlo dan bwysau.
- Dewch o hyd i le tawel heb unrhyw bethau i dynnu eich sylw, er enghraifft pobl eraill, goleuadau llachar neu sŵn.
- Cynigiwch baned o'i hoff ddiod boeth i'r person.
- Cadwch becyn o hancesi papur wrth law yn ddisylw rhag ofn y bydd eu hangen.
Ystyried beth rydych chi'n mynd i'w ddweud
Paratowch frawddeg i agor y sgwrs. Dylech ddewis rhywbeth rydych chi'n gyfforddus yn ei ddweud, ond dyma rai enghreifftiau:
- ‘Dw i’n gwybod dy fod ti wedi bod yn cael amser anodd, a dw i’n poeni. Gawn ni siarad am sut wyt ti'n teimlo?’
- ‘Dw i wedi sylwi dy fod ti'n ymddangos yn isel yn ddiweddar, wyt ti eisiau dweud wrtha i sut wyt ti ’di bod yn teimlo?’
- ‘Mae’n ymddangos dy fod ti dan lawer o bwysau yn ddiweddar, ydi popeth yn iawn?’
Meddwl sut y byddwch chi’n ymateb
Os byddwch chi'n dechrau sgwrs am hunanladdiad, byddwch yn barod am ateb gonest. Byddwch yn barod i ymateb yn bwyllog, yn gefnogol a heb farnu.
Cyn dechrau, gallech dreulio munud neu ddau yn gwneud gweithgaredd tawelu ar eich pen eich hun. Er enghraifft, ymarfer ymdawelu, ymlacio neu anadlu. Gall hyn eich helpu i beidio â chynhyrfu yn ystod y sgwrs.
Yn ystod y sgwrs
Ceisio peidio â chynhyrfu
Gall siarad am hunanladdiad fod yn anodd oherwydd stigma, ofn, neu embaras. Mae'n debyg y bydd y sgwrs hon yn fwy anodd os nad ydych chi wedi cael hyfforddiant, neu os ydych chi'n cael y sgwrs gyda rhywun sy'n annwyl ichi. Mae aros yn dawel yn gallu helpu'r person arall i deimlo'n fwy tawel hefyd.
Ceisio siarad yn araf
Mewn sgyrsiau anodd, gall siarad yn fwy araf eich helpu chi i deimlo'n fwy tawel. Gall siarad yn araf hefyd helpu'r person arall i deimlo'n fwy tawel, a rhoi amser iddo neu iddi ddod o hyd i'r geiriau cywir i fynegi ei deimladau a chymryd i mewn beth rydych chi'n ei ddweud. Gall siarad am hunanladdiad fod yn anodd, felly peidiwch â phoeni os oes cyfnodau hir o dawelwch neu adegau pan fydd y person yn ei chael hi'n anodd siarad.
Ceisio defnyddio iaith glir
Pan fydd rhywun yn teimlo dan bwysau, efallai y bydd hi'n fwy anodd iddo neu iddi gymryd gwybodaeth i mewn. Cyfathrebwch yn glir, yn fyr ac yn syml, a defnyddiwch iaith niwtral, anfeirniadol a thawel.
Osgoi iaith sy'n creu stigma
Osgowch ddefnyddio iaith sy'n feirniadol, yn ddiystyriol neu sy'n annilysu ac a allai dramgwyddo rhywun, gael ei chamddehongli, neu gau'r sgwrs i lawr. Dyma enghreifftiau o bethau i beidio â'u dweud. Mae enghreifftiau o bethau y gallwch chi eu dweud yn yr adran nesaf.
- ‘Mae hunanladdiad yn hunanol.’
- ‘Beth am yr holl bobl sy’n poeni amdana ti, pobl fydde ti'n eu gadael ar ôl?’
- ‘Mi fyddi di'n pasio dy boen ymlaen i’r bobl sy’n annwyl iti.’
- ‘Mae bywyd yn anodd i bawb ac maen nhw'n cael cyfnodau da a drwg, ond dydyn nhw ddim yn teimlo'n hunanladdol, felly pam wyt ti'n teimlo'n hunanladdol?’
