ADHD mewn plant a phobl ifanc

ADHD in children and young people

Below is a Welsh translation of our information resource on ADHD in children and young people. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r wybodaeth hon yn trafod anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) mewn plant a phobl ifanc. Mae wedi’i hysgrifennu ar gyfer rhieni sydd â phlentyn a allai fod ag ADHD neu sydd wedi cael diagnosis o ADHD. Rydym hefyd wedi cynnwys awgrymiadau defnyddiol i blant a phobl ifanc ar sut i reoli eu ADHD.

Mae’n trafod:

  • beth yw ADHD
  • yr heriau y gallai plant a phobl ifanc sydd ag ADHD eu hwynebu
  • beth sy’n achosi ADHD
  • y driniaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael
  • sut i gefnogi’r plentyn neu’r person ifanc rydych chi’n ei adnabod
  • sut y gall pobl ifanc gynnal eu hunain.

Mae ADHD yn gyflwr sy'n aml yn dod yn amlwg yn gynnar mewn plentyndod, cyn bod plentyn yn 12 oed. Fodd bynnag, gall anawsterau ddod yn fwy amlwg yn ystod llencyndod wrth i'r gofynion ar bobl ifanc gynyddu. Efallai y bydd pobl ag ADHD yn cael trafferth gyda:

  • diffyg sylw - cael trafferth canolbwyntio
  • gorfywiogrwydd - teimlo’n aflonydd a chael trafferth eistedd yn llonydd
  • byrbwylltra - siarad neu ddweud pethau heb feddwl yn gyntaf am y canlyniadau.

Efallai y bydd rhai o’r problemau hyn, megis gorfywiogrwydd, yn fwy amlwg ymhlith plant iau.

Mae ADHD yn anhwylder niwroddatblygiadol. Mae'r rhain yn grŵp o gyflyrau sydd fel arfer yn dod yn amlwg yn ystod plentyndod neu lencyndod. Gallant achosi anhawster o ran gweithredu o ddydd i ddydd mewn gwahanol feysydd. Mae anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn cynnwys awtistiaeth a dyslecsia.

Gall llawer o blant, yn enwedig plant ifanc, gael trafferth canolbwyntio neu eistedd yn llonydd am gyfnodau hir o amser. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod ADHD arnyn nhw. Mae rhai plant yn fwy aflonydd neu’n cynhyrfu’n haws nag eraill.

Wrth reswm mae ein gallu i ganolbwyntio yn gwella wrth i ni fynd yn hŷn. Er enghraifft, fel arfer gall plentyn 12 oed dalu sylw am lawer hirach na phlentyn dwyflwydd oed. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl sut mae'ch plentyn chi yn cymharu â phlant a phobl ifanc o'r un oed.

Bydd plant a phobl ifanc sydd ag ADHD yn ei chael hi’n llawer anoddach canolbwyntio, a byddant yn fwy gorfywiog a byrbwyll na’u cymheiriaid o’r un oed. Gall yr heriau hyn gael effaith negyddol ar eu bywyd yn yr ysgol neu'r cartref. Yn yr adnodd hwn, rydyn ni’n trafod beth yw ADHD a sut mae’n wahanol i heriau mwy cyffredin y gall plant eu profi gyda sylw, gorfywiogrwydd neu fyrbwylltra.

Mae astudiaethau diweddar yn awgrymu bod gan tua phump o bob 100 o blant ADHD.

Mae bechgyn yn fwy tebygol o gael diagnosis o ADHD na merched. Am bob dau fachgen sy'n cael diagnosis o ADHD, mae un ferch yn cael diagnosis. Fodd bynnag, mewn oedolion mae diagnosis o ADHD yn fwy cyfartal rhwng dynion a merched. Am bob tri dyn sy'n cael diagnosis o ADHD, mae dwy fenyw yn cael diagnosis.

