Ticiau a Syndrom Tourette mewn plant a phobl ifanc
Tics and Tourette syndrome in children and young people
Below is a Welsh translation of our information resource on tics and Tourette syndrome in young people. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon yn trafod ticiau a syndrom Tourette mewn plant a phobl ifanc. Mae'n trafod y gwahaniaeth rhwng ticiau a syndrom Tourette, pam eu bod nhw'n digwydd, sut maen nhw'n cael eu diagnosio, a'r driniaeth a'r gefnogaeth sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer rhieni ac ysgolion.
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer darllenwyr 11 oed a hŷn.
Mae ticiau yn symudiadau ailadroddus neu synau y mae rhywun yn eu gwneud yn anfwriadol.
Gellir rhannu ticiau yn ddau grŵp:
- Ticiau echddygol (corfforol) – symudiadau corfforol anwirfoddol
- Ticiau lleisiol - synau neu eiriau anwirfoddol
Gellir rhannu’r rhain yn ddau gategori:
- Ticiau syml – mae'r ticiau hyn yn symudiadau neu synau cyflym, syml. Er enghraifft, pesychu, amrantu (blincio) neu hymian
- Ticiau cymhleth - mae'r ticiau hyn yn symudiadau hirach a mwy cysylltiedig, sy'n cynnwys nifer o grwpiau o gyhyrau. Er enghraifft, curo dwylo, neidio neu ailadrodd geiriau neu ymadroddion
Mae’r tabl hwn yn dangos rhai ticiau cyffredin.
Syml | Cymhleth | |
Ticiau corfforol |
|
|
Ticiau |
|
|
Gall y ticiau y mae rhywun yn eu profi newid dros amser, ac wrth iddo fynd yn hŷn.
Nid yw pob tic yn amlwg. I rai pobl, ticiau sydd ddim yn amlwg i eraill sy'n achosi'r anhawster mwyaf.
“I mi, roedd y ticiau’n anamlwg iawn pan oeddwn i'n iau. Roeddwn i'n arfer tynhau fy mhengliniau ac wrth gwrs dydi pobl ddim yn gallu gweld hynny.” Rayne
Ble gall ticiau ddigwydd?
Mae gan ein corff wahanol fathau o gyhyrau sydd â gwahanol swyddogaethau. Mae rhai yn gyhyrau rydyn ni’n gallu eu rheoli, fel y cyhyrau yn ein hwyneb sy’n cael eu defnyddio i wenu, neu'r cyhyrau yn ein coesau sy’n cael eu defnyddio i gerdded neu redeg. Mae rhai yn gyhyrau dydyn ni ddim yn gallu eu rheoli, fel y cyhyrau yn ein calon sy'n pwmpio gwaed o amgylch ein corff. Fel arfer, dim ond ar y cyhyrau rydyn ni’n gallu eu rheoli y mae ticiau yn effeithio. Felly, er enghraifft, nid yw’n bosibl cael tic yn eich calon.
Beth am regi?
Mae rhai ticiau yn cynnwys:
- rhegi (coprolalia)
- gwneud arwyddion amhriodol (copropraxia).
Mewn pobl sydd â thiciau, bydd gan oddeutu 1 o bob 5 coprolalia neu copropraxia.
Mae ticiau fel hyn yn cael eu gorgynrychioli mewn rhaglenni teledu a ffilmiau ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, nid yw pawb sy'n byw â thiciau neu Tourette's yn profi coprolalia neu copropraxia, ac nid oes rhaid i'r symptomau hyn fod yn bresennol er mwyn cael diagnosis.
Gall coprolalia a copropraxia fod yn arbennig o anodd i'r bobl sy’n eu profi. Os ydych chi'n datblygu ticiau fel hyn, cofiwch efallai na fyddwch chi’n eu profi nhw am byth. Maen nhw’n gallu newid neu ddiflannu dros amser.
“I mi, os yw pobl yn gwneud mwy o sylwadau am y ticiau rhegi, dw i'n fwy tebygol o'u gwneud nhw oherwydd ‘mod i’n poeni.” Lily
Mae ticiau yn anwirfoddol, sy'n golygu nad yw'r person sy'n eu gwneud nhw yn eu gwneud nhw’n fwriadol.
Gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r ysfa i wneud y symudiadau a’r synau hyn gyda’r ysfa i amrantu. Pe bai rhywun yn dweud wrthych chi am beidio ag amrantu, efallai y byddech chi'n gallu stopio am gyfnod byr, ond yn y pen draw byddai'n rhaid i chi amrantu. Mae rhai pobl yn cymharu'r ysfa i wneud y symudiadau a’r synau hyn â’r ysfa i disian, neu i lyfu'ch gwefusau os ydych chi'n bwyta rhywbeth melys.
Rhagarwydd
Cyn bod tic yn digwydd, gall rhywun brofi beth sy’n cael ei alw’n rhagarwydd neu ysfa ragarwyddol. Mae hwn yn deimlad anghyfforddus sy'n digwydd cyn tic. Bydd y teimlad hwn yn cynyddu nes bod y tic yn digwydd.
