Ymdopi ar ôl digwyddiad trawmatig
Coping after a traumatic event
Below is a Welsh translation of our information resource on coping after a traumatic event. You can also view our other Welsh translations.
Ymwadiad
Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi digwyddiad trawmatig, neu sy'n cefnogi rhywun sydd wedi bod drwy brofiad o'r fath.
Bydd llawer o bobl yn profi digwyddiadau trawmatig yn ystod eu bywydau. Mae tua un o bob tri oedolyn yn Lloegr yn dweud eu bod wedi profi o leiaf un digwyddiad trawmatig mawr yn ystod eu bywyd.
Isod mae enghreifftiau o ddigwyddiadau trawmatig ‘nodweddiadol’. Mae’n bwysig cofio mai enghreifftiau’n unig yw’r rhain. Mae llawer o brofiadau eraill hefyd yn gallu teimlo’n drawmatig. Os nad yw eich profiad chi wedi'i restru yma, mae'n dal i fod yn ddilys ac yn bwysig, a dylech geisio cymorth a chefnogaeth.
Mae digwyddiadau trawmatig yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- gweld rhywun yn marw neu feddwl eich bod chi'n mynd i farw eich hun
- cael eich anafu'n ddifrifol
- profi trais rhywiol
Gallwch ddod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig mewn un o'r ffyrdd canlynol:
- Yn uniongyrchol – mae wedi digwydd i chi
- Bod yn dyst – rydych chi wedi gweld hyn yn digwydd i rywun arall
- Dysgu – rydych chi wedi darganfod bod y digwyddiad wedi digwydd i rywun sy'n agos iawn atoch chi.
- Dan fygythiad – fe wnaethoch chi brofi digwyddiad fu ‘bron â digwydd’ ac roeddech chi’n meddwl y byddai’n arwain at ganlyniad difrifol, brawychus neu erchyll, ond ni ddigwyddodd hynny. Er enghraifft, diffyg neu ddigwyddiad difrifol ar awyren a achosodd i chi a theithwyr eraill gredu bod yr awyren yn mynd i blymio.
Rydyn ni’n gwybod hefyd bod rhai pobl sy’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig drwy gyfryngau cymdeithasol, teledu, ffilmiau neu luniau yn gallu profi anawsterau iechyd meddwl. Mae hyn yn arbennig o wir os ydyn nhw’n dod i gysylltiad â digwyddiadau trawmatig o ganlyniad i'w gwaith.
Mae rhai pobl yn profi un digwyddiad trawmatig unigol, ond yn anffodus mae llawer o bobl yn profi nifer o ddigwyddiadau trawmatig.
Mae nifer enfawr o ddigwyddiadau trawmatig, ond dyma rai enghreifftiau:
- bod yn dyst i farwolaeth trwy drais
- damweiniau difrifol, ee damwain car
- ymosodiad neu gam-drin corfforol neu rywiol
- problemau iechyd difrifol, bod mewn uned gofal dwys a phrofiadau gofal iechyd trawmatig eraill
- profiadau geni cymhleth neu sy'n peryglu bywyd
- cael diagnosis o salwch sy'n bygwth neu’n newid bywyd
- rhyfel a gwrthdaro
- ymosodiadau gan derfysgwyr
- trychinebau naturiol neu o waith dyn, ee tswnami neu dân. Mae digwyddiad o waith dyn yn cael ei achosi gan berson neu grŵp o bobl ac nid yw'n digwydd yn naturiol.
Mae gan rai pobl swyddi sy'n golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o brofi digwyddiadau trawmatig yn y gwaith. Gall y swyddi hyn gynnwys:
- Gweithwyr gwasanaethau brys (ee swyddogion heddlu, diffoddwyr tân neu barafeddygon)
- Gweithwyr cymdeithasol
- Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (ee staff gofal dwys neu fydwragedd)
- Personél milwrol a gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio mewn parthau rhyfel
- Gyrwyr trên sy'n profi marwolaeth ar y trac
- Cymedrolwyr cynnwys ar-lein proffesiynol sy'n gorfod gweld deunydd sy’n peri gofid fel rhan o'u swydd
Mae pawb yn ymateb yn wahanol i ddigwyddiadau trawmatig, a bydd eich ymateb chi yn bersonol i chi. Fodd bynnag, ar ôl digwyddiad trawmatig, mae'n gyffredin i bobl brofi rhai o'r pethau canlynol:
Atgofion, breuddwydion ac ôl-fflachiau
Efallai y byddwch chi'n cael atgofion gofidus, breuddwydion neu hunllefau am y digwyddiad. Pan fyddwch chi’n effro, efallai y byddwch chi hefyd yn ail-fyw’r digwyddiad fel petai’n digwydd eto. Ôl-fflach yw’r enw am hyn, ac mae’n gallu teimlo’n gwbl real.
Teimlo'n ofidus pan fyddwch chi’n cael eich atgoffa o'r digwyddiad
Efallai y byddwch chi'n teimlo wedi’ch llethu yn emosiynol pan fyddwch chi'n agos i'r man lle y digwyddodd y digwyddiad neu mewn amgylchedd sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad. Efallai na fyddwch chi bob amser yn sylweddoli pryd mae'r emosiynau hyn wedi cael eu sbarduno ynoch chi, neu beth sydd wedi eu hachosi.
Osgoi teimladau a sefyllfaoedd
Efallai y byddwch chi'n osgoi atgofion, meddyliau, teimladau, pethau, pobl a lleoedd sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad. Weithiau, caiff hyn ei alw’n ‘osgoad’.
Anghofio
Efallai na fyddwch chi'n gallu cofio rhannau o'r digwyddiad. Os fyddwch chi’n ceisio cofio rhannau o'r digwyddiad, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo eich bod wedi’ch datgysylltu oddi wrthoch chi'ch hun ac oddi wrth y byd o'ch cwmpas. Datgysylltiad yw’r enw am hyn.
Teimladau anodd
Gall y rhain gynnwys:
- meddyliau negyddol amdanoch chi'ch hun, am bobl eraill neu am y byd
- beio'ch hun neu eraill am beth ddigwyddodd
- ofn dwys, pryder, panig, arswyd, dicter, euogrwydd neu gywilydd. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n flin wrth bobl eraill neu wrthych chi'ch hun, hyd yn oed os nad oes yr un ohonoch chi wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
- ei chael hi’n anodd iawn teimlo hapusrwydd, boddhad na chariad tuag at eraill
Newidiadau yn eich ymddygiad
Gall y rhain gynnwys:
- peidio â gwneud neu ymddiddori mewn pethau roeddech chi'n arfer eu mwynhau
- teimlo ar wahân i, neu wedi ymbellhau oddi wrth, bobl eraill
- ymddwyn yn fyrbwyll, neu mewn ffyrdd sy’n beryglus neu'n hunanddinistriol. Er enghraifft, mynd i amgylcheddau a allai fod yn beryglus neu'n dreisgar
- bod yn ddig ac yn ymosodol tuag at bobl neu bethau
- bod yn orwyliadwrus, ‘ar wyliadwriaeth’ neu’n cael eich dychryn yn hawdd gan synau neu symudiadau sydyn.
Mae rhai o’r symptomau hyn hefyd yn rhan o anhwylder straen wedi trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Fodd bynnag, nid yw profi’r symptomau hyn yn golygu'n awtomatig bod gan rywun PTSD neu PTSD cymhleth. Mae'n bwysig iawn cydnabod nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi digwyddiad trawmatig yn datblygu PTSD. Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi digwyddiad trawmatig yn gweld bod yr effeithiau negyddol yn diflannu dros amser.
Oherwydd ein bod ni i gyd yn unigryw, nid oes amserlen benodol ar gyfer gwella ac adferiad ar ôl digwyddiad trawmatig. Gall gymryd dyddiau, wythnosau, misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd i wella'n llwyr o ddigwyddiad trawmatig. Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld bod eich teimladau anodd yn mynd a dod wrth i chi wella.
Os byddwch chi’n dal i brofi gofid ar ôl mis, ond bod pethau’n gwella’n araf, mae siawns dda y byddwch chi'n gwella ac na fydd angen triniaeth arnoch chi.
Fodd bynnag, os ydych chi’n profi gofid sylweddol sydd ddim yn gwella o gwbl ar ôl mis, neu sy'n dal i fod yn bresennol ar ôl mwy na thri mis, efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol arnoch chi. Gallai hyn hefyd fod yn arwydd eich bod chi’n profi PTSD.
Dyma rai pethau y dylech chi geisio eu gwneud ar ôl profi digwyddiad trawmatig. Nid oes rhaid ichi eu gwneud nhw i gyd ar unwaith.
Rhoi amser i chi'ch hun
Gall gymryd amser i wella ar ôl digwyddiad trawmatig. Efallai y bydd yn cymryd amser i chi dderbyn beth sydd wedi digwydd neu i ddysgu byw gyda'r profiad. Os yw rhywun wedi marw neu os ydych chi wedi colli rhywbeth sy’n arwyddocaol i chi, efallai y bydd angen ichi alaru hefyd. Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i deimlo'n well ar unwaith.
Siarad am y digwyddiad
Ar ôl digwyddiad trawmatig efallai y byddai'n well gennych chi osgoi pethau sy'n eich atgoffa chi o'r digwyddiad, ac osgoi siarad am beth ddigwyddodd. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos y gall siarad am y digwyddiad a'ch teimladau eich helpu i fod yn fwy gwydn. Mae wedi cael ei ddangos bod osgoi atgofion a theimladau yn gwneud i bobl deimlo'n waeth. Yn syml, dylech geisio ‘osgoi osgoi’.
Siarad â phobl eraill sydd wedi profi'r un peth â chi
Efallai byddai o gymorth ichi siarad â phobl eraill sydd wedi profi'r un digwyddiad trawmatig â chi, neu sydd wedi cael profiadau tebyg. Fodd bynnag, mae pobl yn gwella ac yn ymateb i ddigwyddiadau tebyg mewn gwahanol ffyrdd, ac nid oes ffordd 'gywir' neu 'anghywir' o ymateb. Ceisiwch beidio â chymharu eich adferiad chi ag adferiad rhywun arall. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi’n gallu cefnogi pobl eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, gall hynny fod o gymorth hefyd.
I wneud hyn, gallech chwilio am elusen sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi profi'r mathau o bethau rydych chi wedi eu profi. Gofynnwch a oes ganddyn nhw unrhyw gyfleoedd 'cefnogaeth gan gymheiriaid’ neu grwpiau cymorth. Ar ddiwedd yr adnodd hwn rydyn ni wedi awgrymu rhai elusennau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Gofyn am gefnogaeth
Gall gofyn am gefnogaeth gan ffrindiau, teulu neu rywun rydych chi’n ymddiried ynddo eich helpu i ymdopi'n well ar ôl digwyddiad trawmatig. Efallai y byddan nhw'n gallu cynnig cefnogaeth emosiynol, eich helpu gyda thasgau ymarferol, neu dreulio amser gyda chi yn gwneud pethau ‘normal’.
Ceisiwch gadw mewn cysylltiad â phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw
Mae ymchwil wedi dangos bod cael pobl o'ch cwmpas yn ei gwneud hi'n llai tebygol y byddwch chi'n profi iechyd meddwl gwael ar ôl digwyddiad trawmatig.
Os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, efallai hoffech chi geisio treulio mwy o amser gyda theulu neu ffrind agos ar ôl digwyddiad trawmatig. Gallech chi hyd yn oed ystyried symud i mewn gyda ffrindiau neu deulu dros dro, er efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl. Os dydych chi ddim yn gallu treulio amser yng nghwmni pobl, ceisiwch gadw mewn cysylltiad â nhw dros y ffôn neu drwy alwadau fideo.
Os byddwch chi'n gweld nad ydych chi’n gallu bod ar eich pen eich hun o gwbl heb feddwl am y digwyddiad, ystyriwch siarad â gweithiwr proffesiynol.
Cadw at eich trefn neu rwtîn arferol
Efallai y bydd yn cymryd amser i ddychwelyd i drefn sy'n debyg i'r un oedd gennych chi cyn y digwyddiad trawmatig. Fodd bynnag, ceisiwch gadw at eich trefn flaenorol cymaint â phosibl, hyd yn oed os yw hynny'n teimlo'n anodd ar y dechrau.
Er enghraifft, ar ôl y digwyddiad efallai y byddwch chi’n gweld bod eich arferion bwyta ac ymarfer corff yn newid, a'ch bod chi’n cael trafferth cysgu. Gall y newidiadau hyn achosi ichi deimlo'n anffit, yn flinedig neu'n llwglyd, gall hyn effeithio'n negyddol ar eich iechyd meddwl. Os bosibl, ceisiwch fwyta a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a chael digon o gwsg. Gall hyn helpu i gynnal eich iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth yn yr adnodd cysgu'n dda ar ein gwefan.
Sylwi ar sut rydych chi'n teimlo
Am yr ychydig fisoedd cyntaf yn dilyn digwyddiad trawmatig, ystyriwch dalu sylw i sut rydych chi'n teimlo. Os nad ydych chi'n teimlo eich bod chi'n gwella, neu os byddwch chi'n dechrau teimlo'n waeth, dylech siarad â'ch meddyg teulu. Rhowch sylw hefyd i sut rydych chi'n ymddwyn. Os yw eich trefn arferol wedi newid llawer ers y digwyddiad (er enghraifft, os ydych chi wedi rhoi'r gorau i gymdeithasu) efallai y byddai'n ddefnyddiol ichi siarad â gweithiwr proffesiynol.
Gofyn am gefnogaeth gan eich cyflogwr
Os mai fel rhan o’ch swydd y gwnaethoch chi brofi'r digwyddiad trawmatig, efallai y bydd gan eich gweithle systemau cymorth i'ch helpu chi. Os mai y tu allan i'r gwaith y gwnaethoch chi brofi'r digwyddiad trawmatig, efallai y byddwch chi'n dymuno rhoi gwybod i'ch cyflogwr beth sydd wedi digwydd. Bydd hyn yn rhoi cyfle iddyn nhw eich cefnogi chi a bod yn ymwybodol o sut y gallech chi fod yn teimlo.
Gallech chi hefyd ofyn iddyn nhw wneud addasiadau rhesymol i'ch gweithle. Er enghraifft, gwneud yn siŵr nad yw eich gwaith yn dod â chi i gysylltiad pellach â thrawma neu straen dwys, neu addasu eich oriau. Gweler yr adran ar gyfer cyflogwyr yn ddiweddarach yn y ddogfen hon.
Cymryd gofal
Ar ôl digwyddiad trawmatig, mae pobl yn fwy tebygol o gael damweiniau. Gallai hyn fod oherwydd bod profi digwyddiad trawmatig yn gallu ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio, ac achosi ichi gael eich dychryn yn hawdd a theimlo'n llawn tyndra. Cymerwch ofal ychwanegol o amgylch y cartref a phan fyddwch chi'n gyrru. Osgowch ddefnyddio alcohol neu gyffuriau fel ffordd o ymdopi yn dilyn digwyddiad trawmatig. Er eu bod yn gallu gwneud ichi deimlo'n well yn y tymor byr, gallan nhw wneud adferiad yn anoddach yn y tymor hir.
Osgoi gormod o adroddiadau yn y cyfryngau am y digwyddiad
Ar ôl profi digwyddiad trawmatig, gall fod yn demtasiwn gwylio neu ddarllen llawer o bethau amdano ar gyfryngau cymdeithasol neu yn y newyddion. Gall fod yn fwy anodd ei osgoi os oedd y digwyddiad yn gyhoeddus iawn ar y pryd. Er enghraifft, ymosodiadau gan derfysgwyr neu drychinebau naturiol. Fodd bynnag, mae'n well osgoi darllen, gwylio, neu wrando ar lawer o gyfryngau sy'n trafod y digwyddiad, yn enwedig os yw gwneud hynny yn achosi gofid i chi.
Ar gyfryngau cymdeithasol, gallech ‘atal’ geiriau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad. Neu gallech gyfyngu ar yr amser rydych chi’n ei dreulio yn defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol.
Ystyried ceisio cymorth proffesiynol
Nid oes rhaid i chi geisio cymorth iechyd meddwl proffesiynol yn syth ar ôl profi digwyddiad trawmatig. Gall fod yn ddefnyddiol gweld a yw pethau'n gwella ar eu pen eu hunain yn gyntaf.
Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo’n ofidus iawn yn gyson, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi siarad â gweithiwr proffesiynol am beth sydd wedi digwydd i chi. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os nad oes gennych chi ffrind neu aelod o'r teulu rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â nhw.
Fe allech chi ofyn i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio am therapi siarad, neu efallai y gallech chi atgyfeirio eich hun. Fel arall, efallai y byddwch chi'n dewis cael mynediad at therapi siarad preifat. Os fyddwch chi’n gwneud hyn, dylech wirio bod gan y therapydd rydych chi'n ei ddewis y cymwysterau priodol i helpu pobl sydd wedi'u heffeithio gan drawma.
Mae pawb yn delio yn wahanol â phrofiadau trawmatig. Dros amser, bydd llawer o bobl yn gallu gwella ar ôl digwyddiad trawmatig gyda chefnogaeth gan deulu, ffrindiau a'u gweithle.
Hyd yn oed pan fyddwch chi wedi gwella ar ôl digwyddiad trawmatig, mae'n debyg na fyddwch chi’n anghofio amdano. Efallai y byddwch chi'n dal i deimlo emosiynau negyddol yn ei gylch neu'n profi gofid wrth feddwl amdano o dro i dro. Fodd bynnag, ni ddylai'r teimladau hyn fod yn llethol na'ch rhwystro chi rhag mwynhau bywyd.
Dylech ofyn i’ch meddyg teulu, neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, am gymorth:
- os yw eich symptomau’n effeithio ar ansawdd eich bywyd ac
- os bydd yn ymddangos nad yw eich symptomau'n gwella
Os yw'ch symptomau'n ddrwg iawn ac yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd ar ôl mis, dylech siarad â'ch meddyg teulu.
Os yw eich symptomau yn llai difrifol ond wedi para am dros dri mis ac nid yw'n ymddangos eu bod nhw'n diflannu, dylech siarad â'ch meddyg teulu.
Er bod llawer o bobl ddim yn datblygu anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar ôl profi digwyddiad trawmatig, mae rhai pobl yn gwneud hynny.
Mae PTSD yn gyflwr iechyd meddwl difrifol, ac nid yw'n arwydd o wendid. Yn hytrach, mae'n ganlyniad dealladwy i brofi rhywbeth llethol a thrawmatig.
Efallai y bydd bobl sydd â PTSD yn profi symptomau mwy difrifol o'r dechrau ac ni fydd eu meddyliau a'u teimladau gofidus yn diflannu ar eu pennau eu hunain. Gall y symptomau hyn ei gwneud hi'n anodd i'r person fyw ei fywyd fel yr oedd yn arfer gwneud.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau, achosion a thriniaethau ar gyfer PTSD yn ein hadnodd PTSD.
Pa mor gyffredin yw PTSD?
Mewn arolwg cenedlaethol canfuwyd bod tua un o bob 20 oedolyn yn Lloegr wedi sgrinio'n bositif am PTSD. Mae ‘sgrinio’n bositif’ yn golygu bod person wedi cwblhau holiadur symptomau iechyd meddwl i edrych am symptomau PTSD. Awgrymodd eu hatebion i'r holiadur hwn ei bod yn debygol eu bod nhw’n dioddef o PTSD.
Os ydych chi wedi profi digwyddiad trawmatig ac yn cael anawsterau parhaus, neu os ydych chi’n datblygu PTSD, efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at arbenigwr. Bydd hwn yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n arbenigo mewn helpu pobl i ymdopi â thrawma. Er enghraifft, seicotherapydd sy'n darparu therapïau seicolegol sy'n seiliedig ar drawma.
Mae nifer o wahanol driniaethau ar gyfer PTSD. Mae’r rhain yn cynnwys therapïau seicolegol (therapïau siarad) fel:
- therapi ymddygiad gwybyddol sy'n canolbwyntio ar drawma (TF-CBT)
- a dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR).
Efallai y cynigir meddyginiaeth gwrthiselder i chi hefyd:
- ynghyd â therapi seicolegol
- yn lle therapi seicolegol
- os ydych chi'n aros i gael therapi seicolegol, neu os nad yw ar gael
- os nad yw therapi seicolegol yn gweithio i chi.
Mae rhagor o wybodaeth am yr holl driniaethau hyn yn ein hadnodd PTSD.
Gall meddyginiaeth weithiau fod yn ddefnyddiol yn dilyn trawma. Fodd bynnag, dylech drafod hyn â’ch meddyg. Dylai wirio a yw unrhyw feddyginiaeth y mae’n ei rhoi i chi yn helpu, ac adolygu eich cynnydd yn rheolaidd.
Meddyginiaethau cysgu
Os ydych chi'n cael trafferth cysgu yn dilyn digwyddiad trawmatig, efallai y bydd eich meddyg yn rhagnodi meddyginiaeth i’ch helpu i gysgu. Er enghraifft, zopiclone neu zolpidem. Fel arfer, dim ond am gyfnod byr y byddwch chi'n cael cynnig y meddyginiaethau hyn gan nad ydyn nhw'n ateb parhaol ac maen nhw’n gallu bod yn gaethiwus. Mae rhagor o wybodaeth am feddyginiaethau cwsg ar gael yn ein hadnodd cysgu'n dda.
Meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau eraill
Os fyddwch chi’n datblygu PTSD neu gyflwr arall efallai y cynigir meddyginiaethau eraill ichi. Er enghraifft, os byddwch chi’n datblygu iselder, efallai y cynigir cyffuriau gwrthiselder ichi.
Pethau rydych chi’n gallu eu gwneud
Gall y pethau canlynol helpu i gefnogi rhywun sydd wedi bod drwy brofiad trawmatig:
Bod ar gael
Cynigiwch dreulio amser gyda nhw. Os nad ydyn nhw eisiau eich gweld chi, mae gadael iddyn nhw wybod y byddwch chi'n dal yno os ydyn nhw'n newid eu meddwl yn help. Er y dylech osgoi rhoi pwysau arnyn nhw, efallai y bydd angen i chi ofyn fwy nag unwaith cyn iddyn nhw dderbyn eich cefnogaeth.
Gwrando
Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnyn nhw i rannu beth ddigwyddodd os nad ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n gallu rhannu. Os ydyn nhw eisiau siarad, ceisiwch wrando heb dorri ar draws neu rannu eich profiadau eich hun. Er y gallech chi rannu eich profiadau chi gyda bwriadau da, gall hynny weithiau ddirymu teimladau'r person arall.
Gofyn cwestiynau cyffredinol
Os byddwch chi'n gofyn cwestiynau, ceisiwch wneud yn siŵr eu bod yn rhai cyffredinol ac anfeirniadol. Er enghraifft, efallai y gallech chi ofyn ‘Wyt ti wedi siarad â rhywun arall am hyn?’ neu ‘Alla i dy helpu di i chwilio am gymorth ychwanegol?’
Cynnig help ymarferol
Efallai y bydd hi'n fwy anodd iddyn nhw edrych ar ôl eu hunain a chadw at drefn ddyddiol. Gallech gynnig helpu gyda phethau ymarferol, fel glanhau neu baratoi pryd o fwyd.
Gofalu amdanoch chi'ch hun
Os ydych chi'n cefnogi rhywun, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gofalu amdanoch chi'ch hun hefyd. Gall cefnogi rhywun sydd wedi profi digwyddiad trawmatig fod yn heriol yn emosiynol.
Pethau i’w hosgoi
Dweud wrthyn nhw eich bod chi'n gwybod sut maen nhw'n teimlo
Hyd yn oed os ydych chi wedi profi rhywbeth tebyg, mae pobl yn profi sefyllfaoedd mewn ffyrdd gwahanol iawn. Gall cymharu profiadau fod yn annefnyddiol. Cofiwch, hyd yn oed os ydych chi'n gwybod llawer am beth mae rhywun wedi'i brofi, efallai nad ydyn nhw wedi dweud popeth wrthych chi. Oherwydd hyn, efallai na fydd y cymariaethau rydych chi'n eu gwneud yn gywir.
Dweud wrthyn nhw eu bod nhw’n lwcus i fod yn fyw neu’n ddianaf
Yn aml, ni fydd pobl sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn teimlo'n lwcus. Weithiau, gall pobl deimlo’n euog:
- am fod yn fyw os yw eraill wedi marw
- am beidio â chael eu hanafu
- neu am beidio â chael eu hanafu mor ddrwg â phobl eraill.
Mae dweud wrthyn nhw eu bod nhw wedi bod yn lwcus yn gallu gwneud iddyn nhw gymharu eu hunain â phobl eraill. Neu gall wneud iddyn nhw deimlo cywilydd oherwydd sut maen nhw wedi ymateb.
Gwneud yn fach o’u profiad
Ceisiwch osgoi awgrymu y gallai pethau fod wedi bod yn waeth, hyd yn oed os ydych chi'n ceisio gwneud iddyn nhw deimlo'n well. Gall hyn wneud i bobl deimlo nad yw'n bosibl cyfiawnhau eu teimladau.
Gwneud awgrymiadau
Ceisiwch osgoi gwneud awgrymiadau, hyd yn oed os yw'r pethau hynny wedi gweithio i chi yn y gorffennol. Mae pawb yn wahanol, ac mae'n bosibl fod y person rydych chi’n ei adnabod wedi rhoi cynnig o’r blaen ar beth rydych chi'n ei awgrymu. Os ydych chi'n ansicr a yw rhywun rydych chi'n siarad â nhw yn chwilio am awgrymiadau, gofynnwch.
Weithiau mae pobl yn profi digwyddiadau trawmatig tra maen nhw yn y gwaith. Fel y soniwyd eisoes, mae swyddi rhai pobl yn golygu eu bod nhw’n fwy tebygol o brofi digwyddiad trawmatig. I bobl sydd wedi profi digwyddiad trawmatig y tu allan i'r gwaith, gall amgylchedd gwaith cefnogol eu helpu wrth iddyn nhw wella.
Os ydych chi’n gyflogwr, a bod person neu nifer o bobl sy'n gweithio i chi wedi profi digwyddiad trawmatig, mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i'w cefnogi:
Siarad am beth ddigwyddodd
Os mai yn y gwaith y digwyddodd y digwyddiad trawmatig, gall siarad yn agored am y digwyddiad fod yn ddefnyddiol. Mae'n ddefnyddiol hefyd dweud wrth y bobl sy'n gweithio i chi ble i geisio cefnogaeth os ydyn nhw'n cael trafferthion. Er enghraifft, gan eu meddyg teulu neu gan wasanaeth therapi neu gwnsela, os oes un yn eich gweithle.
Cadw llygad ar bethau
Siaradwch â'r person neu'r bobl rydych chi'n eu cyflogi am sut maen nhw'n teimlo. Gall hyn eich helpu i ddarganfod a ydyn nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen, a sylwi ar unrhyw newidiadau ynddyn nhw. Oedwch cyn derbyn 'dw i'n iawn' fel ymateb os ydych chi'n amau bod rhywun yn cael trafferthion. Yn enwedig os yw ymddygiad y person yn awgrymu nad yw pethau’n iawn.
Creu awyrgylch cefnogol
Mae annog perthnasoedd cadarnhaol mewn timau yn gallu hybu awyrgylch cadarnhaol yn y gweithle. Anogwch staff i fynd i weithdai cymorth iechyd meddwl neu i ddefnyddio unrhyw systemau cymorth sydd ar gael yn eich gweithle.
Gwneud addasiadau rhesymol
Siaradwch â'ch gweithiwr i gael gwybod pa addasiadau rhesymol yn y gwaith fyddai efallai yn ei wneud yn fwy cyfforddus. Gallai hyn gynnwys pethau fel oriau hyblyg neu newidiadau bach i'r amgylchedd gwaith. Cofiwch ofyn bob tro beth sydd ei angen ar y gweithiwr yn hytrach na chymryd eich bod chi'n gwybod beth fydd o gymorth.
Cadw cyfrinachedd
Mae'n bwysig nad ydych chi'n rhannu gwybodaeth am y digwyddiad trawmatig a brofodd eich gweithiwr heb gael ei ganiatâd i wneud hynny. Gall cynnal cyfrinachedd helpu i greu awyrgylch diogel a chefnogol.
Gall yr holl gamau gweithredu hyn gael effaith gadarnhaol ar les gweithwyr.
- Coping with stress following a major incident (PDF), NHS (Ymdopi â straen yn dilyn digwyddiad mawr, GIG) – Taflen PDF ar gyfer pobl sydd wedi bod yn rhan o, neu wedi’u heffeithio gan, ddigwyddiad trawmatig.
- Overview of PTSD, NHS (Trosolwg o PTSD, GIG) – Gwybodaeth am PTSD gan y GIG
- PTSD, Mind – Gwybodaeth gan yr elusen Mind am PTSD a PTSD cymhleth
- Overview of complex PTSD, NHS (Trosolwg o PTSD cymhleth, GIG) – Gwybodaeth am PTSD cymhleth gan y GIG
- Coping with trauma, Mind (Ymdopi â thrawma, Mind) – gwybodaeth gan yr elusen Mind am ymdopi â thrawma
- Sut y gall ffrindiau a theulu helpu? Mind – Gwybodaeth am sut i helpu rhywun rydych chi'n ei adnabod sy’n dioddef o PTSD
- Cysylltiadau defnyddiol, Mind – Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i elusennau a sefydliadau eraill sy'n cynnig cymorth i bobl sydd â PTSD
Llinellau cymorth
- Samariaid – Mae’r Samariaid yn elusen sy’n cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth i unrhyw un sydd eu hangen.
- Shout – Mae Shout yn wasanaeth negeseuon testun 24/7, cyfrinachol a rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw un yn y DU sydd angen cefnogaeth.
Elusennau
Mae'r elusennau canlynol yn cynnig cymorth i bobl sydd wedi profi PTSD neu ddigwyddiadau trawmatig:
- PTSD UK – Elusen yn y DU sy’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o PTSD
- Combat Stress – Elusen iechyd meddwl yn y DU sy’n cefnogi cyn-filwyr.
- Cruse Bereavement Care (Gofal mewn Galar Cruse) – Elusen sy’n cynnig cymorth i bobl mewn galar yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Cruse Bereavement Care Scotland – Elusen sy’n hyrwyddo llesiant pobl mewn galar yn yr Alban
Rape Crisis (Argyfwng Trais Rhywiol) – Mae tair elusen argyfwng trais rhywiol yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU sydd wedi cael eu heffeithio gan drais a cham-drin rhywiol:
Victim Support (Cymorth i Ddioddefwyr) – Mae tair elusen yn cynnig cymorth i bobl ledled y DU sydd wedi dioddef troseddau a digwyddiadau trawmatig:
Mae llawer o sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd wedi mynd trwy wahanol brofiadau, a dydyn ni ddim wedi cynnwys pob un ohonyn nhw yma.
Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.
Diolch yn arbennig i PTSD UK, a fu mor garedig â chynnig eu hadborth ar yr adnodd hwn.
Golygydd arbenigol: Yr Athro Neil Greenberg
Arbenigwyr trwy brofiad: Autumn Foord, Brian Hayden ac Ellie Wildbore
Mae ffynonellau llawn ar gyfer yr adnodd hwn ar gael ar gais.
This translation was produced by CLEAR Global (Mar 2026)