Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl 

Mental Health Tribunals

Below is a Welsh translation of our information resource on Mental Health Tribunals. You can also view our other Welsh translations.

Ymwadiad

Darllenwch yn ofalus yr ymwadiad sy'n cyd-fynd â phob cyfieithiad. Mae'n egluro na all y Coleg warantu ansawdd y cyfieithiadau, na'u bod o reidrwydd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobl sy’n cael eu cadw (sectioned) o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn yr ysbyty neu yn y gymuned, ac sy’n gwneud cais am neu ar fin mynd i Dribiwnlys Iechyd Meddwl. Mae’n egluro:

  • Beth yw Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl
  • Eich hawliau
  • Beth i’w ddisgwyl ar y diwrnod
  • Cael canlyniadau eich gwrandawiad
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, gan fod deddfau gwahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ynghylch cadw rhywun o dan ddeddfau iechyd meddwl.

Mae Tribiwnlys Iechyd Meddwl yn gyfarfod ffurfiol lle mae grŵp o bobl yn trafod y penderfyniad i barhau i ofalu amdanoch chi a’ch trin yn yr ysbyty. Yng Nghymru, caiff Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl hefyd eu galw’n Dribiwnlysoedd Adolygu Iechyd Meddwl.

Gall pobl sy'n cael eu cadw o dan adran o’r Ddeddf Iechyd Meddwl wneud cais am Dribiwnlys Iechyd Meddwl. Mae cael eich cadw o dan adran yn golygu eich bod yn cael eich anfon i'r ysbyty p'un a ydych chi'n cytuno â hynny ai peidio, ac yn gorfod aros yn yr ysbyty am gyfnod o amser. Mae rhai adrannau yn caniatáu i chi gael eich trin yn y gymuned, hy gartref.

Gallwch wneud cais am Dribiwnlys Iechyd Meddwl os hoffech chi i'r gorchymyn i’ch cadw gael ei drafod neu ei ailystyried.

Gelwir y grŵp o bobl sy’n gwneud y penderfyniad mewn Tribiwnlys Iechyd Meddwl yn ‘banel annibynnol’, sy’n golygu nad oes ganddynt gysylltiad â’ch ysbyty. Weithiau caiff y Tribiwnlys Iechyd Meddwl hefyd ei alw'n wrandawiad.

Yn Lloegr, mae gennych chi'r hawl i ddewis cael eich gwrandawiad drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Yng Nghymru, gallwch nodi sut y byddai'n well gennych chi i’ch gwrandawiad gael ei gynnal, ond ni fydd eich dewis yn cael ei warantu bob amser.

Os ydych chi'n gwneud cais am wrandawiad, byddwch yn cael ffurflen gais lle gallwch nodi a ydych chi'n dymuno i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn yr ysbyty neu drwy fideo, neu nad ydych chi am wneud dewis.

Nid yw p'un a ydych chi’n cael gwrandawiad drwy fideo neu wyneb yn wyneb yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r penderfyniad a wneir am eich gorchymyn cadw.

Mae pryd y gallwch wneud cais am Dribiwnlys Iechyd Meddwl yn dibynnu ar yr Adran a ddefnyddir i'ch cadw. Gallwch ofyn i staff ysbyty ar y ward pa hawliau sydd gennych chi i wneud cais i'r tribiwnlys. Neu gallwch ofyn i Swyddfa'r Ddeddf Iechyd Meddwl os oes un yn eich ysbyty.

Mae gennych chi hawl i wrandawiad p’un a ydych chi:

Mae tri o bobl ar banel y Tribiwnlys Iechyd Meddwl:

  1. Barnwr, sydd yn gyfrifol am y gwrandawiad.
  2. Meddyg Tribiwnlys - Seiciatrydd Ymgynghorol fydd y person hwn. Mae Meddyg y Tribiwnlys yn annibynnol, sy’n golygu na fydd wedi bod yn gysylltiedig â’ch gofal o’r blaen.
  3. Aelod Arbenigol – Bydd gan y person hwn brofiad o weithio ym maes gofal iechyd meddwl. Bydd ganddo hefyd wybodaeth fanwl am y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae gan y panel hawl gyfreithiol i wneud rhai pethau neu i wneud rhai penderfyniadau. Bydd y pwerau sydd ganddyn nhw yn dibynnu ar yr Adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl a defnyddir i’ch cadw. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yma.

Mae'r Tribiwnlys Iechyd Meddwl yn gyfarfod cyfreithiol, yn debyg i wrandawiad mewn llys. Oherwydd hyn, mae angen i'r lleoliad a'r gweithdrefnau fod yn ffurfiol iawn.

Pan fyddwch chi’n mynd i Dribiwnlys Iechyd Meddwl mae gennych chi hawl i gymorth cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim. Efallai y byddwch yn clywed y term cyfreithiwr yn cael ei ddefnyddio wrth gyfeirio at y person hwn.

Dylai swyddfa'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn eich ysbyty roi rhestr i chi o gynrychiolwyr cyfreithiol y gallwch ddewis o'u plith. Bydd gan gynrychiolwyr cyfreithiol mewn Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl wybodaeth arbenigol am gyfraith iechyd meddwl.

Gall eich cynrychiolydd cyfreithiol wneud nifer o bethau i’ch cefnogi drwy gydol y Tribiwnlys Iechyd Meddwl gan gynnwys:

  • eich cynghori ynghylch pryd i wneud cais am Dribiwnlys a sut i roi eich tystiolaeth
  • eich helpu i ddeall rôl y Tribiwnlys a chyflwyno eich achos yn y gwrandawiad
  • eich helpu i benderfynu a ydych am gael eich gwrandawiad drwy fideo neu wyneb yn wyneb.
Gall eich cynrychiolydd cyfreithiol ymweld â chi yn yr ysbyty neu siarad â chi dros y ffôn.

Gallwch gynrychioli eich hun, ond bydd panel y Tribiwnlys yn gofyn i'ch meddyg a fyddwch chi'n gallu gwneud hyn yn iawn. Byddant yn gofyn a oes gennych chi’r ‘galluedd’. Mae hyn yn golygu:

  • gallu deall a chofio gwybodaeth, a
  • gallu gwneud penderfyniadau ar sail y wybodaeth honno.

Weithiau, dywedir bod pobl â ‘diffyg galluedd’ i wneud penderfyniadau penodol. Efallai y bydd eich meddyg yn penderfynu nad oes gennych chi'r galluedd i gynrychioli eich hun.

Yn gyffredinol ni argymhellir eich bod yn cynrychioli eich hun, gan fod Tribiwnlysoedd Iechyd Meddwl yn gyfarfodydd cyfreithiol. Gall cynrychiolydd cyfreithiol eich helpu i ddeall y materion y mae’r Tribiwnlys yn eu trafod, a bydd yn helpu i’ch cynrychioli chi orau.

Efallai y byddwch yn fwy tebygol o gael eich rhyddhau os oes gennych chi gynrychiolaeth gyfreithiol nag os ydych chi'n cynrychioli eich hun.

Os ydych chi'n cael eich cadw o dan Adran 2, bydd Meddyg y Tribiwnlys bob amser yn trefnu i siarad â chi cyn y gwrandawiad. Gelwir hwn yn ‘archwiliad cyn gwrandawiad’, ac fel arfer dim ond chi a Meddyg y Tribiwnlys fydd yno.

Mae'n debyg y bydd hyn yn digwydd ar-lein, ac os ydych chi yn yr ysbyty bydd staff y ward yn mewngofnodi ar eich rhan. Os ydych chi yn y gymuned, bydd eich cydlynydd gofal yn helpu i drefnu hyn. Os cynhelir y cyfweliad wyneb yn wyneb bydd hyn mewn ystafell breifat, ac os cynhelir y cyfweliad ar-lein dylid cynnig lle preifat i chi ar ei gyfer.

Gallwch ddewis a hoffech chi gael rhywun arall gyda chi, er enghraifft nyrs, ac efallai y bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn gallu ymuno â chi os gellir trefnu hynny. Os ydych chi wedi ypsetio neu'n ofidus, neu'n teimlo efallai y byddwch chi'n ypsetio yn ystod y cyfarfod, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gael person cefnogol yn y cyfarfod gyda chi.

Os nad ydych chi'n cael eich cadw o dan Adran 2 ac rydych chi’n dymuno cael cyfweliad gyda Meddyg y Tribiwnlys, rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd cyfreithiol ofyn am hyn:

  • yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio ffurflen T129 y gall Gweinyddwr y Ddeddf Iechyd Meddwl ei rhoi i chi
  • o leiaf 14 diwrnod cyn diwrnod gwrandawiad y Tribiwnlys

Cyn i'r gwrandawiad ddechrau, bydd y panel a'ch cynrychiolydd cyfreithiol yn darllen yr adroddiadau y mae eich tîm gofal wedi'u hysgrifennu amdanoch chi. Bydd y rhain yn cynnwys:

  • adroddiad meddygol
  • adroddiad nyrsio
  • adroddiad gan eich cydlynydd gofal.
Gall pryd y bydd y panel yn cael yr adroddiadau hyn yn dibynnu ar yr Adran a ddefnyddir i’ch cadw.
Gallwch ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol i gael gweld yr adroddiadau hyn eich hun cyn y gwrandawiad. 

Os yw’r gwrandawiad ar-lein

Bydd nyrs yn eistedd gyda chi ac yn eich helpu i fewngofnodi. Ar y sgrin, byddwch yn gweld y tri aelod o'r panel a fydd yn gwrando ar eich achos, ac efallai y byddwch hefyd yn gweld eich cyfreithiwr, eich meddyg a'ch cydlynydd gofal ar y sgrin.

Isod mae diagram sy’n dangos sut y gallai gwrandawiad ar-lein ymddangos ar y sgrin:

Os yw’r gwrandawiad yn yr ysbyty

Cewch ofyn am gael gweld yr ystafell lle cynhelir gwrandawiad y Tribiwnlys cyn y cyfarfod, fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Isod mae diagram sy’n dangos ym mha drefn y dylai pobl fod yn eistedd pan fyddwch chi mewn Tribiwnlys wyneb yn wyneb:

Byddwch yn eistedd gyferbyn â'r Barnwr, wrth ochr eich cynrychiolydd cyfreithiol.

Ar ryw adeg, efallai y gofynnir i chi a ydych chi'n cytuno i arsylwr eistedd i mewn ar eich gwrandawiad. Byddai hwn yn aelod o'ch tîm clinigol, fel seiciatrydd neu nyrs dan hyfforddiant, sy'n dysgu am wrandawiadau tribiwnlys. Ni fydd gan yr arsylwr unrhyw fewnbwn i'ch achos, a bydd yno i'w wylio yn unig.

Digwyddiadau’r gwrandawiad

P’un a gynhelir y gwrandawiad ar-lein neu wyneb yn wyneb, bydd yr un pethau’n digwydd yn y drefn hon:

  1. Bydd y Barnwr yn dechrau drwy gyflwyno'r panel i chi.
  2. Bydd yn gofyn i aelodau eich tîm clinigol gyflwyno eu hunain.
  3. Fesul un bydd aelodau'r panel yn gofyn cwestiynau i'r seiciatrydd, i nyrs y ward ac i'r cydlynydd gofal.
  4. Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol wedyn yn gofyn cwestiynau i'r seiciatrydd, nyrs y ward a'r cydlynydd gofal.

Mae rhagor o wybodaeth am y cwestiynau hyn ymhellach ymlaen yn yr adnodd hwn.

Bydd y mathau o bethau a allai fod o gymorth i chi yn eich gwrandawiad yn dibynnu arnoch chi. Dyma enghreifftiau o bethau a allai wneud y gwrandawiad yn haws i chi:

  • Siarad yn gyntaf ac yna gadael - Os byddwch yn dewis gwneud hyn, bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn parhau i gyflwyno'ch achos a holi'r tîm clinigol ar ôl i chi adael.
  • Cymryd seibiannau - Dywedwch wrth eich cynrychiolydd cyfreithiol cyn i'r gwrandawiad ddechrau pryd y byddwch am gael seibiant. Er enghraifft, hanner ffordd drwodd, ar ôl 20 munud ac ati.
  • Eistedd wrth ochr eich nyrs fel y gallwch ddweud wrthi os ydych chi’n teimlo wedi'ch llethu.
  • Mynd â phapur a beiro i wneud nodiadau. Cofiwch fod recordio'r gwrandawiad ar unrhyw ddyfais yn drosedd.
  • Mynd ag unrhyw beth sy'n eich helpu i reoli straen, ee pêl straen neu rywbeth sy'n dod â chysur i chi.

Os byddwch chi'n dymuno gadael ar unrhyw adeg, gallwch godi eich llaw i ddangos hynny. Cofiwch nad oes raid i chi siarad, a gallwch wrando os byddai'n well gennych chi wneud hynny.

Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn eich cynghori ar y ffordd orau i chi wneud eich barn yn glir i'r Tribiwnlys. Bydd yn ymwybodol iawn na fyddwch chi efallai wedi arfer siarad fel hyn â grŵp o bobl ddieithr.

Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn gofyn cwestiynau i chi cyn i aelodau'r panel ofyn unrhyw beth i chi. Efallai y byddwch yn dymuno siarad â phanel y Tribiwnlys yn gynnar yn y gwrandawiad, fel eich bod yn siŵr eu bod yn gwybod beth rydych chi ei eisiau. Holwch eich cynrychiolydd cyfreithiol am hyn. Efallai y cewch wahoddiad hefyd i gael y gair olaf ar ddiwedd y gwrandawiad.

Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn eich cynghori ynghylch sut a phryd y cewch ofyn cwestiynau. Hyd yn oed os ydych chi'n anghytuno’n gryf â beth sy’n cael ei ddweud, dylech geisio peidio â thorri ar draws y seiciatrydd, y nyrs neu’r cydlynydd gofal pan fyddant yn ateb cwestiynau gan y panel neu gan eich cynrychiolydd cyfreithiol.

Yn yr un modd, ni ddylen nhw dorri ar eich traws chi pan fyddwch chi’n siarad neu'n ateb cwestiwn. Os byddwch yn clywed rhywbeth yr ydych yn anghytuno ag ef, efallai y byddwch yn dymuno gwneud nodyn ohono fel y gallwch ei drafod unwaith y bydd y person wedi gorffen siarad.

Nid oes rhaid i chi ddod i’ch gwrandawiad Tribiwnlys os nad ydych chi’n dymuno gwneud hynny. Dywedwch wrth eich nyrs, eich meddyg a’ch cynrychiolydd cyfreithiol os mai dyma fyddai orau gennych.

Os ydych chi eisiau i banel y Tribiwnlys wybod beth rydych chi’n dymuno ei gael o’r gwrandawiad, gallech hefyd ysgrifennu nodyn a’i roi i’ch cynrychiolydd cyfreithiol. Bydd yn dweud wrth y Barnwr yn y gwrandawiad eich bod wedi gofyn iddo wneud hyn, a bydd hynny’n golygu y gall y gwrandawiad fynd yn ei flaen.

Bydd eich barn a'ch safbwyntiau'n dal i gael eu clywed gan y Tribiwnlys.

Os ydych chi'n penderfynu eich bod am fynd i'r gwrandawiad, gallwch aros cyhyd ag y dymunwch. Gwnewch yn siŵr, os byddwch yn gadael yn gynnar, bod eich cynrychiolydd cyfreithiol yn gwybod beth rydych chi’n dymuno ei gael o'r gwrandawiad.

Gall rhai o'r cwestiynau yn y gwrandawiad swnio'n gymhleth. Mae hyn oherwydd eu bod yn ymwneud â'r cyfiawnhad cyfreithiol dros eich cadw. Isod mae'r math o gwestiynau a geiriau y byddwch chi'n eu clywed.

Efallai y byddwch yn sylwi bod aelod y panel a’ch cynrychiolydd cyfreithiol yn ysgrifennu nodiadau pan fydd rhywun yn rhoi ateb i’w cwestiynau.

Cwestiynau y gellid eu gofyn i'ch meddyg neu'ch nyrs

A yw'r claf yn dioddef o anhwylder meddwl?

Os cawsoch eich derbyn i’r ysbyty o dan Adran 2, sef Adran a ddefnyddir i’ch cadw os bydd angen i chi gael eich asesu’n iawn, efallai na fyddwch wedi cael diagnosis clir pan gawsoch eich derbyn. Yn y gwrandawiad, bydd eich meddyg yn cael ei holi am eich diagnosis presennol.

A yw natur anhwylder y claf yn golygu bod angen ei gadw i gael triniaeth?

Mae 'natur' yn golygu'r math o anhwylder sydd gennych chi. Bydd hyn yn cynnwys:

  • eich diagnosis
  • a ydych chi'n gwella gyda thriniaeth
  • eich barn chi am driniaeth.

A yw graddau anhwylder y claf yn golygu bod angen ei gadw i gael triniaeth?

Mae hyn yn ymwneud â pha mor dda ydych chi ar hyn o bryd, ac efallai y bydd eich meddyg yn siarad am unrhyw symptomau sydd gennych chi.

A yw asesiad y claf wedi'i gwblhau?

Dim ond os ydych chi’n cael eich cadw o dan Adran 2 y gofynnir y cwestiwn hwn. Mae gan yr ysbyty hyd at 28 diwrnod i wneud asesiad, ac mae’n ofyniad cyfreithiol ei fod yn cael ei wneud o fewn yr amser hwn.

Beth yw'r driniaeth briodol ar gyfer y claf?

Dyma'r holl bethau y mae'r ysbyty, neu'ch tîm cymunedol, yn eu gwneud i geisio'ch helpu. Mae’n cynnwys:

  • meddyginiaeth
  • gofal nyrsio
  • therapi galwedigaethol
  • seicoleg
  • llety
  • cymorth gofalwyr
  • cymorth cyflogaeth
  • cyngor budd-daliadau
  • gwasanaethau cymdeithasol.

Mae hefyd yn cynnwys pa drefniadau dilynol a wneir pan fyddwch chi'n gadael yr ysbyty. Byddai hyn fel arfer yn cynnwys Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, Tîm Argyfwng neu Dîm Triniaeth yn y Cartref.

Beth yw’r risg os caiff gorchymyn cadw'r claf ei ddiddymu?

Mae tri chategori o risg. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Risg i'ch iechyd – Mae hyn yn ystyried a fyddai eich iechyd yn gwaethygu pe bai eich gorchymyn cadw yn cael ei ddiddymu. Bydd angen i’r cwestiwn hwn ystyried:
    • eich iechyd meddwl ac emosiynol, megis a yw eich symptomau yn peri gofid i chi
    • eich iechyd corfforol, os nad ydych chi wedi gallu gofalu amdanoch eich hun.

Os na fyddwch chi'n cymryd meddyginiaeth, gall eich symptomau waethygu. Mae’r cwestiwn hwn hefyd i helpu’r panel i ddeall a oeddech chi’n debygol o roi’r gorau i gymryd eich meddyginiaeth ai peidio.

  • Risg i'ch diogelwch – Mae hyn yn ystyried a allech chi fod mewn sefyllfa anniogel pe bai eich gorchymyn cadw yn cael ei ddiddymu. Gallai hyn fod oherwydd risg o hunan-niweidio neu hunanladdiad. Neu gallai fod oherwydd eich bod yn rhoi eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus pan fyddwch chi’n sâl.
  • Risg i eraill – Mae hyn yn ystyried a allech chi roi rhywun arall mewn perygl pe bai eich gorchymyn cadw yn cael ei ddiddymu. Er enghraifft, os byddwch chi'n mynd yn fygythiol ar lafar neu'n gorfforol pan fyddwch chi'n sâl.

Cwestiynau i'ch cydlynydd gofal

Os oes gennych chi gydlynydd gofal, bydd yn rhywun o'ch tîm iechyd meddwl cymunedol. Bydd yn gwybod am eich sefyllfa gymdeithasol, megis lle rydych chi'n byw a pha mor dda y gallwch chi ofalu amdanoch eich hun, ac unrhyw drefniadau dilynol ar eich cyfer ar ôl i chi adael yr ysbyty.

Efallai y bydd y cwestiynau i'ch cydlynydd gofal yn debyg i'r rhai a ofynnir i'ch meddyg a'ch nyrs. Fodd bynnag, caiff ei holi hefyd am eich llety, cyllid, a beth yw barn eich perthynas agosaf.

Cwestiynau i nyrs y ward

Os ydych chi, neu os ydych chi wedi bod, yn glaf mewnol ar ward, efallai caiff nyrs y ward ei holi am:

  • eich ymddygiad ar y ward
  • sut rydych chi’n gofalu amdanoch chi'ch hun
  • sut rydych chi'n dod ymlaen â’r staff a chleifion eraill
  • sut mae'n ymddangos eich bod wedi ymateb i unrhyw driniaeth.

Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn gofyn i’r panel ddweud yn union pam y mae’n rhaid i chi barhau i gael eich cadw o dan yr Adran os mai dyma beth y maen nhw'n ei argymell.

Ar ôl i’r panel a’ch cynrychiolydd cyfreithiol ofyn yr holl gwestiynau, bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol wedyn yn:

  • rhoi crynodeb o'ch achos i'r panel ynghylch pam y dylid diddymu'r gorchymyn cadw
  • neu, yn gofyn am argymhelliad os mai dyna beth yr ydych chi'n ei ddymuno.

Mae argymhelliad yn gais a allai eich helpu i gael eich rhyddhau o'ch Adran yn y dyfodol. Gallai fod yn rhywbeth fel gofyn am gyfnod o absenoldeb, neu ofyn am gael symud i ysbyty yn nes at eich cartref.

Unwaith bydd yr holl dystiolaeth wedi cael ei chyflwyno, ac ar ôl i’ch cynrychiolydd cyfreithiol siarad, gofynnir i bawb ar wahân i’r panel adael yr ystafell ac aros. Os ydych chi ar-lein, gofynnir i chi adael y cyfarfod ac yna ailymuno yn nes ymlaen.

Mae'r panel yn aros yn ystafell y gwrandawiad ac yn penderfynu a yw'r meini prawf cyfreithiol ar gyfer cadw wedi cael eu bodloni.

Maen nhw'n ystyried y wybodaeth yn yr adroddiadau, tystiolaeth eich tîm gofal a beth rydych chi a'ch cynrychiolydd cyfreithiol wedi'i ddweud. Mae hyn yn cymryd tua 15-30 munud.

Gall y panel benderfynu gwneud un o nifer o bethau:

  • Rhyddhau ar unwaith – Bydd hyn yn digwydd os yw’r panel yn teimlo nad yw’r meini prawf ar gyfer eich cadw o dan Adran wedi cael eu bodloni. Os bydd hyn yn digwydd gallwch gytuno i aros yn yr ysbyty heb orfodaeth, neu gallwch ddewis gadael yr ysbyty ar unwaith. Unwaith y bydd hyn yn digwydd, gallwch ddewis gwneud penderfyniadau am y driniaeth y byddwch yn ei chael.
  • Gohirio rhyddhau – Mae hyn yn golygu y bydd yr Adran yn cael ei diddymu ar ddyddiad penodol yn y dyfodol, fel arfer o fewn ychydig ddyddiau. Mae hyn fel arfer er mwyn caniatáu amser ar gyfer gwneud trefniadau dilynol a fydd yn eich helpu i gael cefnogaeth well.
  • Parhau â'r Adran – Mae hyn yn golygu y byddwch yn parhau i fod o dan Adran. Gall y Tribiwnlys wneud argymhellion i'ch tîm gofal am eich gofal parhaus. Neu efallai y byddant yn awgrymu eich bod yn parhau i fod yn destun Adran gyda'ch cynllun triniaeth presennol.
  • Parhau â'r Adran, ond awgrymu fod eich tîm gofal yn ystyried Gorchymyn Triniaeth Gymunedol (GTG neu CTO) – Yn yr achos hwn, byddech yn parhau i fod yn destun Adran, ond yn cael eich gofal yn y gymuned. Gallwch ofyn i'ch tîm am ragor o wybodaeth am hyn.

Os ydych chi'n destun 'gorchymyn cyfyngu', mae'n rhaid ystyried barn yr Ysgrifennydd Gwladol er mwyn gwneud penderfyniad am eich gorchymyn cadw. Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn rhoi cyngor i chi am hyn, ac mae gwybodaeth bellach am hyn ar wefan Rethink.

Unwaith y byddwch wedi dweud wrth y panel beth rydych chi ei eisiau, cewch adael a ni fydd rhaid i chi ddod yn ôl. Gall eich cynrychiolydd cyfreithiol ddweud wrthych chi wedyn beth yw penderfyniad y panel.

Fel arfer, gall y panel ddweud a ydych chi'n cael eich rhyddhau ai peidio ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Mae'n rhaid i’r panel wedyn ysgrifennu a dweud wrth eich cynrychiolydd cyfreithiol pam y gwnaethant y penderfyniad hwnnw. Bydd hyn yn cymryd ychydig ddyddiau.

Mae’n bosibl na fydd canlyniad y Tribiwnlys yn cyd-fynd â beth roeddech chi ei eisiau neu’n ei ddisgwyl. Os yw hyn yn wir, efallai y byddwch yn dymuno cael Tribiwnlys arall. Bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol yn gallu dweud pryd y gallwch wneud hyn nesaf, neu beth i'w wneud os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad panel y Tribiwnlys.

Efallai y byddwch chi'n teimlo bod y Tribiwnlys wedi bod o gymorth hyd yn oed os na chafodd yr Adran ei diddymu. Er enghraifft, os oedd yn ddefnyddiol i chi glywed pam mae'r tîm clinigol yn eich cadw, neu eich bod yn teimlo eich bod wedi cael gwrandawiad teg.

Un cwestiwn defnyddiol i'w ofyn i'ch tîm gofal yw: "Beth fyddai angen digwydd i'r tîm ddiddymu’r Adran yn y dyfodol?". Efallai y bydd yr ateb yn eich helpu i ddeall beth allwch chi ei wneud gyda'ch tîm wrth symud ymlaen er mwyn cael diddymu'r adran.

Weithiau nid yw gwrandawiadau yn mynd yn eu blaenau. Efallai y byddwch yn clywed hyn yn cael ei ddisgrifio fel ‘y panel yn cael ei ohirio’.

Gallai hyn ddigwydd os:

  • bydd gwybodaeth ar goll ac y byddai hynny’n golygu na all eich achos gael ei glywed yn deg. Er enghraifft, oherwydd nad yw adroddiad wedi'i wneud
  • nad yw person sy’n eich adnabod yn dda (meddyg, nyrs neu gydlynydd gofal) ar ddyletswydd ac ni all neb gamu i mewn.

Os na fydd eich gwrandawiad yn mynd yn ei flaen, dylai gael ei aildrefnu. Gallai hyn ddigwydd o fewn ychydig ddyddiau neu gallai gymryd hyd at ychydig wythnosau. Bydd yn dibynnu ar yr Adran a ddefnyddir i’ch cadw, a yw'r bobl sydd angen bod yn rhan o'ch gwrandawiad ar gael, ac a yw'r gwrandawiad yn cael ei gynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Sefydliadau eraill

    Gallwch hefyd ddod o hyd i wasanaethau lleol Mind ar eu gwefan.

    Cynhyrchwyd y wybodaeth hon gan Fwrdd Golygyddol Ymgysylltu â’r Cyhoedd (PEEB) Coleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'n adlewyrchu'r dystiolaeth orau a oedd ar gael ar adeg ysgrifennu'r ddogfen hon.

    Awduron arbenigol: Dr Joan Rutherford a’r Barnwr Sarah Johnston

    Diolch i Sarah Markham, arbenigwraig trwy brofiad, a helpodd i ddatblygu’r adnodd hwn.

    Mae ffynonellau llawn ar gael ar gais.

    This translation was produced by CLEAR Global (Dec 2023)

    Read more to receive further information regarding a career in psychiatry