Gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad (depo)
Long-acting injectable (depot) antipsychotics
Below is a Welsh translation of our information resource on long-acting injectable (depot) antipsychotics. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn baratoad arbennig o feddyginiaeth gwrthseicotig. Maent yn cael eu rhoi trwy bigiad.
Mae’r pigiadau hyn yn cynnwys y cyffur gwrthseicotig a hylif cludo. Olew neu ddŵr yw'r hylif hwn ac mae'n caniatáu i'r feddyginiaeth gael ei rhyddhau i'r corff dros amser.
Meddyginiaethau ‘depo’ yw'r enw anffurfiol am wrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad. Mae hyn oherwydd bod y pigiadau yn creu storfa (neu ddepo) o'r feddyginiaeth yn y cyhyr lle rhoddir y pigiad. Yna caiff y feddyginiaeth ei rhyddhau'n araf i'r corff dros wythnosau neu fisoedd.
Mae llawer o wahanol feddyginiaethau y gellir eu rhoi trwy bigiad (ee inswlin ar gyfer diabetes). Fodd bynnag, mae’r adnodd hwn yn edrych yn benodol ar gyffuriau gwrthseicotig sy’n rhyddhau’n araf trwy bigiad.
Defnyddir gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad i drin symptomau seicosis. Fe'u defnyddir yn aml i helpu i drin:
- sgitsoffrenia
- anhwylder sgitsoaffeithiol
- anhwylder deubegynol
Weithiau, gall gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad gael eu defnyddio hefyd i drin symptomau seicosis os ydynt yn bresennol mewn cyflyrau eraill, megis iselder difrifol. Os nad ydych chi'n siŵr pam fod eich meddyg yn awgrymu eich bod yn cymryd gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad, gofynnwch iddo neu iddi egluro pam y mae'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol.
Efallai y byddwch chi hefyd yn cymryd meddyginiaethau eraill ar yr un pryd â chymryd gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad. Er enghraifft, os ydych chi'n byw gydag anhwylder sgitsoaffeithiol, efallai y byddwch chi hefyd yn cymryd sefydlogydd hwyliau. Gall hwn fod ar ffurf tabled neu hylif.
Mae'r feddyginiaeth sy'n mynd i mewn i'ch corff trwy bigiad yn union yr un fath â'r feddyginiaeth sy'n mynd i mewn i'ch corff ar ffurf tabled. Yr unig wahaniaethau yw:
- y dull o gyflwyno'r feddyginiaeth i'r corff
- faint o’r cyffur a roddir i chi. Mae hyn oherwydd bod y cyffur yn cael ei ryddhau'n araf dros amser, felly mae angen mwy ohono.
Mae hyn yn golygu bod manteision a sgil-effeithiau'r pigiad depo yr un fath ag y byddent petai chi'n cymryd y feddyginiaeth drwy'r geg.
Os byddwch chi'n cael gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad, byddwch fel arfer yn mynd i ystafell breifat gyda'r nyrs neu'r meddyg. Fel arfer bydd yn rhoi'r pigiad i chi yn eich braich, eich clun neu eich pen-ôl, yn dibynnu ar y math o feddyginiaeth.
Ar ôl pob pigiad bydd y feddyginiaeth yn aros yn eich corff am ychydig wythnosau neu fisoedd. Bydd hyn yn dibynnu ar y math a'r dos o gyffur gwrthseicotig rydych chi'n ei gael.
Cyn i chi gael gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad am y tro cyntaf, efallai y bydd angen i chi gael un o'r pethau canlynol:
- Dos prawf - Mae hwn yn bigiad unigol a roddir i chi er mwyn gwneud yn siŵr nad ydych chi'n sensitif i'r feddyginiaeth neu'r hylif oeliog. Os nad ydych chi'n sensitif i'r dos prawf, byddwch fel arfer yn cael eich dos triniaeth llawn cyntaf saith diwrnod yn ddiweddarach.
- Pigiad gwrthseicotig sy'n rhyddhau ar unwaith - Mae hwn yn un dos neu ddau ddos o'ch meddyginiaeth a roddir un diwrnod ar ôl y llall. Mae gan hwn yr un cynhwysyn â phigiad sy'n rhyddhau'n araf, ond mae'n rhyddhau i'r corff ar unwaith. Os nad ydych chi'n profi unrhyw adweithiau negyddol pan roddir y pigiadau hyn i chi, yna byddwch yn cael y dos triniaeth llawn.
