Iselder mewn oedolion

Depression in adults

Below is a Welsh translation of our information resource on depression in adults. You can find our other Welsh translations here.

Ymwadiad

Cyn i chi ddarllen hyn, gweler ein ymwadiad.

Mae pawb yn wynebu adegau yn eu bywydau pan fyddant yn teimlo eu bod wedi cael llond bol neu'n teimlo'n ddigalon. Mae hyn fel arfer am reswm penodol, nid yw'n ymyrryd yn ormodol â bywyd bob dydd ac nid yw fel arfer yn para mwy nag wythnos neu ddwy.

Fodd bynnag, os yw'r teimladau hyn yn parhau am wythnosau neu fisoedd, neu'n mynd mor ddrwg fel eu bod yn dechrau effeithio ar bob rhan o'ch bywyd, efallai eich bod yn dioddef o iselder a bod angen help arnoch chi.

Mae pobl yn profi lefelau gwahanol o iselder mewn gwahanol ffyrdd. Mae lefelau ysgafn, cymedrol neu ddifrifol o iselder.1

Mae profiad pobl o iselder hefyd yn cael ei ddylanwadu gan eu cefndir diwylliannol a chan eu gwerthoedd personol, eu credoau a'u hiaith.

Os ydych chi'n isel eich ysbryd, mae'n debyg y byddwch chi'n sylwi ar rai o'r canlynol:1 2

Yn eich meddwl, rydych chi'n:

  • teimlo'n anhapus, digalon, isel, isel eich ysbryd - nid yw'r teimlad hwn yn diflannu a gall fod yn waeth ar adeg benodol o'r dydd, yn aml y peth cyntaf yn y bore
  • methu â mwynhau unrhyw beth
  • colli diddordeb mewn gweld pobl a cholli cysylltiad â ffrindiau
  • methu â chanolbwyntio'n iawn a'i chael hi'n fwy anodd i wneud penderfyniadau
  • colli eich hunanhyder
  • teimlo'n euog ac yn annheilwng
  • mynd yn besimistaidd
  • dechrau teimlo'n ddiobaith, ac efallai hyd yn oed yn hunanladdol.

Yn eich corff, efallai y byddwch chi'n:

  • teimlo'n aflonydd, yn nerfus neu'n gythryblus
  • teimlo’n flinedig ac yn brin o egni
  • methu â mynd i gysgu neu'n cysgu gormod
  • deffro/dihuno yn gynnar yn y bore a/neu yn ystod y nos
  • cael cur pen/pen tost neu anhwylder ar y stumog
  • colli diddordeb mewn rhyw
  • methu â bwyta ac yn colli pwysau neu'n 'gysur-fwyta' mwy ac yn magu pwysau.

Efallai y bydd pobl eraill yn sylwi eich bod chi'n:

  • gwneud camgymeriadau yn y gwaith neu'n methu â chanolbwyntio 
  • ymddangos yn anarferol o dawel ac encilgar, neu'n osgoi pobl
  • poeni mwy nag arfer am bethau
  • fwy pigog nag arfer
  • cysgu mwy neu lai nag arfer
  • cwyno am broblemau corfforol amhenodol
  • rhoi'r gorau i ofalu amdanoch chi eich hun yn iawn – nid ydych yn golchi'ch gwallt na'ch dillad
  • rhoi'r gorau i ofalu'n iawn am eich cartref – rydych chi'n rhoi'r gorau i goginio, yn peidio â thacluso neu'n anghofio newid y cynfasau ar eich gwely.

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn profi pob un o'r rhain, ac efallai y bydd rhai pobl yn ymwybodol o symptomau corfforol yn unig. Efallai eich bod chi’n meddwl bod gennych salwch corfforol oherwydd eich bod yn teimlo'n flinedig iawn neu'n cael problemau cysgu, ond mae'n bosibl mai'r arwyddion cyntaf o iselder yw symptomau corfforol fel y rhain.1 2

Efallai na fyddwch chi'n sylweddoli pa mor isel eich ysbryd ydych chi, yn enwedig os yw wedi datblygu yn raddol. Weithiau mae pobl yn ceisio brwydro ymlaen a gallant hyd yn oed ddechrau beio eu hunain am fod yn ddiog neu am beidio â meddu ar ddigon o ewyllys.

Weithiau mae'n cymryd ffrind neu bartner i'ch perswadio chi bod rhywbeth go iawn o'i le ac awgrymu eich bod chi'n chwilio am gymorth.

Efallai y bydd angen i chi ofyn am gymorth os byddwch chi neu ffrind neu bartner yn sylwi:

  • Bod eich teimladau o iselder yn effeithio ar eich gwaith, eich diddordebau a'ch teimladau tuag at eich teulu a'ch ffrindiau
  • Bod eich teimladau o iselder wedi bod yn mynd ymlaen ers tro ac nad ydynt i'w gweld yn gwella
  • Eich bod chi'n teimlo nad yw bywyd yn werth ei fyw, neu y byddai pobl eraill yn well eu byd heboch chi.

Beth am bryder?

Gall rhai pobl hefyd deimlo'n bryderus iawn pan fyddant yn mynd yn isel eu hysbryd.1 3

Efallai y byddwch chi'n teimlo ar bigau drain drwy'r amser, yn bryderus, yn ofnus, ac yn ei chael hi'n anodd mynd allan neu fod o gwmpas pobl. Neu efallai y byddwch chi'n profi symptomau corfforol fel ceg sych, chwysu, diffyg anadl neu deimlo'ch stumog yn corddi.

Os byddwch chi'n profi iselder a phryder, byddwch fel arfer yn cael triniaeth ar gyfer yr un sy'n achosi'r anhawster mwyaf i chi.1 

Beth am anhwylder deubegynol (iselder manig)?

Efallai y bydd rhai pobl sy'n dioddef o iselder hefyd yn cael cyfnodau estynedig pan fyddant yn teimlo ar ben eu digon ac wedi gorgyffroi. Gelwir hyn yn ‘mania’ a gall olygu eu bod yn dioddef o anhwylder deubegynol (a arferai gael ei alw’n iselder manig).4 5

Nid yw iselder yn arwydd o wendid. Gall ddigwydd i'r bobl fwyaf penderfynol - gall hyd yn oed pobl adnabyddus, athletwyr ac enwogion brofi iselder.

Weithiau bydd rheswm clir dros fynd yn isel eich ysbryd, ond nid felly ar adegau eraill. Gall fod yn siomedigaeth, yn rhwystredigaeth, neu oherwydd eich bod wedi colli rhywbeth neu rywun sy'n bwysig i chi.

Yn aml mae mwy nag un rheswm, a bydd y rhain yn wahanol i wahanol bobl. Rydym yn disgrifio rhai o'r rhesymau cyffredin isod.

Digwyddiadau bywyd ac amgylchiadau personol

Gall iselder gael ei achosi gan ddigwyddiad sy’n peri straen neu ofid, fel profedigaeth, tor-perthynas, neu golli swydd.6 7

Os yw amgylchiadau eich bywyd yn golygu eich bod yn byw ar eich pen eich hun neu nad oes gennych chi unrhyw ffrindiau neu deulu o gwmpas, efallai y byddwch chi’n fwy tebygol o fynd yn isel eich ysbryd.8 9

Iechyd corfforol

Gall cwsg, deiet ac ymarfer corff effeithio ar ein hwyliau a sut rydym yn ymdopi â phethau.

Gall problemau iechyd corfforol, yn enwedig y rhai sy'n ddifrifol neu'n hirdymor, achosi iselder neu ei waethygu.10 11 Mae'r rhain yn cynnwys:

  • salwch sy'n bygwth bywyd fel canser a chlefyd y galon
  • salwch hirdymor a/neu boenus, fel arthritis
  • heintiau feirws fel 'ffliw' neu dwymyn y chwarennau – yn enwedig mewn pobl iau
  • problemau hormonaidd, fel thyroid tanweithgar
  • cyflyrau sy'n effeithio ar yr ymennydd neu'r system nerfol.12

Trawma plentyndod

Gall rhai pobl fod yn fwy agored i iselder nag eraill. Gall hyn fod oherwydd profiadau plentyndod anodd neu drawma, a all gynnwys cam-drin (corfforol, rhywiol neu seicolegol), esgeulustod, bod yn dyst i drais neu ddigwyddiad trawmatig, neu amgylchedd teuluol ansefydlog.13 14 15

Defnyddio alcohol a chyffuriau

Gall yfed yn drwm yn rheolaidd16 17 neu ddefnyddio cyffuriau fel canabis18 19 eich gwneud chi’n fwy tebygol o fynd yn isel eich ysbryd yn y tymor hir.

Ffactorau genetig

Mae ‘ffactorau risg’ genetig tebyg yn gysylltiedig â’r posibilrwydd bod rhywun yn datblygu iselder difrifol, anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia. Mae yna ffactorau risg amgylcheddol hefyd, a gall y rhain ryngweithio â ffactorau risg genetig i gynyddu neu leihau eich risg o ddatblygu'r cyflyrau hyn.

Er enghraifft, efallai bod gennych ffactorau risg genetig sy'n golygu eich bod yn fwy tebygol o ddatblygu iselder difrifol. Fodd bynnag, os byddwch yn tyfu i fyny neu'n byw mewn amgylchedd sefydlog a chadarnhaol gallai hyn leihau eich risg o ddatblygu salwch meddwl difrifol.

Y ffactor risg cryfaf y gwyddom amdano ar gyfer datblygu salwch meddwl difrifol eich hun yw bod â rhiant sydd â salwch meddwl difrifol fel iselder difrifol. Mae gan blant sydd â rhiant ag afiechyd meddwl difrifol siawns o 1 mewn 3 o ddatblygu salwch meddwl difrifol eu hunain.

Wrth feddwl am beth sy'n achosi iselder, mae'n bwysig cofio bod llawer o bethau gwahanol yn gysylltiedig, ac nad oes un ffactor risg yn achosi iselder.20

Mae dynion sy'n profi iselder yn llai tebygol o siarad am eu teimladau ac yn llai tebygol o ofyn am help.21 Efallai y byddant yn mynegi eu hiselder mewn ffordd wahanol, trwy ddicter sydyn, colli rheolaeth yn gynyddol, cymryd mwy o risgiau ac ymddygiad ymosodol, yn ogystal â defnyddio alcohol a chyffuriau i ymdopi.23 24 Mae dynion hefyd yn fwy tebygol na merched o farw drwy hunanladdiad.21 23

Bydd tua 12% o ferched beichiog yn profi iselder yn ystod eu beichiogrwydd, tra bydd 15-20% yn mynd yn isel eu hysbryd yn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael babi.24

Gall pobl drawsryweddol (pobl sy'n uniaethu â rhywedd sy'n wahanol i'r un a bennwyd iddynt adeg eu geni) brofi lefelau uwch o iselder a phryder na’r rhai sydd yn uniaethu â’r rhywedd a bennwyd iddynt adeg eu geni. Gall pobl sydd yn anneuaidd (nad ydynt yn nodi eu bod naill ai'n ferch/benyw neu'n ddyn/gwryw) hefyd brofi lefelau uwch o iselder a phryder.25 26

Mae pobl sy'n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn fwy tebygol o fod â phroblem iechyd meddwl (gan gynnwys iselder) na phobl heterorywiol.27 Maent hefyd yn wynebu risg uwch o geisio lladd eu hunain a hunan-niweidio.27 28

Y newyddion da yw y bydd y rhan fwyaf o bobl ag iselder yn gwella ar eu pen eu hunain trwy wneud pethau i helpu eu hunain. Efallai y byddwch chi'n gallu goresgyn iselder ar eich pen eich hun, a bydd hynny'n rhoi teimlad o gyflawniad i chi a hyder i fynd i'r afael â theimladau o'r fath eto os byddwch chi'n teimlo'n isel yn y dyfodol.

Gallai dilyn rhai o’r awgrymiadau yn y daflen hon fyrhau cyfnod o iselder a'ch helpu i gadw’n iach yn y dyfodol.

Ond mae angen help ychwanegol ar rai pobl, yn enwedig os yw eu hiselder yn ddifrifol neu'n parhau am amser hir, neu os nad yw’r pethau y maen nhw wedi rhoi cynnig arnyn nhw er mwyn gwella wedi gweithio.

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi brofi iselder, mae gennych siawns o tua 50:50 o fynd yn isel eich ysbryd eto, felly mae’n bwysig gwybod sut i gael cymorth os oes ei angen arnoch.1, 29

Felly, os ydych chi'n meddwl bod angen i chi siarad â rhywun am sut rydych chi'n teimlo, ceisiwch beidio ag oedi cyn gwneud hynny, oherwydd gall eich helpu i ailgydio yn y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud a mwynhau bywyd yn gynt.

Weithiau gall gymryd ambell gynnig i gael pobl eraill i ddeall sut rydych chi'n teimlo. Daliwch ati a pheidiwch â rhoi’r gorau iddi – mae'r help iawn ar gael i chi.


Dyma rai awgrymiadau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw pan fyddwch chi'n teimlo'n isel eich ysbryd. Mae'n bwysig eich bod chi'n dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi a chreu eich rhestr eich hun o strategaethau defnyddiol.

Siaradwch â rhywun: Os ydych chi wedi cael newyddion drwg neu ofid mawr yn eich bywyd, ceisiwch beidio â chuddio pethau. Mae dweud wrth rywun agos atoch chi sut rydych chi'n teimlo yn gallu helpu. Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad ag unrhyw un, ceisiwch nodi eich teimladau ar bapur.

Cadw’n heini: Os ydych chi’n gallu, ewch allan i gael ychydig o ymarfer corff, hyd yn oed os mai dim ond mynd am dro bach fydd hynny. Bydd hyn yn eich helpu i gadw'n ffit yn gorfforol ac i gysgu'n well. Gall hefyd eich helpu i ganolbwyntio ar bethau eraill ac nid ar feddyliau a theimladau poenus.

Bwyta'n iawn: Efallai na fydd llawer o eisiau bwyd arnoch chi, ond ceisiwch fwyta'n rheolaidd. Mae’n hawdd colli pwysau a pheidio â chael digon o fitaminau pan fyddwch chi’n isel eich ysbryd – neu fwyta gormod o fwyd sothach a magu pwysau nad ydych chi ei eisiau. Gall deiet cytbwys, gyda llawer o ffrwythau a llysiau, helpu i gadw'ch corff a'ch meddwl yn iach.

Osgoi alcohol a chyffuriau: Gall alcohol wneud i chi deimlo'n well am ychydig oriau, ond mewn gwirionedd mae'n gwneud iselder yn waeth yn y tymor hir. Mae'r un peth yn wir am gyffuriau stryd, yn enwedig canabis, amffetaminau, cocên ac ecstasi.

Sefydlu patrwm cysgu: Ceisiwch fynd i'r gwely ar yr un amser bob nos a chodi ar yr un pryd bob bore. Cyn mynd i'r gwely gwnewch rywbeth ymlaciol rydych chi'n ei fwynhau, fel gwrando ar gerddoriaeth dawel neu ddarllen llyfr. Os na allwch chi gysgu, codwch o'r gwely a gwnewch rywbeth i ymlacio, fel eistedd yn dawel ar y soffa.

Rhowch gynnig ar weithgareddau ymlaciol: Os ydych chi'n teimlo dan straen drwy'r amser, rhowch gynnig ar ymarferion ymlacio, ioga, tylino, aromatherapi, neu weithgaredd arall sy'n gwneud i chi ymlacio.

Gwnewch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau: Cymerwch amser yn rheolaidd i wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau'n fawr - fel chwarae gêm, darllen, neu hobi arall.

Darllenwch am iselder: Mae yna lawer o lyfrau a gwefannau am iselder. Gallant eich helpu i ddeall beth sy'n digwydd, rhoi strategaethau i chi ymdopi'n well, a gallant hefyd helpu ffrindiau a pherthnasau i ddeall beth yr ydych chi'n mynd drwyddo.

Byddwch yn hunan-garedig: Efallai eich bod yn berffeithydd sy'n gyrru'ch hun yn rhy galed. Ceisiwch osod nodau neu ddisgwyliadau mwy realistig i chi'ch hun. Byddwch yn fwy caredig wrthych chi'ch hun.

Cymerwch seibiant: Gall dianc a gadael eich trefn arferol am ychydig ddyddiau fod yn ddefnyddiol iawn. Rhowch seibiant i chi'ch hun o'ch straen a'ch pryderon dyddiol. Gall newid eich amgylchedd, hyd yn oed am ychydig oriau, helpu.

Ymunwch â grŵp cymorth: Mae helpu eich hun pan fyddwch chi’n isel eich ysbryd yn gallu bod yn anodd. Gall siarad â phobl eraill mewn sefyllfa debyg helpu. Edrychwch ar y rhestr o sefydliadau ar ddiwedd y daflen hon am rai syniadau.

Byddwch yn obeithiol: Atgoffwch eich hun fod llawer o bobl eraill wedi cael iselder ac wedi gwella – mae cymorth ar gael ac mae gennych chi hawl i gael y cymorth sydd ei angen arnoch i deimlo’n well.

Os nad yw ceisio gwella ar eich pen eich hun yn gweithio cystal neu mor gyflym ag yr hoffech chi, efallai y byddai siarad â’ch meddyg teulu yn syniad da.

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd ag iselder yn cael eu trin gan eu meddyg teulu. Os nad oes gennych chi feddyg teulu arferol, ceisiwch ddod o hyd i feddyg yn eich practis lleol yr ydych yn gyfforddus ag ef, ac y gallwch ei weld yn rheolaidd.

Bydd eich meddyg teulu yn siarad â chi i adolygu eich symptomau ac i ddarganfod pa driniaethau fydd yn gweithio i chi.

Bydd y driniaeth orau i chi yn dibynnu ar eich lefel bresennol o iselder, pa mor hir y mae wedi para, ac a ydych chi wedi cael iselder yn y gorffennol.

Gall eich meddyg teulu hefyd roi archwiliad corfforol trylwyr i chi. Mae hyn oherwydd bod rhai afiechydon corfforol yn gallu achosi iselder. Os ydych chi eisoes yn cael triniaeth ar gyfer salwch corfforol, bydd angen i'ch meddyg teulu wybod amdano.

Os ydych chi'n dioddef o iselder am y tro cyntaf, ni fyddwch fel arfer yn cael cynnig cyffur gwrth-iselder. Gall eich meddyg teulu awgrymu ymyriad seicolegol dwysedd isel (neu driniaeth siarad) fel:1 2

  • taflenni hunangymorth neu lyfrau sy'n seiliedig ar egwyddorion therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) (gyda chefnogaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol)
  • rhaglenni CBT cyfrifiadurol hunangymorth (hefyd gyda chefnogaeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol)
  • ymarfer corff mewn grŵp
  • rhaglen grŵp, wedi’i seilio ar naill ai hunangymorth gyda chefnogaeth gan gymheiriaid neu ar CBT.

Gall eich meddyg teulu eich helpu i ddewis yr un iawn i chi.

Os nad yw’r rhain yn gweithio’n dda i chi, efallai y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu rhoi cynnig ar un o’r ymyriadau a restrir yn yr adran nesaf sy'n trafod triniaethau ar gyfer iselder cymedrol a difrifol.

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn awgrymu rhoi cynnig ar ymyriad seicolegol dwys iawn neu feddyginiaeth gwrth-iselder, neu'r ddau.1 Gallwch siarad â'r meddyg er mwyn penderfynu pa driniaeth sydd fwyaf priodol i chi.

Ymyriadau seicolegol

Mae llawer o fathau o ymyriadau seicolegol ar gyfer pobl ag iselder ac efallai y cewch eich cyfeirio ymlaen at beth bynnag sydd ar gael yn eich ardal leol.1

Os oes rhestr aros cyn y gallwch gael mynediad at ymyriad seicolegol penodol, dylech siarad â'ch meddyg am beth y gallwch chi ei wneud i ofalu amdanoch eich hun yn y cyfamser.

Therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)

Mae gan lawer ohonom arferion meddwl negyddol sydd, ar wahân i'r hyn sy'n digwydd mewn bywyd, yn debygol o'n gwneud ni'n isel ein hysbryd a'n cadw ni'n isel ein hysbryd. Mae CBT yn eich helpu i:

  1. adnabod ffyrdd o feddwl sy’n afrealistig a di-fudd
  2. yna datblygu ffyrdd newydd, mwy defnyddiol o feddwl ac ymddwyn.

Fel triniaeth ar gyfer iselder, CBT sydd â'r dystiolaeth orau.1 30 31 

Therapi rhyngbersonol (IPT)

Gall therapi rhyngbersonol eich helpu i adnabod a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau yn eich perthynas â theulu, partneriaid a ffrindiau.

Ysgogi ymddygiad

Mae ysgogi ymddygiad yn eich annog i ddatblygu ymddygiad mwy cadarnhaol fel cynllunio gweithgareddau a gwneud pethau adeiladol y byddech chi efallai'n osgoi eu gwneud fel arfer.

Therapi ymddygiadol i gyplau

Os ydych chi mewn perthynas sy'n ymddangos fel pe bai'n effeithio ar eich iselder, yna efallai y bydd therapi cyplau yn briodol i'ch helpu i ddeall y cysylltiadau rhwng iselder a'ch perthynas. Gall hefyd eich helpu i adeiladu perthynas fwy cefnogol gyda'ch partner.

Cwnsela

Gall cynghorwyr hyfforddedig eich helpu i archwilio'ch symptomau a'ch problemau, a rhoi cymorth ac arweiniad i chi.

Seicotherapi seicodynamig

Mae'r driniaeth hon yn eich helpu i weld sut y gall eich profiadau yn y gorffennol fod yn effeithio ar eich bywyd ar hyn o bryd.

Cyffuriau gwrth-iselder

Os yw eich iselder yn gymedrol neu'n ddifrifol neu'n mynd ymlaen am amser hir, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu cwrs o gyffuriau gwrth-iselder, fel arfer cyffur sy'n atalydd aildderbyn serotonin dethol (SSRI).1 32 Bydd yn siarad â chi ynghylch pa gyffur gwrth-iselder a allai weithio orau i chi - bydd hyn yn dibynnu a ydych wedi cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn y gorffennol, ar feddyginiaethau eraill yr ydych yn eu cymryd, ac ar unrhyw broblemau iechyd corfforol eraill a allai fod gennych.

A yw cyffuriau gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, mae cyffuriau gwrth-iselder yn achosi sgil-effeithiau, er bod y rhain fel arfer yn ysgafn ac yn dueddol o ddiflannu ar ôl ychydig wythnosau.32 33

Gall eich meddyg eich cynghori ar beth i'w ddisgwyl, a dylech siarad ag ef neu hi os oes unrhyw beth yn eich poeni, neu os ydych chi'n profi llawer o sgil-effeithiau. Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth ysgrifenedig am y feddyginiaeth gan eich fferyllydd.

Os yw cyffur gwrth-iselder yn eich gwneud yn gysglyd, dylech ei gymryd yn y nos, fel y gall eich helpu i gysgu. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo'n gysglyd yn ystod y dydd, ni ddylech yrru na gweithio gyda pheiriannau nes bod yr effaith wedi diflannu. Gall alcohol eich gwneud yn gysglyd iawn os byddwch yn yfed tra byddwch yn cymryd y tabledi, felly mae'n well ei osgoi.34

Yn wahanol i rai meddyginiaethau neu gyffuriau eraill (fel nicotin neu alcohol), ni fyddwch yn crefu am gyffur gwrth-iselder, nac yn teimlo bod angen i chi gymryd mwy i gael yr un effaith.1

Am ba mor hir fydd yn rhaid i mi gymryd cyffur gwrth-iselder?

I ddechrau, bydd angen i'ch meddyg eich gweld yn rheolaidd (ar ôl y 2 wythnos gyntaf, yna rhwng 2-4 wythnos am y 3 mis cyntaf, yna'n llai aml) i sicrhau bod y driniaeth yn gweithio.1

Os ydych chi wedi bod yn meddwl am hunanladdiad, neu os ydych chi'n iau na 30 oed, efallai y bydd eich meddyg am eich gweld yn amlach (fel arfer yn wythnosol). Mae hyn oherwydd y gall rhai cyffuriau gwrth-iselder achosi mwy o feddyliau hunanladdol i ddechrau, yn enwedig os ydych chi'n iau.1

Os yw cymryd cyffuriau gwrth-iselder yn helpu, dylech barhau i'w cymryd am o leiaf 6 mis, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well. Gall hyn helpu i leihau'r siawns y bydd yr iselder yn dychwelyd.1

Efallai y bydd yn rhaid i chi barhau i'w cymryd am fwy o amser na hyn os ydych chi wedi profi iselder yn y gorffennol. Bydd eich meddyg yn eich cynghori pryd y gallwch roi'r gorau i'w cymryd, a sut i wneud hynny'n ddiogel.

Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd cyffur gwrth-iselder yn sydyn, gallwch brofi symptomau diddyfnu. Mae'r rhain yn cynnwys problemau cysgu, gorbryder, pendro neu boenau stumog.1

Os nad ydych chi’n meddwl bod y cyffur gwrth-iselder rydych chi’n ei gymryd yn gweithio (ar ôl tua 3 i 4 wythnos o’i gymryd), siaradwch â’ch meddyg a fydd efallai'n gallu newid eich dos neu gynnig math gwahanol o gyffur gwrth-iselder neu feddyginiaeth i chi.1

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd ag iselder yn cael yr help sydd ei angen arnynt gan eu meddyg teulu. Os na fydd eich iselder yn gwella ar ôl cael triniaeth gan eich meddyg teulu a bod angen cymorth mwy arbenigol arnoch, efallai y cewch eich atgyfeirio at wasanaeth neu dîm iechyd meddwl arbenigol.1

Bydd y gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol am gael gwybod am eich cefndir cyffredinol ac am unrhyw salwch difrifol neu broblemau emosiynol y gallech fod wedi'u cael yn y gorffennol.

Bydd yn holi am beth sydd wedi bod yn digwydd yn eich bywyd yn ddiweddar, sut mae'r iselder wedi datblygu ac a ydych chi eisoes wedi cael unrhyw driniaeth ar ei gyfer.

Weithiau gall fod yn anodd ateb yr holl gwestiynau hyn, ond bydd y wybodaeth a roddwch yn helpu'r meddyg i ddod i'ch adnabod fel person a chael syniad o'r opsiynau a fyddai'n dda i chi.

Os yw eich iselder yn ddifrifol neu os oes angen triniaeth arbenigol arnoch, efallai y bydd angen i chi ddod i'r ysbyty i gael triniaeth. Bydd eich tîm gofal yn sicrhau eich bod yn cael y driniaeth a'r gefnogaeth a fydd yn gweithio i chi.

Therapi electrogynhyrfol (ECT)

Defnyddir therapi electrogynhyrfol (ECT yn fyr) yn bennaf fel triniaeth ar gyfer:

  • iselder difrifol os yw bywyd y person mewn perygl a bod angen triniaeth frys arno
  • iselder cymedrol neu ddifrifol pan nad oes unrhyw driniaeth arall wedi helpu.1

Mae ECT yn golygu pasio cerrynt trydan drwy'r ymennydd, felly mae bob amser yn cael ei roi yn yr ysbyty o dan anesthetig cyffredinol. Mae rhai pobl yn cael problemau cof dros dro ar ôl ECT.

Meddyginiaeth lysieuol yw eurinllys (St John's Wort) sydd ar gael mewn siopau bwyd iach a fferyllfeydd ac fe'i defnyddir gan rai pobl i drin iselder. Nid yw fel arfer yn cael ei gynnig na’i gynghori gan feddygon oherwydd:

  • nid yw'n glir beth yw'r dos cywir ar gyfer trin iselder
  • gall gwahanol fathau amrywio o ran eu cynnwys
  • gall achosi problemau difrifol pan gaiff ei gymryd gyda meddyginiaethau eraill (yn enwedig y bilsen atal cenhedlu, cyffuriau gwrthgeulo neu gyffuriau gwrthgonfylsiwn).1

Os hoffech chi gael rhagor o gyngor, dylech ei drafod â'ch meddyg teulu neu fferyllydd.

  • Gwrando. Gall hyn fod yn fwy anodd nag y mae'n swnio. Efallai y bydd yn rhaid i chi glywed yr un peth dro ar ôl tro. Fel arfer mae'n well peidio â chynnig cyngor oni bai y gofynnir amdano, hyd yn oed os yw'r ateb yn ymddangos yn berffaith glir i chi. Os yw iselder wedi'i achosi gan broblem benodol, efallai y gallwch chi helpu i ddod o hyd i ateb neu o leiaf i ffordd o fynd i'r afael â'r anhawster.
  • Treulio amser gydag ef neu hi. Mae'n ddefnyddiol treulio amser gyda rhywun sy'n isel ei ysbryd. Gall gadael iddo ef neu hi wybod eich bod chi yno helpu i'w annog i siarad a pharhau i wneud pethau er mwyn teimlo'n well.
  • Rhoi tawelwch meddwl iddo ef neu iddi hi. Bydd rhywun sy'n isel ei ysbryd yn ei chael hi'n anodd credu y gall byth wella. Gallwch roi sicrwydd iddo ef neu iddi hi y bydd yn gwella, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ailadrodd hyn dro ar ôl tro.
  • Cefnogi ei hunanofal. Gwnewch yn siŵr fod yr unigolyn yn prynu digon o fwyd ac yn bwyta'n rheolaidd, gyda digonedd o ffrwythau a llysiau yn eu deiet. Efallai y gallwch chi eu helpu i fynd allan a gwneud rhywfaint o ymarfer corff neu weithgareddau pleserus eraill, a all fod yn ddewis amgen gwell na defnyddio alcohol neu gyffuriau i ymdopi â'u teimladau.
  • Cymryd yr unigolyn o ddifrif. Os bydd yn gwaethygu ac yn dechrau siarad am beidio â bod eisiau byw neu hyd yn oed awgrymu niweidio ei hun, cymerwch hynny o ddifrif. Gwnewch yn siŵr eu bod yn dweud wrth eu meddyg.
  • Annog yr unigolyn i dderbyn cymorth. Anogwch ef neu hi i weld eu meddyg, i gymryd eu meddyginiaeth, neu i siarad â'u therapydd neu gynghorydd. Os bydd yr unigolyn yn pryderu am eu triniaeth, anogwch ef neu hi i drafod hynny â'r meddyg.
  • Gofalu amdanoch chi'ch hun. Mae cefnogi rhywun sy’n teimlo’n isel ei ysbryd yn gallu bod yn straen emosiynol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles eich hun.

Gall nifer fach o bobl ag iselder geisio lladd eu hunain neu farw drwy hunanladdiad.35 36

Os ydych chi’n pryderu am rywun yna mae’n bwysig siarad â nhw am feddyliau a theimladau hunanladdol a’u cymryd o ddifrif. 

Ni fydd gofyn i rywun a yw'n teimlo'n hunanladdol yn rhoi'r syniad yn ei ben nac yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yn gweithredu ar ei feddyliau.37 38

Os ydych chi'n dal i boeni am rywun, gallwch gysylltu ag un o'r gwasanaethau isod am ragor o gymorth a chyngor.

Mae’r Zero Suicide Alliance yn darparu hyfforddiant ar-lein yn rhad ac am ddim ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac atal hunanladdiad, gan ddarparu man cychwyn i bobl sydd eisiau cefnogi rhywun y maent yn poeni amdano.

Os oes angen cymorth ar unwaith arnoch chi, mae yna wasanaethau a all eich helpu:

Ledled y DU

  • Galwch y Samariaid ar 116 123 (rhadffôn), llinell Gymraeg 0808 164 0123 (7pm – 11pm bob nos) (rhadffôn), e-bostiwch jo@samaritans.org neu ewch i wefan y Samariaid
  • Ffoniwch GIG 111 (rhadffôn) neu ewch i dudalen we'r GIG Where to get urgent help for mental health
  • Cysylltwch â'ch meddyg teulu am apwyntiad brys (gellir gwneud hynny dros y ffôn neu drwy fideo)
  • Cysylltwch â'ch tîm argyfwng iechyd meddwl lleol (os nad ydych chi'n gwybod pwy ydyn nhw, gall GIG 111 eich helpu chi)
  • Dewch o hyd i gymorth ar-lein trwy dudalen we Mind - I Need Urgent Help

Cymru

Yr Alban

Gogledd Iwerddon

  • Ewch i Lifeline neu ffoniwch 0808 808 8000 (rhadffôn)

Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch gadw’ch hun yn ddiogel ar hyn o bryd, ac nad yw cymorth arall yn ddigon i’ch helpu, yna ffoniwch 999 neu ewch i adran damweiniau ac achosion brys eich ysbyty agosaf (adran A&E). Neu, gallwch ofyn i rywun arall ffonio 999 ar eich rhan neu fynd â chi i'r adran damweiniau ac achosion brys.

Association for Postnatal Illness (APNI): Mae APNI yn darparu cymorth i famau ag iselder ôl-enedigol. Mae'n bodoli i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cyflwr ac i annog ymchwil i'w achos a'i natur. Llinell gymorth: 0207 386 0868 (10am–2pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Black, African and Asian Therapy Network (BAATN): Sefydliad annibynnol mwyaf y DU, sydd â’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb mynediad at wasanaethau seicolegol priodol ar gyfer pobl Ddu, Affricanaidd, De Asiaidd a Charibïaidd. Maent yn darparu gwybodaeth am iechyd meddwl, cyfeiriadur lle gall pobl ddod o hyd i therapydd, digwyddiadau, hyfforddiant ac adnoddau eraill. E-bost: connect@baatn.org.uk 

CALM (Campaign against Living Miserably): Ymgyrch genedlaethol sy'n canolbwyntio ar frwydro yn erbyn iselder a hunanladdiad ymhlith dynion ifanc. Llinell gymorth gyfrinachol: 0800 58 58 58 (5pm tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos).

Depression UK: Grŵp cydgefnogaeth cenedlaethol ar gyfer pobl ag iselder. E-bost: info@depressionuk.org 

Men’s Health Forum: Elusen sy’n cefnogi iechyd dynion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, trwy ymchwil, codi ymwybyddiaeth am faterion iechyd dynion, a darparu gwybodaeth a chyngor iechyd. Ffôn: 020 7922 7908.

Mental Health Forum: Cymuned ar-lein lle gall pobl gael cymorth ar y cyd gan bobl sydd â phrofiad tebyg.

Mind: Elusen iechyd meddwl sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl, yn ogystal â gwybodaeth am grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn eich ardal chi. Llinell gymorth: 0300 123 3393 (9am tan 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener). Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar sut i ymdopi ar gyfer pobl sy'n cefnogi rhywun arall. Gall Local Minds eich helpu i ddod o hyd i wasanaeth iechyd meddwl yn agos at eich cartref.

MindOut: Gwasanaeth iechyd meddwl sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, traws a queer (LGBTQ). Maent yn darparu cyngor a gwybodaeth, cymorth ar-lein, cwnsela, cymorth gan gymheiriaid ac eiriolaeth. Ffôn: 01273 234 839 E-bost: info@mindout.org.uk 

GIG: Gwybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl

Papyrus Hopeline UK: Llinell gymorth wedi’i staffio gan bobl broffesiynol; mae’n darparu cymorth, cyngor ymarferol a gwybodaeth i bobl o dan 35 oed sy’n profi meddyliau hunanladdol, neu sy’n poeni am rywun arall. Hopeline: 0800 068 41 41.

Reading Well Agency: Books on Prescription: Cynllun sy'n helpu pobl i reoli eu lles gan ddefnyddio darllen hunangymorth. Mae wedi’i gymeradwyo gan weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, ac fe’i cefnogir gan lyfrgelloedd cyhoeddus.

Relate: Darparwr cymorth perthnasoedd mwyaf y DU. Mae'n cynnig ystod o wasanaethau cwnsela. Ymholiadau: 0300 003 0396.

Samariaid: Elusen genedlaethol wedi’i lleoli yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon sy’n darparu cymorth emosiynol cyfrinachol i unrhyw berson sy'n teimlo'n hunanladdol neu mewn trallod. Llinell gymorth: 116 123. Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7pm – 11pm bob nos) (rhadffôn). E-bost: jo@samaritans.org 

SaneLine: Llinell gymorth genedlaethol y tu allan i oriau arferol sy’n cynnig cymorth emosiynol a gwybodaeth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl. Llinell gymorth: 0300 304 700 (4.30pm tan 10.30pm bob dydd). E-bost: support@sane.org.uk 

Stonewall: Mae'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i gymunedau LGBTQ+, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaethau a grwpiau lleol. Rhadffôn: 0800 050 2020 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30-4:30) E-bost info@stonewall.org.uk 

Switchboard: Llinell gymorth LGBTQ+ sy’n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth ac atgyfeirio i unrhyw un sy’n dymuno trafod materion yn ymwneud â’u rhywioldeb a/neu hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys eu hiechyd meddwl. Maen nhw'n darparu sgwrs ar-lein, llinell ffôn: 0300 330 0360 (o 10am tan 10pm bob dydd) E-bost: chris@switchboard.lgbt 

Young Minds: Elusen genedlaethol sydd wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl pob plentyn a pherson ifanc o dan 25 oed. Parents’ helpline: 0808 802 5544 (9.30am tan 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener).

Zero Suicide Alliance: Mae'n darparu hyfforddiant ar-lein yn rhad ac am ddim ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac atal hunanladdiad, i helpu pobl i gefnogi rhywun y gallent fod yn poeni amdano.

Cynhyrchwyd gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd yr RCPsych a’r Ganolfan Gydweithredol Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl.

Golygydd y Gyfres: Dr Phil Timms 

Rheolwr y Gyfres: Thomas Kennedy

© Hydref 2020 Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

This translation was produced by CLEAR Global (Jan 2023)

Read more to receive further information regarding a career in psychiatry