Gallai hyn fod oherwydd bod bechgyn, fel plant, yn fwy tebygol o ddangos symptomau gorfywiogrwydd a byrbwylltra. Mae'r rhain yn fwy amlwg na symptomau diffyg sylw. Gall merched fod yn fwy tebygol o guddio neu gelu eu hanawsterau, drwy fynd yn encilgar neu'n bryderus er enghraifft. Gall hyn ei gwneud hi'n fwy anodd gwneud diagnosis o ADHD mewn merched. Gall hefyd olygu eu bod nhw a'u teuluoedd yn llai tebygol o geisio triniaeth.

I'r rhan fwyaf o bobl, mae ADHD yn cael ei achosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol. Gwahaniaethau yw’r rhain yn y genynnau sy’n ffurfio corff rhywun, a beth ddigwyddodd pan oedden nhw yn y groth ac ar ôl iddyn nhw gael eu geni.

Mae ymchwil wedi dangos bod ADHD yn fwy cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc:

  • sydd â brawd neu chwaer ag ADHD
  • sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol fel awtistiaeth
  • sydd ag epilepsi
  • a gafodd eu geni’n gynamserol
  • sydd wedi bod mewn gofal
  • sydd wedi cael anaf i'r ymennydd.

Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod y pethau hyn yn achosi ADHD.

Does neb ‘ar fai’ am ADHD, ac nid yw'n bosibl ei ‘atal’ na’i ‘wella’. Yn hytrach, gall pobl sydd ag ADHD gael budd o gymorth yn yr ysgol a'r cartref.

Bydd symptomau pobl sydd ag ADHD yn dibynnu ar eu hoed a'r amgylchedd y maen nhw ynddo. Er enghraifft, a ydyn nhw'n gwneud rhywbeth y maen nhw'n ei fwynhau ai peidio.

Mae rhestr lawn o symptomau ADHD mewn oedolion ar gael yma, ond isod rydyn ni wedi egluro sut y gallai’r symptomau hyn ymddangos mewn plant a phobl ifanc:

Diffyg sylw

Efallai y bydd plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth talu sylw:

  • yn gwneud camgymeriadau syml neu sy’n ymddangos yn ddiofal mewn gwaith ysgol neu weithgareddau. Efallai y byddan nhw'n camddarllen neu'n hepgor cwestiynau
  • yn anghofio gwneud rhywbeth y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud fel rhoi eu dillad i gadw neu frwsio'u dannedd
  • yn cael trafferth cynllunio, rheoli a threfnu gwaith ysgol
  • yn colli neu anghofio pethau, fel eu gwaith cartref neu allweddi tŷ
  • yn ei chael hi'n anodd gwrando pan fydd rhywun yn siarad â nhw, ac yn cael trafferth dilyn cyfarwyddiadau'n iawn
  • yn peidio â gorffen tasgau neu’n dechrau llawer o brosiectau ond ddim yn eu gorffen
  • yn ymddangos yn anghofus, yn bell eu meddwl neu'n freuddwydiol.

Gorfywiogrwydd a byrbwylltra

Efallai y bydd plant a phobl ifanc sy’n orfywiog a byrbwyll yn:

  • Cael trafferth eistedd yn llonydd – Gall hyn fod yn anodd yn yr ysgol, oherwydd efallai y byddan nhw'n ei chael hi’n anodd iawn eistedd yn dawel yn eu cadair yn ystod gwers. Neu efallai y byddan nhw'n teimlo'n aflonydd ac yn anghyfforddus wrth eistedd yn llonydd.
  • Llawn egni – Mae’r rhan fwyaf o blant ifanc yn gallu bod yn llawn egni a chyffro. Fodd bynnag, efallai y bydd plant a phobl ifanc sydd ag ADHD yn ei chael hi’n anodd ymdawelu neu fod yn ddistaw mewn lleoliadau lle disgwylir hynny.
  • Siarad ar draws eraill neu gael trafferth aros eu tro.
  • Gweithredu heb feddwl hyd yn oed os gallai rhywbeth achosi perygl neu risg.

Mae'r heriau hyn yn cael eu profi mewn llawer o leoedd fel yr ysgol a'r cartref, ac maen nhw'n debygol o achosi problemau ym mhob lleoliad. Gall sut mae'r problemau hyn yn ymddangos ym mhob lleoliad fod yn wahanol yn dibynnu ar strwythur y lleoliad hwnnw.

Weithiau gall plant a phobl ifanc sydd ag ADHD ymddangos yn aflonyddgar neu'n anghwrtais mewn rhai lleoliadau, fel yr ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, mae'n debyg na fyddan nhw'n gwneud hyn yn fwriadol. Mae'n bwysig bod plant a phobl ifanc sydd ag ADHD yn cael y cymorth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnyn nhw, ac nad ydyn nhw'n cael eu cosbi. Gall rhieni ac athrawon wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc sydd ag ADHD trwy:

  • annog eu brwdfrydedd a’u creadigrwydd
  • a'u helpu i ymgysylltu'n gadarnhaol mewn gwahanol amgylcheddau.

Anableddau deallusol ac ADHD

Gall plant a phobl ifanc sydd ag anabledd deallusol (a elwir hefyd yn anabledd dysgu) arddangos patrymau ymddygiad tebyg i'r rhai a welir mewn ADHD. Mewn plant sydd ag ADHD ac anabledd deallusol, gallai un cyflwr guddio neu amlygu ymddygiad y llall.

Nid yw ADHD yn rhywbeth sy’n diflannu wrth i bobl dyfu i fyny. Fodd bynnag, gall ddod yn llai amlwg gyda rhai pobl yn profi llai o symptomau wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Gall hefyd fod yn haws i blant a phobl ifanc reoli eu ADHD wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Bydd hyn yn dibynnu ar y mathau o bethau sy’n achosi trafferth iddyn nhw.

Mae rhai plant a phobl ifanc yn cael mwy o drafferth wrth fynd yn hŷn, gan eu bod yn cael llai o gefnogaeth gan eu teulu. Er enghraifft, mae rhai pobl sydd ag ADHD yn ymdopi'n dda pan maen nhw'n iau. Fodd bynnag, pan fyddan nhw'n gadael cartref i fynd i'r brifysgol neu i weithio gall fod yn anodd iddyn nhw drefnu eu hunain heb gymorth.

Darllenwch fwy am ADHD mewn oedolion.

Os ydych chi'n meddwl efallai bod ADHD ar eich plentyn, dechreuwch drwy siarad â'ch meddyg teulu. Dylai eich holi chi a'ch plentyn ynghylch:

  • yr heriau y mae'n eu profi
  • maint yr heriau hyn
  • y sefyllfaoedd a'r lleoliadau lle maen nhw'n digwydd.

Efallai y bydd yn gallu eich cyfeirio chi a'ch plentyn at grŵp cymorth sy'n canolbwyntio ar ADHD. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol os ydych chi'n aros am ragor o gymorth neu asesiad. Dylai eich meddyg teulu wedyn gynnig adolygu sut mae pethau ar ôl ychydig fisoedd. Os yw'r anawsterau'n dal i fod yn bresennol, gall wedyn gyfeirio'ch plentyn at wasanaeth arbenigol ar gyfer asesiad ADHD.

Gallwch hefyd drafod eich pryderon ag athro/athrawes eich plentyn neu Gydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (CAAA) ei ysgol. Efallai y bydd yn gallu awgrymu newidiadau yn yr ystafell ddosbarth a allai helpu eich plentyn yn y cyfamser. Efallai y bydd yn gallu rhoi gwybod i chi am unrhyw grwpiau cymorth ADHD neu hyfforddiant i rieni sydd ar gael yn lleol. Efallai y bydd y CAAA hefyd yn gallu cyfeirio eich plentyn am asesiad ADHD.

Os ydych chi yn yr Alban, gallwch siarad ag aelod o'r Uwch Dîm Arwain yn ysgol eich plentyn am eich pryderon.

