Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr (RCOG) a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych), gyda chymeradwyaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM), wedi lansio ymgyrch heddiw â’r nod o annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i roi unrhyw ragfarn o’r neilltu a chadw meddwl agored wrth adnabod menywod a merched y mae trais domestig yn effeithio arnyn nhw.
Mae ymgyrch ‘All the women we won’t miss’ – a lansiwyd mewn pryd ar gyfer 16 Diwrnod o Weithredu y Cenhedloedd Unedig yn erbyn trais ar sail rhywedd – yn annog cydweithwyr i weithio’n gydweithredol i fynd i’r afael â’r argyfwng ac yn cynnwys cyfres o gamau y gall gweithwyr gofal iechyd eu cymryd i adnabod arwyddion trais a chyfeirio menywod at fannau diogel lle y cânt gymorth.
Er bod cam-drin domestig hefyd yn effeithio ar ddynion a bechgyn, mae effaith anghymesur ar fenywod a merched, gyda 1.6 miliwn o fenywod yng Nghymru a Lloegr yn dioddef profi cam-drin domestig y llynedd (y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Er mai dim ond un ym mhob pump o oroeswyr fydd yn galw’r heddlu, bydd 80 y cant yn ceisio cymorth gan wasanaethau iechyd. Yn aml mae menywod sy’n dioddef trais yn troi at wasanaethau mamolaeth a gynaecoleg, yn ogystal â gwasanaethau iechyd meddwl, a dyna pam mae’n hanfodol bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gallu adnabod yr arwyddion a chynorthwyo dioddefwyr yn ddiogel.
Trist yw dweud y gwyddom, o ddata a gyhoeddwyd yn ystod tri mis cyntaf y pandemig, o’r 16 o fenywod beichiog neu ôl-enedigol a fu farw, bu farw pedair menyw trwy hunanladdiad a dwy oherwydd trais domestig.
Mae’r camau ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol yn cynnwys:
Byddwch yn agored eich meddwl a pheidiwch â rhagdybio – Gall trais effeithio ar unrhyw fenyw o unrhyw grŵp oedran, unrhyw gymuned, unrhyw gefndir, ac unrhyw ethnigrwydd.
Dod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu menywod i ddatgelu.
- Helpwch i leihau ofnau datgelu trwy greu mannau diogel a chyflwyno ffyrdd arloesol o annog datgelu.
- Mae heriau penodol yn gysylltiedig ag ymgynghoriadau dros y ffôn neu ar lein. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod y fenyw rydych chi mewn cysylltiad â hi ar ei phen ei hun ac yn ddiogel cyn siarad â hi.
Adnabod llwybrau cymorth.
- Sicrhewch y gwyddoch ba gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol fel y gallwch gyfeirio menywod ato yn rhwydd ac yn gyflym os oes angen.
Sicrhau adrodd ac atgyfeirio diogel.
- Gwnewch yn siŵr bod rhifau ffôn wrth law ar gyfer help, yn enwedig i’r rheiny sydd mewn perygl ar y pryd ac mae arnyn nhw angen man diogel.
- Cofnodwch unrhyw fanylion yn gywir, gan gynnwys patrymau posibl yn ogystal â phryderon cysylltiedig ag iechyd, er mwyn sicrhau na chaiff cyfleoedd eu colli yn y dyfodol.
- Ceisiwch drefnu apwyntiad arall gyda’r fenyw ar amser cyfleus a dilynwch i fyny
Mewn menter gysylltiedig heddiw mae’r RCM a’r RCOG wedi cyhoeddi galwad i roi terfyn ar ‘bla’ cam-drin domestig yn y Deyrnas Unedig, sy’n effeithio ar chwarter menywod ac yn fwy tebygol o ddechrau a gwaethygu yn ystod beichiogrwydd. Mae’r ddau Goleg yn cyflwyno nifer o argymhellion i fynd i’r afael â’r broblem ofnadwy hon ac wedi cyhoeddi canllawiau i fydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Gan hybu eu hargymhellion mae’r Colegau’n galw am gyllid cynaliadwy ar gyfer hyfforddiant arbenigol i weithwyr iechyd proffesiynol a chymorth iechyd meddwl arbenigol wedi’i gyllido i oroeswyr. Maen nhw hefyd yn dweud bod angen i bob gwasanaeth iechyd ymateb i gam-drin domestig, ac i leoliadau iechyd fod â Chynghorwyr Cam-drin Domestig annibynnol.
Dywedodd Dr Edward Morris, Llywydd Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr: “Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i’r afael ag argyfwng sydd wedi codi yn ystod y pandemig.
“Yr hyn sy’n bwysicach byth yw bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cadw meddwl agored wrth siarad â chleifion ac nad ydynt yn diystyru neb oherwydd nad yw’n ‘ymddangos’ yn rhywun sy’n profi camdriniaeth. Gall cam-drin ddigwydd i unrhyw un.
“Mae’r pandemig wedi golygu bod llawer o apwyntiadau yn cael eu cynnal trwy alwad fideo neu dros y ffôn erbyn hyn, gan ei gwneud yn anoddach i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adnabod arwyddion trais domestig neu ddarparu man diogel i fenywod drafod yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw. Dyna pam mae angen gweithredu, yn awr yn fwy nag erioed o’r blaen, i fynd i’r afael â cham-drin domestig.”
“Rydym ni’n galw ar y llywodraeth i ddarparu cyllid penodol i Ymddiriedolaethau GIG er mwyn gwella eu hymateb i drais trwy wneud yn siŵr bod yna ymagwedd gydgysylltiedig a chyson ar draws y system iechyd. Fel yna, gall gwasanaethau iechyd weithio gyda gwasanaethau cam-drin domestig lleol i ymateb yn ddiogel, a rhoi cymorth gwell i’r menywod maen nhw’n dod i gysylltiad â nhw.”
