Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Post-traumatic stress disorder (PTSD)
Below is a Welsh translation of our information resource on post-traumatic stress disorder (PTSD). You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un sy'n dioddef, neu’n meddwl eu bod yn ddioddef, o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), a’u ffrindiau, eu teulu a’u gofalwyr.
Mae anhwylder straen wedi trawma (PTSD) yn salwch meddwl sy'n gallu datblygu pan fydd rhywun yn profi neu’n gweld digwyddiad trawmatig.
Bydd llawer o bobl sy'n mynd trwy ddigwyddiad trawmatig yn profi ystod o emosiynau, meddyliau ac atgofion negyddol. I lawer o bobl bydd y symptomau hyn yn gwella dros amser a gyda chymorth. Pan na fydd yr ymatebion negyddol hyn yn diflannu, a phan fyddan nhw’n ymyrryd â bywyd bob dydd, efallai bod yr unigolyn yn dioddef o PTSD.
Pa mor gyffredin yw PTSD?
Mewn arolwg cenedlaethol canfuwyd bod tua un o bob 20 oedolyn yn Lloegr wedi sgrinio'n bositif am PTSD. Mae ‘sgrinio’n bositif’ yn golygu bod person wedi cwblhau holiadur symptomau iechyd meddwl i edrych am symptomau PTSD. Awgrymodd eu hatebion i'r holiadur hwn ei bod yn debygol eu bod yn dioddef o PTSD.
Gall PTSD effeithio ar unrhyw un sy'n profi un digwyddiad trawmatig, neu nifer o ddigwyddiadau trawmatig. Mae enghreifftiau o ddigwyddiadau o’r fath isod.
Mae'n bwysig cofio mai enghreifftiau yn unig yw'r digwyddiadau a restrir isod. Mae nifer fawr o ddigwyddiadau sydd ddim wedi’u cynnwys yma yn gallu achosi i rywun ddatblygu PTSD. Hyd yn oed os nad yw eich profiad chi wedi'i gynnwys yma, mae'n dal yn ddilys a dylech geisio cymorth a chefnogaeth os ydych chi'n dioddef.
Mae digwyddiadau a all arwain at PTSD yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- gweld rhywun yn marw neu feddwl eich bod chi eich hun yn mynd i farw
- cael eich anafu'n ddifrifol, neu gredu eich bod chi am gael eich anafu’n ddifrifol
- profi trais rhywiol, neu gredu eich bod chi am brofi trais rhywiol
Gallech ddod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- Yn uniongyrchol – mae wedi digwydd i chi
- Bod yn dyst – rydych chi wedi gweld hyn yn digwydd i rywun arall
- Dysgu – rydych chi wedi darganfod bod y digwyddiad wedi digwydd i rywun sy'n agos iawn atoch chi.
- Dan fygythiad – fe wnaethoch chi brofi digwyddiad fu ‘bron â digwydd’ i chi ac roeddech chi’n meddwl y byddai’n arwain at ganlyniad difrifol, brawychus neu erchyll, ond ni ddigwyddodd hynny. Er enghraifft, diffyg neu ddigwyddiad difrifol ar awyren a achosodd i chi a theithwyr eraill gredu bod yr awyren yn mynd i blymio.
Rydyn ni’n gwybod hefyd y gall rhai pobl sy’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig drwy gyfryngau cymdeithasol, teledu, ffilmiau neu luniau brofi anawsterau iechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o wir os ydyn nhw’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig o ganlyniad i'w gwaith.
Mae rhai pobl yn profi un digwyddiad trawmatig unigol, ond yn anffodus mae llawer o bobl yn profi nifer o ddigwyddiadau trawmatig. Pan fydd digwyddiadau trawmatig yn digwydd dro ar ôl tro, mewn ffordd sy'n achosi i rywun deimlo nad yw’n gallu dianc rhag trawma yn y dyfodol, efallai y bydd yn datblygu cyflwr o'r enw PTSD cymhleth.
Mae nifer enfawr o ddigwyddiadau trawmatig, ond dyma rai enghreifftiau:
- bod yn dyst i farwolaeth trwy drais
- damweiniau difrifol, ee damwain car
- ymosodiad neu gam-drin corfforol neu rywiol
- problemau iechyd difrifol, bod mewn uned gofal dwys a phrofiadau gofal iechyd trawmatig eraill
- profiadau geni cymhleth neu sy'n peryglu bywyd
- cael diagnosis o salwch sy'n bygwth neu’n newid bywyd
- rhyfel a gwrthdaro
- ymosodiadau gan derfysgwyr
- trychinebau naturiol neu o waith dyn, ee tswnami neu dân. Mae digwyddiad o waith dyn yn cael ei achosi gan berson neu grŵp o bobl ac nid yw'n digwydd yn naturiol.
Os nad yw eich profiad chi yn cael ei drafod yma, mae'n ddilys er hynny ac rydych chi’n haeddu cael cymorth a chefnogaeth.
Mae rhai digwyddiadau'n teimlo'n drawmatig nid yn unig oherwydd bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd, ond oherwydd ei bod yn anodd inni ddeall pam ei fod wedi digwydd. Mewn geiriau eraill, yn aml nid yw digwyddiadau trawmatig yn cyd-fynd â'n syniad ni o sut le ddylai'r byd fod. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd inni ddeall yr ystyr y tu ôl iddyn nhw a gall y dryswch hwn effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Gall profiadau trawmatig hefyd ddangos inni fod pethau drwg yn gallu digwydd ar unrhyw adeg i ni ac i'r bobl rydyn ni'n eu caru. Gall hyn achosi inni deimlo'n anniogel, yn ddigysylltiad a dan fygythiad drwy'r amser. Mae'n naturiol fod hyn yn frawychus. Weithiau gall digwyddiadau trawmatig wneud inni gwestiynu pwy ydyn ni, sydd hefyd yn gallu achosi gofid.
Bydd llawer o bobl yn profi digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywydau. Mae tua un o bob tri oedolyn yn Lloegr yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un digwyddiad trawmatig mawr yn ystod eu bywyd. Fodd bynnag, ni fydd pawb sy'n profi rhywbeth trawmatig yn datblygu PTSD.
Mae llawer o bobl yn profi galar, tristwch, pryder, euogrwydd a dicter ar ôl profiad trawmatig. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu eu bod yn dioddef o PTSD. Mae pobl sy’n dioddef o PTSD yn aml yn arddangos nifer o'r symptomau a restrir isod. Gall y rhain ddechrau ar unwaith, neu efallai y bydd yn cymryd rhai wythnosau neu hyd yn oed fisoedd iddyn nhw ddod i’r amlwg. Mae profiad pawb o PTSD yn wahanol. Efallai y byddwch chi’n profi’r holl symptomau hyn, rhai ohonyn nhw neu ddim ond ychydig ohonyn nhw, a gallai eich symptomau newid dros amser.