Gwyddom y gall rhestrau aros am asesiadau fod yn hir iawn, sy’n golygu bod yn rhaid i rai pobl aros am amser hir i gael diagnosis. Gall pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros ddibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Nid oes un prawf unigol ar gyfer ADHD. I wneud diagnosis ADHD, bydd angen i arbenigwr sydd wedi cael hyfforddiant mewn ADHD asesu eich plentyn ac ystyried ei:

  • ymddygiad
  • symptomau mewn gwahanol feysydd o’i fywyd, hy yn yr ysgol, gartref, ac ati.
  • hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw gyflyrau cyfredol neu flaenorol
  • iechyd meddwl.

Gwneir diagnosis ADHD drwy:

  • adnabod patrymau ymddygiad
  • arsylwi eich plentyn
  • siarad â chi a’ch plentyn, a’i rieni neu ofalwyr eraill, am yr heriau y mae’n eu hwynebu
  • deall sut mae wedi tyfu a datblygu ers ei eni
  • edrych ar adroddiadau o'r ysgol neu leoedd eraill ynghylch ei ymddygiad.

A alla i gael asesiad preifat?

Mae rhai teuluoedd yn dewis talu am asesiad ADHD preifat. Mae’n bwysig gwirio bod yr asesiad preifat hwn:

  • yn cael ei gynnal gan weithwyr proffesiynol ag arbenigedd mewn ADHD
  • o ansawdd uchel
  • yn bodloni safonau fel canllawiau NICE (Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal)
  • ac yn cynnwys manylion am yr holl feysydd a ddisgrifir uchod.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau y bydd yr asesiad yn cael ei dderbyn gan dîm ADHD y GIG neu wasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) eich ardal chi. Bydd angen iddynt wybod bod yr asesiad o ansawdd uchel fel bod ganddynt yr wybodaeth i drin eich plentyn yn ddiogel.

Siaradwch â thîm ADHD lleol y GIG a fydd efallai’n gallu rhoi arweiniad i chi am beth sydd ei angen arnynt ar gyfer asesiad. Dylai eu manylion cyswllt fod ar gael gan feddyg teulu eich plentyn. Mae’n bwysig cofio bod y ffordd y mae hyn yn gweithio yn amrywio rhwng gwasanaethau.

Dylai'r person sy'n gwneud diagnosis eich plentyn gael sgwrs â chi a'ch plentyn ynghylch sut y gallai'r diagnosis hwn effeithio ar ei fywyd. Neu, os yw'ch plentyn yn hŷn, efallai y bydd am gael y sgwrs hon ar ei ben ei hun. Dylai'r person sy'n gwneud y diagnosis roi gwybodaeth i'r ddau ohonoch chi am ADHD.

Gall cael diagnosis gael effeithiau cadarnhaol, megis:

  • gwella eich dealltwriaeth chi a dealltwriaeth eich plentyn o’i symptomau
  • adnabod ac adeiladu ar gryfderau unigol
  • helpu eich plentyn i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arno.

Dylai hefyd siarad â chi am unrhyw bethau a allai wneud rheoli ADHD eich plentyn yn haws neu’n anoddach, ac am ba gymorth sydd ar gael. Efallai y bydd yn awgrymu eich bod chi'n ymuno â grŵp cefnogi rhieni neu grŵp hyfforddi rhieni sy'n canolbwyntio ar ADHD. Gallai pa grwpiau sydd ar gael ddibynnu ar ble rydych chi'n byw.

Datblygu cynllun triniaeth

Dylai fod gan blant a phobl ifanc ag ADHD gynllun triniaeth sy'n cynnwys eu:

  • anghenion
  • nodau
  • cryfderau
  • unrhyw gyflyrau eraill sydd ganddyn nhw.

Dylech chi a’ch plentyn gael y cyfle i drafod:

  • manteision ac anfanteision gwahanol driniaethau, gan gynnwys meddyginiaeth
  • sut y gallai newidiadau i ffordd o fyw eich plentyn, fel deiet ac ymarfer corff, helpu
  • unrhyw bryderon sydd gennych chi neu'ch plentyn
  • dewisiadau ar gyfer triniaeth
  • sut y gallai cyflyrau eraill effeithio ar y driniaeth.

Cefnogaeth yn yr ysgol

Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi rannu diagnosis a chynllun triniaeth eich plentyn â staff yr ysgol os nad ydynt eisoes yn ymwybodol ohonynt. Yn dibynnu ar oed eich plentyn, efallai y byddwch am ei gynnwys yn y penderfyniad hwn.

Gall rhoi gwybod i'r ysgol am ddiagnosis a thriniaeth eich plentyn eu helpu i ddeall:

  • sut mae ADHD yn effeithio ar eich plentyn
  • pam y dylid cymryd hyn o ddifrif
  • beth y gallan nhw ei wneud i gefnogi eich plentyn
  • sut y gallan nhw roi adborth i chi a thîm meddygol eich plentyn.

Gyda'r gefnogaeth gywir yn yr ysgol, gall plant a phobl ifanc sydd ag ADHD lwyddo yn academaidd ac yn gymdeithasol. Bydd y math o gymorth sydd ei angen ar eich plentyn yn dibynnu ar ei anghenion unigryw. Gallai hefyd ddibynnu ar beth mae ysgol eich plentyn yn gallu ei gynnig.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion a gweithleoedd wneud addasiadau rhesymol i gefnogi pobl ag anableddau. Mae hyn yn cynnwys ADHD. Yn yr adran nesaf rydyn ni wedi cynnwys enghreifftiau o sut y gallai’r addasiadau hyn edrych.

Gellir cofnodi'r math o gymorth sydd ei angen ar eich plentyn yn yr ysgol mewn cynllun addysg unigol. Dylid adolygu hwn yn rheolaidd gyda'r athro, y CAAA neu staff cymorth eraill. Mae cyfathrebu agored rhwng rhieni ac athrawon yn hanfodol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADHD. Gall rhieni ac athrawon gydweithio i ddatblygu dull cyson o reoli symptomau’r plentyn neu’r person ifanc. Gall hyn gefnogi ei ddatblygiad academaidd a chymdeithasol.

Addasiadau rhesymol gartref ac yn yr ysgol

Gall gwneud newidiadau i amgylchedd eich plentyn fod yn un o’r pethau mwyaf effeithiol y gallwch chi a’i ysgol ei wneud. Gall y newidiadau hyn ei gefnogi gyda'i ADHD a gwella sut y mae'n ymdopi o ddydd i ddydd.

Mae llawer o enghreifftiau o addasiadau rhesymol, a bydd y rhain yn dibynnu ar beth sy’n ddefnyddiol i’ch plentyn a beth y gallwch chi ac ysgol eich plentyn ei ddarparu’n rhesymol. Dylid adolygu unrhyw newidiadau a gyflwynir yn rheolaidd. Fodd bynnag, gallant gynnwys:

  • Newidiadau i’r amgylchedd corfforol – Pan fydd eich plentyn mewn amgylchedd heriol, fel ysgol neu arholiadau, efallai y bydd rhai o’r pethau canlynol yn ddefnyddiol:
    • Gwrando ar gerddoriaeth neu wisgo clustffonau canslo sŵn.
    • Cael goleuadau sy'n fwy neu'n llai disglair.
    • Cael mynediad at ofod desg clir heb unrhyw beth i dynnu sylw, neu at rywbeth i chwarae ag ef i helpu gyda chanolbwyntio.
  • Newidiadau i’r drefn arferol – efallai y bydd yn ddefnyddiol iddyn nhw:
    • Gael seibiannau byr yn aml wrth adolygu.
    • Cael cyfarwyddiadau ysgrifenedig yn ogystal â chyfarwyddiadau llafar pan fyddwch chi’n gofyn iddyn nhw i wneud rhywbeth.

Gallai hefyd elwa o gael cefnogaeth cynorthwyydd addysgu.

Dyma ychydig awgrymiadau ar gyfer y cartref:

  • Bod yn ddeallgar ac yn amyneddgar. Nid yw plant a phobl ifanc sydd ag ADHD yn ceisio bod yn anodd. Yn syml, mae ganddyn nhw wahanol ffyrdd o brosesu gwybodaeth ac ymateb i'w hamgylchedd.
  • Creu amgylchedd cyson a strwythuredig. Bydd hyn yn helpu plant a phobl ifanc sydd ag ADHD i deimlo'n fwy diogel a'u helpu i reoli eu hymddygiad.
  • Gosod disgwyliadau realistig. Peidiwch â disgwyl i blant a phobl ifanc sydd ag ADHD ymddwyn yn berffaith drwy'r amser. Dathlwch y pethau y maen nhw'n eu cyflawni, waeth pa mor fach ydyn nhw.
  • Dysgu sgiliau hunanreoli iddyn nhw. Helpwch blant a phobl ifanc sydd ag ADHD i ddysgu sut i gynllunio, trefnu a rheoli eu hamser.
  • Eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol rheolaidd a chadw at ddeiet cytbwys, maethlon. Gall ymarfer corff helpu plant a phobl ifanc sydd ag ADHD i ganolbwyntio, a lleihau eu symptomau.
  • Bod yn garedig â chi'ch hun. Gall bod yn rhiant i blentyn neu berson ifanc ag ADHD deimlo'n heriol ar brydiau. Gall grwpiau cymorth i rieni yn lleol neu ar-lein fod yn fannau defnyddiol i rannu profiadau a chael cyngor.

Meddyginiaeth

Ni ddylid cynnig meddyginiaeth i blant a phobl ifanc oni bai:

  • bod eu symptomau ADHD yn achosi heriau sylweddol a
  • bod addasiadau amgylcheddol wedi cael eu rhoi ar brawf a’u hadolygu.

Ni ddylai plant dan bump oed gael presgripsiwn am feddyginiaeth ADHD heb ail farn arbenigol gan wasanaeth ADHD sy'n arbenigo mewn rheoli ADHD mewn plant ifanc.

Cyn dechrau meddyginiaeth

Cyn dechrau meddyginiaeth, dylai'r person sy'n trin eich plentyn:

  • archwilio ei iechyd meddwl a chorfforol
  • rhoi gwybod i chi a’ch plentyn am y risgiau sy’n gysylltiedig â chymryd meddyginiaethau adfywiol os oes ganddo unrhyw gyflyrau iechyd eraill
  • eich cefnogi i fonitro am sgil-effeithiau.

Unwaith y bydd eich plentyn yn cymryd meddyginiaeth sy'n gweithio iddyn nhw, dylid adolygu’r feddyginiaeth hon bob blwyddyn. Dylai’ch plentyn gael archwiliadau corfforol bob tri i chwe mis yn dibynnu ar ei oed.

Meddyginiaethau gwahanol

Mae nifer o wahanol feddyginiaethau ar gael ar gyfer trin ADHD. Rhennir y rhain yn ddau grŵp:

Meddyginiaethau adfywiol:

  • methylphenidate
  • dexamfetamine

Meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol:

  • atomoxetine
  • guanfacine

Caiff y meddyginiaethau hyn eu hadnabod wrth wahanol enwau brand.

Mae meddyginiaethau adfywiol yn cynyddu argaeledd niwrodrosglwyddyddion (cemegion yn yr ymennydd). Mae dau niwrodrosglwyddydd, dopamin a noradrenalin, i'w cael mewn rhannau o'r ymennydd sy'n helpu i reoli sylw ac ymddygiad.

