Ydych chi'n ymweld ag unrhyw wyliau cerddorol yr haf hwn?
27 May, 2025
Ydych chi'n ymweld ag unrhyw wyliau cerddorol yr haf hwn? Rydym wedi rhestru rhywfaint o gyngor i'ch helpu i fwynhau.
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol...
Sicrhewch eich bod yn cael digon o gwsg
Yn aml, mae’n hawdd anghofio cael digon o gwsg pan fyddwch chi’n cael hwyl mewn gŵyl, ond mae gorffwyso gorffwys yn bwysig iawn i’ch lles corfforol ac emosiynol.
Cadwch mewn cysylltiad
Yn aml, does dim signal gwych i’w canfod ar safleoedd. Penderfynwch ar bwynt cyfarfod dynodedig gyda’ch ffrindiau rhag ofn i chi fynd ar goll.
Byw yn y foment
Peidiwch â rhoi pwysau arnoch chi’ch hun i gael yr ‘ŵyl berffaith’. Mae canolbwyntio ar y foment a mwynhau eich hun yn bwysicach na chael y llun gwych hwnnw ar gyfer Instagram!
Cymerwch egwyl
Mae safleoedd gŵyl yn aml yn llefydd prysur, swnllyd. Os ydych chi’n teimlo dan straen neu wedi’ch llethu, dewch o hyd i le tawel, fel yr iwrt lles.
Cynlluniwch eich diwrnod
Gwnewch nodyn o’r hyn rydych chi eisiau ei weld a phryd mae’n cael ei gynnal. Bydd hyn yn eich helpu i osgoi rhedeg o amgylch yr ŵyl yn ceisio dod o hyd i leoliad ar y funud olaf.
Edrychwch ar ôl eich gilydd
Cadwch lygad ar eich cyd-fynychwr yn yr ŵyl. Os ydych yn gweld rhywun yn cael trafferth, siaradwch a nhw i sicrhau eu bod yn iawn neu rhowch wybod i stiward neu aelod o staff.
Bwytewch ddigon o fwyd ac yfwch ddigon o ddŵr
Mae bwyd a dŵr yn allweddol i les corfforol a meddyliol. Sicrhewch eich bod yn cael digon o’r ddau i gadw’ch egni i fyny.