Gallai'r rhagarwydd ddigwydd yn y rhan o'r corff lle mae'r tic yn digwydd. Er enghraifft, os yw tic yn golygu bod rhywun yn clirio ei wddf, gallai'r rhagarwydd fod yn deimlad coslyd yn ei geg. Gall y rhagarwydd hefyd ddigwydd mewn rhan wahanol o'r corff yn hytrach na'r rhan lle mae'r tic yn digwydd.
“Weithiau mae fy ysfa ragarwyddol yn eitha’ poenus.” Rayne
Mae pobl yn dweud fod y rhagarwydd yn teimlo fel:
- “Pwysau sy'n cronni yn fy nghyhyrau”
- “Trydan”
- “Cosi dwys iawn”
- “Pêl enfawr yn fy ngwddf”
- “Dw i ar fin tisian”
Ar ôl i'r person wneud y tic, neu ei ailadrodd nes ei fod yn teimlo'n 'jyst iawn', bydd y teimlad hwn yn diflannu.

Weithiau, mae ticiau yn digwydd yn hollol annisgwyl. Efallai y bydd hyn oherwydd bod y rhagarwydd yn llai amlwg. Neu gallai fod oherwydd bod y ticiau mae'r person yn eu profi yn niferus ac yn digwydd un ar ôl y llall.
Gall y rhagarwydd fod yn llai amlwg mewn plant iau, neu mewn pobl sydd newydd ddechrau profi ticiau. Nid yw'r union reswm dros hyn yn hysbys.
“Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn gwybod bod tic weithiau'n ein synnu ni cymaint ag y mae'n synnu pawb arall.” Rayne
Poen a blinder
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy’n byw â thiciau yn profi poen ar ryw adeg. Gall hyn fod o ganlyniad i’r canlynol:
- Gwneud yr un symudiad dro ar ôl tro
- Anafu eu hunain os yw’r ticiau yn golygu eu bod yn taro eu hunain neu bethau o'u cwmpas.
Mae ticiau yn achosi i lawer o bobl deimlo'n flinedig, yn enwedig os ydyn nhw’n profi llawer o ohonyn nhw, neu os yw'r ticiau'n para am gyfnodau hir.
A yw pobl yn gallu rheoli eu ticiau?
Mae rhai pobl yn gallu dal eu ticiau i mewn peth o'r amser. Atal ticiau yw’r enw am hyn. Fel arfer dim ond am gyfnodau byr o amser y mae’n bosibl gwneud hyn. I rai pobl, os ydyn nhw'n atal eu ticiau am amser hir, maen nhw'n profi ticiau dwys am gyfnod wedyn.
Mae'n bwysig nad yw pobl sy'n cael ticiau yn cael eu gorfodi i stopio neu ddal eu ticiau i mewn. Mae'n debyg na fydd hyn yn gweithio yn hir iawn, a gall wneud y ticiau yn waeth, neu wneud i'r person boeni am gael ticiau.
“Mae fel rhoi llwyth o Mentos mewn potel Coke ac yna rhoi'r caead ymlaen. Efallai fydd e ddim yn ffrwydro. Ond y munud y byddwch chi'n tynnu'r caead ‘na, mae'n mynd i fynd i bob man.” Rayne
Mae syndrom Tourette (neu Tourette's yn fyr) yn 'anhwylder ticiau', sy'n golygu ei fod yn achosi ticiau. Nid yw pawb sy’n profi ticiau yn dioddef o syndrom Tourette.
Pryd mae ticiau yn dod yn syndrom Tourette?
Mae llawer o blant yn datblygu ticiau syml am gyfnodau byr o amser, ac mae'r rhain fel arfer yn diflannu ar eu pennau eu hunain. Yr enw am hyn yw anhwylder ticiau dros dro.
Bydd rhai plant yn profi ticiau am gyfnodau hirach o amser. Os ydych chi’n profi ticiau am fwy na blwyddyn, efallai y cewch chi ddiagnosis o anhwylder ticiau cronig.
Efallai y cewch chi ddiagnosis o syndrom Tourette os ydych chi wedi bod yn profi ticiau ers mwy na blwyddyn, ac:
- rydych chi’n profi ticiau corfforol amrywiol ac o leiaf un tic lleisiol ac
- rydych chi’n profi’r ticiau hyn yn aml ac ar y rhan fwyaf o ddyddiau.
Os yw eich ticiau yn digwydd yn aml iawn ac yn amlwg, efallai y cewch chi ddiagnosis o syndrom Tourette difrifol.
Mae ticiau a syndrom Tourette yn aml yn digwydd ochr yn ochr â chyflyrau eraill. 'Cyflyrau sy’n cyd-ddigwydd' yw’r enw am y rhain. Mae cyflyrau cyffredin sy'n cyd-ddigwydd yn cynnwys:
- anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
- awtistiaeth
- anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD)
- iselder
- anableddau dysgu
Weithiau gall ticiau fod yn symptom o gyflwr iechyd corfforol. Bydd eich meddyg yn archwilio a oes unrhyw resymau eraill dros y ticiau.
Camddiagnosis
Weithiau gall ticiau a Tourette's ymddangos fel cyflyrau eraill. Gall hyn olygu bod pobl weithiau'n cael diagnosis anghywir o gyflwr arall cyn cael diagnosis cywir o anhwylder ticiau neu Tourette's.
Er enghraifft, mae rhai pobl sydd ag OCD yn cyffwrdd pethau dro ar ôl tro i geisio lleddfu eu meddyliau obsesiynol. Gallai hyn amlygu ei hun fel troi golau ymlaen ac yna ei ddiffodd nifer o weithiau, neu gyffwrdd â'r un lle ar wal cyn gadael y tŷ. Os yw tic yn achosi i rywun gyffwrdd â phethau, efallai y bydd yn cael diagnosis anghywir o OCD. Gall y gwrthwyneb ddigwydd hefyd.
Trin cyflyrau eraill
Os ydych chi'n profi ticiau, dylai eich meddyg geisio darganfod a allai hyn fod yn gysylltiedig â chyflwr arall. Os oes gennych chi gyflwr arall sy'n gwneud eich ticiau yn waeth, gall trin y cyflwr hwnnw wella eich ticiau.
Er enghraifft, os ydych chi'n profi llawer o bryder, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu eich bod chi’n cael cwnsela er mwyn siarad am sut rydych chi'n teimlo. Neu os oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl fel OCD, gallai trin eich OCD wneud eich ticiau yn haws i'w rheoli.
“Mae cael diagnosau eraill yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae'n gallu eich helpu chi i ddod o hyd i'r gwir achos.” Rayne
Mae Tourette's yn gyflwr niwrolegol. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai gwahaniaethau mewn rhannau o'r ymennydd sy'n rheoli symudiad fod yn gysylltiedig â sut mae Tourette's yn datblygu. Efallai bod rhai cemegion yn yr ymennydd, fel dopamin, hefyd yn gysylltiedig.
Fel gyda llawer o gyflyrau, mae'n anodd dweud yn union beth sy'n achosi ticiau a Tourette's. Mae'n debyg ei fod yn gymysgedd o ffactorau genetig a ffactorau amgylcheddol.
Mae ffactorau genetig yn wahaniaethau yn ein genynnau sy'n ein gwneud ni’n unigryw. Mae ffactorau amgylcheddol yn bethau yn y byd o'n cwmpas sydd yn gallu effeithio arnon ni yn y groth neu wrth i ni dyfu i fyny.
Gall ffactorau genetig ac amgylcheddol olygu bod rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu ticiau neu Tourette’s. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y bydd yn bendant yn digwydd.
Pryd mae Tourette’s yn digwydd?
Mae ticiau fel arfer yn dechrau pan fydd plentyn rhwng 4 a 6 oed. Fodd bynnag, gallant ddechrau yn hwyrach neu'n gynharach mewn bywyd.
Pwy sy'n fwyaf tebygol o gael syndrom Tourette?
Mae diagnosis o syndrom Tourette yn fwy tebygol mewn bechgyn na merched. Fodd bynnag, mewn oedolion mae diagnosis o syndrom Tourette yn fwy cyfartal rhwng dynion a menywod. Gall merched a menywod ei chael hi'n anodd cael diagnosis oherwydd camddealltwriaeth mai dim ond mewn bechgyn a dynion y mae Tourette’s yn digwydd. Nid yw hyn yn wir.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n profi ticiau, efallai y byddwch chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr eisiau siarad â'ch meddyg teulu a'ch ysgol.
Gall eich meddyg teulu chwilio am unrhyw broblemau eraill, neu unrhyw gyflyrau iechyd a allai fod yn achosi eich ticiau. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i'ch ysgol wybod am eich ticiau, a'ch bod chi a'ch teulu yn cadw golwg ar sut mae pethau'n datblygu.
Os yw'r ticiau yn dechrau cael effaith negyddol ar eich bywyd neu wedi bod yn mynd ymlaen ers amser hir, dylai'ch meddyg eich atgyfeirio at y gwasanaeth priodol. Bydd hyn yn dibynnu ar ei farn ynglŷn â beth allai fod yn achosi eich symptomau. Er enghraifft, a yw eich symudiadau'n gysylltiedig â chyflwr arall fel awtistiaeth, neu a oes anhwylder ticiau fel Tourette’s arnoch chi.
Dylai'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n eich asesu chi chwilio hefyd am unrhyw gyflyrau eraill. Er enghraifft, cyflyrau iechyd meddwl neu gyflyrau niwroddatblygiadol fel ADHD, sy'n aml yn cyd-ddigwydd â thiciau.
Mae'r triniaethau ar gyfer ticiau a syndrom Tourette yn amrywio gan ddibynnu ar y person a'i anghenion. Er enghraifft, pa mor hir y mae wedi cael y symptomau, a sut maen nhw'n effeithio ar ei fywyd.
Os mai ychydig wythnosau neu fisoedd yn unig sydd ers i chi fod yn profi ticiau, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu eich bod chi’n aros i weld a yw'r ticiau'n gwella ar eu pen eu hunain. Efallai y bydd hefyd yn awgrymu bod eich rhieni neu'ch gofalwyr yn siarad â'ch ysgol i egluro beth sy'n digwydd.
Bydd y driniaeth neu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer Tourette's yn dibynnu ar yr heriau rydych chi'n eu hwynebu, a’r pethau rydych chi eisiau help i fynd i'r afael â nhw.
Dysgu am Tourette’s
Mae hyn hefyd yn cael ei alw’n seicoaddysg. Mae’n ffordd o'ch helpu chi a'ch teulu i ddysgu am eich cyflwr. Er enghraifft, byddwch yn dysgu:
- beth mae ticiau a Tourette’s yn cael eu galw
- pam eu bod nhw'n digwydd
- sut y gallen nhw newid dros amser
- sut i ymdopi â phrofi ticiau
- a sut i helpu pobl eraill i ddeall ticiau a Tourette's.
Os dyw’r ticiau ddim yn eich poeni chi, a bod y bobl o'ch cwmpas yn derbyn ac yn deall, efallai mai dyma'r unig gefnogaeth fydd ei hangen arnoch chi. Fodd bynnag, os yw eich ticiau yn fwy dwys, neu os ydyn nhw'n ei gwneud hi'n anodd i chi wneud y pethau rydych chi'n eu gwneud fel arfer, efallai y bydd angen mwy o gefnogaeth arnoch chi.
Therapïau seicolegol
Mae therapïau seicolegol, neu therapïau siarad, yn golygu eich bod chi’n:
- siarad â gweithiwr proffesiynol am sut rydych chi'n teimlo
- gweithio gydag e neu hi i ddatblygu ffyrdd newydd a mwy defnyddiol o feddwl neu ymddwyn.
Mae wedi cael ei ddangos bod nifer o therapïau seicolegol gwahanol yn ddefnyddiol ar gyfer trin Tourette's.
Ni fydd yr un o'r therapïau hyn yn eich dysgu i atal eich ticiau yn llwyr, ond efallai y byddan nhw’n eich helpu i:
- reoli eich ticiau mewn amgylcheddau anodd – er enghraifft, os oes gennych chi arholiad pwysig neu ddigwyddiad teuluol lle rydych chi’n poeni am wneud symudiadau neu synau
- gwneud llai o symudiadau neu synau neu leihau’r ticiau sy’n fwy heriol i chi – er enghraifft, os yw tic yn arbennig o boenus neu'n peri embaras i chi
- poeni llai am eich ticiau
- meddwl am eich ticiau mewn ffordd wahanol
Ymyriad Ymddygiadol Cynhwysfawr ar gyfer Ticiau (CBiT)
Mae wedi cael ei ddangos bod y therapi seicolegol hwn yn helpu i leihau ticiau.
Fel rhan o CBiT byddwch yn arbrofi gyda gweithgareddau dyddiol sy'n achosi ticiau neu’n gwneud eich ticiau yn waeth. Byddwch yn dysgu sut i ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn mewn ffordd wahanol. Fel rhan o CBiT byddwch hefyd yn cael:
- Seicoaddysg
- Asesiad gweithredol - Mae hyn yn golygu edrych ar beth sy'n achosi eich ticiau, beth sy'n gwneud iddyn nhw gynyddu, a beth sy'n gwneud iddyn nhw leihau.
- Hyfforddiant ymlacio - Mae dysgu gwahanol ffyrdd o ymlacio yn gallu gwneud eich ticiau’n llai tebygol o ddigwydd, neu wneud i chi deimlo'n llai pryderus pan fydd y ticiau’n digwydd.
- Cymorth cymdeithasol – Helpu eich teulu i'ch cefnogi chi drwy'r driniaeth.
Mae CBiT yn defnyddio technegau hyfforddiant gwrthdroi arferion, sy’n cael ei egluro isod.
Hyfforddiant gwrthdroi arferion (HRT)
Mae wedi cael ei ddangos bod HRT, sy’n therapi seicolegol, yn helpu pobl i reoli eu ticiau.
Mae pedwar cam i HRT:
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth – Mae hwn yn eich helpu chi i sylwi pryd mae eich ticiau’n digwydd, ac ym mha amgylcheddau y maen nhw’n digwydd mwy.
- Hyfforddiant ymatebion gwrthbwysol – Mae hwn yn eich helpu chi i feddwl am ymatebion eraill sy’n gallu atal y ticiau. Er enghraifft, os ydych chi’n profi ysfa i wneud sŵn uchel, efallai y byddwch chi'n ymarfer defnyddio anadlu dan reolaeth nes bod yr ysfa wedi diflannu.
- Hyfforddiant dwys – Wrth wneud hyn byddwch yn ymarfer y sgiliau rydych chi wedi'u dysgu wrth gael therapi. Gall eich rhieni neu eich gofalwyr eich helpu i wneud hyn gartref.
- Technegau ymlacio
Gellir rhoi HRT wyneb yn wyneb, ar-lein neu fel rhan o grŵp.
Mae rhai pobl yn teimlo nad yw HRT yn ddefnyddiol, neu dydyn nhw ddim eisiau rheoli eu ticiau.
“Dw i'n credu ei fod yn dibynnu ar beth mae'r person hwnnw ei eisiau. Roedd yn eithaf defnyddiol i mi ar y pryd. Nawr fy mod i'n hŷn dw i ddim yn dal y ticiau i mewn yn arbennig oni bai fy mod i mewn sefyllfa lle mae angen i mi wneud hynny.” Rayne
Amlygiad a rhwystro ymateb (ERP)
Fel rhan o driniaeth amlygiad a rhwystro ymateb (ERP), byddwch yn dysgu technegau i helpu i reoli a goddef yr ysfa neu'r teimlad sy’n achosi ticiau. Gall hyn fod yn anodd iawn i ddechrau, ac efallai mai dim ond am gyfnod byr iawn y byddwch chi'n gallu ei wneud. Bydd hyn yn digwydd mewn amgylchedd hamddenol a thawel iawn, gyda llawer o gefnogaeth gan eich therapydd.
Yn y pen draw, gyda chefnogaeth a chymorth, gall ERP eich helpu chi i wella'ch gallu i ddal eich ticiau i mewn am gyfnod hirach ac mewn sefyllfaoedd mwy heriol. I lawer o bobl, os ydyn nhw’n gallu gwneud hyn, mae'r ysfa sy'n achosi ticiau yn lleihau neu'n achosi llai o bryder a straen iddyn nhw.
Meddyginiaeth
Mae wedi cael ei ddangos bod nifer o feddyginiaethau yn ddefnyddiol wrth drin ticiau a Tourette's. Mae’r canlynol yn feddyginiaethau ar gyfer trin ticiau a syndrom Tourette:
- Gweithyddion alffa – mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau fel Clonidine a Guanfacine. Rydyn ni’n meddwl eu bod nhw’n gweithio trwy dawelu signalau'r ymennydd gan helpu i leihau ticiau.
- Meddyginiaeth rhwystro derbynyddion dopamin – mae'r rhain yn cynnwys meddyginiaethau fel aripiprazole a risperidone. Mae'r meddyginiaethau hyn yn gweithio trwy rwystro effaith cemegyn yn yr ymennydd (dopamin). Credir y gallai’r cemegyn hwn achosi ticiau. Mae cyffuriau gwrthseicotig yn enw arall am y meddyginiaethau hyn. Mae hyn oherwydd eu bod hefyd yn cael eu defnyddio i drin anhwylderau seicotig fel sgitsoffrenia. Nid yw hyn yn golygu bod cysylltiad rhwng Tourette's a seicosis.
- Meddyginiaethau eraill – Gall rhai meddyginiaethau eraill helpu i leihau ticiau. Er enghraifft, y rhai sydd fel arfer yn cael eu defnyddio i drin epilepsi. Fel arfer, rhoddir cynnig ar y rhain pan fydd triniaethau eraill heb weithio'n dda neu pan nad yw'n bosibl eu defnyddio.
“Gall ymateb i feddyginiaeth amrywio’n fawr o berson i berson . ‘Dyw e ddim fel trin pwysedd gwaed lle gallwch chi ragweld yn hawdd sut bydd rhywun yn ymateb.” Ed
Efallai y cynigir meddyginiaethau i chi:
- os ydych chi wedi rhoi cynnig ar bethau eraill fel therapïau hunangymorth a seicolegol, ond nid yw'r rhain wedi helpu i leihau eich ticiau cymaint ag yr oeddech chi wedi gobeithio
- os yw eich ticiau yn achosi llawer o ofid, embaras neu boen i chi
- os ydych chi'n profi ticiau yn aml ac mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd gwneud pethau rydych chi'n eu mwynhau.
Gall y meddyginiaethau hyn achosi sgil-effeithiau. Dylai eich meddyg siarad â chi a'ch rhieni neu'ch gofalwyr i egluro’n ofalus beth yw'r sgil-effeithiau hyn a pha bethau i gadw golwg amdanyn nhw.
“Dw i'n cymryd meddyginiaeth, a dw i wedi gweld fod hynny wir yn helpu. Dw i'n dal i gael ticiau, ond ‘dyw e ddim mor gyffredin.” Lily
Rheoli straen a hwyliau isel
Os ydych chi'n teimlo dan straen, yn bryderus, yn drist neu'n isel, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Gallai hyn olygu rhiant, gofalwr, ffrind gorau neu hoff athro neu athrawes. Weithiau gall siarad am eich problemau wneud iddyn nhw deimlo'n llai llethol. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n ymdopi, neu os yw pethau'n gwaethygu, efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth broffesiynol gan eich meddyg teulu.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar rai o'n hadnoddau eraill ar gyfer pobl ifanc:
Grwpiau cefnogi
Efallai y bydd yn ddefnyddiol hefyd i chi gyfarfod pobl eraill sy’n profi ticiau a Tourette's mewn grwpiau cymorth. Gall y rhain ddigwydd ar-lein neu wyneb yn wyneb. Siaradwch â'ch meddyg teulu i gael rhagor o wybodaeth am y mathau o grwpiau sydd ar gael yn lleol i chi.
Mae'r elusen Tourette's Action yn cynnal nifer o grwpiau cymorth ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.