Mae llawer o bobl yn meddwl tybed pam mae meddyginiaethau adfywiol yn cael eu defnyddio i drin cyflwr sy'n achosi gorfywiogrwydd. Mae'r meddyginiaethau hyn yn cryfhau rhan o'r ymennydd sy'n gallu helpu i reoli'r rhannau hynny o'r ymennydd sy'n ymwneud â gorfywiogrwydd. Dydyn nhw ddim yn gwella ADHD. Maen nhw'n helpu i reoli symptomau diffyg sylw, gorfywiogrwydd neu fyrbwylltra.

Mae tystiolaeth wyddonol dda ar gyfer defnyddio cyffuriau adfywiol i drin ADHD. Yn y rhan fwyaf o bobl mae'r cyffuriau hyn yn effeithiol, yn ddiogel, a dydyn nhw ddim yn achosi llawer o sgil-effeithiau. Fel arfer byddwch yn gallu dweud yn fuan a ydyn nhw’n effeithiol ai peidio. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr adran nesaf.

Mae meddyginiaethau nad ydynt yn adfywiol yn cynyddu argaeledd noradrenalin neu'n dynwared ei effeithiau. Maen nhw’n tueddu i gymryd mwy o amser i ddechrau cael effaith na meddyginiaethau adfywiol. Fel arfer, cânt eu defnyddio os nad yw meddyginiaethau adfywiol wedi gweithio i’ch plentyn neu os yw'n eu cael nhw’n anodd eu cymryd. 

Mae angen cynyddu'r feddyginiaeth yn raddol i leihau unrhyw sgil-effeithiau ac i ddarganfod y dos cywir i’ch plentyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael buddion amlwg o'r feddyginiaeth gyntaf y maen nhw’n rhoi cynnig arni. Efallai y bydd yn rhaid i bobl eraill roi cynnig ar feddyginiaeth wahanol i gael y canlyniadau gorau.

Sut ydw i'n gwybod bod meddyginiaeth yn gweithio?

Os yw meddyginiaeth ADHD yn gweithio, byddwch yn gweld:

  • bod eich plentyn yn gallu canolbwyntio’n well
  • ei fod yn teimlo'n llai aflonydd neu orfywiog
  • ei fod yn ei chael yn haws rheoli ei hun.

Weithiau bydd ysgol neu athrawon yn sylwi ar y gwelliant cyn i chi wneud hynny. Efallai y byddwch am roi gwybod i athro/athrawes eich plentyn os yw’n dechrau meddyginiaeth newydd.

Mae llawer o blant a phobl ifanc ag ADHD sy'n defnyddio meddyginiaeth yn ei chael yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, mae yna hefyd bobl ifanc sydd, gyda chefnogaeth eu rhieni neu ofalwyr, yn dewis peidio â chymryd meddyginiaeth neu'n methu â gwneud hynny. Mae pob meddyginiaeth yn achosi sgil-effeithiau, ac mae’r rhain yn fwy amlwg i rai pobl nag eraill.

Os ydych chi'n rhiant neu’n ofalwr i blentyn neu berson ifanc ag ADHD, dylai’r person a roddodd ddiagnosis eich plentyn:

  • ofyn i chi sut mae ADHD yn effeithio arnoch chi a'ch teulu
  • trafod unrhyw bryderon sydd gennych chi
  • eich annog i geisio asesiad rhiant-ofalwr o’ch anghenion. Dylai hwn gael ei ddarparu gan eich awdurdod gofal cymdeithasol lleol, fel arfer y ‘tîm plant ag anableddau’
  • eich annog i ymuno â grwpiau hunangymorth
  • cynnig cyngor i chi am ddulliau magu plant a allai eich helpu chi a’ch plentyn. Er enghraifft:
    • strwythuro diwrnod eich plentyn
    • gosod rheolau a rheoli ymddygiad
    • cael cyswllt cadarnhaol â’ch plentyn.

Nid yw cyngor am eich dulliau magu plant yn golygu eich bod chi’n rhiant gwael. Dylai pob rhiant gael y cyngor hwn i’w helpu gyda’r diagnosis ac anghenion uwch eu plant.

