Mae'r Coleg gyda Jess Davies wedi cynhyrchu cyfres o fideos iechyd meddwl i bobl ifanc

Cymru
13 January 2021

Mae'r coleg Cymraeg wedi ymuno â'r cyflwynydd Jess Davies i gynhyrchu cyfres o fideos sy'n canolbwyntio ar y trafferthion bob dydd a all effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl oedolion ifanc.

Mae'r gyfres o bedwar fideo yn gweld Jess, Ellis Lloyd Jones, Mared Parry a Melanie Owen yn trafod pynciau, fel unigrwydd, delwedd y corff a brwydrau ariannol, sy'n aml yn gallu cael effaith sylweddol ar les meddyliol. Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith aruthrol ar bron pob maes o fywydau pobl gan gynnwys unigrwydd, trafferthion ariannol, a pherthnasoedd.

Mae'r pynciau hyn bellach yn fwy perthnasol nag erioed, gydag un o bob pump o bobl ifanc yn cyfaddef eu bod yn teimlo'n unig ac yn ynysig a bod mwy na 50% o bobl ifanc 18-21 oed yn y DU yn nodi colled mewn incwm.

Wrth siarad am y fideos, dywedodd Jess Davies:

"Rwy'n gyffrous iawn i fod yn bartner gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru ar y prosiect hwn oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysicach nag erioed i fod yn trafod effeithiau bywyd bob dydd ar bobl ifanc a'u hiechyd meddwl a'u lles. Yr ydym i gyd yn rhoi cymaint o bwysau arnom ein hunain i gyflawni a chystadlu â'r bywydau a welwn ar-lein, boed hynny drwy ddelwedd y corff neu'r cydberthnasau a gadwn.

Rwy'n credu'n gryf yn y pŵer y gall dilysrwydd ar-lein ei chwarae wrth adlewyrchu a helpu pobl ifanc sydd â'r trafferthion bob dydd yr ydym i gyd yn eu hwynebu bob dydd. Rwy'n gobeithio y bydd y gyfres cyfryngau cymdeithasol hon yn annog eraill i agor am eu profiadau ac yn gwybod nad ydynt yn mynd drwyddi ar eu pennau eu hunain."

 Mae'r prosiect hwn yn ategu gwaith yr ydym wedi'i wneud mewn ysgolion, gan edrych ar ddelwedd y corff a mynd i'r afael â'r materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu y dyddiau hyn.

Mae fideo cyntaf y gyfres wythnosol yn canolbwyntio ar unigrwydd ac mae ar gael i'w weld yma.