- Y feddyginiaeth ar ffurf tabled
Os ydych chi'n sensitif i'r feddyginiaeth neu i'r hylif cludo olewog, efallai y byddwch chi'n fwy tebygol o ddatblygu rhai o'r sgil-effeithiau cyffredin sy'n gysylltiedig â'r feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain yn ein hadnodd gwrthseicotigau. Neu efallai y cewch chi adwaith alergaidd.
Trwy roi dos prawf i chi, gall y bobl sy'n eich trin adnabod unrhyw broblemau, a'ch helpu i addasu eich cynllun triniaeth.
Mae rhai o’r sylweddau sydd yn y pigiadau yn eithaf trwchus. Oherwydd hyn mae’n rhaid eu chwistrellu i mewn i gyhyr mawr, fel bod llai o (neu ddim) poen a chwydd. Gallwch siarad â'ch meddyg neu'ch nyrs i weld a yw'n well cael eich pigiad yn eich pen-ôl, yn eich clun neu yn eich braich.
Dim ond mewn rhannau penodol o'r corff y gellir rhoi rhai meddyginiaethau, felly gallai hyn effeithio ar y dewis sydd ar gael i chi.
Os dydych chi ddim yn yr ysbyty, fel arfer cewch ddewis lle i gael eich pigiadau. Gallai’r dewisiadau gynnwys:
- yn eich meddygfa
- canolfan iechyd meddwl cymunedol
- glinig i gleifion allanol
- eich cartref.
Ar gyfer rhai mathau o bigiadau, bydd yn rhaid i chi gael eich monitro wedyn. Oherwydd hyn efallai y bydd angen i chi fynd i le penodol i gael eich pigiad fel y gall hyn ddigwydd. Gallwch drafod hyn â’ch clinigydd.
Bydd angen i chi gael pigiad sy'n rhyddhau'n araf rhwng unwaith yr wythnos ac unwaith bob chwe mis. Pigiad pob pedair wythnos sydd fwyaf cyffredin.
Mae pa mor hir y bydd y pigiadau hyn yn para yn dibynnu ar eich salwch a'r feddyginiaeth yr ydych chi'n ei chymryd. Dylech drafod hyn â’ch meddyg.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd trwy siarad â fferyllydd neu trwy ddarllen y Daflen Gwybodaeth i Gleifion sy’n dod gyda’r feddyginiaeth. Dylai eich meddyg neu’ch nyrs rhoi hon i chi pan fyddwch chi’n cael eich pigiad sy’n rhyddhau’n araf. Gallwch hefyd ofyn i gael darllen hon cyn dewis eich meddyginiaeth, neu pan fyddwch chi’n cael y pigiad.
Mae'r gwrthseicotigau hyn yn cael eu rhyddhau'n araf i'r corff, felly gall gymryd ychydig o amser nes iddynt ddechrau gweithio'n iawn. Os oeddech chi'n cymryd tabledi gwrthseicotig, efallai y dywedir wrthych chi am barhau i gymryd y rhain am gyfnod byr pan fyddwch chi’n dechrau cael gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad am y tro cyntaf. Bydd hyn hyd nes y bydd eich pigiad gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf wedi cyrraedd ei effeithiolrwydd llawn. Bydd y person sy’n rhagnodi eich meddyginiaeth yn rhoi gwybod i chi os bydd angen i chi wneud hyn.
Dylai’r person sy’n rhagnodi eich meddyginiaeth weithio gyda chi i benderfynu pa gyffur sy’n rhyddhau’n araf sydd orau i chi.
Mae pob gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn ddigon tebyg o ran pa mor dda y mae'n gweithio. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau bach yn yr effeithiau y maent yn eu cael, yn union fel sydd mewn gwahanol dabledi gwrthseicotig. Er enghraifft, efallai y bydd zuclopenthixol yn fwy addas os ydych chi'n anniddig iawn. Neu efallai y bydd flupentixol yn fwy addas os ydych chi’n profi hwyliau isel sy’n gysylltiedig â’ch salwch.
Mae gwahaniaethau hefyd yn y sgil-effeithiau y gall gwahanol feddyginiaethau eu hachosi. Mae'n debyg y bydd hyn yn dylanwadu ar sut y byddwch chi a'ch meddyg yn penderfynu pa un y dylech chi ei gymryd.