Gyda PTSD, bydd y symptomau hyn yn amharu ar eich gweithgareddau bob dydd ac yn gwneud i chi deimlo'n ofidus iawn. Os byddwch chi'n profi unrhyw un o'r symptomau hyn yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddwch chi'n datblygu PTSD.
Ailbrofi (neu ail-fyw), neu symptomau ymwthiol
- Atgofion – Cael atgofion digroeso o'r digwyddiad, sy’n eich llethu chi ac yn peri gofid mawr. Mae'r rhain yn cael eu galw'n feddyliau ymwthiol. Weithiau, gall y rhain deimlo fel petai eich meddwl yn chwarae fideo o beth ddigwyddodd dro ar ôl tro.
- Hunllefau – Mae’r rhain yn freuddwydion annymunol sy'n gysylltiedig â'r trawma ac sy'n eich deffro.
- Adweithiau neu ymatebion datgysylltiol – Teimlo neu ymddwyn fel petai'r digwyddiad trawmatig yn digwydd eto mewn amser real. Ôl-fflachiau yw’r enw am hyn. Efallai y byddwch chi’n colli ymwybyddiaeth o beth sy'n digwydd o'ch cwmpas neu'n teimlo nad yw'r byd mwyach yn real.
- Gofid corfforol a seicolegol – Teimlo'n ofidus iawn, ar bigau drain neu wedi gorgynhyrfu pan fyddwch chi'n cael eich atgoffa o'r digwyddiad mewn rhyw ffordd. Efallai y byddwch chi’n anadlu'n gyflym, neu’n profi pwls cyflym. Efallai na fyddwch chi bob amser yn sylweddoli pryd mae'r emosiynau hyn wedi cael eu sbarduno ynoch chi, neu beth sydd wedi eu hachosi.
Symptomau osgoi
- Amnesia datgysylltiol – Methu cofio rhannau o'r digwyddiad trawmatig. Mae hon yn ffordd gyffredin i’ch ymennydd geisio eich gwarchod rhag profiadau trawmatig. Fodd bynnag, gall hyn wneud pethau'n fwy anodd yn y tymor hir. Weithiau, wrth i chi geisio cofio rhannau o'r digwyddiad, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo eich bod wedi datgysylltu oddi wrthoch chi'ch hun ac oddi wrth y byd o'ch cwmpas. Datgysylltiad yw’r enw am hyn.
- Datgysylltiad – Teimlo ar wahân neu ddim bellach yn agos at bobl oeddech chi'n agos atyn nhw o'r blaen.
- Osgoi siarad a meddwl – Ddim eisiau siarad na meddwl am y digwyddiad neu’r digwyddiadau trawmatig
- Osgoi cysylltiadau – Osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad trawmatig. Gallai hyn gynnwys osgoi teledu neu gyfryngau eraill sy'n trafod y digwyddiad, yn enwedig os yw gwneud hynny yn achosi gofid i chi.
Newidiadau yn eich hwyliau a’ch meddyliau
- Agweddau a disgwyliadau negyddol – Meddwl yn negyddol amdanoch chi'ch hun, am bobl eraill neu am y byd.
- Beio – Beio'ch hun neu bobl eraill am y digwyddiad trawmatig neu am ei ganlyniadau.
- Emosiynau negyddol sy’n gysylltiedig â thrawma – Profi ofn, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd drwy'r amser. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n flin wrth bobl eraill neu wrthych chi'ch hun, hyd yn oed os nad oes yr un ohonoch chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
- Colli diddordeb mewn gweithgareddau – Cael trafferth mwynhau neu fod â diddordeb mewn gweithgareddau roeddech chi'n arfer eu mwynhau neu’n eu gwneud yn rheolaidd.
- Methu teimlo emosiynau cadarnhaol – Cael trafferth profi hapusrwydd, boddhad neu deimladau cariadus.
Symptomau effrogarwch ac adweithedd
- Gorwyliadwriaeth – Bod yn rhy ymwybodol o beth sy'n digwydd o'ch cwmpas a methu ymlacio oherwydd eich bod chi’n chwilio am fygythiadau.
- Dychryn yn hawdd – Gorymateb i synau neu symudiadau.
- Anhawster canolbwyntio – Cael trafferth canolbwyntio ar dasgau roeddech chi'n gallu canolbwyntio arnyn nhw o'r blaen.
- Anhawster cysgu – Cael trafferth mynd i gysgu ac aros ynghwsg. Pan fyddwch chi'n mynd i gysgu efallai y byddwch chi'n cysgu'n wael neu’n anesmwyth, ac efallai’n cael hunllefau.
- Anniddigrwydd – Cael pyliau o fod yn ymosodol ar lafar neu'n gorfforol tuag at bobl neu bethau. Gallai’r pyliau hyn ddigwydd pan fyddwch chi’n profi rhywbeth sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad trawmatig.
- Byrbwylltra – Gweithredu'n fyrbwyll neu mewn ffyrdd sy'n beryglus neu'n hunanddinistriol. Er enghraifft, mynd i amgylcheddau a allai fod yn beryglus neu'n dreisgar.
Mae nifer o esboniadau posibl am beth sy'n achosi PTSD.
Seicolegol
Mae symptomau seicolegol PTSD yn hynod annymunol a gofidus. Fodd bynnag, gall y symptomau hyn wneud synnwyr pan fyddwn ni'n ystyried sut y gallai ein meddyliau weithio i'n hamddiffyn ar ôl digwyddiad trawmatig.
Meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau
Mae'n gwbl normal inni 'ailchwarae' profiad anodd neu drawmatig yn ein pennau. Mae hyn yn ymateb naturiol gan ein hymennydd i'n helpu i ddeall beth ddigwyddodd. Gall ein helpu i fod yn fwy parod petai'r sefyllfa'n digwydd eto.
Fodd bynnag, mewn PTSD mae'r ymateb hwn yn mynd yn rhy eithafol. Bydd pobl sydd â PTSD yn ailbrofi'r digwyddiad dro ar ôl tro trwy feddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau. Bydd hyn yn achosi iddyn nhw deimlo'n ofidus iawn, yn hytrach na'u helpu i wneud synnwyr o beth ddigwyddodd.
Osgoi a mygu teimladau
Ar ôl profi digwyddiad trawmatig efallai na fyddwn ni'n gallu neu'n fodlon ei gofio. Er y gall cofio beth sydd wedi digwydd achosi gofid, gall myfyrio ar y digwyddiad ein helpu i wneud synnwyr ohono a gwella ohono. Os ydyn ni’n osgoi meddwl am y digwyddiad, gall yr atgofion ddod yn gryfach ac achosi mwy o ofid pan fyddwn ni yn meddwl amdanyn nhw. Isod mae diagram sy'n dangos y cylch osgoi mewn PTSD:

Gorwyliadwriaeth
Os ydyn ni ‘ar wyliadwriaeth’ neu’n rhy sensitif i beth sy’n digwydd o’n cwmpas, efallai y byddwn ni’n teimlo’n barod i ymateb yn gyflym os bydd argyfwng arall yn digwydd. Gall yr ymateb hwn hefyd roi egni inni i wneud beth sydd ei angen ar ôl damwain neu argyfwng.
Fodd bynnag, mewn pobl sydd â PTSD mae'r teimladau hyn yn digwydd drwy'r amser, ymhell ar ôl i'r bygythiad fynd heibio. Bydd y teimladau hefyd yn digwydd mewn sefyllfaoedd lle na fyddai'n bosibl i'r bygythiad ddigwydd eto. Gall hyn fod yn flinedig a rhwystro pobl sydd â PTSD rhag gwneud y pethau roedden nhw’n arfer eu mwynhau.
Corfforol
Mae rhai o symptomau corfforol PTSD yn digwydd oherwydd bod ein cyrff yn brwydro i brosesu trawma. Gallwn fynd yn sownd yn y 'modd goroesi' hyd yn oed ar ôl i'r perygl go iawn fynd heibio.
Adrenalin
Mae hwn yn hormon y mae ein cyrff yn ei gynhyrchu pan fyddwn ni dan straen. Mae'n helpu i baratoi ein cyrff ar gyfer gweithgareddau sy'n defnyddio llawer o egni. Er enghraifft, rhedeg neu wthio rhywun yn ei ôl. Pan fydd y digwyddiad llawn straen yn diflannu, dylai lefel yr adrenalin fynd yn ôl i normal.
I bobl sydd â PTSD, gall atgofion byw o'r digwyddiad llawn straen gadw lefelau'r adrenalin yn uchel. Gall lefelau uchel o adrenalin ein rhoi ni ar bigau drain, ein gwneud ni'n biwis, a'n rhwystro rhag ymlacio a chysgu'n dda.
Yr hipocampws
Mae hwn yn rhan o'r ymennydd sy'n prosesu atgofion. Gall lefelau uchel o hormonau straen, fel adrenalin, rwystro’r hipocampws rhag gweithio'n iawn. Mae hyn yn golygu nad yw atgofion o'r digwyddiad trawmatig yn cael eu prosesu yn iawn. Gall hyn achosi inni gofio'r digwyddiad fel petai'r risg yn bresennol o hyd, yn hytrach na fel rhywbeth ddigwyddodd yn y gorffennol.
Yn aml, nid yw pobl sydd â PTSD yn profi’r ymatebion seicolegol neu gorfforol hyn yn ymwybodol neu’n fwriadol. Mae’r rhain yn ymatebion awtomatig sy’n cael eu hachosi gan drawma.
Gall unrhyw un ddatblygu PTSD os ydyn nhw wedi profi digwyddiad trawmatig. Fodd bynnag, mae swyddi rhai pobl yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o brofi digwyddiadau trawmatig. Mae hyn yn golygu bod y risg y byddan nhw'n datblygu PTSD yn uwch nag mewn gyrfaoedd eraill. Gall y swyddi hyn gynnwys:
- Gweithwyr gwasanaethau brys (ee swyddogion heddlu, diffoddwyr tân neu barafeddygon)
- Gweithwyr cymdeithasol
- Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (ee staff gofal dwys neu fydwragedd)
- Personél milwrol a gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio mewn parthau rhyfel
- Gyrwyr trên sy'n profi marwolaeth ar y trac
- Cymedrolwyr cynnwys ar-lein proffesiynol sy'n gorfod gweld deunydd sy’n peri gofid fel rhan o'u swydd
Yn aml, mae symptomau PTSD yn dechrau yn syth, neu’n fuan, ar ôl digwyddiad trawmatig. Weithiau, nid yw symptomau PTSD yn dechrau am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl y digwyddiad trawmatig. Fel arfer, mae'r symptomau'n dechrau o fewn chwe mis i'r digwyddiad. Nid yw’n amhosibl i symptomau ddechrau ymhen cyfnod o chwe mis neu fwy, er bod hyn yn llawer llai cyffredin. Yn anffodus, beth sy’n llawer mwy cyffredin, yw bod llawer o bobl ddim yn gofyn am help pan fydd eu symptomau'n dechrau. Mae hyn oherwydd y gall fod yn anodd adnabod beth sy'n digwydd, neu wybod pryd i gysylltu. Gall pobl hefyd ofni y bydd gan bobl eraill farn negyddol ohonyn nhw, gan gynnwys eu cyflogwyr.
Ni ddylid gwneud diagnosis o PTSD yn ystod y mis cyntaf ar ôl digwyddiad trawmatig. Os byddwch chi'n profi symptomau trawma ar unwaith, a bod y rhain yn ddifrifol ac yn eich rhwystro rhag gweithredu, efallai eich bod chi'n dioddef o ymateb straen acíwt neu anhwylder straen acíwt. Fel arfer, bydd y symptomau hyn yn gwella neu'n diflannu o fewn ychydig ddyddiau neu ychydig wythnosau. Mewn rhai achosion, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi geisio cymorth gan weithiwr proffesiynol.
Ar ôl profiad trawmatig, bydd llawer o bobl yn profi neu’n arddangos rhai symptomau trawma yn ystod y mis neu ddau cyntaf. Mae’r rhain yn ymatebion normal i brofi perygl gwirioneddol neu bosibl. Gallwch feddwl amdanyn nhw fel ffordd eich ymennydd o'ch gwarchod chi rhag niwed neu fel rhan o'r broses o wneud synnwyr o beth sydd wedi digwydd.
Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl yn prosesu beth sydd wedi digwydd dros gyfnod o wythnosau, neu weithiau ychydig yn hirach. Wrth iddyn nhw wneud hynny, bydd eu symptomau gofid yn dechrau dod yn llai aml a llai dwys.
Mae ymchwil yn dangos bod rhai grwpiau o bobl yn wynebu risg uwch o brofi PTSD. Mae’r rhain yn cynnwys:
- pobl sy'n profi trawma dro ar ôl tro. Er enghraifft, pobl sy'n byw mewn parthau gwrthdaro
- pobl sydd eisoes yn agored i niwed oherwydd eu profiadau yn y gorffennol. Er enghraifft, pobl sydd â hanes o drawma, fel profi cam-drin yn ystod plentyndod.
Fodd bynnag, mae'r risg o ddatblygu PTSD yn lleihau os gall rhywun:
- gael mynediad at gefnogaeth gymdeithasol dda a
- dod dros y digwyddiad trawmatig mewn amgylchedd lle mae llai o straen.
Gall gweithleoedd, teulu a ffrindiau helpu pobl sydd wedi dod i gysylltiad â thrawma trwy ddarparu cefnogaeth ychwanegol. Maen nhw hefyd yn gallu helpu trwy warchod pobl sydd wedi dod i gysylltiad â thrawma rhag straen pellach am gyfnod byr.
Pa ddigwyddiadau sy'n fwy tebygol o achosi PTSD?
Gall unrhyw ddigwyddiad trawmatig achosi PTSD. Fodd bynnag, rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu PTSD os yw'r digwyddiad:
- yn sydyn ac yn annisgwyl
- yn mynd ymlaen am amser hir
- yn digwydd pan fyddwch chi'n gaeth a ddim yn gallu dianc
- yn ‘ganlyniad i waith dyn’
- yn achosi llawer o farwolaethau
- yn achosi anafiadau difrifol neu anffurfiad (llurguniad)
- yn effeithio ar blant.
Nid yw hyn yn golygu nad yw profiadau eraill yn gallu achosi i rywun ddatblygu PTSD. Mae beth sy'n teimlo'n drawmatig yn gallu amrywio'n fawr o berson i berson. Os byddwch chi’n parhau i ddod i gysylltiad â straen ac ansicrwydd wrth i chi geisio gwella, gall hyn ei gwneud yn fwy anodd i'ch symptomau PTSD wella.
Efallai eich bod wedi dod dros brofiad trawmatig os:
- ydych chi’n gallu meddwl amdano heb brofi gormod o ofid
- dydych chi ddim yn teimlo dan fygythiad neu ar bigau’r drain drwy'r amser
- dydych chi ddim yn meddwl amdano heb fwriadu gwneud hynny
- dydych chi ddim yn osgoi pethau sy’n eich atgoffa o’r digwyddiad.
Mae nifer o resymau pam efallai na fydd rhywun sydd â PTSD yn cael diagnosis.
Osgoi
Bydd pobl sydd â PTSD yn aml yn osgoi siarad am eu teimladau fel nad oes rhaid iddyn nhw feddwl am y digwyddiad trawmatig.
Mae rhai pobl yn teimlo bod y symptomau y maen nhw'n eu profi (er enghraifft, osgoi a mygu teimladau) yn eu helpu i ymdopi. Efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli mai PTSD sy'n achosi'r symptomau hyn.
Stigma a chamddealltwriaeth
Pan fydd rhywun yn sâl iawn, gall fod yn anodd iddo gredu y bydd yn dychwelyd i sut yr oedd yn teimlo cyn y digwyddiad trawmatig.
Mae rhai pobl yn gallu gwneud yn fach o'u profiadau oherwydd eu bod yn credu bod eraill wedi ‘ei chael hi'n waeth’. Efallai bydd pobl eraill yn peidio â gofyn am help oherwydd eu bod nhw'n teimlo cywilydd o fod yn sâl, neu’n poeni y bydd eraill yn eu barnu.
Mae camsyniad cyffredin mai dim ond pobl sydd yn y lluoedd arfog neu’r gwasanaethau brys sy’n cael PTSD. Gall hyn olygu nad yw pobl yn credu rhywun sy'n dweud ei fod yn meddwl y gallai fod ganddo PTSD. Mewn gwirionedd, gall PTSD ddigwydd i unrhyw un, ac mae pob profiad o PTSD yn ddilys.
Diagnosis anghywir
Mae rhai pobl sydd â PTSD yn cael diagnosis anghywir o gyflyrau eraill. Er enghraifft, anhwylderau gorbryder, iselder neu anhwylder personoliaeth.
Bydd gan rai pobl broblemau iechyd seicolegol neu gorfforol eraill. Fodd bynnag, efallai bydd y rhain yn golygu na fydd symptomau eu PTSD yn cael eu sylwi neu’n arwain at ddiagnosis anghywir.
Efallai bod pobl sydd â PTSD hefyd yn profi ‘symptomau corfforol heb eglurhad meddygol’ fel:
- anawsterau gastroberfeddol
- syndromau poen
- cur pen/pen tost
Gall y symptomau hyn olygu bod eu PTSD yn cael ei gofnodi fel symptom neu salwch corfforol. Dyma pam ei bod hi'n bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol holi ynghylch profiadau o drawma pan fyddan nhw’n asesu rhywun.
Heriau eraill
Efallai y bydd rhai pobl sydd â PTSD hefyd yn wynebu heriau eraill oherwydd eu symptomau. Er enghraifft, anawsterau perthynas neu ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Gallai'r anawsterau hyn fod yn gysylltiedig â'u PTSD, ond gallant fod yn fwy amlwg na'r PTSD ei hun.
Efallai na fydd y person sydd â PTSD a'r bobl o'i gwmpas yn sylweddoli bod y problemau hyn yn ganlyniad i'r trawma y mae wedi'i brofi.
Gall PTSD ddatblygu ar unrhyw oedran. Fodd bynnag, ni fydd y rhan fwyaf o blant sy'n profi digwyddiadau trawmatig yn mynd ymlaen i ddatblygu PTSD, nac unrhyw salwch meddwl arall.
Mae symptomau PTSD mewn plant yn debyg i'r symptomau mewn oedolion. Mae plant hefyd yn gallu profi:
- Breuddwydion brawychus – Mewn plant, efallai y bydd, neu na fydd, cysylltiad uniongyrchol rhwng y breuddwydion hyn a’r digwyddiad trawmatig go iawn.
- Chwarae ailadroddus – Bydd rhai plant yn actio'r digwyddiad trawmatig wrth chwarae. Er enghraifft, gallai plentyn sydd wedi bod mewn damwain ffordd ddifrifol ail-greu'r ddamwain gyda cheir tegan.
- Symptomau corfforol – Efallai y byddan nhw’n cwyno am boen stumog a chur pen/pen tost.
- Ofn y bydd eu bywyd yn dod i ben yn fuan – Efallai y byddan nhw’n ei chael hi'n anodd credu y byddan nhw’n byw yn ddigon hir i ddod i oed, neu’n ei chael hi’n anodd dychmygu dyfodol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadnodd trawma a gofid ar gyfer rhieni a gofalwyr.
Mae llawer o driniaethau gwahanol ac effeithiol ar gael ar gyfer PTSD. Y triniaethau mwyaf effeithiol yw therapïau seicolegol (a elwir hefyd yn therapïau siarad). Efallai y bydd eich meddyg teulu, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, hefyd yn awgrymu meddyginiaeth, fel cyffuriau gwrthiselder.
Therapi seicolegol
Mae'r rhan fwyaf, ond nid pob un, o therapïau seicolegol ar gyfer trin PTSD yn canolbwyntio ar y profiad trawmatig ei hun. Maen nhw'n canolbwyntio llai ar ddigwyddiadau eraill sy'n digwydd yn eich bywyd ar hyn o bryd neu a ddigwyddodd yn y gorffennol. Bydd therapi seicolegol yn eich helpu gyda’r pethau canlynol:
- Derbyn – Er na allwch chi newid beth sydd wedi digwydd, gallwch ddysgu derbyn ei bod yn bosibl meddwl yn wahanol am y digwyddiad, y byd a'ch bywyd.
- Cofio'r digwyddiad – Cofio beth ddigwyddodd heb gael eich llethu gan ofn a gofid. Byddwch yn gallu meddwl am beth ddigwyddodd pan fyddwch chi'n dewis gwneud hynny, yn hytrach na thrwy feddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau.
- Rhoi eich profiadau mewn geiriau – Siarad am beth ddigwyddodd mewn ffordd sy'n eich helpu i wneud synnwyr ohono, fel bod yr atgofion yn teimlo'n llai llethol.
- Teimlo'n fwy diogel – Eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth dros eich teimladau. Gall hyn eich helpu i deimlo'n fwy diogel, felly ni fydd angen i chi osgoi'r atgofion i'r un graddau.
Dylai unrhyw therapi siarad ar gyfer trin PTSD gael ei ddarparu gan rywun sydd wedi'i hyfforddi a'i achredu mewn therapi sy'n canolbwyntio ar drawma. Fel arfer, cynhelir sesiynau o leiaf unwaith yr wythnos, gyda'r un therapydd. Fel arfer, byddwch chi'n cael 8-12 sesiwn, ond efallai bydd angen mwy os yw eich PTSD yn arbennig o gymhleth. Bydd sesiynau fel arfer yn para rhwng awr a 90 munud.
Y therapïau seicolegol mwyaf effeithiol ar gyfer PTSD yw:
Therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT)
Mae hwn yn therapi siarad a all eich helpu i newid eich ffyrdd o feddwl. Ymhen amser, gall eich helpu i deimlo'n well ac i ymddwyn yn wahanol. Fel arfer, caiff ei gyflwyno mewn sesiynau un-i-un rhyngoch chi a therapydd. Mae peth tystiolaeth y gall TF-CBT gael ei gyflwyno mewn grwpiau hefyd.
Dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR)
Mae’r dechneg hon yn cynnwys symud eich ffocws rhwng ochr chwith ac ochr dde eich corff. ‘Ysgogiad dwyochrog’ yw’r enw am hyn. Fel arfer, caiff ei wneud gyda symudiadau llygaid ond mae yna ddulliau eraill, fel tapio dwylo, neu synau sy'n newid o'r naill ochr i’r llall. Mae EMDR yn helpu'r ymennydd i brosesu atgofion trawmatig fel eu bod yn achosi llai o ofid.
Gofynnir i chi gofio'r digwyddiad trawmatig a sut mae'n gwneud i chi feddwl a theimlo. Tra byddwch chi'n gwneud hyn, gofynnir i chi wneud yr ‘ysgogiad ddwyochrog’, fel symudiadau llygaid. Dangoswyd bod hyn yn lleihau dwyster yr emosiynau sy’n gysylltiedig ag atgof trawmatig. Gall hyn helpu i ddatrys y trawma.
Dylai EMDR gael ei gyflwyno gan ymarferydd cymwys ac achrededig. Fel arfer, caiff EMDR ei gyflwyno dros 8-12 sesiwn. Mae pob sesiwn yn para rhwng awr a 90 munud.
Triniaethau eraill
Gall rhai mathau eraill o therapi siarad helpu i dargedu symptomau penodol (ee cwsg gwael). Gall y rhain fod yn ddefnyddiol i bobl sydd ddim yn ymateb yn dda i EMDR neu TF-CBT.
Er bod llawer o therapïau sy'n honni eu bod yn trin PTSD, dylech fod yn ofalus ynglŷn â'u defnyddio heb i'r risgiau a'r manteision gael eu hegluro'n iawn.
Mae peth tystiolaeth i awgrymu y gallai therapïau byrrach, sydd ddim yn canolbwyntio ar drawma, fod yn ddefnyddiol i rai pobl. Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae tystiolaeth yn dangos mai TF-CBT ac EMDR yw'r therapïau mwyaf effeithiol ar gyfer trin PTSD. Os cynigir triniaethau eraill i chi, dylai'r rhain gael eu hargymell gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd ag arbenigedd mewn trin PTSD. Neu dylent gael eu hargymell fel rhan o dreial clinigol ffurfiol.
Yn anffodus, gall gymryd peth amser i gael mynediad at therapïau siarad trwy'r GIG. Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a beth sydd ar gael yn eich ardal chi. Yn y cyfamser, efallai y byddai deunyddiau hunangymorth yn ddefnyddiol i chi. Gofynnwch i'ch meddyg teulu a yw’n gallu argymell unrhyw ddeunyddiau. Neu gallwch edrych ar ganllaw hunangymorth PTSD a PTSD cymhleth GIG yr Alban.
Meddyginiaeth
Cyffuriau gwrthiselder
Efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu eich bod yn dechrau cymryd cyffuriau gwrthiselder. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol:
- os ydych chi’n aros i gael therapi seicolegol
- os ydych chi wedi rhoi cynnig ar therapi seicolegol i drin eich PTSD ac nad yw hyn wedi gweithio
- os dydych chi ddim eisiau therapi seicolegol.
Mae atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRIs) yn fath o gyffur gwrthiselder sy’n gallu helpu i leihau symptomau PTSD. Os ydych chi hefyd yn dioddef o iselder, gall cyffuriau gwrthiselder helpu gyda hyn.
Meddyginiaethau eraill
Os nad yw SSRIs yn gweithio i chi, efallai y cynigir meddyginiaeth wahanol i chi, fel cyffuriau gwrthiselder eraill neu gyffur gwrthseicotig.
Defnyddir meddyginiaethau gwrthseicotig i drin nifer o gyflyrau iechyd meddwl gwahanol. Mae meddyginiaethau gwrthseicotig hefyd yn cael eu hystyried yn dawelyddion pwysig. Fel cyffuriau gwrthiselder SSRI, gall cyffuriau gwrthseicotig helpu i leihau eich symptomau PTSD. Os oes gennych chi PTSD, mae'n bwysig gwybod nad yw cael cynnig cyffur gwrthseicotig yn golygu bod gennych chi seicosis neu gyflwr iechyd meddwl difrifol arall (nad yw'n PTSD).
Fel arfer, bydd angen i seiciatrydd ragnodi meddyginiaethau eraill i ddechrau. Dylai drafod â chi fanteision ac anfanteision pob un math o feddyginiaeth.
Nid yw meddyginiaeth yn driniaeth rheng flaen ar gyfer PTSD. Fodd bynnag, gall meddyginiaeth briodol ei gwneud hi'n haws i chi ymrwymo i driniaeth a chefnogaeth arall, fel therapïau seicolegol.
Mae tystiolaeth yn dangos mai TF-CBT ac EMDR yw'r therapïau rheng flaen gorau ar gyfer PTSD. Gall meddyginiaeth fod o gymorth i bobl sydd ddim eisiau therapïau siarad neu i bobl sydd ddim yn gallu cael mynediad atyn nhw yn hawdd.
Pryd bynnag y bo modd, dylid cynnig therapïau seicolegol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT neu EMDR) cyn meddyginiaeth. Mae hyn yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae'r therapïau hyn hefyd yn helpu fel rhan o'r driniaeth ar gyfer PTSD cymhleth. Byddwn yn trafod hynny yn ddiweddarach yn yr adnodd hwn.
Os ydych chi'n dioddef o PTSD, mae yna nifer o bethau y gallwch chi eu gwneud i hybu eich adferiad. Os oes gennych chi therapydd, dylai eich cefnogi gyda'r technegau hyn a'ch helpu i ymgymryd â nhw ar gyflymder sy'n teimlo'n hylaw i chi:
Cadw at eich trefn arferol
Os ydych chi’n gallu, ceisiwch gadw at, neu fynd yn ôl at, eich trefn arferol. Mae cadw eich bywyd mor ddigyfnewid â phosibl yn gallu rhoi ymdeimlad o strwythur a sylfaen i chi.
Siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo
Ddylech chi ddim teimlo bod yn rhaid i chi siarad â phawb am beth ddigwyddodd. Fodd bynnag, gall siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo eich helpu i brosesu eich teimladau mewn man diogel. Os oedd pobl eraill yn rhan o'r digwyddiad trawmatig a brofwyd gennych chi, gallai siarad ag un ohonyn nhw helpu hefyd. Gwnewch hyn dim ond os nad yw'n achosi gormod o ofid i chi.
Chwilio am gefnogaeth gan gymheiriaid
I wneud hyn, gallech chwilio am elusen sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi profi'r mathau o bethau rydych chi wedi eu profi. Gofynnwch a oes ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd 'cefnogaeth gan gymheiriaid’ neu grwpiau cymorth. Ar ddiwedd yr adnodd hwn rydyn ni wedi awgrymu rhai elusennau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio
Rhowch gynnig ar ymarferion myfyrdod ac ymwybyddiaeth ofalgar annibynnol i ymlacio. Er bod dod o hyd i ffyrdd o ymlacio pan fo gennych chi PTSD yn gallu bod yn heriol, gall eich helpu i gael rhywfaint o reolaeth dros eich symptomau. Fodd bynnag, nid yw technegau ymlacio yn iachâd a dylent fod yn rhan o ystod ehangach o ddulliau a sgiliau cymorth rydych chi'n eu defnyddio i wella. Y peth gorau yw siarad â'ch therapydd am ymarferion neu weithgareddau a allai weithio i chi.
Ystyried mynd yn ôl i’r gwaith neu i’r ysgol
Os fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, gall mynd yn ôl i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r brifysgol fod o gymorth. Er y gall amser i ffwrdd fod yn werthfawr iawn ar ôl y digwyddiad, gall bod i ffwrdd am amser hir gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl a'ch hunan-barch. Mae gweithio neu fynd i'r ysgol neu'r brifysgol yn gallu rhoi ymdeimlad o drefn a phwrpas i chi. Gall hyn helpu gyda'ch adferiad.
Ceisiwch osgoi sefyllfaoedd lle y byddwch chi efallai yn agored i drawma pellach neu straen dwys. Os yw hynny’n bosibl, y peth gorau yw gweithio mewn amgylchedd cefnogol, sy’n peri llai o straen tra byddwch chi’n gwella. Siaradwch â'ch rheolwr am unrhyw addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud i'ch helpu chi trwy'r cyfnod anodd hwn.
Bwyta ac ymarfer yn rheolaidd
Ceisiwch fwyta ar yr amseroedd arferol, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo'n llwglyd nac yn awyddus i baratoi prydau bwyd neu fwydo'ch hun. Os fyddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny, ceisiwch wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Gall hyn hefyd eich helpu i deimlo’n fwy blinedig pan ddaw hi’n amser cysgu. Mae rhagor o wybodaeth am gwsg ar gael yn ein hadnodd cysgu'n dda.
Treulio amser gydag eraill
Gall treulio amser gyda'r bobl sy'n bwysig i chi eich helpu i deimlo bod cefnogaeth ar gael. Mae'n werth bod yng nghwmni pobl eraill hyd yn oed os nad ydych chi eisiau siarad am beth sydd wedi digwydd. Mae hyd yn oed galwad ffôn neu neges destun yn gallu eich helpu i deimlo mewn cysylltiad.
Disgwyl gwella
Ceisiwch ddal i gredu bod gwella yn bosibl. Mae cael gobaith yn gallu hybu eich adferiad, ond ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i wella'n gyflym. Ceisiwch fod yn garedig â chi'ch hun yn ystod yr amser hwn.
Mynd yn ôl i'r man lle digwyddodd y digwyddiad trawmatig
Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd yn ôl i'r man lle digwyddodd y digwyddiad trawmatig, neu o leiaf yn agos ato. Dim ond pan fyddwch chi'n teimlo'n barod y dylech chi wneud hyn. Gall fod yn ddefnyddiol siarad â'ch therapydd neu feddyg os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn, fel y gallan nhw eich cefnogi gyda'r cam hwn. Mae'n bwysig bod dychwelyd i'r man lle digwyddodd digwyddiad trawmatig yn cael ei gynllunio'n ofalus. Efallai y byddai mynd gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo o gymorth i chi.
Pethau i’w hosgoi
Tra byddwch chi'n gwella, efallai y byddech chi eisiau osgoi rhai pethau, neu fod yn ymwybodol ohonyn nhw. Gall gwneud y ‘peth iawn’ fod yn heriol iawn ac ni ddylech deimlo’n euog os byddwch chi'n gwneud unrhyw un o’r pethau hyn. Gwnewch eich gorau i osgoi:
- Barnu eich hun – Nid yw symptomau PTSD yn arwydd o wendid. Maen nhw’n ymateb normal i brofiadau brawychus. Mae llawer o bobl gryf a gwydn sydd wedi datblygu PTSD, fel ymatebwyr brys a newyddiadurwyr rhyfel.
- Cadw eich teimladau i chi'ch hun – Os ydych chi'n dioddef o PTSD, peidiwch â theimlo'n euog am rannu eich meddyliau a'ch teimladau ag eraill. Gall siarad am sut rydych chi'n teimlo hybu eich adferiad a bydd pobl sy'n gofalu amdanoch chi eisiau helpu os ydyn nhw'n gallu.
- Disgwyl i bethau fynd yn ôl i normal ar unwaith – Gall triniaeth ar gyfer PTSD gymryd amser, ac efallai y byddwch chi'n cael cyfnodau da a chyfnodau drwg. Ceisiwch beidio â rhoi pwysau ar eich hun i wneud gormod yn rhy fuan, ond peidiwch â cholli gobaith. Gyda thriniaeth a chefnogaeth, bydd pethau'n gwella.
- Cadw draw oddi wrth bobl eraill – Gall treulio llawer o amser ar eich pen eich hun gynyddu teimladau o unigedd a gwneud i chi deimlo'n waeth. Ceisiwch dreulio amser gyda phobl eraill os gallwch chi, a chofiwch nad oes rhaid i chi siarad am beth ddigwyddodd.
- Alcohol ac ysmygu – Er y gall alcohol eich helpu i ymlacio ar y pryd, dros amser fe allai wneud i chi deimlo'n llawer gwaeth. Gall coffi a nicotin weithredu fel symbylwyr a allai wneud i chi deimlo'n waeth os ydych chi'n profi symptomau sy'n gysylltiedig â PTSD.
- Gorflino – Mae PTSD yn gallu gwneud cysgu’n anodd. Ceisiwch gymaint â phosibl i gadw at eich patrwm cysgu arferol ac osgoi aros ar eich traed yn hwyr, gan y gall hyn wneud i chi deimlo'n waeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadnodd cysgu'n dda.