- ‘Mae hunanladdiad yn bechod.’
Ar ôl y sgwrs
Cael seibiant
Ar ôl sgwrs anodd neu lawn gofid, cymerwch eiliad i gasglu eich meddyliau os gallwch chi. Os na allwch chi wneud hynny ar unwaith, gwnewch addewid i gymryd amser i chi'ch hun cyn gynted â phosibl.
Cymryd amser i fyfyrio
Ar ôl sgwrs anodd neu lawn gofid, gall fod yn ddefnyddiol myfyrio ar beth aeth yn dda, a beth y gellid ei newid neu ei wella y tro nesaf.
Ceisio cymorth
Gall fod yn ddefnyddiol trafod effaith emosiynol sgwrs fel hon â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Gallwch drafod â rhywun rydych chi'n ei adnabod yn barod neu â llinell gymorth sy'n cynnig cymorth i deulu, ffrindiau a gofalwyr.
Canolbwyntio ar eich lles eich hun
Ar ôl sgwrs anodd neu lawn gofid, mae'n bwysig eich bod chi’n canolbwyntio ar eich lles eich hun. Gallech chi wneud paned o'ch hoff ddiod boeth, cysylltu â rhywun dibynadwy, cael ychydig o awyr iach neu wneud ymarfer corff.
Mae'n normal teimlo bod angen ichi siarad â rhywun yn dilyn sgwrs â rhywun sydd wedi dweud ei fod yn teimlo'n hunanladdol. Gall godi emosiynau anodd ac mae'n bwysig eu prosesu.
Mae rhagor o wybodaeth am ofalu amdanoch chi'ch hun ar gael ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Cynllunio ar gyfer sgyrsiau yn y dyfodol
Hyd yn oed os nad ydych chi'n hyderus yn holi yn uniongyrchol am hunanladdiad, mae'n dal yn bosibl cael sgwrs gefnogol am sut y gall rhywun gael help os yw'n profi trafferthion. Unwaith y byddwch chi wedi dechrau siarad am deimladau, efallai y bydd yn agor i fyny am feddyliau hunanladdol. Os na, efallai y bydd dechrau'r sgwrs yn rhoi'r hyder ichi ofyn yn uniongyrchol.
Efallai y bydd hefyd yn dweud wrthych chi ei fod yn iawn. Dydych chi ddim yn gallu rhoi’r syniad o hunanladdiad ym meddwl rhywun drwy ofyn sut maen nhw, felly hyd yn oed os ydyn nhw’n dweud eu bod nhw’n iawn, gofynnwch fwy nag unwaith bob amser. Gallwch hefyd ystyried gofyn eto yn nes ymlaen.
Os ydych chi'n poeni am rywun ond dydyn nhw ddim eisiau siarad ni waeth faint rydych chi'n ceisio, gadewch iddyn nhw wybod y byddwch chi yno iddyn nhw yn y dyfodol os ydyn nhw'n newid eu meddwl neu os bydd angen iddyn nhw siarad â rhywun. Os ydyn nhw'n dechrau teimlo'n hunanladdol, neu os bydd pethau'n gwaethygu, byddan nhw'n gwybod bod ganddyn nhw rywun i droi ato.
Gallech chi hefyd awgrymu eu bod yn siarad â rhywun arall, a'u helpu i feddwl pwy allai hynny fod. Er enghraifft, eu partner, aelod o'r teulu, ffrind agos, neu hyd yn oed eu meddyg teulu neu weithiwr iechyd meddwl proffesiynol.
Os bydd rhywun rydych chi'n ei adnabod yn dweud wrthych chi eu bod yn cael meddyliau hunanladdol, gwnewch y canlynol:
Peidio â chynhyrfu
Gwrandewch yn astud ar beth maen nhw'n ei ddweud. Gadewch iddyn nhw ddweud popeth maen nhw eisiau ei ddweud heb dorri ar eu traws. Peidiwch â neidio i gasgliadau am beth maen nhw'n ceisio'i ddweud wrthych chi. Os ydych chi'n ansicr beth maen nhw'n ei olygu, gofynnwch iddyn nhw egluro.
Ar ôl iddyn nhw orffen siarad, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i ymateb mewn ffordd adeiladol.
Dilysu eu teimladau
Gallwch wneud hyn heb annog na chytuno â'u meddyliau hunanladdol. Er enghraifft, gallech ddweud:
‘Mae hyn yn swnio'n anhygoel o anodd, mae'n ddrwg iawn gen i dy fod ti'n teimlo fel hyn.’
‘Mae'n gwbl ddealladwy dy fod ti eisiau i'r boen ddiflannu. Rwyt ti'n haeddu cael cymorth.’
Dweud wrthyn nhw am y cymorth sydd ar gael
Allwch chi ddim cefnogi rhywun sy'n profi meddyliau hunanladdol ar eich pen eich hun, ac mae'n bwysig iawn nad chi yw'r unig un sy'n gwybod beth sy'n digwydd. Trïwch annog yr unigolyn i geisio cefnogaeth broffesiynol gan rywun sydd wedi'i hyfforddi mewn iechyd meddwl ac mewn cefnogi pobl sy'n profi meddyliau hunanladdol.
Gallech ddechrau drwy ofyn pa fath o gefnogaeth maen nhw wedi'i gael eisoes. Os mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ofyn am gymorth, awgrymwch eu bod yn cysylltu â'u meddyg teulu. Gallech ddweud wrthyn nhw:
‘Dw i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol iawn iti siarad â gweithiwr proffesiynol a fydd yn gallu deall a dy helpu di gyda sut rwyt ti'n teimlo. Beth am edrych ar ambell opsiwn gyda'n gilydd?’
Gallech hefyd rannu ein hadnodd ar gyfer pobl sy'n profi meddyliau hunanladdol. Mae hwn yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol am y gefnogaeth y gallai eu meddyg teulu ei chynnig.
Os ydyn nhw eisoes dan ofal gwasanaethau iechyd meddwl, gallech eu hannog i rannu sut maen nhw'n teimlo â'r gwasanaethau hyn.
Darparu cymorth ymarferol
Gallech chi:
- Gynnig eu cefnogi wrth wneud apwyntiad gyda'r meddyg teulu neu ffonio GIG 111 (dylid dewis yr opsiwn ar gyfer iechyd meddwl).
- Cynnig mynd gyda nhw i apwyntiad gyda meddyg teulu.
- Dweud wrthyn nhw y cawn nhw gysylltu â chi os bydd angen iddyn nhw siarad â rhywun.
- Eu hannog i siarad â phobl eraill maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw am sut maen nhw'n teimlo.
- Eu helpu i wneud cynllun diogelwch. Hyd yn oed os ydyn nhw'n gwneud cynllun diogelwch gyda gweithiwr proffesiynol ymhellach ymlaen, gallai llunio cynllun gyda'ch gilydd tra’u bod yn aros am gymorth proffesiynol fod yn ddefnyddiol i'r ddau ohonoch chi. Gall gwefanStaying Safe eich arwain drwy'r broses o lunio cynllun diogelwch ar eich pen eich hun neu gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo.
Beth os dw i'n dweud y peth anghywir?
Mae'n normal poeni am beth i'w ddweud wrth rywun pan fyddwch chi'n meddwl y gallai fod yn profi meddyliau hunanladdol. Does dim un peth perffaith y gallwch chi ei ddweud, a dim ond eich gorau y gallwch chi ei wneud. Mae'n bwysicach bod yn garedig, yn amyneddgar, a dangos eich bod chi’n malio, na chanolbwyntio ar ddefnyddio'r union eiriau 'cywir'.
Y peth pwysicaf yw gwrando ar beth sy'n cael ei ddweud wrthych chi, ac ymateb yn bwyllog, heb farnu na beio. Dylech osgoi’r pethau canlynol.
Ceisio peidio â dweud eich bod chi'n gwybod sut mae rhywun yn teimlo
Hyd yn oed os ydych chi wedi profi'r mathau hyn o feddyliau eich hun, mae pawb yn profi meddyliau a theimladau yn wahanol. Gall pobl sy’n profi meddyliau hunanladdol deimlo nad oes neb yn gallu deall sut maen nhw'n teimlo.