Mae'r amser rhwng dosau yn amrywio rhwng gwahanol gwrthseicotigau. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhoi un bob pedair wythnos, tra bydd angen rhoi un arall bob tri mis. Gallai hyn ddylanwadu ar eich penderfyniad ynghylch pa wrthseicotig y byddwch chi'n ei gymryd.
Mae camsyniad cyffredin mai dim ond i bobl sy'n rhy sâl yn feddyliol i gydsynio i driniaeth y mae pigiadau gwrthseicotigau sy'n rhyddhau’n araf yn cael eu rhoi.
Mae angen rhoi pigiadau gwrthseicotigau sy'n rhyddhau’n araf i rai pobl pan fyddant yn sâl iawn ac yn yr ysbyty. Neu pan fyddant yn rhy sâl i gydsynio i driniaeth.
Fodd bynnag, mae rhai pobl yn dewis pigiadau gwrthseicotigau sy'n rhyddhau’n araf dros opsiynau eraill fel tabledi.
Gallai'r agweddau cadarnhaol a negyddol o gael pigiad gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf gynnwys rhai o'r pethau canlynol.
Manteision
- Ni fydd yn rhaid i chi gofio cymryd eich meddyginiaeth bob dydd.
- Rydych chi'n llai tebygol o anghofio eich meddyginiaeth, felly rydych chi’n llai tebygol o fynd yn sâl.
- Mae’r feddyginiaeth mewn pigiad gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf yn aros yn eich corff am fwy o amser na thabledi pan fyddwch yn rhoi’r gorau i’w cymryd, sy'n golygu ei bod yn llai tebygol y byddwch chi'n ailwaelu (mynd yn sâl eto).
- Gallant fod o gymorth os ydych chi'n ei chael yn anodd llyncu tabledi.
- Mae tystiolaeth gref i awgrymu bod gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn rhwystro pobl sydd â salwch seicotig fel sgitsoffrenia ac anhwylder sgitsoaffeithiol rhag ailwaelu. Gall hyn ei gwneud yn haws i chi fynd yn ôl i wneud y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud cyn i chi fynd yn sâl, fel gweithio a chymdeithasu.
“Mae’n haws i mi gael pigiad unwaith y mis ... yn enwedig gyda’r patrwm cwsg sydd gen i. Os bydda i'n mynd allan am noson ac wedyn yn aros yn nhŷ rhywun, does dim rhaid i mi boeni am gael fy nhabledi. O ran cyfleustra, mae cael pigiad unwaith y mis yn y feddygfa yn llawer haws i'w reoli.” Michael
Anfanteision
- Efallai y byddwch chi'n teimlo'n anghyfforddus gyda'r syniad o gael pigiadau. Gall hyn fod am lawer o resymau gwahanol, o bryder am nodwyddau i boen meddwl mwy cyffredinol oherwydd y syniad o gael pigiad. Mae'n ddealladwy bod cael pigiad yn teimlo fel ‘mwy o beth' na chymryd tabled.
- Mae cyffuriau sy’n rhyddhau'n araf ar ffurf pigiad yn para’n hirach na thabledi o’r un feddyginiaeth, a gall hyn olygu bod gennych chi lai o reolaeth dros bryd fyddwch chi, a phryd fyddwch chi ddim, yn cymryd eich meddyginiaeth. Er y gall hyn fod o fudd i'ch iechyd, gallai wneud i chi deimlo eich bod wedi colli rhywfaint o reolaeth dros eich gofal.
- Wrth gael pigiad, mae rhai pobl yn profi poen a all bara am ychydig ddyddiau. Mae hwn fel arfer yn ysgafn.
Mae cael pigiad sy'n rhyddhau'n araf yn benderfyniad personol, a sut bynnag rydych chi'n teimlo, mae eich teimladau'n ddilys.
A yw'n bosibl gwneud unrhyw beth i osgoi'r sgil-effeithiau hyn?
Gall cael pigiadau rheolaidd fod yn anghyfforddus ac ymddangos yn heriol i ddechrau. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn canfod eu bod yn dod i arfer â'r broses ac yn teimlo'n fwy cyfforddus â hi dros amser. Os yw cael pigiadau yn gwneud i chi deimlo'n bryderus neu dan straen, siaradwch â'ch nyrs neu'ch meddyg.
Gellir hefyd lleihau anghysur corfforol pigiadau rheolaidd trwy roi'r pigiad mewn man gwahanol bob tro.
Mae gwahanol feddyginiaethau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn cael eu rhoi ar ysbeidiau gwahanol o amser. Er enghraifft, mae rhai yn cael eu rhoi bob wythnos, rhai yn cael eu rhoi bob pythefnos, a rhai yn cael eu rhoi bob 6 mis. Os bydd y pigiadau'n boenus i chi, efallai y byddwch chi'n penderfynu defnyddio meddyginiaeth sy'n caniatáu i chi gael pigiadau yn llai aml.
Os byddwch chi'n profi sgil-effeithiau annymunol, siaradwch â'ch clinigydd am yr opsiynau canlynol:
- cael dosau llai o'r feddyginiaeth. Dylai eich meddyg allu eich helpu i ddod o hyd i ddos sy'n achosi cyn lleied o sgil-effeithiau â phosibl i chi.
- defnyddio gwrthseicotig arall sy’n achosi llai o sgil-effeithiau.
Mae sgil-effeithiau gwrthseicotigau sy'n rhyddhau’n araf ar ffurf pigiad yr un fath â rhai'r a achosir gan yr un cyffur ar ffurf tabled. Mae hyn oherwydd bod y ddau yn cynnwys yr un feddyginiaeth ac yn gweithio mewn ffordd debyg.
Fodd bynnag, mae rhai sgil-effeithiau dros dro yn gysylltiedig â’r pigiad. Mae tua 1 o bob 10 person yn profi:
- poen
- mân waedu o safle’r pigiad
- nodiwl neu lwmp dros dro, lle mae'r croen yn mynd yn fwy trwchus, ar safle'r pigiad.
Mae rhai gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn perthyn i'r grŵp hŷn o gyffuriau gwrthseicotig. Mae’r rhain hefyd yn cael eu galw yn wrthseicotigau ‘cenhedlaeth gyntaf’, ac maent yn cynnwys:
- flupentixol decanoate
- haloperidol decanoate
- zuclopenthixol decanoate.
Mae gwrthseicotigau mwy newydd neu ‘ail genhedlaeth’ yn cynnwys:
- risperidone
- paliperidone palmitate
- olanzapine pamoate monohydrate
- aripiprazole
Nid yw’r rhestr hon o reidrwydd yn cynnwys pob cyffur gwrthseicotig.. Gall meddyginiaethau mwy newydd ddod ar gael ar unrhyw adeg. Cofiwch, bydd gan y cyffuriau hyn enwau brand gwahanol.
Mae cyffuriau gwrthseicotig hŷn yn fwy tebygol o achosi sgil-effeithiau o gymharu â rhai mwy newydd. Gall y sgil-effeithiau hyn amrywio yn dibynnu ar y feddyginiaeth, ond gallant gynnwys anystwythder neu grynu yn eich breichiau a'ch coesau. Mae hyn hefyd yn wir am ffurf tabled y meddyginiaethau hyn.
Yn anaml iawn, caiff y pigiad ei roi yn ddamweiniol mewn gwythïen yn hytrach na mewn cyhyr. Os bydd hyn yn digwydd, neu os bydd y person sy'n rhoi eich pigiad yn meddwl y gallai fod wedi digwydd, bydd angen i chi fynd i'r ysbyty a chael eich monitro i sicrhau nad ydych chi'n profi unrhyw sgil-effeithiau negyddol.
Dylai'r Daflen Gwybodaeth i Gleifion egluro beth yw sgil-effeithiau mwyaf cyffredin y feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd.
Os cewch eich derbyn i'r ysbyty o dan adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, gallai'r meddygon eich gorfodi i gael triniaeth hyd yn oed os nad ydych ei heisiau. Gallai hyn gynnwys gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad.
Fodd bynnag, dylai eich meddyg drafod hyn â chi ac ystyried eich teimladau a'ch barn am eich triniaeth.
Os ydych chi'n parhau i beidio â bod eisiau cael triniaeth ar ôl tri mis, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysbyty ofyn i feddyg annibynnol eich gweld. Bydd yn penderfynu a oes angen i chi barhau i'w chymryd ai peidio.
Mae rhai pobl yn gweld gwrthseicotigau sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad yn ddefnyddiol. Mewn rhai achosion, bydd pobl yn dewis gwneud ‘penderfyniad o flaen llaw' i gael pigiadau os byddant yn mynd yn sâl. Dyma lle rydych chi'n dweud wrth rywun neu'n ysgrifennu beth rydych chi am ei weld yn digwydd os byddwch chi'n mynd yn sâl yn ddiweddarach ac yn ei chael hi'n fwy anodd gwneud penderfyniadau.