Os ydych chi'n berson ifanc sydd ag ADHD, mae rhai pethau y gallwch chi eu gwneud i gynnal eich hun ac i gael y gefnogaeth orau bosibl gan y bobl o'ch cwmpas.

1. Siarad amdano

Os ydych chi newydd gael gwybod bod gennych chi ADHD, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â ffrind rydych chi'n ymddiried ynddo. Gall cael diagnosis godi llawer o emosiynau – efallai y byddwch chi'n ddryslyd neu'n ofidus, neu'n teimlo rhyddhad. Cofiwch, nid yw cael diagnosis ADHD yn golygu eich bod chi'n berson gwahanol i'r person oeddech chi o'r blaen. Mae'n golygu eich bod chi nawr yn gallu cael cefnogaeth ar gyfer rhai o'r heriau rydych chi wedi bod yn eu profi.

2. Cadw’n actif

Mae ymarfer corff rheolaidd yn dda i bawb. Os oes gennych chi ADHD, gall ymarfer corff helpu i wella eich hwyliau, a gall hyn hefyd helpu i wella eich symptomau ADHD. Edrychwch ar ein hadnodd sy’n trafod gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae'n egluro pam mae ymarfer corff yn bwysig ac yn awgrymu ffyrdd hawdd i chi gadw'n heini.

3. Cael digon o gwsg o ansawdd da

Mae cysgu’n wael yn gallu gwneud symptomau ADHD yn waeth. Mae datblygu arferion cysgu da yn gallu bod yn heriol, ond mae yna bethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw:

  • Datblygu a chynnal trefn ymlaciol ar gyfer amser gwely, ee cael bath, gwrando ar gerddoriaeth.
  • Mynd i'r gwely a chodi'r un amser bob dydd, gan gynnwys ar benwythnosau.
  • Osgoi bod o flaen sgrin am o leiaf awr cyn amser gwely.
  • Osgoi cael siwgr neu gaffein gyda'r nos, yn enwedig yn yr awr neu ddwy cyn mynd i'r gwely.
  • Gwneud digon o ymarfer corff yn ystod y dydd.
  • Cadw’r ystafell wely yn dywyll ac yn dawel. Os yn bosibl, cadw ffenestr ar agor i gael awyr iach.

4. Anelu at gael deiet cyson a chytbwys

Nid yw ADHD yn cael ei achosi gan fwyta bwydydd penodol, ond mae astudiaethau wedi dangos bod cysylltiad rhwng rhai bwydydd a rhai o symptomau ADHD. Ceisiwch gael deiet cytbwys sy'n cynnwys llawer o wahanol fathau o fwydydd. Osgowch fwyta llawer o fwyd wedi'i brosesu'n helaeth neu fwydydd sy'n cynnwys llawer o siwgr. Mae rhagor o wybodaeth am beth sy'n gwneud deiet iach yn ein hadnodd ar bwysau, ymarfer corff ac anhwylderau bwyta.

Young Minds - Mae Young Minds yn elusen sy'n darparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Maen nhw'n cynnig cyngor a chymorth i rieni plant ag ADHD, yn ogystal ag ystod o wasanaethau eraill.

Sefydliad ADHD - Mae Sefydliad ADHD yn elusen sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymchwil i ADHD. Maen nhw'n cynnig ystod o wasanaethau, gan gynnwys gwybodaeth a chyngor ar ADHD a grwpiau cymorth.

Rhestr ddarllen ADHD - Mae Jessica Kingsley Publishers yn darparu rhestrau o lyfrau sy'n ymwneud â niwroamrywiaeth. Mae'r rhestr ddarllen hon yn cynnwys llyfrau ar ADHD i blant a phobl ifanc a'u rhieni.

Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

Awdur arbenigol: Dr Jenny Parker

Mae adrannau o’r adnodd hwn yn seiliedig ar adnodd gwybodaeth y Coleg ar ADHD mewn oedolion, a ysgrifennwyd gan Dr Dietmar Hank a Dr Kate Franklin.

Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

This translation was produced by CLEAR Global (Aor 2025)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry