22 January 2021
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cynllun iaith Gymraeg dros dro.
Byddwn yn monitro ac yn sicrhau bod ein digwyddiadau a'n gweithrediadau yn hygyrch; a'n nod, o dan y cynllun iaith Gymraeg, yw cael effaith gadarnhaol ar y gwasanaethau a gynigir drwy Goleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru.
Mae cyflwyno cynllun iaith Gymraeg ffurfiol yn gam pwysig, caiff ei fonitro a bwriedir iddo gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan ein pwyllgor gweithredol ym mis Mawrth. Bydd cyhoeddiad pellach yn dilyn ym mis Mawrth.
Bydd y cynllun yn cael ei adolygu'n ffurfiol yn flynyddol, a byddwn yn cyhoeddi adborth ac unrhyw newidiadau yn ein hadroddiad blynyddol.