Os byddwch chi'n colli pigiad, dylech gael un arall cyn gynted ag y gallwch. Os na wnewch chi hyn, bydd y feddyginiaeth yn stopio gweithio ymhen ychydig ac efallai y byddwch chi'n mynd yn sâl eto.
Os byddwch chi'n mynd yn sâl eto efallai y byddwch chi'n dechrau cael yr un symptomau â phan oeddech chi'n sâl yn y gorffennol. Er enghraifft, clywed lleisiau neu deimlo'n anniddig neu'n ofidus.
Tra byddwch chi'n cymryd gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad, fel arfer bydd angen i chi weld gweithiwr iechyd proffesiynol bob ychydig wythnosau i gael eich pigiad. Byddai hwn yn gyfle gwych i drafod unrhyw bryderon sydd gennych chi.
Gallech chi hefyd siarad â’ch meddyg, eich nyrs neu eich gweithiwr allweddol. Efallai y bydd yn gallu tawelu eich meddwl, neu roi eglurhad defnyddiol ynglŷn â pham mae triniaeth benodol wedi cael ei rhagnodi i chi.
Efallai y bydd hefyd yn gallu trafod triniaethau eraill â chi. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am eich meddyginiaeth neu os nad ydych chi'n deall unrhyw beth rydych chi wedi'i ddarllen yma, gofynnwch i'r bobl sy'n ymwneud â'ch gofal. Byddant eisiau eich helpu i wneud y penderfyniad gorau i chi ynghylch eich triniaeth.
Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i gymryd eich pigiadau gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Dylai eich helpu i ddeall sut y gallai hyn effeithio eich iechyd, eich diogelwch a’ch bywyd yn gyffredinol. Bydd eisiau eich helpu i wneud penderfyniad cytbwys a gwybodus a bydd yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch pa un ai i roi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth a sut i wneud hyn yn ddiogel.
Nid yw cyffuriau gwrthseicotig yn gaethiwus, ond mae eich corff yn dod i arfer â nhw. Gall rhoi'r gorau i'w cymryd yn sydyn wneud i chi deimlo’n sâl yn gorfforol ac yn feddyliol. Oherwydd hyn, mae'n well lleihau'r dos o'r feddyginiaeth yn araf fesul dipyn bob ychydig wythnosau. Bydd hyn yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwch chi'n datblygu symptomau diddyfnu wrth i chi leihau faint o feddyginiaeth rydych chi'n ei chymryd. Bydd hefyd yn eich helpu chi a'ch clinigydd i farnu a ydych chi'n mynd yn sâl yn feddyliol.
Os bydd eich symptomau'n dychwelyd, neu'n dechrau gwaethygu tra byddwch chi'n lleihau'r dos neu ar ôl i chi stopio yn gyfan gwbl, siaradwch â'ch meddyg. Bydd yn gallu trafod eich cynllun gofal a thriniaeth parhaus â chi.
Mae cyffuriau gwrthseicotig yn gallu gwneud i chi deimlo'n gysglyd, felly os ydych chi'n eu cymryd cofiwch:
- Gall alcohol eich gwneud hyd yn oed yn fwy cysglyd.
- Os nad ydych chi'n gwbl effro neu os ydych chi'n teimlo bod y feddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i ganolbwyntio, peidiwch â gyrru car na gweithredu unrhyw beiriannau.
- Gallai rhai meddyginiaethau eraill, fel tabledi cysgu neu dabledi clefyd y gwair, wneud i chi deimlo'n fwy cysglyd nag y byddent fel arfer.
Os ydych chi'n cymryd gwrthseicotig sy'n rhyddhau'n araf trwy bigiad i drin sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol neu seicosis, dylai eich meddygfa eich gwahodd i gael archwiliad iechyd blynyddol.
Bydd y person sy'n gwneud eich archwiliad iechyd blynyddol yn gallu chwilio am unrhyw broblemau iechyd, a'ch helpu i gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch i gadw'n iach.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (Royal College of Psychiatrists). Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Awdur arbenigol: Dr Konstantinos Ioannidis
Arbenigwr trwy brofiad: Nick Hunter
Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Oct 2024)