Seiciatryddion yn targedu Llywodraeth Cymru gyda chynllun pum pwynt i gau bwlch marwolaethau iechyd meddwl difrifol

Newyddion Cymru
10 October 2024

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru yn targedu Llywodraeth Cymru gyda chynllun pum pwynt i wella disgwyliad oes ar gyfer pobl sydd â salwch meddwl difrifol.
Mae’r papur, a lansiwyd ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni, yn cynnwys ystod o alwadau sy’n targedu bylchau mewn triniaeth a marwolaethau ar gyfer pobl â salwch meddwl difrifol.

Ar hyn o bryd mae gan oedolion sy'n byw gyda chyflwr iechyd meddwl difrifol fel sgitsoffrenia neu anhwylder deubegwn ddisgwyliad oes 15 i 20 mlynedd - sy'n is na gweddill y boblogaeth.

Nawr mae’r cynllun pum pwynt yn anelu at fynd i’r afael â’r bylchau hyn gydag ystod o fesurau gan gynnwys:

  • Casglu data gwell ar salwch meddwl difrifol gan fod angen ystadegau mwy cywir i ddeall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.
  • Cynllun gweithlu pwrpasol ar gyfer seiciatreg i ddiwallu anghenion y galw uchel am wasanaethau iechyd meddwl.
  • Rhoi mwy o amlygrwydd i salwch meddwl difrifol ar lefel wleidyddol a chynnwys pennod benodol ar salwch meddwl difrifol yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd, sydd i'w chyhoeddi yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae seiciatryddion hefyd eisiau cynyddu ac ehangu gwasanaethau a chapasiti arbenigol - gan fod gormod o bobl ag salwch meddwl difrifol yn cael eu hanfon allan o'u hardal leol i gael triniaeth.

Yn olaf, mae’r Coleg am weld gwelliant mewn arbenigedd clinigol iechyd meddwl – gyda chyfarwyddwr gweithredol Iechyd Meddwl yn cael ei benodi ar bob bwrdd iechyd yng Nghymru.

Dywedodd yr Athro Alka S Ahuja MBE, cadeirydd CBSeic Cymru:

"Rydym yn estyn allan i Lywodraeth Cymru heddiw gyda chynllun gweithredu i wella bywydau’r rhai sy’n byw gydag afiechyd meddwl difrifol yn y gobaith y bydd gwelliannau’n cael eu gwneud.

"Mae’n ffaith siomedig bod oedolion ag afiechyd meddwl difrifol bron i bum gwaith yn fwy tebygol o farw cyn 75 oed o gymharu â gweddill y boblogaeth – ac yn syml, dyma sefyllfa na all barhau i fynd ymlaen.

"Fel seiciatryddion rydym yn gwybod bod dwy ran o dair o farwolaethau cynamserol yn deillio o salwch corfforol y gellir ei atal a’i drin ond mae’r rhai sydd ag salwch meddwl difrifol yn wynebu mynediad anghyfartal at wasanaethau iechyd a risg uwch o farwolaeth drwy hunanladdiad.

"Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rhywbeth am hyn a chau’r bwlch marwolaethau."

For further information, please contact: