Iselder
Depression in children and young people
Below is a Welsh translation of our information resource on depression in children and young people. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae’r wybodaeth hon yn trafod iselder. Mae’n cynnwys sut i adnabod iselder ynoch chi'ch hun ac mewn pobl eraill, sut mae’n cael ei drin, a beth allwch chi ei wneud i gael help, i helpu eich hun neu i helpu rhywun arall.
Mae pawb yn teimlo’n drist neu’n ‘isel’ o bryd i’w gilydd. Mae hyn yn rhan arferol o dyfu i fyny. Mae llawer o bobl ifanc yn profi adegau pan fydd bywyd yn teimlo'n arbennig o anodd, neu pan fyddant yn teimlo'n ddiobaith. Gall hyn fod oherwydd bod rhywbeth sy’n anodd neu sy'n achosi gofid wedi digwydd. Er enghraifft, os yw rhywun yn eich teulu wedi marw, neu os ydych chi wedi profi newid mawr mewn bywyd fel symud ysgol, coleg neu dŷ. Neu efallai eich bod chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich camddeall gan ffrindiau neu deulu, neu'n unig am ddim rheswm penodol.
Os ydych chi'n teimlo'n isel, yn bryderus neu'n drist, mae'n bwysig eich bod chi'n siarad â rhywun amdano. Hyd yn oed os nad oes gennych chi gyflwr iechyd meddwl fel iselder, gall eich teimladau achosi gofid mawr ac rydych chi’n dal i haeddu cael cefnogaeth a dealltwriaeth gan y bobl o’ch cwmpas.
Os ydych chi’n teimlo’n drist mae’n bwysig ei gymryd o ddifrif, oherwydd gall pethau waethygu heb gael cymorth.
Siarad
Po leiaf rydyn ni'n siarad am bethau, y mwyaf y gall ein problemau deimlo. Gall dweud wrth rywun sut rydych chi wedi bod yn teimlo fod yn rhyddhad mawr. Gallwch siarad cymaint neu gyn lleied ag sy'n gyfforddus i chi, ond mae cael rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo wrth eich ochr yn gallu helpu gyda rhai o'ch teimladau anodd.
Mae siarad â phobl am sut rydych chi'n teimlo yn gallu bod yn anodd. Rydyn ni’n gwybod bod dynion ifanc yn arbennig yn ei chael hi’n anodd rhannu eu teimladau â'u ffrindiau. Fodd bynnag, pan fyddwn ni'n siarad â phobl am sut rydyn ni'n teimlo rydyn ni'n aml yn sylweddoli eu bod nhw hefyd wedi cael adegau o deimlo'n isel.
Chi sydd i ddewis â phwy y byddwch chi'n siarad. Gallai fod yn aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n athro neu athrawes yn yr ysgol neu'r coleg. Os oes rhywbeth yn digwydd yn eich bywyd sy'n gwneud i chi deimlo'n drist, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu gyda'r pethau hyn. Neu efallai y byddan nhw'n gallu eich cyfeirio chi at fannau lle mae cymorth pellach ar gael.
Ceisiwch gysylltu â phobl wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôn neu ar gyfryngau cymdeithasol yn unig. Er bod cadw mewn cysylltiad dros y we yn wych, gall gweld rhywun wyneb yn wyneb eich helpu i deimlo'n fwy cysylltiedig.
Gofalu am eich iechyd corfforol
Efallai ei fod yn swnio’n amlwg, ond mae gofalu am eich iechyd corfforol yn gallu bod yn dda iawn i’ch iechyd meddwl.
Chwiliwch am fath o ymarfer corff rydych chi'n ei fwynhau, a cheisiwch ei wneud yn rheolaidd. Dylech geisio treulio o leiaf awr y dydd yn gwneud ymarfer corff cymedrol fel cerdded neu feicio i'r ysgol neu'r coleg. A dylech geisio gwneud awr o ymarfer corff egnïol dair gwaith yr wythnos, er enghraifft rhedeg neu nofio. Cymerwch olwg ar ein hadnodd gweithgaredd corfforol am ragor o wybodaeth.
Mae cwsg hefyd yn gallu cael effaith fawr ar eich iechyd meddwl, ac fel arfer mae angen mwy o gwsg ar blant a phobl ifanc nag ar oedolion. Dylai pawb gael trefn reolaidd ar gyfer amser cysgu. Ceisiwch beidio ag aros i fyny’n hwyr iawn, neu gysgu’n hwyr iawn. Gall aros yn y gwely'n hwyr fod yn braf ar benwythnos, ond os ydych chi'n cysgu'n hwyr bob dydd gall hyn eich gadael chi'n teimlo'n fwy blinedig byth. Mae hefyd yn gallu effeithio ar eich trefn ddyddiol a sut rydych chi'n teimlo yn ystod y dydd, yn yr ysgol neu yn y coleg.
Dysgu sgil newydd
Gallai hyn fod yn unrhyw beth, cyn belled â'i fod yn rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau, y mae gennych chi ddiddordeb ynddo neu rywbeth rydych chi wedi bod eisiau rhoi cynnig arno erioed. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys coginio pryd newydd o fwyd, dysgu gwau neu grosio, peintio llun neu ysgrifennu stori fer. Gallech chi hefyd ymuno â chlwb neu ddosbarth yn yr ysgol, yn y coleg neu yn eich ardal leol.
Gwneud pethau i bobl eraill
Mae ymchwil yn dangos bod gwneud pethau i bobl eraill yn gallu:
- eich helpu i deimlo'n gadarnhaol amdanoch chi'ch hun
- rhoi ymdeimlad o hunanwerth i chi
- eich helpu i gysylltu ag eraill.
Gallai hyn fod mor syml â dweud wrth ffrind beth rydych chi'n ei hoffi amdano neu amdani. Neu efallai y gallech chi wirfoddoli yn eich cymuned leol.
Treulio amser tu allan
Gall bod tu allan hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich lles meddyliol. Mae treulio amser yn yr awyr agored mewn mannau gwyrdd fel parciau, coetiroedd neu'r ardd yn gallu lleihau straen a gwella'ch hwyliau. Gallech fynd am dro neu fynd i feicio, rhoi cynnig ar arddio, neu eistedd tu allan. Mae gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored hyd yn oed yn fwy buddiol nag ymarfer corff dan do.
Os ydych chi wedi siarad â theulu a ffrindiau ac yn dal i deimlo'n drist neu'n ofidus, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â gweithiwr proffesiynol. Mae gan rai ysgolion a cholegau dîm cymorth iechyd meddwl neu gwnselwyr. Mae'r rhain yn aelodau o staff yn eich ysgol neu’ch coleg sydd wedi'u hyfforddi i'ch cefnogi gyda'ch iechyd meddwl. Os nad yw'r rolau hyn ar gael yn eich ysgol neu'ch coleg chi, neu os byddai’n well gennych chi siarad â rhywun arall, gallech hefyd siarad â’ch meddyg teulu.
Efallai y bydd y person rydych chi'n siarad ag ef neu hi yn eich holi am:
- eich teimladau a’ch meddyliau
- eich iechyd cyffredinol
- unrhyw gyflyrau eraill sydd gennych chi
- eich perthynas â theulu a ffrindiau
- eich bywyd cartref
- eich profiadau yn yr ysgol neu’r coleg
Dylent weithio gyda chi i ddeall y pethau da a drwg sy'n digwydd yn eich bywyd a beth allai fod yn achosi i chi deimlo'n drist.
Os hoffech chi weld gweithiwr proffesiynol heb eich rhieni, gallwch ofyn am gael yr apwyntiad cyfan neu ran o'r apwyntiad ar eich pen eich hun. Neu os hoffech chi gael rhywun gyda chi, fe allech chi ofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo ymuno â chi yn yr ystafell neu ofyn am hebryngwr. Mae hebryngwr yn rhywun sy'n gweithio yn eich practis meddyg teulu sy'n gallu bod gyda chi yn ystod yr apwyntiad os ydych chi'n poeni am fod ar eich pen eich hun. Os nad yw hebryngwr ar gael yn eich practis meddyg teulu, fe allech chi hefyd chwilio am eiriolwr annibynnol.
Mae siarad â rhywun yn beth anhygoel o ddewr i’w wneud. Dylech fod yn falch ohonoch eich hun am gymryd y cam cyntaf hwn.
Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl. Mae pobl sy’n dioddef o iselder yn teimlo’n drist, yn bigog neu’n wag, ac maent yn colli diddordeb a mwynhad yn y pethau o’u cwmpas. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar eu gallu i weithredu’n bersonol, yn gymdeithasol, yn y cartref, yn yr ysgol neu’r coleg, neu yn y gwaith.
Weithiau mae pobl yn defnyddio’r gair ‘isel’ i ddisgrifio teimlo’n drist neu’n ddigalon. Am y rheswm hwn gall fod yn ddryslyd gwybod y gwahaniaeth rhwng bod yn drist a phrofi iselder. Mae yna debygrwydd rhwng y ddau, ond mae iselder yn fwy difrifol na theimlo’n drist.
Dyma restr o rai o symptomau iselder.
- teimlo’n drist ac yn isel drwy'r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser
- bod yn oriog ac yn bigog - cynhyrfu, gwylltio neu fynd yn ddagreuol yn hawdd
- bod â llai o egni nag arfer
- peidio â mwynhau gweithgareddau roeddech chi’n arfer eu mwynhau
- mynd yn encilgar - osgoi ffrindiau, teulu, yr ysgol neu’r coleg, a gweithgareddau rheolaidd
- teimlo’n euog neu’n ddrwg, bod yn hunanfeirniadol a hunangyhuddgar, neu gasáu eich hun
- teimlo’n ddiobaith ac eisiau marw
- ei chael hi’n anodd canolbwyntio
- esgeuluso eich ymddangosiad a’ch hunanofal personol
- newidiadau mewn patrwm cwsg - peidio â chysgu digon neu gysgu gormod, a theimlo'n flinedig
- colli diddordeb mewn bwyta, peidio â bod eisiau bwyd, peidio â bwyta digon neu orfwyta
- poenau, megis cur pen/pen tost neu boen yn y stumog, sydd heb eglurhad
- meddwl yn rheolaidd am farwolaeth neu hunanladdiad
Gall y symptomau hyn achosi problemau i chi yn eich cartref, yn yr ysgol neu’r coleg, neu yn eich perthynas â theulu a ffrindiau. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn defnyddio alcohol neu gyffuriau i deimlo’n well. Yn anffodus, gall hyn wneud popeth yn llawer gwaeth.
Mae’n bwysig cofio bod y rhan fwyaf ohonon ni’n profi rhai o’r pethau hyn o bryd i’w gilydd, ac nid yw’n golygu ein bod yn dioddef o iselder. Fodd bynnag, efallai eich bod chi’n dioddef o iselder:
- os yw eich profiad o'r pethau hyn yn ddwys a'u bod wedi para am nifer o wythnosau neu fisoedd
- ac maen nhw’n cael effaith negyddol ar wahanol feysydd o’ch bywyd.
Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw pawb yn profi pob un o’r symptomau a restrir uchod. Er enghraifft, nid yw pawb yn meddwl am farwolaeth neu hunanladdiad.
Os ydych chi’n meddwl am fod eisiau marw, neu’n gwneud cynlluniau i ladd eich hun, siaradwch â rhywun ar unwaith. Gallwch hefyd gysylltu â’r Samariaid neu Childline.
Os ydych wedi niweidio’ch hun:
• ffoniwch 999
• ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys os ydych chi’n gallu, neu gofynnwch i rywun i fynd â chi.
Efallai y byddwch chi’n clywed iselder yn cael ei ddisgrifio yn ôl lefelau o ddifrifoldeb. Er enghraifft: iselder ysgafn, cymedrol neu ddifrifol. Defnyddir y categorïau hyn i helpu i ddeall:
- pa mor ddrwg yw eich teimladau
- pa mor hir rydych chi wedi bod yn eu profi
- yr effaith y maen nhw’n ei chael ar eich bywyd.
Bydd tua 2 o bob 100 o blant a phobl ifanc yn profi iselder. Gall unrhyw un ddioddef o iselder, ac mae’n effeithio ar bobl o bob oed, ethnigrwydd a chefndir cymdeithasol. Ymysg pobl ifanc, mae iselder yn fwy cyffredin mewn pobl yn eu harddegau hwyr, yn enwedig merched yn eu harddegau. Rydyn ni’n gwybod mai gorau po gyntaf y cawn ni’n gymorth gydag iselder.
Gall iselder ddigwydd i’r bobl fwyaf penderfynol ac nid yw’n arwydd o wendid. Mae llawer o bobl enwog a llwyddiannus iawn yn profi iselder.