Ceisio peidio â gwneud iddyn nhw deimlo euogrwydd neu gywilydd am brofi meddyliau hunanladdol
Mae'n bwysig peidio â gwneud iddyn nhw deimlo'n waeth drwy ddweud wrthyn nhw sut y byddai eu marwolaeth yn effeithio ar bobl eraill. Efallai eu bod nhw'n ymwybodol iawn o hyn, neu efallai eu bod nhw'n teimlo y byddai pobl yn well eu byd hebddyn nhw, hyd yn oed pan nad yw hynny’n wir. Yn hytrach, diolchwch iddyn nhw am ddweud wrthych chi, a chydnabyddwch y dewrder y mae wedi'i gymryd i geisio'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Ceisio peidio â dweud y byddan nhw'n iawn
Mae lleihau neu ddiystyru meddyliau hunanladdol yn gallu gwneud i rywun deimlo'n waeth. Dylid cymryd pobl sy’n profi meddyliau hunanladdol o ddifrif, ac ymateb iddyn nhw â thosturi a dealltwriaeth.
Peidio â cheisio gwella popeth eich hun
Mae'n gwbl ddealladwy eich bod chi eisiau gwella pethau eich hun, yn enwedig os ydych chi'n malio llawer am rywun neu'n poeni'n arw amdanyn nhw. Fodd bynnag, mae'n bwysig eu bod yn cael help gan bobl eraill, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol.
Cofiwch, does dim angen i chi geisio gwella'r sefyllfa ac mae'n debyg na fydd pethau'n cael eu datrys mewn un sgwrs. Gallwch gefnogi'r person drwy ddangos eich bod chi'n hapus i barhau i gael sgyrsiau, a'ch bod chi yno iddyn nhw os bydd angen eich cefnogaeth arnyn nhw.
Pethau pwysig i’w cofio
- Dylid cymryd meddyliau hunanladdol o ddifrif ac mae'n debyg y bydd angen cefnogaeth gan weithiwr proffesiynol ar y person rydych chi'n poeni amdano.
- Mae'n fwy diogel peidio ag addo cadw meddyliau hunanladdol yn gyfrinach.
- Cynigiwch helpu mewn ffyrdd rydych chi'n teimlo sy'n ymarferol yn unig. Gallai helpu'r person i ddod o hyd i gymorth gan bobl eraill fod yn rhan bwysig o'ch rôl chi.
- Mae cynnal rhywun sy’n profi meddyliau hunanladdol yn gallu bod yn anodd, felly mae'n bwysig i chi gael cymorth hefyd.
Os ydych chi'n meddwl bod rhywun ar fin niweidio ei hun neu ei fod wedi niweidio ei hun, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am ambiwlans.
Ar ôl gwneud hynny, neu os dydych chi ddim yn siŵr a yw'n mynd i niweidio ei hun ai peidio, dyma bethau y gallwch chi eu gwneud:
Os ydych chi gyda nhw
Os ydych chi gyda'r unigolyn, dylech aros gyda nhw a cheisio eu helpu i reoli eu teimladau dwys neu anodd.
Yn ein hadnodd ar gyfer pobl sy'n profi meddyliau hunanladdol, rydyn ni’n cynnwys rhestr o bethau y gall pobl eu gwneud i gadw’n fwy diogel, gan gynnwys ffyrdd o dynnu eu sylw oddi wrth y sefyllfa. Edrychwch drwy'r rhestr hon gyda nhw, i chwilio am unrhyw bethau a allai fod yn ddefnyddiol iddyn nhw. Dylech hefyd eu hannog i gysylltu â llinell gymorth arbenigol.
Os dydych chi ddim gyda nhw
Os dydych chi ddim gyda rhywun yn gorfforol pan maen nhw'n teimlo fel hyn, ceisiwch gadw mewn cysylltiad â nhw a'u hannog i gysylltu â rhywun sydd gyda nhw neu sydd gerllaw. Os ydyn nhw mewn lle anniogel neu yn rhywle lle gallen nhw gael niwed, ceisiwch eu hannog i symud i le diogel.
