Newyddion Cymru
24 February 2021
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru yn falch o gefnogi datganiad gyda sefydliadau eraill ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn galw am weithredu ar anghydraddoldebau iechyd.
'Mae llawer o benderfynyddion yn ein bywydau sy'n dylanwadu ar ein hiechyd meddwl: o rianta cadarnhaol a lle diogel i fyw ynddo, i brofi camdriniaeth, gormes, gwahaniaethu, neu dyfu i fyny mewn tlodi.
Mae penderfynyddion iechyd meddwl yn rhyngweithio ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, gan roi rhai pobl mewn perygl llawer uwch o iechyd meddwl gwael nag eraill. (ffynhonnell: Canolfan Iechyd Meddwl, Taflen Ffeithiau Anghydraddoldebau)
Datganiad Llawn i'r Wasg
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru wedi ysgrifennu heddiw (22 Chwefror 2021) ar ran fforwm polisi iechyd a gofal cymdeithasol Conffederasiwn GIG Cymru at Brif Weinidog Cymru i alw am strategaeth draws-lywodraethol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ehangach yng Nghymru.
Mae’r pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at y bwlch cynyddol mewn anghydraddoldebau iechyd a’r cysylltiad cynyddol rhwng tlodi a chanlyniadau iechyd gwael. Mae 34 o fudiadau yng Nghymru, gan gynnwys colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain, Ymchwil Canser Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at effaith gynyddol salwch cronig hirdymor ar ein cymdeithas.
Mewn arolwg barn diweddar1 a gomisiynwyd gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer lansio Cynghrair Anghydraddoldebau Iechyd y DU, daethpwyd ar draws pryder cyffredinol ymysg y cyhoedd ynghylch anghydraddoldebau iechyd ac roedd cefnogaeth aruthrol i weithredu. Yng Nghymru:
Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2021. Felly, rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i weithredu ar y cyd i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol gyda chynllun gweithredu a cherrig milltir clir, gan weithio ar y cyd â phartneriaid ar draws pob sector.
Mae angen strategaeth ehangach oherwydd mae anghydraddoldeb iechyd yn ganlyniad i nifer o ffactorau amrywiol. Ni ddylai fod yn rhan o bortffolio un gweinidog yn unig; dylid rhoi blaenoriaeth i fynd i’r afael â hyn yn holl weithgarwch y llywodraeth, a dylai fod yn flaenoriaeth i bob sefydliad.
Dydyn ni ddim yn credu fod gan ofal cymdeithasol a’r GIG yr hyn sydd ei angen i wneud pob un o’r newidiadau radical eraill rydyn ni’n gwybod sy’n hanfodol, gan gynnwys gweithredu i fynd i’r afael â thai gwael, mynediad at addysg, a lleihau tlodi, sy’n berthnasol i amrywiaeth o bortffolios y llywodraeth.
Dywedodd Dr Olwen Williams, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru:
‘Mae degawd wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ‘Canlyniadau Iechyd Tecach i Bawb.’ Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwnnw, mae anghydraddoldebau iechyd cynyddol wedi cael eu hamlygu a’u dwysáu gan bandemig COVID-19. Allwn ni ddim fforddio dirywiad pellach – os yw ein cenedl yn mynd i ffynnu, mae angen i ni gymryd camau i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef salwch.’
Ychwanegodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain:
‘Mae’r pandemig COVID-19 wedi helpu i amlygu ymhellach yr anghydraddoldebau iechyd sylweddol a oedd eisoes yn bodoli ledled Cymru. Mae llawer mwy o farwolaethau o COVID-19 wedi bod mewn cymunedau tlotach, ac mae cyflogaeth, tai, addysg ac amddifadedd wedi cyfrannu’n sylweddol o ran gallu rhai rhannau o’n gwlad i wrthsefyll y feirws. Rydyn ni am weld Llywodraeth Cymru yn creu cynllun cadarn, tymor hir i helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn a helpu i lunio dyfodol iachach i bawb yng Nghymru.’
Dywedodd Stuart Ropke, prif weithredwr, Tai Cymunedol Cymru:
‘Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio pwysigrwydd y cartref. Mae tystiolaeth gref bod cysylltiad rhwng tai gwael ag iechyd corfforol a meddyliol gwael, ac mae’n costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn costau triniaethau. Drwy fuddsoddi mewn cartrefi newydd a rhai presennol y gellir eu haddasu, sy’n gynnes ac yn ddiogel, gallwn wneud cyfraniad enfawr i atal afiechyd yn y lle cyntaf, a chefnogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Mae angen strategaeth draws-lywodraethol i oresgyn anghydraddoldebau iechyd o’r raddfa sydd gennym yng Nghymru, gan ddod ag adnoddau ar y cyd Cymru at ei gilydd, a mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd iechyd gwael.’