Dywedodd Dr Adrian James, Llywydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych): "Yn drasig, o ganlyniad i COVID-19, gwelodd y proffesiwn meddygol cyfan gynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin a hysbyswyd. Mae canlyniadau hyn i’w teimlo ar draws cymunedau, wrth i oroeswyr gael trafferth gyda theimlo’n ynysig, anallu i weithio, peidio â chymryd rhan mewn gweithgareddau rheolaidd a gallu cyfyngedig i ofalu amdanyn nhw eu hunain ac eraill. Mae’n bwysicach nag erioed bod yn wyliadwrus a chynorthwyo goroeswyr a all fod yn wynebu risg uwch o drais yn ogystal â mwy o anhawster i gael cymorth.”
“Mae profi trais yn beth trawmatig tu hwnt ac yn debyg o gael effaith fawr ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol. Mae cleifion sydd wedi goroesi camdriniaeth yn fwy tebyg o ddweud bod ganddyn nhw symptomau corfforol cysylltiedig â phanig, iselder, camddefnyddio sylweddau, meddyliau hunanladdol, poen cronig, ac anhwylderau cenhedlol-wrinol. Fodd bynnag, mae trais yn erbyn menywod yn fwy na mater iechyd; mae’n ymyrryd â hawliau dynol a chyfanrwydd y corff. “
“Rhaid inni fabwysiadu ymagwedd ‘iechyd y cyhoedd’ er mwyn goresgyn trais ar sail rhywedd a galw ar lywodraethau i ddarparu cyllid er mwyn gwella ymatebion ataliol ar draws yr holl arbenigeddau meddygol. Rhaid inni sicrhau bod ein cleifion yn teimlo’n ddiogel, mynd ar ôl gofal sy’n ystyriol o drawma a pharhau i ddarparu gwaith atgyfeirio a chymorth priodol.”
Dywedodd Gill Walton, Prif Weithredwr Coleg Brenhinol y Bydwragedd: “Mae menywod beichiog wedi bod yn arbennig o agored i drais a cham-drin domestig yn ystod y pandemig hwn, ac mae angen iddyn nhw fod yn fwy na dim ond ystadegyn erchyll arall. Mae bydwragedd mewn sefyllfa unigryw i gynorthwyo menywod beichiog i gael y cymorth mae arnyn nhw ei angen. Er bod y pandemig wedi gwneud hynny’n fwy heriol mewn rhai amgylchiadau, rydym ni’n galw ar gydweithwyr ym maes mamolaeth i gydweithio i adnabod a chynorthwyo menywod sydd mewn perygl, ac ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cyllido mewn modd priodol a chynaliadwy er mwyn i fenywod gadw eu hunain a’u babanod yn ddiogel.”
Diwedd
Nodiadau i olygyddion
Gydag ymholiadau gan y cyfryngau, dylech gysylltu â swyddfa’r wasg RCOG ar 020 7045 6773 neu anfon neges e-bost at pressoffice@rcog.org.uk.
Mae llefarwyr ar gael ar gyfer cyfweliadau.
Gallwch ddarllen datganiad safle polisi RCOG/RCM ar gam-drin domestig yma.
Rhagor o adnoddau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol:
- RCPsych, modiwl ar-lein DPP, Domestic violence and abuse: identifying and responding to victims and perpetrators
- RCM, Safe places? Workplace support for those experiencing domestic abuse (2018)
- RCM, Violence Against Women and Girls Resources and information for healthcare professionals
Ynghylch RCOG
Mae Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr yn elusen feddygol sy’n hyrwyddo’r gwaith o ddarparu gofal iechyd o ansawdd da i fenywod yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt. Mae wedi ymroi i annog astudio a hyrwyddo gwyddoniaeth ac ymarfer obstetreg a gynaecoleg. Mae’n gwneud hyn trwy addysg a hyfforddiant meddygol i raddedigion a thrwy gyhoeddi canllawiau clinigol ac adroddiadau ar agweddau ar yr arbenigedd a darpariaeth gwasanaethau. https://www.rcog.org.uk/
Ynghylch RCPsych
- Ni yw’r corff meddygol proffesiynol sy’n gyfrifol am gynorthwyo mwy na 18,000 o seiciatryddion yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
- Rydym yn gosod safonau ac yn hybu rhagoriaeth ym maes seiciatreg a gofal iechyd meddwl.
- Rydym yn arwain, yn cynrychioli ac yn cynorthwyo seiciatryddion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i lywodraethau ac asiantaethau eraill.
- Ein nod yw gwella canlyniadau pobl sydd â salwch meddwl, ac iechyd meddwl unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau. Gwnawn hyn trwy weithio gyda chleifion, gofalwyr a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn darparu gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd da. https://www.rcpsych.ac.uk/
Ynghylch RCM
RCM yw’r unig undeb llafur a chymdeithas broffesiynol sydd wedi ymrwymo i wasanaethu bydwreigiaeth a’r holl dîm bydwreigiaeth. Rydym ni’n darparu cyngor a chymorth yn y gweithle, canllawiau proffesiynol a chlinigol, a gwybodaeth, a chyfleoedd dysgu trwy ein hamrywiaeth fawr o ddigwyddiadau, cynadleddau ac adnoddau ar-lein. I gael mwy o wybodaeth ewch i wefan RCM sef https://www.rcm.org.uk/.