Os ydych chi'n gallu eu cyfarfod nhw’n fuan, gall hyn fod o gymorth mawr. Os na, gallech eu cefnogi wrth geisio cymorth proffesiynol brys, gan gynnwys siarad â gweithiwr proffesiynol ar eu rhan. Dylech geisio cael eu caniatâd cyn siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar eu rhan, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Y peth pwysicaf yw eich bod chi’n gwneud beth sy’n iawn i'r unigolyn ac yn ei helpu i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen.
Weithiau, gall meddyliau hunanladdol fod mor gryf fel bod angen cymorth proffesiynol. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n debyg na fydd cefnogaeth gan ffrindiau a theulu yn unig yn ddigon i gadw rhywun yn ddiogel. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am eich gallu i gadw rhywun yn ddiogel, cysylltwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar unwaith. Hyd yn oed os yw'r unigolyn rydych chi'n ei adnabod wedi ceisio cael cymorth yn y gorffennol a ddim eisiau gwneud hynny eto, anogwch nhw i ddal i drïo.
Mae rhai pethau pwysig y dylid ei gwybod am feddyliau a theimladau hunanladdol. Gall darllen am y pethau hyn fod yn anodd, ond maen nhw’n gallu eich helpu chi i ddeall pa gymorth y gallwch chi ei roi a chyfyngiadau beth y gallwch chi ei wneud.
- Gall fod yn anodd iawn dychmygu meddyliau a theimladau hunanladdol os nad ydych chi wedi eu profi nhw eich hun. Mae rhai pobl yn cymharu meddyliau hunanladdol â phoen corfforol eithafol oherwydd y gallan nhw fod mor llethol ac annioddefol.
- Nid yw meddyliau hunanladdol yn bersonol. Os bydd rhywun yn dweud wrthych chi eu bod eisiau marw neu eu bod yn profi meddyliau hunanladdol, dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw’n malio amdanoch chi. Nid yw o reidrwydd yn golygu eich bod chi’n gwneud rhywbeth o'i le chwaith.
- Ni fydd siarad â rhywun am hunanladdiad yn achosi iddyn nhw fod yn fwy tebygol o weithredu ar eu teimladau.
- Mae'n annhebygol y byddwch chi'n gallu rhwystro rhywun rhag teimlo'n hunanladdol ar eich pen eich hun, er bod yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.
- Nid yw'n bosibl rhagweld na gwybod yn union pryd y bydd rhywun yn ceisio hunanladdiad, hyd yn oed os ydych chi'n gwybod eu bod yn profi meddyliau hunanladdol.
- Gall llawer o bobl deimlo'n hunanladdol a phryderu am eu diogelwch eu hunain ar yr un pryd.
- Mae llawer o bobl yn ansicr, neu mae ganddyn nhw deimladau cymysg, ynghylch a ydyn nhw eisiau byw neu farw pan maen nhw'n ystyried hunanladdiad. Hyd yn oed os yw rhywun yn teimlo mai rhoi diwedd ar ei fywyd yw'r unig ddewis, efallai y bydd yn dal i deimlo'n ansicr, ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i'w helpu.
- Efallai na fydd rhywun eisiau rhoi diwedd ar ei fywyd, ond eisiau i'r poen ddod i ben.
- Mae rhai pobl yn methu â meddwl am unrhyw opsiynau neu atebion eraill i'w sefyllfa ac yn gweld hunanladdiad fel eu hunig opsiwn.
Gall cefnogi rhywun sy'n profi meddyliau hunanladdol fod yn heriol dros ben. Mae gweld rhywun arall mewn gofid, a methu â 'gwella' pethau iddyn nhw, yn gallu peri gofid i chi. Isod mae rhestr o bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n cefnogi rhywun sy'n profi meddyliau hunanladdol.
Rhannu eich pryderon
Yn union fel mae angen i'r person rydych chi'n ei gefnogi gael rhywun i siarad ag ef neu hi, bydd angen i chi hefyd gael rhannu eich pryderon â rhywun. Gallai hwn fod yn ffrind dibynadwy neu'n aelod o'r teulu. Neu, os ydych chi'n poeni am rannu eich teimladau â rhywun rydych chi'n ei adnabod, gallech gysylltu â llinell gymorth fel y rhai sydd wedi'u rhestru ar ddiwedd yr adnodd hwn.
Gwneud amser i chi'ch hun
Mae'n bwysig eich bod chi’n gwneud amser i chi'ch hun pan fyddwch chi’n gofalu am rywun arall. Gallai hyn olygu gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael amser bob dydd i ymlacio. Er enghraifft, drwy gael awyr iach, ffonio ffrind, neu ddarllen llyfr.
Os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn gadael y person rydych chi'n gofalu amdano ar ei ben ei hun, gallech ofyn i ffrind alw heibio tra byddwch chi'n cael ychydig o amser i chi'ch hun. Cofiwch, fyddwch chi ddim yn gallu gofalu am bobl eraill os na fyddwch chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun hefyd.
Cael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl
Yn anffodus, mae'n gyffredin i bobl sy'n cefnogi rhywun sy'n hunanladdol ddatblygu trafferthion iechyd meddwl eu hunain. Os ydych chi'n profi iechyd meddwl gwael, mae'n bwysig eich bod chi'n ceisio cymorth hefyd. Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych chi'n profi trafferthion.
Darganfod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ychwanegol
Os ydych chi'n treulio llawer o amser yn gofalu am rywun sy'n profi meddyliau hunanladdol, efallai y byddwch chi'n cael eich ystyried yn 'ofalwr'. Mae hyn yn golygu y gallech chi fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadnodd sy’n trafod gofalu am rywun sydd â salwch meddwl, neu gallwch siarad â'ch meddyg teulu.
Llinellau cymorth
Gallwch gysylltu â'r sefydliadau canlynol os oes angen i chi siarad â rhywun:
- Samariaid – Mae’r Samariaid yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth i bobl mewn angen. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Shout – Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun cyfrinachol a rhad ac am ddim i unrhyw un yn y DU sydd angen cefnogaeth. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- Childline – Mae Childline yn wasanaeth cymorth cyfrinachol, rhad ac am ddim i bobl dan 19 oed. Mae’r gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
- SANEline – Mae SANEline yn llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol sy'n cynnig cymorth emosiynol arbenigol, arweiniad a gwybodaeth i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan salwch meddwl. Mae gwybodaeth am oriau agor SANEline ar gael ar eu gwefan.
Elusennau
- Samariaid – Elusen sy'n cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth i bobl mewn angen.
- Campaign Against Living Miserably (CALM) – Elusen sy'n canolbwyntio ar atal hunanladdiad ac yn cynnig llinell gymorth ac adnoddau i bobl sy'n profi trafferthion.
- Y Gymdeithas Ryngwladol i Atal Hunanladdiad (IASP) – Mae gan yr IASP gronfa ddata sy'n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â hunanladdiad yn eich gwlad chi.
- Sut i gefnogi rhywun sy'n teimlo'n hunanladdol, Mind – Mae gan yr elusen Mind dudalen ar gyfer pobl sy'n adnabod rhywun sy'n teimlo'n hunanladdol.
Gwefannau ac apiau
- Staying Safe – Mae'r wefan hon yn cynnig adnoddau i gefnogi pobl sy'n profi meddyliau am hunan-niweidio neu hunanladdiad, gan gynnwys templed cynllun diogelwch ar-lein gydag awgrymiadau sy’n seiliedig ar brofiad.
- Stay Alive – Mae’r wefan hon a'r ap rhad ac am ddim yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy'n profi meddyliau hunanladdol.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Arbenigwyr clinigol: Dr Alys Cole-King, Dr Sanjukta Das a Dr Nisha Shah
Arbenigwyr trwy brofiad: Jan Giles, Melinda King ac Eshan Vadgama
Mae’r arbenigwyr trwy brofiad a helpodd i ddatblygu'r adnodd hwn yn bobl sydd wedi profi meddyliau hunanladdol yn y gorffennol, neu sydd wedi cefnogi anwylyd a oedd yn profi meddyliau hunanladdol.
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (September 2026)