Yn olaf, dylech fod yn ofalus wrth yrru ac os ydych chi'n teimlo'n anniogel i yrru dylech roi gwybod i'r DVLA. Gall pobl fod yn fwy tebygol o gael damweiniau ar ôl i rywbeth trawmatig ddigwydd.
Mae rhai pobl yn datblygu cyflwr a elwir yn anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth). Mae hyn yn aml yn cael ei achosi gan brofi digwyddiad estynedig, neu gyfres o ddigwyddiadau, sy'n hynod o fygythiol neu frawychus. Gall y profiadau hyn ddigwydd i blant neu i oedolion. Yn aml bydd y digwyddiadau hyn yn rhai a oedd yn anodd neu'n amhosibl eu hosgoi neu ddianc rhagddyn nhw.
Mae digwyddiadau sy’n gallu arwain at PTSD cymhleth yn cynnwys:
- trais domestig dros gyfnod hir
- cam-drin rhywiol neu gorfforol parhaus yn ystod plentyndod
- artaith
- byw mewn ardal o ryfel
- ymgyrchoedd hil-laddiad
- caethwasiaeth.
Yn ogystal â symptomau PTSD, mae pobl sy’n dioddef o PTSD hefyd yn profi:
- teimladau negyddol iawn tuag at eu hunain ac yn ystyried eu bod ‘yn ddiystyr, yn ddi-rym neu'n ddiwerth’
- anhawster eithriadol i reoli eu hemosiynau a’u hymatebion emosiynol
- anhawster eithriadol i gynnal perthnasoedd a theimlo'n agos at bobl eraill.
Mae diffyg ymddiriedaeth mewn pobl eraill a'r byd yn gyffredinol yn gyffredin mewn pobl sy'n dioddef o PTSD cymhleth. Mae triniaeth ar gyfer PTSD cymhleth yn aml yn hirach er mwyn caniatáu i bobl feithrin perthynas ddiogel gyda therapydd. Yn aml, bydd y gwaith y mae rhywun sydd â PTSD cymhleth yn ei wneud gyda therapydd yn digwydd mewn tri cham. Fodd bynnag, efallai na fydd angen i chi wneud yr holl gamau hyn neu eu gwneud yn eu trefn, ac efallai y byddwch chi'n ailadrodd camau.
Cam 1: Sefydlogi
Mae sefydlogi wedi'i gynllunio i'ch helpu i adennill rheolaeth dros eich pryder a'ch symptomau o ailbrofi’r trawma. Er enghraifft, meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau.
Yn y cam sefydlogi byddwch yn:
- dysgu ymddiried yn eich therapydd
- dysgu deall a rheoli eich teimladau o ofid a datgysylltiad
- dysgu technegau 'ymdawelu'. Gall y rhain eich helpu i ganolbwyntio ar deimladau corfforol cyffredin. Gall hyn helpu i'ch atgoffa eich bod yn byw yn y presennol ac nid y gorffennol.
Gall sefydlogi eich helpu i 'ddatgysylltu' eich teimladau o ofn a phryder oddi wrth yr atgofion a'r emosiynau sy'n eu hachosi. Gall hyn helpu i wneud yr atgofion yn llai brawychus a dwys.
Weithiau, mae'n bosibl mai sefydlogi fydd yr unig help sydd ei angen.
Cam 2: Therapïau sy'n canolbwyntio ar drawma
Unwaith y byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n gallu ymddiried yn eich therapydd, a chael gwell rheolaeth dros rai o'ch symptomau, bydd y driniaeth yn canolbwyntio ar ddelio â'r trawma. Fel arfer, mae hyn yn cynnwys EMDR neu TF-CBT, a fydd yn eich helpu i brosesu eich profiadau trawmatig.
Gall seicotherapïau eraill fod yn ddefnyddiol ochr yn ochr ag EMDR neu TF-CBT os yw'n anodd delio â rhai o'ch symptomau.
Bydd eich therapydd yn cymryd gofal i beidio â'ch gwthio'n rhy gyflym yn ystod y cyfnod hwn o'r driniaeth er mwyn osgoi gwneud y sefyllfa'n waeth i chi.
Cam 3: Ailintegreiddio neu ailgysylltu
Wrth i symptomau eich trawma wella, bydd eich therapydd yn eich cefnogi wrth i chi ailgydio yn raddol mewn ffordd fwy arferol o fyw. Mae'r cam hwn fel arfer yn canolbwyntio ar eich helpu i addasu i'r byd go iawn gan nad ydych chi bellach yn y sefyllfa beryglus yr oeddech chi ynddi o'r blaen. Gall hyn deimlo'n frawychus ac yn obeithiol ar yr un pryd, yn enwedig ar y dechrau.
Yn ystod y broses hon, dylech chi ddechrau adennill eich ymdeimlad o hunan. Byddwch chi'n dysgu gweld eich hun fel person sydd â hawliau a'r rhyddid i wneud dewisiadau.
Bydd ailintegreiddio yn eich helpu i:
- uniaethu'n dosturiol â chi'ch hun ac â phobl eraill
- ailsefydlu ymddiriedaeth ynoch chi'ch hun ac eraill
- magu hyder i ailgydio mewn cyfeillgarwch, perthnasoedd agos a gweithgareddau sy'n hybu eich iechyd a'ch lles. Gallai hyn gynnwys gwaith, os nad ydych chi eisoes yn gweithio
Yn anffodus, fel gyda PTSD, gall gymryd peth amser i gael mynediad at therapïau siarad ar gyfer PTSD cymhleth. Bydd hyn yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
Meddyginiaeth
Fel yn achos PTSD, gellir defnyddio cyffuriau gwrthiselder neu feddyginiaeth arall i drin PTSD cymhleth. Gellir defnyddio cyffuriau gwrthiselder:
- ynghyd â therapi seicolegol
- yn lle therapi seicolegol
- os ydych chi’n aros i gael therapi seicolegol, neu os nad yw ar gael
- os nad yw therapi seicolegol yn gweithio i chi.
Efallai y byddai cael seiciatrydd i adolygu eich meddyginiaeth o gymorth hefyd.
Hunangymorth
Mae'r adran ‘Sut alla i gynnal fy hun?’ yn gynharach yn yr adnodd hwn yn trafod pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich hun os oes gennych chi PTSD cymhleth.
Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd newydd brofi digwyddiad trawmatig, mae rhai pethau y gallech chi gadw llygad amdanyn nhw. Gallai’r pethau hyn fod yn arwyddion eu bod yn cael trafferth ymdopi:
- Newidiadau mewn ymddygiad – Perfformiad gwael anghyffredin yn y gwaith, bod yn hwyr, absenoldeb salwch neu fân ddamweiniau.
- Newidiadau emosiynol – Dicter, anniddigrwydd, iselder anghyffredin, diffyg diddordeb a diffyg canolbwyntio.
- Newidiadau yn ei ffordd o feddwl – Pendroni dros fygythiadau, ofnau neu syniadau negyddol am y dyfodol.
- Symptomau corfforol annisgwyl – Fel bod yn fyr o wynt, bod ar bigau’r drain, anniddigrwydd neu ddioddef o boenau yn y stumog.
Os ydych chi’n meddwl y gallai rhywun fod yn dangos arwyddion o PTSD, efallai y gallech chi eu hannog i siarad â'u meddyg teulu neu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall y maen nhw’n ymddiried ynddo. Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon agos atyn nhw i wneud hynny, gallech siarad â rhywun sy'n agos at yr unigolyn ac a fyddai'n gallu gwneud hyn yn lle.
Efallai y byddai hefyd o gymorth iddyn nhw edrych ar wybodaeth am PTSD, fel yr adnodd hwn. Gallai hyn eu helpu i adnabod yr anawsterau sydd ganddyn nhw a beth i'w wneud amdanyn nhw.
Pethau rydych chi’n gallu eu gwneud
Gall y pethau canlynol helpu i gefnogi rhywun sydd wedi bod drwy brofiad trawmatig:
Bod ar gael
Cynigiwch dreulio amser gydag ef neu hi. Os nad ydyn nhw eisiau eich gweld chi, mae’n ddefnyddiol gadael iddyn nhw wybod y byddwch chi'n dal ar gael os byddan nhw’n newid eu meddwl. Er y dylech osgoi rhoi pwysau arnyn nhw, efallai y bydd angen i chi ofyn fwy nag unwaith cyn iddyn nhw dderbyn eich cefnogaeth.
Gwrando
Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnyn nhw i rannu beth ddigwyddodd os nad ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu rhannu. Os ydyn nhw eisiau siarad, ceisiwch wrando heb dorri ar draws neu rannu eich profiadau eich hun. Er y gallai fod gennych fwriadau da wrth rannu eich profiadau, gall hynny weithiau ddirymu teimladau'r person arall.
Gofyn cwestiynau cyffredinol
Os byddwch chi'n gofyn cwestiynau, ceisiwch wneud yn siŵr eu bod yn rhai cyffredinol ac anfeirniadol. Er enghraifft, efallai y gallech chi ofyn ‘Wyt ti wedi siarad â rhywun arall am hyn?’ neu ‘Alla i dy helpu di i chwilio am gymorth ychwanegol?’
Cynnig help ymarferol
Efallai y bydd hi'n fwy anodd iddyn nhw edrych ar ôl eu hunain a chadw at drefn ddyddiol. Gallech gynnig helpu gyda phethau ymarferol, fel glanhau neu baratoi pryd o fwyd.
Gofalu amdanoch chi'ch hun
Os ydych chi'n cefnogi rhywun, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun hefyd. Gall cefnogi rhywun sydd wedi profi digwyddiad trawmatig fod yn heriol yn emosiynol.
Pethau i’w hosgoi
Dweud wrthyn nhw eich bod chi'n gwybod sut maen nhw'n teimlo
Hyd yn oed os ydych chi wedi profi rhywbeth tebyg, mae pobl yn profi sefyllfaoedd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Gall cymharu profiadau fod yn annefnyddiol. Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi'n gwybod llawer am beth mae rhywun wedi'i brofi, efallai nad ydyn nhw wedi dweud popeth wrthych chi. Oherwydd hyn, efallai na fydd y cymariaethau rydych chi'n eu gwneud yn gywir.
Dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n lwcus i fod yn fyw neu’n ddianaf
Yn aml ni fydd pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn teimlo'n lwcus. Weithiau, gall pobl deimlo’n euog:
- am fod yn fyw os yw eraill wedi marw
- am beidio â chael eu hanafu
- neu am beidio â chael eu hanafu mor ddrwg â phobl eraill.
Mae dweud wrthyn nhw eu bod nhw wedi bod yn lwcus yn gallu gwneud iddyn nhw gymharu eu hunain â phobl eraill. Neu gall wneud iddyn nhw deimlo cywilydd oherwydd sut maen nhw wedi ymateb.
Gwneud yn fach o’u profiad
Ceisiwch osgoi awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio gwneud iddyn nhw deimlo'n well. Gall hyn wneud i bobl deimlo nad yw'n bosibl cyfiawnhau eu teimladau.
Gwneud awgrymiadau
Ceisiwch osgoi gwneud awgrymiadau, hyd yn oed os yw'r pethau hynny wedi gweithio i chi yn y gorffennol. Mae pawb yn wahanol iawn, ac mae'n bosibl fod y person rydych chi’n ei adnabod wedi rhoi cynnig o’r blaen ar beth rydych chi'n ei awgrymu. Os ydych chi'n ansicr a yw'r person rydych chi'n siarad ag ef yn chwilio am awgrymiadau, gofynnwch.
- Overview of PTSD, NHS (Trosolwg o PTSD, GIG) – Gwybodaeth am PTSD gan y GIG
- Overview of complex PTSD, NHS (Trosolwg o PTSD cymhleth, GIG) – Gwybodaeth am PTSD cymhleth gan y GIG
- PTSD, Mind – Gwybodaeth gan yr elusen Mind am PTSD a PTSD cymhleth
- Sut y gall ffrindiau a theulu helpu? Mind – Gwybodaeth am sut i helpu rhywun rydych chi'n ei adnabod sy’n dioddef o PTSD
- Cysylltiadau defnyddiol, Mind – Dolenni i elusennau a sefydliadau eraill sy'n cynnig cymorth i bobl sydd â PTSD
Llinellau cymorth
- Samariaid - Mae’r Samariaid yn elusen sy’n cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth i unrhyw un sydd eu hangen.
- Shout – Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun 24/7, cyfrinachol a rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un yn y DU sydd angen cefnogaeth.
Elusennau
Mae'r elusennau canlynol yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi profi PTSD neu ddigwyddiadau trawmatig:
- PTSD UK – Elusen yn y DU sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o PTSD
- Combat Stress – Elusen iechyd meddwl yn y DU sy’n cefnogi cyn-filwyr.
- Cruse Bereavement Care (Gofal mewn Galar Cruse) – Elusen sy’n cynnig cymorth i bobl mewn galar yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Cruse Bereavement Care Scotland – Elusen sy’n hyrwyddo llesiant pobl mewn galar yn yr Alban
Rape Crisis (Argyfwng Trais Rhywiol) – Mae tair elusen argyfwng trais rhywiol yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol:
Victim Support (Cymorth i Ddioddefwyr) – Mae tair elusen yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU sydd wedi dioddef troseddau a digwyddiadau trawmatig:
Mae llawer o sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd wedi mynd trwy wahanol brofiadau, a dydyn ni ddim wedi cynnwys pob un ohonyn nhw yma.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Diolch yn arbennig i PTSD UK, a fu mor garedig â chynnig eu hadborth ar yr adnodd hwn.
Golygydd arbenigol: Yr Athro Neil Greenberg
Arbenigwyr trwy brofiad: Autumn Foord, Brian Hayden ac Ellie Wildbore
Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Mar 2023)