Yn aml mae mwy nag un rheswm pam mae rhywun yn mynd yn isel ei ysbryd, a bydd y rhesymau hyn yn wahanol i wahanol bobl. Mae rhesymau cyffredin yn cynnwys:
- Digwyddiadau bywyd fel rhywun yn marw, symud ysgol neu goleg neu newidiadau mawr eraill
- Problemau iechyd corfforol
- Profi camdriniaeth gorfforol, rywiol neu seicolegol neu esgeulustod
- Bod yn dyst i ddigwyddiad trawmatig
- Byw mewn amgylchedd teuluol ansefydlog
- Yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau
- Ffactorau risg genetig, fel bod â rhiant neu frawd neu chwaer sy’n dioddef o salwch meddwl
Weithiau nid oes rheswm clir pam mae rhywun yn mynd yn isel ei ysbryd. Wrth feddwl am achosion iselder, mae’n bwysig cofio y gallai llawer o ffactorau gwahanol achosi cyfnod o salwch iselhaol. Nid oes unrhyw un ffactor risg penodol yn achosi iselder.
Mae yna nifer o driniaethau gwahanol a all fod o gymorth i bobl sydd ag iselder. Gall rhai triniaethau fod yn fwy addas i chi nag eraill. Bydd hyn yn dibynnu ar eich oedran a pha mor ddifrifol yw eich iselder.
Os mai dyma'r tro cyntaf i chi deimlo'n isel, efallai y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu eich bod yn aros am ychydig wythnosau i weld a ydych chi’n teimlo'n well ar eich pen eich hun. Nid yw hyn yn golygu nad yw beth rydych chi'n ei brofi yn ddilys nac yn bwysig, ond mae oherwydd bod iselder weithiau'n gallu gwella ar ei ben ei hun dros amser. ‘Aros a gwylio’ yw’r enw am hyn.
Dylai eich meddyg teulu drefnu cyfarfod gyda chi i weld sut ydych chi’n dod ymlaen. Efallai y bydd hefyd yn cynnig cyrsiau ar-lein neu wybodaeth i chi. Neu efallai y bydd yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar rai o’r dulliau hunangymorth a restrir ar ddechrau’r adnodd hwn.
Therapïau seicolegol
Efallai y cynigir therapi seicolegol i chi. Dyma lle rydych chi'n gweld gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol ynglŷn â sut rydych chi'n teimlo, naill ai’n unigol neu mewn grŵp. Gellir cynnal therapi wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Nid yw rhai pobl ifanc yn teimlo’n barod i siarad ag unrhyw un am eu teimladau. Os yw hyn yn wir yn eich achos chi, mae yna fathau o therapi lle nad oes rhaid i chi siarad am eich teimladau neu brofiadau anodd (ee therapi celf, therapi chwarae). Efallai y bydd y rhain yn fwy defnyddiol i chi.
Mae yna wahanol fathau o therapïau seicolegol, neu ‘therapïau siarad’ y gellir eu defnyddio i’ch helpu os ydych chi’n dioddef o iselder.
Efallai eich bod wedi clywed am therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Gall hwn eich helpu i ddysgu ffyrdd mwy defnyddiol o feddwl ac ymateb mewn sefyllfaoedd bob dydd.
Gellir ystyried therapïau eraill megis:
- Therapi Rhyngbersonol (IPT)
- therapi grŵp
- neu therapi teulu.
Mae pawb yn wahanol ac mae’n bwysig gweithio gyda gweithwyr proffesiynol i ddod o hyd i’r therapi iawn i chi. Dylai eich therapydd egluro pa fath o therapi rydych chi’n ei gael, a sut mae’n gweithio. Dylai’r person sy’n rhoi therapi i chi fod yn rhywun sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Os yw eich iselder yn cael effaith negyddol iawn ar eich bywyd neu wedi bod yn mynd ymlaen ers amser maith, efallai y cewch eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).
Tîm arbenigol yw CAMHS sy’n cynnwys arbenigwyr mewn problemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Byddwch yn cael asesiad a fydd yn edrych ar beth sy'n achosi trafferth i chi a'r math o gymorth y gallai fod ei angen arnoch. Yn ogystal â therapïau seicolegol, efallai y cynigir meddyginiaethau gwrth-iselder i chi hefyd.
