Mwy na 30 o sefydliadau ar draws y sectorau iechyd, tai a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn dod at ei gilydd i alw am weithredu ar anghydraddoldebau iechyd

Cymru
24 February 2021

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru yn falch o gefnogi datganiad gyda sefydliadau eraill ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn galw am weithredu ar anghydraddoldebau iechyd.

'Mae llawer o benderfynyddion yn ein bywydau sy'n dylanwadu ar ein hiechyd meddwl: o rianta cadarnhaol a lle diogel i fyw ynddo, i brofi camdriniaeth, gormes, gwahaniaethu, neu dyfu i fyny mewn tlodi.

Mae penderfynyddion iechyd meddwl yn rhyngweithio ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, gan roi rhai pobl mewn perygl llawer uwch o iechyd meddwl gwael nag eraill. (ffynhonnell: Canolfan Iechyd Meddwl, Taflen Ffeithiau Anghydraddoldebau)

Datganiad Llawn i'r Wasg

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru wedi ysgrifennu heddiw (22 Chwefror 2021) ar ran fforwm polisi iechyd a gofal cymdeithasol Conffederasiwn GIG Cymru at Brif Weinidog Cymru i alw am strategaeth draws-lywodraethol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ehangach yng Nghymru.


Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at y bwlch cynyddol mewn anghydraddoldebau iechyd a’r cysylltiad cynyddol rhwng tlodi a chanlyniadau iechyd gwael. Mae 34 o fudiadau yng Nghymru, gan gynnwys colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain, Ymchwil Canser Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at effaith gynyddol salwch cronig hirdymor ar ein cymdeithas.

Mewn arolwg barn diweddar1 a gomisiynwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer lansio Cynghrair Anghydraddoldebau Iechyd y DU, daethpwyd ar draws pryder cyffredinol ymysg y cyhoedd ynghylch anghydraddoldebau iechyd ac roedd cefnogaeth aruthrol i weithredu. Yng Nghymru:

  • Roedd 82% o’r ymatebwyr eisiau gweld strategaeth gan y llywodraeth i leihau anghydraddoldebau iechyd
  • Roedd 61% yn credu y dylai llywodraethau ledled y DU fod yn gwneud mwy i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
  • Mae 63% yn pryderu bod y bwlch iechyd rhwng ardaloedd cyfoethog a difreintiedig yn tyfu.
  • Mae 82% yn meddwl y dylai pob rhan o’r llywodraeth orfod ystyried effaith eu polisïau ar bobl sy’n llai cefnog, gyda mwy na hanner yn cytuno’n gryf.
  • Nododd 25% o’r ymatebwyr mai cyflyrau iechyd hirdymor oedd yr anghydraddoldeb iechyd roeddent yn poeni fwyaf amdanynt, gyda 17% yn nodi iechyd meddwl gwael.

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2021. Felly, rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu ar y cyd i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol gyda chynllun gweithredu a cherrig milltir clir, gan weithio ar y cyd â phartneriaid ar draws pob sector.

Mae angen strategaeth ehangach oherwydd mae anghydraddoldeb iechyd yn ganlyniad i nifer o ffactorau amrywiol. Ni ddylai fod yn rhan o bortffolio un gweinidog yn unig; dylid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â hyn yn holl weithgarwch y llywodraeth, a dylai fod yn flaenoriaeth i bob sefydliad.

Dydyn ni ddim yn credu fod gan ofal cymdeithasol a’r GIG yr hyn sydd ei angen i wneud pob un o’r newidiadau radical eraill rydyn ni’n gwybod sy’n hanfodol, gan gynnwys gweithredu i fynd i’r afael â thai gwael, mynediad at addysg, a lleihau tlodi, sy’n berthnasol i amrywiaeth o bortffolios y llywodraeth.

Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru:

‘Mae degawd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ‘Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb.’ Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae anghydraddoldebau iechyd cynyddol wedi cael eu hamlygu a’u dwysáu gan bandemig COVID-19. Allwn ni ddim fforddio dirywiad pellach – os yw ein cenedl yn mynd i ffynnu, mae angen i ni gymryd camau i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef salwch.’

Ychwanegodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain:

‘Mae’r pandemig COVID-19 wedi helpu i amlygu ymhellach yr anghydraddoldebau iechyd sylweddol a oedd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Mae llawer mwy o farwolaethau o COVID-19 wedi bod mewn cymunedau tlotach, ac mae cyflogaeth, tai, addysg ac amddifadedd wedi cyfrannu’n sylweddol o ran gallu rhai rhannau o’n gwlad i wrthsefyll y feirws. Rydyn ni am weld Llywodraeth Cymru yn creu cynllun cadarn, tymor hir i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn a helpu i lunio dyfodol iachach i bawb yng Nghymru.’

Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr, Tai Cymunedol Cymru:

‘Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio pwysigrwydd y cartref. Mae tystiolaeth gref bod cysylltiad rhwng tai gwael ag iechyd corfforol a meddyliol gwael, ac mae’n costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn costau triniaethau. Drwy fuddsoddi mewn cartrefi newydd a rhai presennol y gellir eu haddasu, sy’n gynnes ac yn ddiogel, gallwn wneud cyfraniad enfawr i atal afiechyd yn y lle cyntaf, a chefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Mae angen strategaeth draws-lywodraethol i oresgyn anghydraddoldebau iechyd o’r raddfa sydd gennym yng Nghymru, gan ddod ag adnoddau ar y cyd Cymru at ei gilydd, a mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd iechyd gwael.’

For further information, please contact:


Back to News