“Dw i wedi gwneud ffrindiau da iawn yno, ac rydyn ni'n dal i siarad â'n gilydd hyd heddiw. Dw i'n credu mai’r gymuned Tourette's yw un o'r lleoedd mwyaf croesawgar i mi ei brofi erioed. ‘Dych chi'n gwybod bod pawb yn deall ei gilydd.” Rayne
Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud eich hun, neu gyda chymorth eich ffrindiau a'ch teulu, i wneud eich ticiau yn haws i'w rheoli.
Dyma rai o'r pethau y mae'r bobl a helpodd i ysgrifennu'r adnodd hwn yn eu cael yn ddefnyddiol neu'n ddi-fudd o ran rheoli eu ticiau. Cofiwch, mae pawb yn wahanol. Efallai na fydd rhywbeth sy'n gweithio i un person yn gweithio i rywun arall.
Ar ôl i chi edrych ar yr enghreifftiau hyn, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi wneud rhestr o'r pethau sy'n ddefnyddiol neu'n ddi-fudd i chi.
Pethau sy’n helpu i drin ticiau
- “Weithiau mae fy ysfa ragarwyddol yn eitha’ poenus. Os bydda i’n gwneud ymarfer corff, mae angen i mi wneud ticiau o hyd, ond mae’n llai poenus.”
- “I mi, cerddoriaeth a chyngherddau yw'r prif bethau sy’n fy helpu i go iawn. Os ydw i'n cael ticiau, dw i'n gwybod i roi fy nghlustffonau i mewn, ac fel arfer mae pethau'n tawelu o fewn ryw 10 i 15 munud.”
- “Mae gan Tourette's Action laniard sy'n dweud wrth bobl eich bod chi’n byw â’r cyflwr. Os ydw i'n mynd allan ac yn ei wisgo dw i wedi sylwi mai 'chydig iawn o bobl sy’n syllu.”
- “Os ydw i'n coginio neu'n gwneud rhywbeth cwbl ymarferol gyda fy nwylo fel tynnu llun mae’r ticiau yn mynd yn llawer llai.”
- “Dw i’n aml yn cynghori pobl i roi cynnig ar dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio. Gall ffisiotherapi a chlytiau cynnes hefyd fod yn ddefnyddiol ar gyfer poen yn y cyhyrau.”
Pethau sy’n gallu gwneud ticiau yn fwy amlwg
- “Caffein - Nes i yfed diod egni unwaith, a fydda i byth yn gwneud hynny eto.”
- “Mynd i amgylcheddau newydd gyda phobl newydd, oherwydd fel arfer mae pawb o 'nghwmpas i yn gwybod bod gen i Tourette’s.”
- “Petawn i'n cael ticiau dwys, byddai amgylchedd swnllyd iawn fel cyngerdd yn amgylchedd drwg i mi.”
- “Dw i'n gwybod, os bydda i’n siarad am y ticiau, yna fe fydda i’n profi mwy ohonyn nhw.”
Ddylech chi ddim osgoi'r pethau hyn o reidrwydd, ond gall helpu i wybod pa bethau sy'n gwneud eich ticiau yn haws neu'n anoddach i'w rheoli. Mae'n bwysig nodi nad pethau drwg yn unig sy’n gallu gwneud eich ticiau yn fwy dwys. Efallai y byddwch chi’n sylwi bod eich ticiau yn mynd yn fwy dwys os ydych chi wedi cyffroi neu'n hapus.
Mae hefyd yn bwysig gwybod y bydd eich ticiau weithiau'n gwaethygu neu'n gwella, a fyddwch chi ddim yn gwybod pam. Yr enw am hyn yw cynyddu a gwanhau, ac mae'n rhan arferol o fyw gyda thiciau a Tourette's. Gall hyn wneud i chi deimlo’n rhwystredig, ond nid chi sydd ar fai.
Fel rydyn ni wedi'i drafod eisoes, mae pobl sydd â syndrom Tourette yn fwy tebygol o brofi rhai cyflyrau iechyd meddwl. Dyma pam ei bod hi'n bwysig bod pobl ifanc sy’n byw gyda thiciau a Tourette's yn cael dealltwriaeth a chefnogaeth gan y bobl o'u cwmpas.
Gall ticiau a Tourette's hefyd gael eu heffeithio gan eich iechyd meddwl. Efallai y byddwch chi'n sylwi bod eich ticiau yn dod yn fwy amlwg os ydych chi'n teimlo dan straen arbennig.
Os ydych chi’n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, neu â'r bobl sy'n ymwneud â'ch gofal meddygol. Mae rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl pobl ifanc ar gael ar ein gwefan.
“Dw i'n meddwl bod llawer o'r problemau iechyd meddwl yn deillio o'r ffordd y mae pobl eraill yn ei weld e. Yn enwedig yn gyhoeddus, pobl yn dweud wrthych chi am gau eich ceg, neu'n syllu arnoch chi, neu'n gofyn pam dych chi'n gwneud hynny? Ac er does dim ots gen i'n bersonol am y cwestiynau hynny, y broblem yw'r ffordd mae pobl yn gofyn.” Rayne
“Mae gen i anhwylder gorbryder, a doeddwn i ddim yn gallu sefyll fy arholiadau TGAU oherwydd byddai'r pryder yn mynd yn ddrwg iawn ac yna byddai'r ticiau yn mynd yn llawer gwaeth. Mi ges i asesiad athrawon yn y diwedd.” Lily
Mae'r rhan fwyaf o blant sy’n profi ticiau yn gweld eu bod yn gwella llawer dros amser. Bydd y rhan fwyaf o blant sydd â Tourette's yn profi llai o symptomau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Edrychodd un astudiaeth ar bobl ifanc â Tourette's wrth iddyn nhw fynd yn hŷn i weld sut y newidiodd eu ticiau. Mae'r astudiaeth hon yn awgrymu, wrth i blant â Tourette's dyfu i fyny:
- bod tua 2 o bob 10 yn gweld bod eu ticiau yn diflannu’n llwyr
- bod tua 6 o bob 10 yn parhau i brofi ticiau ysgafn
- bod tua 2 o bob 10 yn parhau i brofi ticiau cymedrol neu ddifrifol
“Dw i bron yn 20 nawr, ac maen nhw wedi tawelu llawer o gymharu â sut oedden nhw. Ond mae ticiau yn gallu cynyddu a gwanhau. Gallwch gael cyfnodau lle efallai na fyddwch chi'n profi ticiau yn aml, ond yna gallech gael wythnos neu ddwy lle rydych chi'n profi ticiau drwy'r amser. Os yw’r ticiau yn ysgafn iawn, dw i wedi cael pobl yn dweud 'ydi dy Tourette's wedi diflannu?' Na, dw i jest yn mynd trwy gyfnod gwahanol.” Rayne
“Er nad yw nifer y ticiau dw i'n eu profi wedi newid llawer, mae fy ngallu i fyw gyda'r ticiau wedi newid wrth i mi fynd yn hŷn. Mae gen i fwy o brofiad o ran deall beth sy’n gallu achosi’r ticiau neu beth sy’n gallu helpu os ydyn nhw’n ddrwg iawn.” Ed
Awgrymiadau i rieni
Bod yn amyneddgar
Mae'n ddealladwy teimlo dan straen os yw eich plentyn yn profi ticiau neu wedi cael diagnosis o Tourette's. Efallai eich bod chi’n meddwl tybed beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer ei ddyfodol, ac yn meddwl tybed beth allwch chi ei wneud i helpu.
Mae'n bwysig peidio â theimlo’n rhwystredig tuag at eich plentyn am y ticiau. Cofiwch efallai bydd angen rhoi cynnig ar ychydig o therapïau neu driniaethau gwahanol cyn dod o hyd i beth sy'n gweithio orau i'ch plentyn.
Darganfod beth sy’n ddefnyddiol i’ch plentyn
Gofynnwch i'ch plentyn beth sy'n ddefnyddiol iddo neu iddi pan fydd y ticiau’n digwydd. Er enghraifft, efallai y bydd o gymorth i’ch plentyn os ydych chi'n ei anwybyddu tra bod y ticiau’n digwydd. Neu efallai y byddai tynnu ei sylw gyda gweithgaredd neu sgwrs yn ei helpu.
Gall dysgu mwy am beth sydd ei angen ar eich plentyn, a’r pethau sy’n achosi trafferth iddo, fod yn rhan bwysig o'i helpu i ddysgu rheoli’r ticiau.
“os ydw i'n cael tic taro a ‘dych chi'n cydio yn fy llaw i geisio ei atal, dych chi'n mynd i wneud pethau fil gwaith yn waeth.” Rayne
Peidio ag annog eich plentyn i atal y ticiau
Ni ddylech annog eich plentyn i atal y ticiau, ac ni ddylech byth ei gosbi am wneud y ticiau. Mae rhai therapïau yn helpu i alluogi pobl ifanc i reoli eu ticiau. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gefnogol a rheoledig, gyda chefnogaeth therapydd.
Yn aml, mae'r ticiau sydd fwyaf anodd i bobl ifanc yn wahanol i'r ticiau sydd fwyaf anodd i’w rhieni. Gallai hyn olygu bod eich nodau ar gyfer triniaeth yn wahanol. Siaradwch â'ch plentyn i ddarganfod beth sydd bwysicaf iddo e neu iddi hi.
“Efallai y bydd rhieni eisiau i'r tic lle mae'r plentyn yn rhegi stopio. Ond mewn gwirionedd nid dyna'r un sy'n poeni'r plentyn fwyaf. Hwnnw yw’r un sy’n gwneud iddo e neu iddi hi dynhau cyhyrau ei stumog.” Ed
Cael cefnogaeth i chi'ch hun
Gall rhieni hefyd elwa'n aruthrol o grwpiau cymorth, a dysgu gan rieni eraill. Gall fod yn lle defnyddiol i ofyn cwestiynau.
Efallai y byddwch chi hefyd eisiau cael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ofalwyr os ydych chi’n gwario llawer o arian neu’n treulio llawer o amser yn gofalu am eich plentyn. Dysgwch fwy am hyn yn ein hadnodd i ofalwyr.