Cyffuriau gwrth-iselder
Efallai y cewch chi bresgripsiwn am feddyginiaeth a elwir yn gyffur gwrth-iselder:
- os yw eich iselder yn cael effaith negyddol iawn ar eich bywyd
- ac os nad yw triniaethau eraill fel therapïau seicolegol wedi gweithio.
Gall cyffuriau gwrth-iselder helpu i wella’ch hwyliau. Gall hyn ei gwneud yn haws i chi wneud y gorau o therapi seicolegol.
Mae’n rhaid i gyffuriau gwrth-iselder gael eu rhagnodi gan feddyg arbenigol, a elwir yn Seiciatrydd Plant a Phobl Ifanc, yn dilyn asesiad gofalus. Yn yr asesiad hwn, gofynnir cwestiynau i chi er mwyn sicrhau bod cyffuriau gwrth-iselder yn addas i chi. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Cyn i chi gael cyffuriau gwrth-iselder, efallai y bydd yn rhaid i chi gael asesiad iechyd corfforol.
Unwaith y byddwch wedi dechrau cymryd cyffuriau gwrth-iselder, bydd angen i chi gael archwiliadau rheolaidd gyda seiciatrydd a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol eraill. Mae hyn er mwyn gwirio bod y cyffuriau yn gweithio i chi ac nad ydyn nhw’n achosi unrhyw broblemau. Gall cyffuriau gwrth-iselder achosi sgil-effeithiau, a dylai eich seiciatrydd ddweud wrthych chi beth i gadw llygad amdano. Os ydych chi’n profi unrhyw un o’r sgil-effeithiau hyn, dylech siarad ag ef neu hi ar unwaith.
Pa fath o gyffur gwrth-iselder fyddwn i’n ei gael?
Mae'r cyffur gwrth-iselder a ragnodir i blant a phobl ifanc fel arfer yn cael ei alw'n atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI).
Pa mor hir fyddai’n rhaid i mi gymryd cyffur gwrth-iselder?
Os byddwch chi’n gweld bod y cyffur gwrth-iselder yn eich helpu i deimlo’n well, byddech fel arfer yn ei gymryd am o leiaf chwe mis ar ôl iddo ddechrau gweithio. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i chi ei gymryd am gyfnod hirach os ydych chi wedi cael iselder o’r blaen, neu os ydych chi’n dal i brofi llawer o straen yn eich bywyd. Mae hyn er mwyn lleihau’r risg y byddwch chi’n datblygu iselder eto.
Beth os ydw i’n dymuno rhoi’r gorau i gymryd fy nghyffuriau gwrth-iselder?
Os ydych chi’n cael cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn, mae’n bwysig eich bod yn eu cymryd yn unol â’r cyngor a roddwyd i chi (hy yr un faint bob dydd).
Os ydych chi am roi’r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder, siaradwch â’ch meddyg yn gyntaf, oherwydd mae’n bwysig bod hyn yn digwydd mewn ffordd reoledig. Fel arfer, bydd angen i chi leihau eich cyffuriau gwrth-iselder yn raddol dros ychydig o wythnosau neu fisoedd. Os ydych chi’n profi sgil-effeithiau difrifol, efallai y bydd angen i chi roi’r gorau i’w cymryd yn gyflymach. Siaradwch â’ch meddyg os ydych chi’n profi sgil-effeithiau annymunol neu os ydych chi am roi’r gorau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder.
Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gael mwy o wybodaeth am iselder ac iechyd meddwl. Mae yna adnoddau ar ddiwedd yr adnodd hwn a all roi mwy o wybodaeth i chi.
Mae grwpiau cefnogi ar-lein yn ddefnyddiol i rai pobl. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu awgrymu grwpiau cefnogi sy’n lleol i chi. Gall y grwpiau hyn eich helpu i gysylltu â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg ac i ddysgu mwy am iselder a phroblemau iechyd meddwl.
Ni ddylech deimlo o dan bwysau i gysylltu â phobl eraill nac i ddarllen ar-lein am beth rydych chi’n mynd drwyddo. Os ydych chi’n gweld neu’n clywed pethau mewn unrhyw fforwm ar-lein neu unrhyw gynnwys sy’n achosi gofid neu boen meddwl, siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo.
Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun - mae iselder yn broblem gyffredin ac mae cymorth ar gael.
“Roeddwn i’n 15 oed. Aethon nhw â fi i weld y meddyg oherwydd eu bod nhw’n meddwl fy mod i’n teimlo’n isel ac roeddwn i wedi dechrau hunan-niweidio. Doeddwn i ddim wedi sylwi llawer, roedd niweidio fy hun yn gwneud imi deimlo’n well ac roeddwn i’n teimlo eu bod nhw’n troi arna i braidd. Dim ond pan nes i ddechrau siarad mwy nes i ddechrau sylweddoli cymaint roeddwn i wedi newid. Roeddwn i’n arfer bod yn hapus, nid trwy’r amser, ond fedrwn i ddim teimlo’n hapus o gwbl nawr - ddim fel oeddwn i.
“Roeddwn i’n dadlau gyda fy athrawon - roedden nhw’n dweud mod i ddim yn bwrw ati gyda fy ngwaith a gwnaeth hynny i mi deimlo’n ddig. Roeddwn i’n trio ond doeddwn i ddim yn gallu bwrw ati gyda’r gwaith - ddim fel oeddwn i ym mlwyddyn 8 a 9. Dywedodd y meddyg efallai mai fy ngallu i ganolbwyntio oedd y broblem. Doeddwn i ddim wedi meddwl am hynny, roeddwn i jyst yn meddwl fy mod i’n dwp.
Yna pan holodd y meddyg am bethau eraill, nes i ddechrau gweld. Doeddwn i ddim yn gallu cysgu'n iawn a doeddwn i ddim yn teimlo fel mynd allan i chwarae pêl-droed mwyach. Roeddwn i’n dweud ei fod yn ddiflas, ond wrth i mi ddechrau teimlo'n well, nes i chwarae eto a dw i'n credu mai rhan o fy iselder oedd dweud ei fod yn ddiflas.
“Cefais brofiad tebyg gyda fy nheulu. Dydyn ni ddim yn dod ymlaen trwy’r amser ac maen nhw’n dal i fod yn boen weithiau nawr. Ond pan oeddwn i’n isel roedd fel ein bod ni’n dadlau o hyd, doeddwn i ddim yn gallu siarad â nhw ac roedden nhw’n fy nghorddi i.
“Dim ond pan wnaethon nhw siarad â mi a dechreuodd pethau newid, dyna pryd nes i edrych yn ôl a sylweddoli pa mor isel oeddwn i.”
ChildLine, childline.org.uk – gwasanaeth ffôn a sgwrs ar-lein cyfrinachol a rhad ac am ddim i blant a phobl ifanc. Llinell gymorth: 0800 1111
Epic friends, epicfriends.co.uk - adnoddau hunangymorth a chyngor ar gyfer helpu ffrindiau.
YoungMinds, youngminds.org.uk - gwybodaeth a chyngor ar faterion iechyd meddwl plant, gan gynnwys gwybodaeth am feddyginiaeth
Rethink Mental Illness, rethink.org - taflenni ffeithiau a gwybodaeth i bobl ifanc a’u teuluoedd yn ogystal â llinell gymorth i gael cyngor a grwpiau cymorth cymheiriaid lleol.
MindEd. minded.org.uk – Adnoddau defnyddiol i rieni, gofalwyr, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Campaign Against Living Miserably (CALM), thecalmzone.net – llinell gymorth a sgwrs ar-lein cyfrinachol a rhad ac am ddim, 7 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i unrhyw un sydd angen siarad am broblemau bywyd.
Kooth, kooth.com – cymorth ac adnoddau ar-lein gan gynnwys cwnsela ar-lein rhad ac am ddim.
Charlie Waller Memorial Trust (Ymddiriedolaeth Charlie Waller), adnoddau ar gyfer ysgolion a theuluoedd - adnoddau rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol, rhieni, a phobl ifanc
Students against depression (Ymddiriedolaeth Charlie Waller), studentsagainstdepression.org – Gwybodaeth a gweithgareddau hunangymorth clinigol.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar faterion Plant a Theuluoedd (CAFPEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awduron arbenigol: Dr Mathew Fernando, Dr Virginia Davies, Dr Vasu Balaguru, Dr Amy McCulloch a Dr Bernadka Dubicka
Gyda diolch i’r Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCCMH).
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Jan 2025)