Awgrymiadau ar gyfer ysgolion
Gall ysgolion fod yn un o'r mathau pwysicaf o gefnogaeth i bobl ifanc sydd yn byw gyda thiciau a Tourette's. Yn aml mae pobl ifanc yn teimlo bod angen iddyn nhw atal eu ticiau yn yr ysgol. Efallai bod hyn oherwydd eu bod nhw’n teimlo cywilydd neu oherwydd eu bod nhw’n poeni am dynnu sylw pobl eraill. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iddyn nhw ddysgu, ac achosi iddyn nhw deimlo wedi’u hynysu oddi wrth eu cyfoedion.
Mae'r wybodaeth hon wedi'i hanelu at athrawon ac ysgolion ac mae'n trafod rhai o'r ffyrdd y gallan nhw gefnogi eu myfyrwyr.
Cynnig addasiadau rhesymol
Gall athrawon gefnogi'r plant yn eu dosbarth sy’n byw gyda thiciau neu Tourette's trwy gynnig addasiadau i'r amgylchedd dysgu. Gallai hyn fod yn bethau fel caniatáu iddyn nhw wneud eu harholiadau mewn ystafell breifat fel nad oes rhaid iddyn nhw boeni am y ticiau. Neu gallai olygu caniatáu amser iddyn nhw fynd i ystafell breifat lle gallan nhw adael i’r ticiau ddigwydd.
Darparu amgylchedd dysgu sy’n 'niwtral o ran ticiau'
Mae llawer o blant yn dweud ei bod hi’n ddefnyddiol os yw’r ysgol yn 'amgylchedd niwtral o ran ticiau'. Mae hyn yn golygu nad yw myfyrwyr yn gwneud sylwadau ar y ticiau mae rhywun arall yn eu profi, a’u bod yn cael eu hannog i'w hanwybyddu.
Gallai hyn gymryd peth amser ac ymarfer, ac efallai y bydd angen gwneud addasiadau ar gyfer myfyrwyr eraill yn eich dosbarth.
“Mae'n well gen i amgylcheddau niwtral o ran ticiau oherwydd mae’r ticiau yn llai tebygol o bara am gyfnodau hir. Dw i'n gwybod, os bydd rhywun yn syllu arna i neu'n gwneud sylwadau, mae'n gwneud i mi deimlo'n hunanymwybodol iawn. Ac wedyn mae’n mynd fil gwaith yn waeth nag o'r blaen.” Rayne
Sicrhau bod athrawon yn cael eu haddysgu am syndrom Tourette a thiciau
Mae'n bwysig i athrawon ac ysgolion ddeall nad problem ymddygiadol yw ticiau, ac na ddylid eu trin felly. Nid yw plant sy’n byw gyda thiciau neu Tourette's yn gwneud symudiadau neu synau yn fwriadol nac yn ceisio bod yn aflonyddgar.
“Gellir camgymryd ticiau am ymddygiad drwg. Ond mewn gwirionedd, mae gennym ni ddealltwriaeth dda iawn o beth sy'n achosi syndrom Tourette. Mae'n anhwylder niwrolegol, nid problem ymddygiadol.” Ed
Addysgu plant eraill am syndrom Tourette a thiciau
Mae ticiau a Tourette's yn aml yn cael eu camddeall, a dim ond o'r teledu neu'r cyfryngau cymdeithasol y bydd llawer o blant yn gwybod amdanyn nhw. Efallai bod peth o'r wybodaeth y maen nhw wedi'i dysgu yn anghywir neu wedi dyddio.
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi rannu peth o'r wybodaeth sydd yn yr adnodd hwn gyda'r myfyrwyr yn eich dosbarth. Mae rhai pobl ifanc yn hoffi rhannu gyda'u dosbarth sut mae eu ticiau neu Tourette's yn effeithio arnyn nhw. Fodd bynnag, nid yw pob person ifanc yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hyn. Siaradwch â'r plentyn yn eich dosbarth a'i rieni neu ofalwyr i gael gwybod beth fyddai orau ganddyn nhw.
“Yn fy marn ni, dyw'r portreadau yn y cyfryngau ddim yn helpu. Dw i wedi gweld rhaglenni dogfen lle maen nhw'n canolbwyntio ar rywun sydd ag achos difrifol iawn o Tourette's. Mae hynny wedyn, wrth gwrs, yn creu'r syniad bod pawb sydd â Tourette's yn union fel ‘na.” Rayne
Tourettes Action - Tourettes Action yw unig elusen genedlaethol y DU sy'n cefnogi unigolion sydd â syndrom Tourette a'u teuluoedd.
Llyfrau
Tic disorders: A Guide for Parents and Professionals, Uttom Chowdhury a Tara Murphy – Mae'r llyfr hwn ar gyfer rhieni plant a phobl ifanc sydd ag anhwylderau ticiau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.
The Tourettes Survival Kit: Tools for Young Adults with Tics, Tara Murphy a Damon Millar – Argymhellir y llyfr hwn ar gyfer pobl ifanc dros 15 oed.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awdur arbenigol: Dr Edward Palmer
Adolygydd arbenigol: Dr Tara Murphy
Arbenigwyr trwy brofiad: Rayne Huggins a Lily Richards
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Dec 2025)